skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Nia Jeffreys a’r Cynghorydd Elwyn Jones (Cadeirydd y Cyngor)

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 285 KB

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 11 Hydref 2022 fel rhai cywir

 

 

5.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Cofnod:

PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd â hawl i breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig.

 

6.

CYFWELD YMGEISWYR AR GYFER PENNAETH ADRAN CEFNOGAETH GORFFORAETHOL

I gyfweld ymgeiswyr ar gyfer y swydd

Penderfyniad:

Penodi Mr Ian Jones  i’r swydd Pennaeth Adran Cefnogaeth Gorfforaethol

 

Cofnod:

a)    Cadarnhawyd trefn y diwrnod gyda’r Aelodau.

 

b)    Cyfwelwyd dau ymgeisydd ar gyfer y swydd Pennaeth Adran Cefnogaeth Gorfforaethol.

 

 

c)    Gwahoddwyd yr ymgeiswyr i roi cyflwyniad rhwng 10 a 15 munud ar y testun, ‘Sut y byddech chi, yn eich rôl fel Pennaeth yr Adran Cefnogaeth Gorfforaethol, yn mynd ati yn ymarferol i gyflwyno a chyflawni eich gweledigaeth?’

 

Ymatebwyd i bum cwestiwn ffurfiol a ofynnwyd gan y Cadeirydd, y Cynghorydd Dafydd Meurig, ynghyd a chwestiynau dilynol gan yr Aelodau.

 

Gwahoddwyd Mr Dafydd Gibbard (Prif Weithredwr), i gyflwyno adborth cryno o berfformiadau’r ddau ymgeisydd mewn canolfan asesu allanol a gynhaliwyd 24/10/24 gan gwmni Edgecombe; ynghyd ag adborth o berfformiadau’r ddau ymgeisydd mewn canolfan asesiad mewnol a chyfweliad proffesiynol gyda chefnogaeth Mr Dylan Owen (Cyfarwyddwr Corfforaethol)

 

ch)   Cynigiwyd ac eiliwyd bod y swydd yn cael ei chynnig i Mr Ian Jones

 

PENDERFYNWYD penodi Mr Ian Jones i’r swydd PENNAETH ADRAN CEFNOGAETH GORFFORAETHOL