skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Elwyn Jones (Is-gadeirydd y Cyngor)

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Y Cynghorydd Eric M Jones a’r Cynghorydd Selwyn Griffiths oherwydd bod eu plant yn gweithio yn y Cyngor. Nid oedd yr Aelodau o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu gan mai’r Polisi Tâl oedd yn cael ei adolygu ac nid cyflogau swyddogion.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 190 KB

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 26ain o Dachwedd 2021 fel rhai cywir

 

5.

ADRODDIAD BLYNYDDOL POLISI TAL Y CYNGOR pdf eicon PDF 214 KB

I ystyried adroddiad y Prif Weithredwr

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Bod y Pwyllgor Penodi yn cynnig y Datganiad o Bolisi Tal (drafft) i’r Cyngor ar Fawrth y 3ydd 2022, fel un i’w fabwysiadau ar gyfer 2022/23

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Prif Weithredwr yn nodi bod dyletswydd statudol ar bob Cyngor i baratoi Datganiad Polisi Tâl blynyddol. Yn unol â phenderfyniad y Cyngor wrth fabwysiadu Polisi Tâl ar gyfer 2012/13, roedd disgwyliad i’r Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion gynnal adolygiad blynyddol o gynaliadwyedd y polisi a chyflwyno unrhyw argymhellion yn dilyn adolygu’r Polisi Tâl i’r Cyngor Llawn yn flynyddol. 

 

Adroddwyd nad oedd addasiadau yn cael eu cynnig i’r polisi eleni,

 

Tynnwyd sylw at adolygiad cyflogau Prif Swyddogion. Atgoffwyd yr Aelodau bod y Pwyllgor wedi argymell adolygiad o gyflogau Prif Swyddogion, ond na ddylid cynnal yr adolygiad hyd nes bod penderfyniad ar lefel cenedlaethol wedi ei wneud yn y lle cyntaf. Adroddwyd nad oedd cytundeb wedi ei gyrraedd hyd yma ar gyfer 2021/22. Y bwriad yw cynnal yr adolygiad a chyflwyno’r canfyddiadau i’r Pwyllgor o ganlyniad i gyhoeddi’r gytundeb cenedlaethol.

 

Yng nghyd-destun cyflogau swyddi o dan lefel prif swyddogion, nodwyd, fel cyflogau prif swyddogion nad oedd cytundeb cenedlaethol wedi ei gyrraedd. Ategwyd bod trafodaethau yn parhau rhwng yr Undebau a’r Cyflogwyr, bod balot wedi ei chynnal a bod ymateb i’w ddisgwyl yn yr wythnosau nesaf.

 

 

Yn dilyn cyhoeddiad gan Llywodraeth Cymru (Rhagfyr 2021) i ariannu cynnydd yng nghyflogau staff maes gofal i lefel Cyflog Byw (£9.90), bydd angen i gynghorau sicrhau cydymffurfiad a’r cyfarwyddyd hwnnw o fis Ebrill 2022 Nodwyd, petai cynnydd mewn cyflogau 2021/22 a 2022/23 byddai cyflog yr awr i ofalwyr y Cyngor, uwchlaw’r Cyflog Byw; os na fydd cytundeb cenedlaethol, bydd rhaid cymryd camau i godi’r lefelau cyflog o’r 1af o Ebrill 2022, yn unol â’r cyfarwyddyd.

 

Ategwyd bod y Cyngor wedi mabwysiadu meini prawf Cynllun Arfarnu Swyddi GLPC fel sail i osod graddfa cyflog ar gyfer pob swydd sydd o dan Amodau Gwaith Gweithwyr Llywodraeth Leol. Eglurwyd bod y berthynas rhwng tâl Prif Swyddogion a gweithwyr eraill wedi ei ddylunio i alluogi’r Cyngor i recriwtio a chadw’r gweithwyr addas a gorau yn ei swyddi amrywiol, wrth gynnal y pwyntiau gwahaniaethol a arfarnwyd yn yr arfarniad swyddi. Amlygwyd bod Adolygiad Hutton o Gyflog Teg yn y Sector Gyhoeddus yn argymell cymhareb o ddim mwy na 1:20 rhwng y cyflog uchaf a’r cyflog isaf (llawn-amser) - cymhareb Gwynedd ar hyn o bryd yn 1:6.4.

 

Ers cyhoeddi’r adroddiad, nodwyd bod cytundeb cenedlaethol wedi ei gyrraedd i gynyddu cyflogau Prif Weithredwyr o 1.5%. Yn ddarostyngedig i dderbyn y Datganiad Polisi Tâl, bydd yr adroddiad i’r Cyngor Llawn (03/03/22), yn cael ei ddiweddaru i arddangos y cynnydd.

 

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

 

·         Pam na ellid codi’r Cyflog Byw i £10 yr awr – rhif cyflawn? – hyn yn debygol o ddenu mwy o weithwyr i’r maes gofal

·         Angen cynnig cyflog mwy cystadleuol i weithwyr maes gofal, gwaith o fewn y sector breifat, megis siopau manwerthu, yn talu mwy am lai o gyfrifoldebau

·         Angen sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cyfrannu at y gost o gynyddu’r tâl i weithwyr maes gofal

·         Bod y Cyngor yn gweithio at darged lefel isel cyflog byw  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.