skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom

Cyswllt: Einir Rh Davies  01286 679868

Eitemau
Rhif eitem

1.

GWEDDI

Myfyrdod distaw neu weddi

Cofnod:

Agorwyd y cyfarfod gyda gweddi gan Y Cynghorydd Selwyn E Griffiths.

 

 

2.

GWEDDI

I ethol Cadeirydd i’r pwyllgor hwn am y flwyddyn 2021/2022

Cofnod:

PENDERFYNWYD ail-ethol y Cynghorydd Paul Rowlinson yn Gadeirydd y pwyllgor hwn am 2021/22.

 

3.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is Gadeirydd i’r pwyllgor hwn am y flwyddyn 2021/2022

Penderfyniad:

Penderfynwyd ail-ethol y Cynghorydd Menna Baines yn Is-Gadeirydd i’r Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2021/22. 

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD ail-ethol y Cynghorydd Menna Baines yn Is-Gadeirydd y pwyllgor hwn am 2021/22.

 

4.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

Cofnod:

Eirian Bradley Roberts (Yr Eglwys Gatholig), Dashu (Bwdïaeth), Cathryn Davey (UCAC), Garem Jackson (Pennaeth yr Adran Addysg), Heledd Jones (NEU)

 

5.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

6.

MATERION BRYS

I nodi unrhyw faterion sydd o frys ym marn y Cadeirydd ar gyfer ystyriaeth

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw fater brys

 

7.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 214 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig bod cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 10 Chwefror, 2021 yn cael eu harwyddo fel rhai cywir

Cofnod:

Bu i’r Cadeirydd gadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 10 Chwefror, 2021 fel rhai cywir, a’u llofnodi.

 

8.

DYFODOL CANOLFAN ADDYSG GREFYDDOL PRIFYSGOL BANGOR pdf eicon PDF 244 KB

Cyflwyniad gan Dr Gareth Evans Jones, Darlithydd Astudiaethau Crefyddol, Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas, Prifysgol Bangor

Penderfyniad:

Croesawu y diweddariad gan Yr Athro G Evans Jones a  cytuno i gydweithio pellach rhwng CYSAG Gwynedd, Adran Addysg Cyngor Gwynedd a Prifysgol Bangor

 

Cofnod:

Croesawyd Dr Gareth Evans Jones, Darlithydd Astudiaethau Crefyddol, Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas, Prifysgol Bangor i’r Pwyllgor.  Cadarnhaodd fwriad yr Adran, mewn trafodaethau gyda’r Llyfrgell, i gymryd drosodd y cyfrifoldeb am y Ganolfan, gan ei huno gyda phrosiect newydd o’r enw ‘Ail-gysylltu’.  Cadarnhaodd fanteision bod yn perthyn i Adran draws-ddisgyblaethol sydd yn annog rhannu modiwlau.

 

Manylodd am y prosiect fydd yn creu adnodd newydd ysgrifenedig i athrawon Addysg Grefyddol Lefel A.  Nododd bod y Brifysgol yn y broses o drafod llwybrau newydd Addysg Grefyddol oddi fewn i’r cwrs gradd, gan annog myfyrwyr, fel rhan o’r cwrs i ddilyn llwybr Addysg Grefyddol.  Ategwyd y sylw drwy gadarnhau bod yr Adran Addysg hefyd yn cynnig modiwl newydd addysg i gynnwys Addysg Grefyddol sydd yn rhoi blas ar ddysgu ac addysgu.  

 

Nododd y Pwyllgor eu bod yn falch o glywed am y llwybr Addysg Grefyddol, yn enwedig yn sgil y datblygiadau gyda’r cwricwlwm newydd, a’r angen i sicrhau bod athrawon cymwys sydd â gwybodaeth arbenigol am Addysg Grefyddol.

 

Gofynnwyd tybed fyddai modd cynnwys deunydd ar gyfer TGAU, gan y teimlwyd mai ar y lefel hon oedd eisiau dal diddordeb y disgyblion, gan efallai bontio wedyn i ddangos y cyfleoedd.  Nodwyd ei fod yn gyfle gwych nawr i wneud hyn, er mai y targed oedd disgyblion Lefel A. 

 

Amlygwyd yr heriau megis cysylltu gydag ysgolion yn ystod y cyfnod diweddar.  Nododd hefyd y diffyg adnoddau cyfrwng Cymraeg, ond bod y broblem hon wedi ei goresgyn drwy addasu deunyddiau Saesneg yn hytrach na dim ond eu cyfieithu, gan ychwanegu gwedd Gymreig iddynt.

 

O ran Safon Uwch yn Arfon yn benodol, gan fod y niferoedd sydd yn dewis gwneud y pwnc yn isel, onid dysgu o bell fyddai un ateb?  Cadarnhawyd y byddai yr Adran yn gallu bod o gymorth gyda hyn gan mai cydweithio yw y flaenoriaeth.  Ategwyd y sylw gan nodi bod modiwl blas ar addysgu yn cael ei gynnig gan yr Adran Addysg, gyda lle i brosiect rhyngweithiol.

 

Cadarnhawyd y bydd y newyddlen Newyddion Addysg Grefyddol yn cael ei hatgyfodi a’i rhyddhau cyn diwedd y flwyddyn.

 

PENDERFYNWYD croesawu y diweddariad gan Yr Athro G Evans Jones a chytuno i gydweithio pellach rhwng CYSAG Gwynedd, Adran Addysg Cyngor Gwynedd a Phrifysgol Bangor.

 

9.

ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT CYSAG pdf eicon PDF 999 KB

I gymeradwyo, yn ddarostynedig i fan newidiadau, yr Adroddiad Blynyddol

Penderfyniad:

Mabwysiadu yr Adroddiad ar gyfer y cyfnod Medi 2019 i Awst 2020.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad drafft ar gyfer y cyfnod Medi 2019 - Awst 2020 i’r Panel.  Codwyd pryder gan yr awdur bod cefnogaeth GwE wedi dod i ben erbyn hyn, ac o ganlyniad bod y trosolwg a’r dadansoddi arbenigedd pwnc wedi eu colli yn yr Adroddiad.  Nodwyd mai sgil effaith arall o golli y gefnogaeth oedd nad oedd y Cynllun Gweithredu mor gynhwysfawr â’r blynyddoedd a fu.

 

Diolchwyd am yr adroddiad a nodwyd y sylwadau, gan gytuno mabwysiadu yr adroddiad ar gyfer y cyfnod Medi 2019 i Awst 2020.

 

10.

CYFETHOL DISGYBLION AR BWYLLGOR CYSAG

I ystyried cyfethol disgyblion ar Bwyllgor CYSAG

Penderfyniad:

Llunio Gweithgor i edrych ar yr holl opsiynau o ran cyfethol disgyblion ar bwyllgor CYSAG i gynnwys Y Cyng. Dewi W Roberts, Miriam Amlyn, Anest G Frazer a Gwawr M Williams.

Cofnod:

Atgoffwyd pawb bod y mater uchod wedi ei drafod rai blynyddoedd yn ôl, ac mai un o’r anawsterau ar y pryd oedd materion ymarferol yn ymwneud â gallu disgyblion i deithio i Gaernarfon i fynychu cyfarfodydd.  Nodwyd na fyddai teithio yn broblem erbyn hyn gan fod y cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn rhithiol. 

 

Cafwyd trafodaeth a nodwyd pryderon megis cyfrinachedd adroddiadau a tybed fyddai yn addas i ddisgybl fod yn rhan o’r math hwn o drafodaeth? Nodwyd, fodd bynnag, bod cyfarfodydd CYSAG yn gyfarfodydd cyhoeddus.  Nodwyd bod yn rhaid cael pwrpas clir i’r disgybl fod yn bresennol yn y cyfarfod, gyda rôl a chyfraniad clir i’w wneud.  Cwestiynwyd beth fyddai y sefyllfa o ran angen y disgybl i ddatgan buddiant? 

 

Awgrymwyd y gellid ystyried derbyn mewnbwn gan athro a disgybl wrth i athro sôn am ddarn arbennig o waith a’r plentyn yn ei drafod o ogwydd y disgybl?  Atgoffwyd y Pwyllgor bod y mater o gynnwys disgyblion ym mhwyllgorau y Cyngor wedi ei drafod mewn pwyllgorau eraill. Teimlodd y Pwyllgor, o ganlyniad i newid mewn rheolau pleidleisio ar gyfer pobl ifanc, a’r gwaith o hybu yr ifanc i gymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau, y byddai yn ddefnyddiol i’r Cadeirydd wneud ymholiadau pellach.  Cwestiynwyd efallai y byddai yn well trafod gyda phobl ifanc yn y lle cyntaf gan egluro beth yw CYSAG a holi tybed a fyddent yn teimlo bod rôl ganddynt?  Nodwyd ei bod yn bwysig bod yn glir beth fyddai rôl y disgybl yn y cyfarfod.  Cadarnhawyd y byddai angen ystyried sut i ddewis plant o ran oedran, lleoliad, faint o blant, ayyb.

 

Penderfynwyd, yn ddarostyngedig ar y sylwadau a ddaw i law yn dilyn sgwrs rhwng y Cadeirydd a’r Swyddog priodol, derbyn y cynnig i lunio gweithgor i edrych ar yr holl opsiynau o ran cyfethol disgyblion ar bwyllgor CYSAG.  Cytunwyd y byddai angen adrodd yn ôl i’r Pwyllgor llawn maes o law o dan gadeiryddiaeth y Cynghorydd Dewi W Roberts, gyda Miriam Amlyn, Anest G Frazer a Gwawr M Williams yn aelodau. 

 

11.

YMATEB I YMGYNGHORIAD LLYWODRAETH CYMRU AR "CANLLAWIAU YNGHYLCH CYNLLUNIO A GWEITHREDU ELFEN ORFODOL CREFYDD, GWERTHOEDD A MOESEG" pdf eicon PDF 942 KB

I ystyried ymateb i’r Ymgynghoriad gan Llywodraeth Cymru

Penderfyniad:

Ymateb i’r ymgynghoriad gan gadarnhau :

1.    Bodlonrwydd gyda cynnwys yr ymgynghoriad

2.    Bod sgiliau pwnc Addysg Grefyddol yn allweddol o ran yr elfen arbenigol wrth addysgu’r cwricwlwm newydd.

3.    Bod angen i Lywodraeth Cymru oedi am o leiaf blwyddyn cyn cyflwyno y cwricwlwm newydd, er mwyn i ysgolion gael cyfle i ail-sefydlogi

 

Cofnod:

Derbyniwyd yr adroddiad, gan nodi y bydd angen trefnu cynhadledd rhwng Rhagfyr 2021 a’r Haf 2022 fel mae pethau yn sefyllfa ar hyn o bryd.

 

Cafwyd trafodaeth a nodwyd y gobaith na fydd unrhyw newid cyn 2023 er mwyn ei wneud yn iawn, gan y bydd hon yn ffordd wahanol o roi gwersi.  Cadarnhawyd bod yr Undebau wedi ymgynghori llawer gan gynnal llawer o drafodaethau.  Nodwyd bod y ddogfen yn edrych yn dda, ond bod pryder o ran faint o oriau sydd wedi eu clustnodi i Addysg Grefyddol, a’r angen i weithio yn galed i gadw statws Addysg Grefyddol gan ei fod wedi bod yn bwnc unigol hyd yn hyn.  Cadarnhawyd bod ESTYN eisoes wedi bod yn holi sut y bwriedir cadw arbenigedd y pwnc.

 

Penderfynwyd dangos bodlonrwydd gyda chynnwys yr ymgynghoriad, gan nodi bod sgiliau pwnc Addysg Grefyddol yn allweddol o ran yr elfen arbenigol wrth addysgu’r cwricwlwm newydd.  Nodwyd bod angen i Lywodraeth Cymru oedi am o leiaf blwyddyn cyn cyflwyno y cwricwlwm newydd, er mwyn i ysgolion gael cyfle i ail-sefydlogi.

 

12.

MATERION CCYSAGAU pdf eicon PDF 525 KB

 

a)    Cofnodion y Cyfarfod a Gynhaliwyd ar 23 Mawrth, 2021

I dderbyn cofnodion y cyfarfod

b)    Enwebiad i’r Pwyllgor Gwaith

I drafod yr enwebiad i’r Pwyllgor Gwaith

c)    Dyddiad y Cyfarfod Nesaf a Chynrychiolaeth i’r CCYSAGAU

I nodi dyddiad cyfarfod nesaf CCYSAGAU a chadarnhau y cynrychiolwyr

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

a)    Derbyn y cofnodion

b)   Derbyn yr enwebiad i’r Pwyllgor Gwaith

c)    Nodi dyddiad y cyfarfod nesaf ac enwebu Eurfryn Davies, Cyng. Paul Rowlinson a’r Cyng. Dewi W Roberts i gynrychioli CYSAG Gwynedd yn y cyfarfod

 

Cofnod:

a)    Derbyniwyd Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Mawrth, 2021

b)    Cefnogwyd Enwebiad Kathy Riddick i’r Pwyllgor Gwaith

c)     Nodwyd Dyddiad y Cyfarfod Nesaf a chynigiwyd enwau Eurfryn Davies, Y Cynghorydd Dewi W Roberts a’r Cynghorydd Paul Rowlinson fel Cynrychiolaeth i’r CCYSAGAU y tro hwn.