skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Rhonwen Jones  01286 679780

Eitemau
Rhif eitem

1.

GWEDDI

Quiet reflection or prayer.

2.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Y Cyng. Dewi Roberts, Elin Walker Jones, Heledd Jones (Undebau Athrawon), Anest G Frazer (Yr Eglwys yng Nghymru), Cathryn Davey (UCAC), Edward Pari-Jones (Dyneiddwyr) 

3.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

Nid oedd unrhyw ddatgan buddiant personol.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 188 KB

Bydd y Cadeirydd yn cadarnhau cofnodion cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 12fed Mehefin 2019 fel rhai cywir ac yn trafod unrhyw fater sydd yn codi o’r cofnodion.

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 12 Mehefin 2019 fel rhai cywir yn ddarostyngedig i’r cywiriadau canlynol:

 

Presenoldeb – angen cofnodi presenoldeb Y Cynghorydd Mike Stevens

Eitem 8 - defnyddir y term ymddiswyddiadau - angen cywiro hwn i ddiswyddiadau

Yn y cofnod, ‘Ymateb Llythyr Kirsty Williams’ awgrymwyd ysgrifennu at Kirsty Williams - nodwyd bod y cofnod yn aneglur ac mai’r penderfyniad oedd ysgrifennu at Kirsty Williams a Siân Gwenllïan fel Aelod Cynulliad.

 

5.

DOGFEN YMGYNGHORI LLYWODRAETH CYMRU: YMGYNGHORIAD YNGHYLCH CYNIGION I SICRHAU Y GALL POB DYSGWR FANTEISIO AR Y CWRICWLWM LLAWN pdf eicon PDF 815 KB

Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar y cynnig i sicrhau y gall pob dysgwr fanteisio ar y cwricwlwm llawn.  Yn ei gynnig mae Llywodraeth Cymru yn holi barn ar:

  • Yr hawl i eithrio o Addysg Grefyddol (ac Addysgu Cydberthynas a Rhywioldeb)
  • a newid enw Addysg Grefyddol

 

Mae’r gweinidog yn awyddus i sicrhau ei bod yn cynnal i bob plentyn a pherson ifanc maen ysgolion a gynhelir astudio Addysg Grefyddol ac Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb ac i newid enw Addysg Grefyddol i ‘Crefyddau a bydolygon’.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Arweiniodd Mair Huws y drafodaeth ar ymatebion y Cyngor i’r ddogfen ymgynghori a nodwyd y pwyntiau cyffredinol canlynol cyn ymateb i’r cwestiynau penodol :- 

 

Mae yn gamgymeriad nadu rhieni rhag gwneud unrhyw beth

Ar y llaw arall, ni ddylid rhoi y dewis i rieni a dylid tynnu yr hawl oddi wrthynt

Mae yn bwysig i blant gael addysg lawn, gytbwys

Mae yn anodd deall paham fyddai rhieni am wrthod i’w plant wneud y pwnc

Mae gwerth mawr i’r pwnc gan ei fod yn bwnc sydd yn cyffwrdd â chymaint o bynciau eraill

Mae angen i’r pwnc gael ei drin yn gyfartal, fel pynciau eraill - hynny yw, nid oes opsiwn i eithrio allan o bynciau eraill

Tybed fyddai newid enw y pwnc o gymorth?  Onid yw plant yn eu colled o beidio bod yn mynychu y gwersi hyn?

 

Nodwyd y byddai yn ddiddorol cael y ffigyrau sydd yn dangos faint o rieni sydd wedi tynnu eu plant allan o wersi y pwnc drwy Wynedd.

 

Cyfeiriwyd at y plant rheiny sydd yn cael eu dysgu adref a chwestiynwyd a ydynt yn cael gwersi addysg grefyddol?  Awgrymwyd efallai y byddai modd i CYSAG greu pecyn neu restr ddarllen ar eu cyfer.  Nododd Mair Huws y byddai yn holi yr Adran ac yn trefnu i’r mater gael ei drafod mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

Cymerwyd pleidlais ar y mater a chytunwyd bod y CYSAG o blaid tynnu yr hawl i eithrio.  Cytunwyd y byddai Mair Huws yn cynnwys y sylwadau uchod wrth ymateb i’r cwestiynau fel a ganlyn :

 

Cwestiwn 1 – Beth fyddai'r goblygiadau i ddysgwyr, rhieni/gofalwyr ac ysgolion petai'n ofynnol i bob dysgwr gael gwersi Addysg Grefyddol a/neu Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn y cwricwlwm newydd?

Nodwyd fod gan rieni yr hawl i dynnu eu plant o bethau eraill, ond hefyd bod gan ddisgyblion hawliau hefyd.  Nodwyd ei bod yn drafodaeth anodd, ond diddorol.  Mae yn bwysig peidio anwybyddu hawliau rhieni, ond cwestiynwyd pam tynnu sylw i’r pwnc arbennig hwn.  Nodwyd nad oes goblygiadau i rieni na phlant gan ei fod yn statudol ar hyn o bryd.  Efallai mai un goblygiad fyddai mwy o addysgu yn y Cartref?

 

Cwestiwn 2 –Pa gymorth, gwybodaeth ac arweiniad fyddai eu hangen petai'r dull gweithredu hwn yn cael ei fabwysiadu?

Nodwyd y byddai rhieni angen gwybodaeth gefndirol ac y byddai angen pecyn ar y penaethiaid.  Nodwyd gyda’r holl newidiadau sydd yn mynd ymlaen yn y maes Dyniaethau ac Addysg Iechyd, bod angen llawer iawn o gymorth yn gyffredinol ar ysgolion

 

Cwestiwn 3 – Ein cynnig yw na ddylai rhieni/gofalwyr allu atal eu plant rhag cael gwersi Addysg Grefyddol neu Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb. Caiff hyn ei gyflwyno o fis Medi 2022, i bob dysgwr oed cynradd a dysgwyr ym Mlwyddyn 7 yn yr ysgol uwchradd (gyda grwpiau blwyddyn eraill yn cael eu hychwanegu bob blwyddyn). 

Gweler uchod.

 

Cwestiwn 4 – Beth sy'n enw priodol i ‘addysg grefyddol’, er mwyn adlewyrchu'r cwmpas ehangach a gynigir ar gyfer y cwricwlwm newydd yn gywir?

Cafwyd yr awgrymiadau  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

HUNAN ARFARNU YSGOLION pdf eicon PDF 59 KB

a.    Adroddiad llafar gan Glenda Evans, Pennaeth Ysgol Brynaerau

b.    I dderbyn, er gwybodaeth, ffurflen monitro adroddiadau Hunan Arfarniadau ysgolion ar gyfer cyfnod yr Haf i Hydref 2019. (Copi’n amgaeedig)

c.     I gyflwyno crynodeb o Hunan Arfarniad yr ysgolion

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd yr adroddiad.

 

Penderfynwyd: ysgrifennu ar yr ysgolion i’w llongyfarch, ac i ail-wahodd Glenda Evans i’r cyfarfod nesaf. 

 

7.

AWDIT ORIAU GWERSI ADDYSG GREFYDDOL MEWN YSGOLION UWCHRADD pdf eicon PDF 48 KB

I gyflwyno'r nifer o wersi Addysg Grefyddol a gynhaliwyd yng Nghyfnod Allweddol 3 a 4 yn dilyn trafodaeth ar y mater yn y cyfarfod blaenorol.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad a nodwyd bod amrywiaeth a gwahaniaeth o ysgol i ysgol.  Nodwyd y byddai yn ddiddorol cymharu y canlyniadau yn erbyn yr amser sydd yn cael ei roi i’r disgyblion.

         Penderfynwyd ail-gysylltu â’r ysgolion i ofyn am ddadansoddiad o’r ffigyrau.  Nodwyd os mai gwaelodlin yw hon yna mae angen iddi fod yn hollol gywir. 

 

8.

COFNODION CYFARFOD CYSAGAU CYMRU 28AIN MEHEFIN 2019 pdf eicon PDF 367 KB

Er gwybodaeth

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd cofnodion drafft cyfarfod diwethaf o’r Gymdeithas a gynhaliwyd ar 28 Mehefin 2019

 

Penderfynwyd:  Derbyn a nodi cynnwys y cofnodion.

 

                                      

 

 

 

Dechreuodd y cyfarfod am 2:00 pm a daeth i ben am 3.20 pm