skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd gan y Cynghorydd Dafydd Meurig, y Cynghorydd June Jones a’r Cynghorydd Elwyn Jones (Cadeirydd y Cyngor)

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 209 KB

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 28ain Gorffennaf 2022 fel rhai cywir

 

5.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Eitem 6:

 

Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd â hawl i breifatrwydd. Ar y pwynt yma nid oes penderfyniad yn cael ei wneud ac mae angen trafod y bwriad. Petai y cynnig yn mynd ymlaen yna byddai y newidiadau yn cael eu cyhoeddi fel rhan o addasiadau i’r Datganaid Polisi Tal. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma fyddai’n gorbwysio hawliau’r unigolion yma . O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig

 

Eitem 7:

 

Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd a hawl i breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig.

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd â hawl i breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig.

 

6.

CWBLHAU CAM OLAF YR ADOLYGIAD UWCH REOLAETHOL

I ystyried yr adroddiad

Cofnod:

 

Yn dilyn cais gan yr Aelodau mewn cyfarfod o’r Pwyllgor Penodi a gynhaliwyd Chwefror 11eg 2020, cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad oedd yn cynnwys casgliadau o’r adolygiad a wnaed gan y cyn Brif Weithredwr o gyflogau Prif Swyddogion (a gyflwynwyd i Bwyllgor Chwefror 11eg 2021) a diweddariad o’r sefyllfa bresennol.

 

Yn ei gyflwyniad amlygodd y Prif Weithredwr bod y Cabinet, mewn cyfarfod a gynhaliwyd Mehefin 28ain 2022, wedi mabwysiadu argymhellion i ail ddyrannu cyfrifoldebau sawl Pennaeth Adran yn dilyn adolygiad o strwythur uwch reolaethol y Cyngor ynghyd a diddymu swydd un Pennaeth o’r strwythur. Adroddwyd hefyd bod llwyddiant mewn penodi dau gyfarwyddwr a phennaeth cyllid diweddar wedi profi nad oedd lefel cyflog yn rhwystr rhag gallu denu ymgeiswyr mewnol ac allanol o safon uchel

 

Yn dilyn trafodaeth,

 

PENDERFYNWYD:

 

1.    Argymell i'r Cyngor Llawn y dylid diwygio Polisi Datganiad Tâl y Cyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023/24 i adlewyrchu casgliadau terfynol yr adolygiad o gyflogau Prif Swyddogion a gynhaliwyd ar gais y Pwyllgor yn 2021.

2.    Nodi fod hyn yn cwblhau cam olaf adolygiad y Prif Weithredwr o strwythur Uwch Reolaethol y Cyngor a thrwy hynny yn arwain at gyflawni arbediad refeniw parhaol o £44,930 y flwyddyn.

 

 

7.

TYNNU RHESTR FER AR GYFER PENNAETH ADRAN CEFNOGAETH GORFFORAETHOL

I ystyried ceisiadau gan ymgeiswyr.

 

Pecyn gwybodaeth a ffurflenni cais wedi ei dosbarthu i Aelodau’r Pwyllgor yn unig

Penderfyniad:

 

 

PENDERFYNIAD:

 

·         RHOI TRI YMGEISYDD AR Y RHESTR FER AR GYFER PENNAETH ADRAN CEFNOGAETH GORFFORAETHOL

 

Cofnod:

 

 

Adroddodd y Prif Weithredwr bod 5 cais wedi ei derbyn am y swydd ac fe gyflwynodd grynodeb o’r ceisiadau.

 

Trafodwyd y ceisiadau yn unol â gofynion y swyddi gan ganolbwyntio ar y prif gymwyseddau. Mynegwyd siom nad oedd cais wedi ei gyflwyno gan ferch a bod angen adolygu’r broses hysbysu i geisio denu mwy o ddiddordeb ac annog marched i geisio.

 

PENDERFYNWYD

 

·         RHOI TRI YMGEISYDD AR Y RHESTR FER AR GYFER PENODI PENNAETH ADRAN CEFNOGAETH GORFFORAETHOL

 

Wrth ymhelaethu ar y camau nesaf, amlygodd Eurig Williams (Rheolwr Gwasanaethau Ymgynghorol Adnoddau Dynol) y byddai Canolfan Asesu gyda chefnogaeth cwmni allanol yn cael ei gynnal 24ain o Hydref 2022 ynghyd a threfniadau asesu mewnol o dan arweiniad y Prif Weithredwr. Bydd adroddiad ffurfiol o ymatebion yr ymgeiswyr ac adborth o’r perfformiad yn cael ei ddarparu gan y Ganolfan Asesu a’r Prif Weithredwr i’w gyflwyno ar lafar i’r Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion ar ddiwrnod y cyfweliadau.

 

Trafodwyd pum cwestiwn a thestun cyflwyniad priodol ar gyfer y cyfweliadau sydd i’w cynnal 28 Hydref 2022. Bydd y cyfweliadau yn cael eu cynnal ar ffurf hybrid gan roi dewis i’r ymgeiswyr, Aelodau Pwyllgor a’r swyddogion fynychu wyneb yn wyneb neu yn rhithiol.