Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Nia Jeffreys, Dafydd Meurig, Angela Russell a Rob Triggs a’r Cynghorydd Elwyn Jones (Cadeirydd y Cyngor)

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 285 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 15 Gorffennaf 2022 fel rhai cywir  

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 15-07-22 fel rhai cywir

 

5.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd a hawl i breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd â hawl i breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig.

6.

CYFWELD YMGEISWYR AR GYFER SWYDDI CYFARWYDDWR CORFFORAETHOL

I gyfweld ymgeiswyr ar gyfer y swyddi

 

·         CYFARWYDDWR CORFFORAETHOL GWASANAETHAU CYMDEITHASOL

·         CYFARWYDDWR CORFFORAETHOL

 

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

a)    Penodi Mr Dylan Owen i’r swydd Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol

 

b)   Penodi Mr Geraint Owen i’r swydd Cyfarwyddwr Corfforaethol

 

Cofnod:

·         CYFARWYDDWR CORFFORAETHOL GWASANAETHAU CYMDEITHASOL

·         CYFARWYDDWR CORFFORAETHOL

 

a)    Cadarnhawyd trefn y diwrnod gyda’r Aelodau.

 

b)    Cyfwelwyd dau ymgeisydd ar gyfer y swydd Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol

 

c)    Gwahoddwyd yr ymgeiswyr i roi cyflwyniad rhwng 10 a 15 munud ar y testun ‘Beth yw’r prif risgiau a sialensiau o fewn y maes gwasanaethau cymdeithasol ar hyn o bryd, a sut fedrwch chi wneud gwahaniaeth mwyaf i arwain y Cyngor i ymateb yn effeithiol i’r materion hyn dros y cyfnod nesaf?’

 

Ymatebwyd i bum cwestiwn ffurfiol a ofynnwyd gan y Cadeirydd, y Cynghorydd Menna Jones, ynghyd a chwestiynau dilynol gan yr Aelodau.

 

d)    Gwahoddwyd Mr Dafydd Gibbard (Prif Weithredwr), i gyflwyno adborth cryno o berfformiadau’r ddau ymgeisydd mewn cyfres o weithgareddau asesu a gynhaliwyd ar y 26ain o Orffennaf 2022.  Cafodd yr ymgeiswyr eu hasesu gan gwmni Edgecombe (nodwyd canlyniadau’r profion seicometreg a chymwyseddau’r ymgeiswyr i’r gweithgaredd hynny), gan grŵp o Aelodau Etholedig a grŵp o Bartneriaid Allanol.

 

Cyflwynwyd hefyd adborth cryno o berfformiadau’r ddau ymgeisydd mewn cyfweliad proffesiynol a gynhaliwyd gyda chefnogaeth Morwena Edwards (Cyfarwyddwr Corfforaethol)

 

Cynigiwyd ac eiliwyd bod y swydd yn cael ei chynnig i Mr Dylan Owen

 

PENDERFYNWYD, yn unfrydol, penodi Mr Dylan Owen i’r swydd Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Cafwyd toriad am ginio

 

a)    Cyfwelwyd tri ymgeisydd ar gyfer y swydd Cyfarwyddwr Corfforaethol

 

b)    Gwahoddwyd yr ymgeiswyr i roi cyflwyniad rhwng 10 a 15 munud ar y testun ‘Mae’r Cyngor yn darparu amrediad eang o wasanaethau i drigolion Gwynedd. Ym mhle, a sut, fedrwch chi wneud y gwahaniaeth mwyaf wrth gefnogi’r Prif Weithredwr ac Aelodau’r Cyngor i sicrhau darpariaeth gwasanaethau o’r radd flaenaf’?

 

Ymatebwyd i bum cwestiwn ffurfiol a ofynnwyd gan y Cadeirydd, y Cynghorydd Menna Jones, ynghyd a chwestiynau dilynol gan yr Aelodau.

 

c)    Gwahoddwyd Mr Dafydd Gibbard (Prif Weithredwr), i gyflwyno adborth cryno o berfformiadau’r tri ymgeisydd mewn cyfres o weithgareddau asesu a gynhaliwyd ar y 26ain o Orffennaf 2022.  Cafodd yr ymgeiswyr eu hasesu gan gwmni Edgecombe (nodwyd canlyniadau’r profion seicometreg a chymwyseddau’r ymgeiswyr i’r gweithgaredd hynny), gan grŵp o Aelodau Etholedig a grŵp o Bartneriaid Allanol.

 

Cyflwynwyd hefyd adborth cryno o berfformiadau’r ddau ymgeisydd mewn cyfweliad proffesiynol a gynhaliwyd gyda chefnogaeth Morwena Edwards (Cyfarwyddwr Corfforaethol)

 

Cynigiwyd ac eiliwyd bod y swydd yn cael ei chynnig i Mr Geraint Owen

 

PENDERFYNWYD, yn unfrydol, penodi Mr Geraint Owen i’r swydd Cyfarwyddwr Corfforaethol