Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Glynda O'Brien  01341 424301

Eitemau
Rhif eitem

1.

GWEDDI

Cofnod:

Agorwyd y cyfarfod gyda gweddi gan Dr Gwyn Lewis 

2.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd i’r pwyllgor hwn am y flwyddyn 2018/19.

 

 

Cofnod:

Argymhellwyd:          Ail-ethol y Cynghorydd Paul Rowlinson yn Gadeirydd i’r Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2018/19 yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth y Pwyllgor yn y cyfarfod nesaf.

 

3.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd i’r pwyllgor hwn am y flwyddyn 2018/19.

Cofnod:

Argymhellwyd:          Ail-ethol y Cynghorydd Elin Walker Jones yn Is-gadeirydd i’r Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2018/19 yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth y Pwyllgor yn y cyfarfod nesaf.

 

4.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau oddi wrth Y Cyng. R. Medwyn Hughes, Mike Stevens, Anest Gray Frazer (Yr Eglwys yng Nghymru), Alwen Watkin, Cathryn Davey, Miriam Amlyn a Heledd Jones (Undebau Athrawon)

 

(a)  Adrododd y Swyddog Cefnogi Aelodau nad oedd cworwm yn y cyfarfod oherwydd absenoldeb aelodau o'r sector addysg. Trafodwyd a ddylai CYSAG fwrw ymlaen heb gworwm, ac yn unol ag arweiniad gan yr Uwch Gyfreithiwr cytunwyd i fwrw ymlaen ond gan nodi na fyddai gan y cyfarfod rym i wneud penderfyniadau, a hynny’n unol â Chyfansoddiad y CYSAG.

 

(b)  Awgrymwyd y dylid anfon e-bost i holl Aelodau CYSAG yn esbonio yr hyn a ddigwyddodd o ran diffyg cworwm i’r cyfarfod ac apelio ar Aelodau i’r dyfodol i gysylltu â’r Swyddog Cefnogi Aelodau mewn da bryd os nad ydynt yn gallu bod yn bresennol.

 

5.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

6.

MATERION BRYS

I nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. 

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw fater brys.

7.

COFNODION pdf eicon PDF 286 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod o CYSAG a gynhaliwyd ar 8 Tachwedd 2017.

 

(Copi’n amgaeedig)

Cofnod:

Cyflwynwyd gofnodion o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 8 Tachwedd 2017.

 

Penderfynwyd:          Gohirio cymeradwyo’r cofnodion tan y cyfarfod nesaf yn wyneb y ffaith nad oedd cwrowm yn y cyfarofd.

 

8.

MATERION YN CODI O’R COFNODION pdf eicon PDF 361 KB

Eitem 8 (b) – Cwrs TGAU Astudiaeth Grefyddol Newydd 

 

I dderbyn, er gwybodaeth:

 

(a)          Copi o lythyr dyddiedig 21 Tachwedd 2017 anfonwyd at y Gweinidog dros Addysg, Llywodraeth Cymru

(b)          Copi o ymateb dyddiedig 6 Rhagfyr 2017 oddi wrth y Gweinidog dros Addysg.

 

(Copiau’n amgaeedig)

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd copi o lythyr dyddiedig 21 Tachwedd 2017 anfonwyd at y Gweinidog dros Addysg, Llywodraeth Cymru, ynghyd a’i hymateb dyddiedig 6 Rhagfyr 2017 ynglyn â diffyg adnoddau Cymraeg ar gyfer y cwrs TGAU Astudiaethau Crefyddol newydd.

 

‘Roedd cyfeiriad yn y llythyr o gyfarfod pellach ac awgrymwyd y dylid derbyn adborth o ganlyniad cyfarfod y Gweinidog dros Addysg gyda Phrif Weithredwr CBAC.

 

Deallwyd nad oedd copi Cymraeg byth ar gael.

 

Argymhellwyd:          I nodi’r uchod a gofyn i’r Swyddog Adnoddau Addysg Cynorthwyol a Chlerc CYSAG ymchwilio i ddiweddariad o’r sefyllfa gan adrodd yn ôl i gyfarfod nesaf CYSAG.

 

9.

CEFNOGAETH CYSAG

I ystyried hysbysiad gan GwE i dynnu’n ôl gwasanaeth o gefnogaeth a ddarparir i CYSAG Gwynedd gan yr Ymgynghorydd Cefnogi Gwelliant o hyn ymlaen.  

 

 

Cofnod:

Adroddwyd bod GwE wedi anfon hysbysiad i dynnu’n ôl gwasanaeth o gefnogaeth a ddarperir i CYSAG Gwynedd gan Miss Bethan James, Ymgynghorydd Cefnogi Gwelliant, o hyn ymlaen. 

 

Esboniodd y Swyddog Adnoddau Addysg Cynorthwyol y cefndir gan nodi mai cyn Gwmni CYNNAL oedd yn darparu’r Gwasanaeth ac ar sefydliad GwE bu iddynt etifeddu’r gwaith. Deallir nad yw darparu cefnogaeth i CYSAGau o fewn y model cenedlaethol.  Ychwanegwyd mai Miss Bethan James oedd yn darparu adroddiad blynyddol i CYSAG a hefyd yn mynychu cyfarfodydd Cymdeithas CYSAGau Cymru.  Golygai hyn oddeutu 12 – 15 diwrnod o waith mewn blwyddyn iddi. 

 

Amlygwyd pryder ymysg yr Aelodau o golli cyfraniad amhrisiadwy yr Ymgynghorydd Cefnogi Gwelliant ac roedd ei harweiniad yn greiddiol i drafodaethau CYSAG a heb ei chyfraniad gall CYSAG fod yn bwyllgor di-gyfeiriad, ac y dylid pwyso am rhyw ffordd i gael y gefnogaeth yn ôl boed hyn yn seiliedig ar ffurf comisiwn ond yn fwy penodol i ddarparu’r adroddiad blynyddol ar gyfer 2017/18.   

 

Awgrymwyd y dylai’r Cadeirydd ysgrifennu at y Pennaeth Addysg i gyfleu pryder y CYSAG ac i erfyn arno i ymchwilio i ffurf o  fedru derbyn cefnogaeth Ymgynghorydd Cefnogi Gwelliant GwE  neu brynu arbenigedd ym maes addysg grefyddol ar gyfer darparu arweiniad yn y maes i CYSAG.

 

Argymhellwyd:          Gofyn i’r Cadeirydd ysgrifennu at y Pennaeth Addysg i gyfleu  pryder CYSAG fel amlinellir uchod ac i erfyn arno ymchwilio i ffurf o gael cefnogaeth i CYSAG.

 

10.

AELODAETH pdf eicon PDF 38 KB

(a)  I dderbyn diweddariad ynghylch cais gan Ddyneiddiwr i wasanaethu fel aelod gyda phleidlais ar CYSAG Gwynedd.   

 

 

(Copi’n amgaeedig)

 

Er gwybodaeth, gweler y ddolen isod ar gyfer cylchlythyr rhif 10/94 a gyhoeddwyd gan yr hen Swyddfa Gymreig yn 1994:

           

http://www.wasacre.org.uk/publications/wag/W-cylchlythyr10-94.pdf

 

 

(b)   I dderbyn ymddiswyddiad oddi wrth Mr Gwyn Rhydderch fel aelod cyfetholedig o CYSAG.

 

(c)  I dderbyn enwebiadau ar gyfer Aelodau cyfetholedig i wasanaethu ar CYSAG.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(a)     Derbyniwyd cais gan Ddyneiddiwr i wasanaethu fel aelod gyda phleidlais ar CYSAG Gwynedd.

 

(b)  Esboniodd yr Uwch Gyfreithiwr bod cyfrifoldeb statudol ar awdurdodau lleol i greu CYSAGau ac mai cyfrifoldeb Cabinet yr Awdurdodau ydoedd y cyfansoddiad. Wrth gwrs, gall y CYSAG gyfethol Aelodau.  Cyfeiriwyd at gylchlythyr 10/94 (a gyhoeddwyd gan yr hen Swyddfa Gymreig ym 1994) a oedd yn nodi y byddai “cynnwys cynrychiolwyr systemau cred nad ydynt yn gyfystyr â chrefydd neu enwad crefyddol, ar Grwp A CYSAG, yn groes i’r darpariaethau cyfreithiol y cyfeirir atynt ym mharagraff 102 o’r cylchlythyr”.   Nodwyd nad oedd adolygiad o’r aelodaeth / cyfansoddiad wedi digwydd ers 1996 ac felly gofynnwyd a oedd angen cynnal adolygiad yn sgil cwestiynau a godwyd ynglyn â ddylai personau â chredoau anghrefyddol (fel Dyneiddwyr) gael caniatad i fod yn aelodau llawn o Grwp A yn seiliedig ar Ddeddf Hawliau Dynol 1998. Awgrymwyd mai’r cam naturiol fyddai cyflwyno adroddiad i’r Cabinet yn amlinellu ystadegau o’r sefyllfa gan ofyn iddynt ystyried adolygu’r Aelodaeth ynghyd â’r cyfansoddiad.

 

 

(c)   Cyfeiriodd y Cadeirydd at y ffigyrau canlynol o ystadegau Gwynedd yn deillio o gyfrifiad 2011: 

 

Cristnogaeth                59.5%

Bwdhaeth                    0.3%

Hindwaeth                   0.2%

Iddewiaeth                   0.0%

Islam                           1.1%

Siciaeth                       0.0%

Crefydd arall               0.5%

Dim crefydd                29.7%

Heb nodi crefydd        8.6%

 

 

Argymellwyd:               Gofyn i’r Uwch Gyfreithiwr / Adran Addysg gyflwyno adroddiad i’r Cabinet gyda chais iddynt adolygu’r aelodaeth / cyfansoddiad.

 

 

(d)    Adroddwyd bod Mr Gwyn Rhydderch, a oedd yn aelod cyfetholedig, yn rhinwedd ei swydd yng Ngholeg Y Bala, wedi ymddiswyddo o CYSAG.  Deallwyd bod Nia Williams, Swyddog Adnoddau Addysg ar gyfer Plant a Ieuenctid yr Eglwys Bresbyteraidd, yn awyddus i wasanaethu ar CYSAG fel aelod cyfetholedig.

 

Awgrymwyd ymhellach y byddai’n fuddiol gwahodd personau ifanc o Gynghorau Ysgolion i fod yn Aelodau cyfetholedig.  Efallai y gellir trefnu yn y lle cyntaf bod y disgyblion yn cael eu gwahodd o ysgolion yr athrawon sy’n cynrychioli’r Undebau ac yn gwasanaethu ar CYSAG fel bo modd iddynt gyd-deithio, ac yna ymhen amser gellir sefydlu trefniadau fel bo cynrychiolwyr yn amrywio o ardal i ardal. 

 

Argymhellwyd:                      Bod y Swyddog Adnoddau Addysg Cynorthwyol yn:

 

·         Cysylltu â Nia Williams, Swyddog Adnoddau Addysg ar gyfer Plant a Ieuenctid yr Eglwys Bresbyteraidd, i ganfod ei bwriad I fod yn aelod cyfetholedig o CYSAG

·         Cysylltu gyda’r athrawon sy’n cynrychioli yr Undebau ar CYSAG i ganfod a fyddai diddordeb gan ddisgybl o’u hysgolion gael ei g/chyfethol i wasanaethu ar CYSAG

·         Cysylltu gyda Parchedig Aled Davies i ganfod a oedd yn dymuno parhau fel aelod cyfetholedig

 

11.

GOBLYGIADAU FFRAMWAITH NEWYDD ESTYN I DREFNIADAU MONITRO CYSAG pdf eicon PDF 989 KB

I dderbyn adroddiad ar yr uchod.

 

(Copi’n amgaeedig)

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad yn amlinellu engreifftiau o’r hyn y gall CYSAG fonitro yn sgil newidiadau i fframwaith arolygu ESTYN sy’n seiliedig ar bump maes sef

 

1.    Safonau

2.    Lles ac agweddau dysgu

3.    Addysgu a phrofiadau dysgu

4.    Gofal, cymorth ac arweiniad

5.    Arweinyddiaeth a rheolaeth

 

 

Argymhellwyd:          I nodi’r uchod.

 

12.

HUNAN ARFARNU YSGOLION pdf eicon PDF 268 KB

(a) I dderbyn, er gwybodaeth, ffurflenni monitro adroddiadau Hunan Arfarniadau ysgolion ar gyfer:

 

·         Cyfnod Hydref 2017 i Gwanwyn 2018  

·         Cyfnod Gwanwyn 2018 i Haf 2018

 

(Copiau’n amgaeedig)

 

(b)   I dderbyn cyflwyniad gan Suzanne Roberts, Adran Addysg Grefyddol Ysgol Y Moelwyn.

 

(Copi hunan-arfarniad yn amgaeedig)

 

(c) I gyflwyno crynodeb o Hunan Arfarniad yr ysgolion canlynol:

 

 

(i)            Ysgol y Moelwyn

(ii)           Ysgol Friars

(iii)          Ysgol Baladeulyn

(iv)          Ysgol Cwm y Glo

(v)           Ysgol Sarn Bach

(vi)          Ysgol Nebo

(vii)        Ysgol y Gelli

(viii)       Ysgol O M Edwards

(ix)          Ysgol Abererch

 

(Copïau’n amgaeedig)

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(a)       Cyflwynwyd hunan arfarniadau ysgolion dros ddau dymor sef Hydref 2017 i Gwanwyn 2018 sef:

 

Ysgol y Moelwyn

Ysgol Friars

Ysgol Baladeulyn

Ysgol Cwm Y Glo

Ysgol Sarn Bach

Ysgol Nebo

Ysgol y Gelli

Ysgol O M Edwards

Ysgol Abererch

 

Tynnwyd sylw penodol at hunan arfarniad Ysgol Abererch a oedd yn arbennig o dda.

 

 

(b)   Croesawyd Suzanne Roberts o Ysgol y Moelwyn i’r cyfarfod a bu iddi dywys yr Aelodau drwy hunan arfarniad yr Ysgol gan nodi bod y cynllun datblygu adrannl yn plethu i fewn i’r hunan arfarniad ynghyd â blaenoriaethau’r Ysgol.  Tynnwyd sylw at y 5 cwestiwn a’r dystiolaeth a gasglwyd fel ymateb megis fforwm disgyblion, craffu ar waith ysgrifenedig ac ymarferol ac arsylwi gwersi.   Nodwyd bod yr hunan arfarniad yn seiliedig ar adnabyddiaeth y pennaeth pwnc ar staff a disgyblion yr Adran.

 

Mewn ymateb i gwestiynau amlygwyd y canlynol:

 

·         O ran cyswllt hefo corff llywodraethwyr, bod llywodraethwyr yn cael trafodaeth gyda’r Adran ar yr hyn a wneir i gael gwell dealltwriaeth sy’n cynnwys edrych ar gynlluniau gwaith, arsylwi llyfrau a thasgau.

·         O safbwynt adroddiad Yr Athro Donaldson, teimlwyd bod Addysg Grefyddol yn ffitio fewn i rai elfennau ond bod angen mwy o hyfforddiant ac amser i’w gynllunio.

 

 

Argymhellwyd:         (a)  Derbyn a nodi cynnwys yr arolygiadau a’r hunan arfarniadau a gofyn, yn unol â’r drefn, i’r Swyddog Adnoddau Addysg, anfon llythyr at yr ysgolion uchod yn nodi gwerthfawrogiad CYSAG o’r ymdrechion a wneir gan yr ysgolion i gyrraedd y graddau.

 

                                    (b)   I nodi a diolch i Suzanne Roberts am fynychu’r cyfarfod a’r cyflwyniad.  

 

13.

ADRODDIAD DIWEDDARU pdf eicon PDF 71 KB

Diweddariad ar Addysg Grefyddol a Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau sydd ar hyn o bryd yn cael ei ddatblygu fel rhan o’r Cwricwlwm Newydd i Gymru

 

(Copi’n amgaeedig)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd ddiweddariad ar Addysg Grefyddol a Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau sydd yn cael ei ddatblygu fel rhan o’r Cwricwlwm Newydd i Gymru.

 

Cyflwynwyd i’r Aelodau yn ystod y cyfarfod sylwadau NASUWT i’r cynigion gan nodi y dylai Addysg Grefyddol, Hanes, Daeryddiaeth a Busnes dderbyn sylw hafal yn nhermau amser ac adnoddau megis nifer o wersi, athrawon ag arbenigedd, a.y.b.  Rhaid sicrhau bod gofynion cymhwysterol Addysg Grefyddol yn derbyn blaenoriaeth gan ddarparu ar gyfer egwyddorion Donaldson islawr yn yr ysgolion uwchradd.  Awgrymwyd yr egwyddorion i’w cyrraedd fel a ganlyn:

 

·         Ymdrechu i gael ysgolion i benodi athro /athrawes pwnc Addysg Grefyddol

·         Sicrhau bod Addysg Grefyddol yn bwnc Cyfnod Allweddol 3 ac ddim yn atodiad mewn pynciau eraill

·         Sicrhau bod Addysg Grefyddol yn deryn yr un adnoddau ac amser â’r pynciau dyniaethau eraill

·         Sicrhau bod gofynion cymhwysterol (TGAU ac ati) yn derbyn blaenoriaeth ar ofynion Donaldson

 

Argymhellwyd:          Gofyn i’r Swyddog Adnoddau Addysg Cynorthwyol anfon llythyr i Manon Jones,  Is-Adran y Cwricwlwm, Asesu ac Addysgeg, LLywodraeth Cymru, i gyfleu’r sylwadau uchod, ac i’w cymeradwyo yng nghyfarfod nesaf CYSAG.

 

14.

ADDOLI AR Y CYD - ADBORTH GAN AELODAU

I dderbyn adborth gan Aelodau yn dilyn mynychu gwasanaethau Addoli ar y Cyd mewn ysgolion.

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd ffurflen adborth y Cynghorydd Mike Stevens yn dilyn iddo fynychu addoliad ar y cyd mewn Ysgol yn ei ward.

 

Adroddodd y Cynghorydd Dewi Roberts fod yntau wedi mynychu dwy Ysgol gyda’r addoliad a r y cyd yn wahanol iawn yn y ddwy Ysgol.  Roedd angen ail-ymweld ag un Ysgol arall.

 

Argymhellwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.

 

15.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CYSAG GWYNEDD 2016/17 pdf eicon PDF 658 KB

I dderbyn, er gwybodaeth, copi terfynol o adroddiad blynyddol CYSAG Gwynedd am y flwyddyn  2016/17.

 

(Copi’n amgaeedig)

Cofnod:

Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol terfynol CYSAG Gwynedd am y flwyddyn academaidd 2016-17, er gwybodaeth i Aelodau, gan eu bod wedi mabwysiadu’r adroddiad yng nghyfarfod diwethaf CYSAG.

 

Byddir yn anfon copi i Cymdeithas CYSAGau Cymru.

 

Argymhellwyd:          Derbyn a nodi’r uchod. 

 

16.

CYMDEITHAS CYSAGAU CYMRU pdf eicon PDF 374 KB

(a)          I dderbyn cofnodion cyfarfod Cymdeithas CYSAGau Gymru gynhaliwyd ar 9 Mawrth 2018.

 

(Copi’n amgaeedig)

 

(b)          I nodi cynhelir cyfarfod nesaf Cymdeithas CYSAGau Cymru ar 6 Gorffennaf 2018 yn Oriel Môn, Llangefni.

 

 

(c)           I ystyried cyfansoddiad drafft Cymdeithas CYSAGau Cymru.

 

(Copi’n amgaeedig)

 

(ch)        I ystyried enwebiad ar gyfer Pwyllgor Gwaith Cymdeithas CYSAGau Cymru.

 

              (Copi’n amgaeedig)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(a)    Cofnodion cyfarfod diwethaf

 

Cyflwynwyd cofnodion drafft cyfarfod diwethaf o’r Gymdeithas a gynhaliwyd ar 9 Mawrth 2018.

 

(b)          I nodi cynhelir cyfarfod nesaf Cymdeithas CYSAGau Cymru ar 6 Gorffennaf 2018 yn Oriel Môn, Llangefni, ac anogwyd Aelodau i fynychu, pe gallent.  

 

 

(a)   Cyflwynwyd cyfansoddiad draff Cymdeithas CYSAGau Cymru.

 

(ch)  Cyflwynwyd un enwebiad ar gyfer sedd ar Bwyllgor Gwaith Cymdeithas CYSAGau Cymru.

 

Argymhellwyd:             I nodi’r holl faterion uchod. 

 

17.

RHEOLI'R HAWL I DYNNU'N ÔL O ADDYSG GREFYDDOL

I dderbyn, er gwybodaeth, copi o’r ddogfen uchod a gyhoeddwyd yn ddiweddar. 

 

(Copi i’w ddosbarthu yn y cyfarfod)

 

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth, gopi o’r ddogfen uchod a gyhoeddwyd yn ddiweddar.

 

 

18.

ADRODDIAD ESTYN AR ADDYSG GREFYDDOL pdf eicon PDF 1 MB

I ystyried yr adroddiad uchod.

 

(Copi’n amgaeedig)

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad thematig a gyhoeddwyd gan ESTYN ar 12 Mehefin 2018 a thynnwyd i sylw’r argymhellion.

 

Adroddwyd y byddir yn anfon e-bost i holl ysgolion Gwynedd i dynnu eu sylw i’r adroddiad.

 

Argymhellwyd:             I dderbyn a nodi’r uchod.