skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2022 / 2023

Penderfyniad:

ETHOL Y CYNGHORYDD DAFYDD MEURIG YN GADEIRYDD Y PWYLLGOR HWN AR GYFER 2022 / 23

 

Cofnod:

Etholwyd y Cynghorydd Dafydd Meurig yn Gadeirydd y Pwyllgor hwn ar gyfer 2022 / 23

 

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is gadeirydd ar gyfer 2022 / 2023

Penderfyniad:

ETHOL Y CYNGHORYDD MENNA JONES YN IS-GADEIRYDD Y PWYLLGOR HWN AR GYFER 2022 /23

 

Cofnod:

Etholwyd y Cynghorydd Menna Jones yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor hwn ar gyfer 2022 / 23

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd June Jones a’r Cynghorydd Elwyn Jones (Cadeirydd y Cyngor)

 

Gadawodd y Cynghorydd Angela Russell y cyfarfod yn dilyn eitem 7 (cau allan y wasg a'r cyhoedd) oherwydd nad oedd ar gael i fynychu’r cyfweliadau ar y 28ain o Orffennaf 2022.

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn oherwydd ei fod yn adnabod un o’r ymgeiswyr

 

Yn dilyn cyngor cyfreithiol, roedd yr Aelod o’r farn nad oedd yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu

.

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

6.

COFNODION pdf eicon PDF 291 KB

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 7fed o Chwefror 22 fel rhai cywir

 

7.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd a hawl i breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig

Cofnod:

PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd â hawl i breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig

8.

LLUNIO RHESTR FER AR GYFER CYFARWYDDWYR CORFFORAETHOL

I ystyried ceisiadau gan ymgeiswyr.

 

Pecyn gwybodaeth a ffurflenni cais wedi ei dosbarthu i Aelodau’r Pwyllgor yn unig

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

·         RHOI DAU YMGEISYDD AR Y RHESTR FER AR GYFER CYFARWYDDWR CORFFORAETHOL GOFAL CYMDEITHASOL

·         RHOI TRI YMGEISYDD AR Y RHESTR FER AR GYFER CYFARWYDDWR CORFFORAETHOL

·         GWAHODD MORWENA EDWARDS (Cyfarwyddwr Corfforaethol presennol) I’R CYFWELIADAU FEL SYLWEDYDD

·         CYNNAL Y CYFWELIADAU AR FFURF HYBRID

 

Cofnod:

Datganwyd siom bod dogfennaeth parthed y swyddi wedi cyrraedd yr Aelodau yn  hwyr yn y dydd ac o ganlyniad bod yr amser paratoi  wedi bod yn gyfyng iawn.

 

Adroddodd y Cadeirydd bod 7 cais wedi ei derbyn am y swyddi a bod hyn yn galonogol iawn.

 

Gwahoddwyd y Prif Weithredwr i gyflwyno crynodeb ar y ceisiadau. Amlygodd bod un swydd ar gyfer Cyfarwyddwr Corfforaethol Gofal Cymdeithasol ac un arall ar gyfer Cyfarwyddwr Corfforaethol

 

Trafodwyd y ceisiadau yn unol â gofynion y swyddi gan ganolbwyntio ar y prif gymwyseddau.

 

PENDERFYNWYD

·         RHOI DAU YMGEISYDD AR Y RHESTR FER AR GYFER CYFARWYDDWR CORFFORAETHOL GOFAL CYMDEITHASOL

·         RHOI TRI YMGEISYDD AR Y RHESTR FER AR GYFER CYFARWYDDWR CORFFORAETHOL

 

Wrth ymhelaethu ar y camau nesaf, amlygodd Eurig Williams (Rheolwr Gwasanaethau Ymgynghorol Adnoddau Dynol) y byddai Canolfan Asesu gyda chefnogaeth cwmni allanol yn cael ei gynnal ynghyd a Chyfweliad Proffesiynol gyda’r Prif Weithredwr a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol presennol. Bydd adroddiad ffurfiol o ymatebion yr ymgeiswyr ac adborth o’r perfformiad yn cael ei ddarparu gan y Ganolfan Asesu a’r Prif Weithredwr i’w gyflwyno ar lafar i’r Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion ar ddiwrnod y cyfweliadau.

 

Trafodwyd pum cwestiwn a thestun cyflwyniad priodol ar gyfer y cyfweliad.

 

Cyfweliadau i’w cynnal 28 Gorffennaf 2022

 

Cynigiwyd gwahodd Morwena Edwards (Cyfarwyddwr Corfforaethol) i’r cyfweliadau fel sylwedydd.

 

Cynigwyd cynnal y cyfweliadau ar ffurf hybrid gan roi dewis i’r ymgeiswyr, Aelodau Pwyllgor a’r swyddogion fynychu wyneb yn wyneb neu yn rhithiol.

 

PENDERFYNIAD:

 

           Gwahodd Morwena Edwards i’r cyfweliadau fel sylwedydd

           Cynnal y cyfweliadau ar ffurf hybrid