Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

Dim i’w nodi

3.

MATERION BRYS

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 191 KB

Cofnod:

5.

ADRODDIAD BLYNYDDOL - POLISI TÂL GWEITHLU'R CYNGOR pdf eicon PDF 269 KB

I ystyried adroddiad y Prif Weithredwr

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Bod y Pwyllgor Penodi yn cynnig y Datganiad o Bolisi Tal (drafft) i’r Cyngor ar Fawrth yr 2il 2023, fel un i’w fabwysiadau ar gyfer 2023/24

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Prif Weithredwr yn nodi bod dyletswydd statudol ar bob Cyngor i baratoi Datganiad Polisi Tâl blynyddol. Yn unol â phenderfyniad y Cyngor wrth fabwysiadu Polisi Tâl ar gyfer 2023/24, roedd disgwyliad i’r Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion gynnal adolygiad blynyddol o gynaliadwyedd y polisi a chyflwyno unrhyw argymhellion yn dilyn adolygu’r Polisi Tâl i’r Cyngor Llawn yn flynyddol. 

 

Yn unol â phenderfyniad y Pwyllgor yng nghyfarfod Hydref 11eg 2022, diwygiwyd Polisi Tal 2023/24 i adlewyrchu addasiad yng nghyflogau rhai o Benaethiaid Adran y Cyngor. Roedd yr addasiad yn ymateb i gais penodol gan y Pwyllgor yn Chwefror 2021 i’r Prif Weithredwr gynnal adolygiad o gyflogau prif swyddogion.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Mewn ymateb i awgrym bod uwch swyddogion yn derbyn tâl ychwanegol am oriau anghymdeithasol o gymharu â gofalwyr a staff rheng flaen sydd yn derbyn tâl sylfaenol am yr oriau hyn, cadarnhawyd nad oedd uwch swyddogion yn derbyn tâl ychwanegol a bod y Cyngor yn sefyll yn gadarn drwy sicrhau cyfartaledd a thegwch ar draws y gweithlu.

 

PENDERFYNWYD

 

Bod y Pwyllgor Penodi yn cynnig y Datganiad o Bolisi Tal (drafft) i’r Cyngor ar Fawrth yr 2il 2023, fel un i’w fabwysiadau ar gyfer 2023/24