skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom

Cyswllt: Einir Rh Davies  01286 679868

Eitemau
Rhif eitem

1.

GWEDDI

 Myfyrdod distaw neu weddi

Cofnod:

Agorwyd y cyfarfod gyda gweddi gan Y Cynghorydd Menna Baines.

 

2.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

Cofnod:

Miriam Amlyn, Cathryn Davey, Cyng. Judith Humphreys, Cyng. Dewi W Roberts, Cyng. Cemlyn R Williams, Gwawr Maelor Williams

 

3.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

 I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

4.

MATERION BRYS

 I nodi unrhyw faterion sydd o frys ym marn y Cadeirydd ar gyfer ystyriaeth

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw fater brys.

 

5.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 139 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig bod cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 8 Mehefin, 2021 yn cael eu harwyddo fel rhai cywir

Cofnod:

Oherwydd nad oedd cworwm, nid oedd modd i’r Cadeirydd gadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 8 Mehefin fel rhai cywir.  Bydd y cofnodion yn cael eu llofnodi yn y cyfarfod nesaf.

 

6.

DIWEDDARIAD AR Y CANLLAWIAU AR GYFER CREFYDD, GWERTHOEDD A MOESEG O FEWN Y CWRIWLWM NEWYDD

I dderbyn cyflwyniad ar yr uchod

Penderfyniad:

Oherwydd nad oedd cworwm, nid oedd modd i’r Pwyllgor wneud penderfyniad ond derbyniwyd y cyflwyniad a diolchwyd i Libby Jones am ei chyfraniad. 

 

Cofnod:

 Rhoddodd Libby Jones gyflwyniad i Aelodau CYSAG ar y Canllawiau uchod, gan gadarnhau bod

Addysg Grefyddol wedi mynd drwy newidiadau sylweddol.  Cyfeiriodd at y negeseuon ar gyfer 

CYSAG o ran y Maes Llafur Cytunedig a chynllunio y cwricwlwm.  Nododd hefyd y negeseuon

pwysig i ysgolion wrth gynllunio ar gyfer CGM, gan gynnwys defnydd o is-lensiau.  Esboniodd

hefyd, o dan Gyfraith Hawliau Dynol, y bydd y pwnc yn wrthrychol, beirniadol a phlwraliaethol.  Bu

iddi gloi drwy gyfeirio at y cyfle o ran dysgu proffesiynol. 

 

Daeth yn amlwg o’r cyflwyniad bod y Canllawiau yn cyfeirio at yr angen am newidiadau mawr iawn,

ac y byddai y pwnc CGM yn cynnwys argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol.  Un newid arall

oedd bod dilyn y pwnc yn fandadol o’r oedran 3-16, gyda mannau meithrin i gynnwys darpariaeth

ar gyfer CGM.   Ar y llaw arall, nodwyd ôl-16 mai optio i mewn i CGM fyddai disgybl.  Cadarnhawyd

y bydd fersiwn o’r Canllawiau, o dan embargo, ar gael cyn y Nadolig.  

 

Ymhelaethodd ar y negeseuon pwysig i CYSAG

 

Mae maes llafur cytunedig yn gyfrifoldeb yr Awdurdod Lleol, ac mae angen iddo fod mewn lle mewn da bryd er mwyn i’r ysgolion addysgu eu cwricwla newydd o fis Medi 2022 ymlaen.  Gall y Canllawiau newydd fod yn sail i’r maes llafur, ond mae angen iddo beidio â bod yn rhy gaeth – efallai bydd yr is-lensiau o gymorth.

 

Mae angen trefnu Cynhadledd Maes Llafur Cytunedig, sydd ag aelodaeth mor eang â phosib, a

nodwyd yr angen i hysbysu ysgolion o’r bwriad hwn cyn gynted â phosib. 

 

Holwyd ymhellach am yr is-lensiau, ble cadarnhawyd nad pynciau na themâu mohonynt, ond

disgyblaethau neu bersbectifau.  Nodwyd, wrth benderfynu ar themâu, bydd CGM yn cael eu

harwain gan y safbwyntiau hyn.

 

Yn dilyn yr hyn a adroddwyd gan Libby Jones, nodwyd pwysigrwydd cael presenoldeb o Adran

Addysg y Cyngor i roi CYSAG ar ben ffordd gyda y newid hyn.  Cwestiynwyd a fyddai modd gweithio

yn rhanbarthol, a nodwyd yr angen i Aelodau CYSAG ddeall beth yw cyfraniad GwE, rôl y Cyngor

a sut mae modd cydweithio.

 

Gan y bydd y pwnc yn fandadol, ac yn rhan greiddiol o’r cwricwlwm newydd, nodwyd efallai y bydd

angen cefnogaeth ar rai ysgolion i allu gwireddu hyn. 

 

 

PENDERFYNWYD Oherwydd nad oedd cworwm, nid oedd modd i’r Pwyllgor wneud penderfyniad

ond derbyniwyd y cyflwyniad a diolchwyd i Libby Jones am ei chyfraniad. 

 

 

7.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CYSAG 2020-2021

I dderbyn diweddariad ar yr uchod  

Penderfyniad:

Oherwydd nad oedd cworwm, nid oedd modd i’r Pwyllgor wneud penderfyniad ond derbyniwyd diweddariad ar yr uchod ac awgrymwyd y ffordd ymlaen.

 

Cofnod:

Cadarnhawyd bod drafft o’r Adroddiad Blynyddol ar y gweill ac y byddai yn cael ei gyflwyno i gyfarfod nesaf CYSAG i’w gymeradwyo.

 

 

PENDERFYNWYD Oherwydd nad oedd cworwm, nid oedd modd i’r Pwyllgor wneud penderfyniad ond derbyniwyd diweddariad ar yr uchod ac awgrymwyd y ffordd ymlaen.

 

8.

MATERION CCYSAGAU pdf eicon PDF 94 KB

I dderbyn Adroddiad Blynyddol y CCYSAGAU ar gyfer 2020-2021

I dderbyn Adroddiad Blynyddol Trysorydd y CCYSAGAU ar gyfer 2020-2021, gan gynnwys y Datganiad o Gyfrifon

I dderbyn Cofnodion y cyfarfod CCYSAGAU a gynhaliwyd 16 Mehefin 2021

I dderbyn Diweddariad o Gyfarfod yr Hydref o CCYSAGAU a gynhaliwyd 23 Tachwedd 2021

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Oherwydd nad oedd cworwm, nid oedd modd i’r Pwyllgor wneud penderfyniad ond derbyniwyd yr adroddiadau er gwybodaeth.   

 

Cofnod:

 Diolchwyd am Adroddiad Blynyddol y CCYSAGAU ar gyfer 2020-2021, Adroddiad Blynyddol

Trysorydd y CCYSAGAU ar gyfer 2020- 2021, gan gynnwys y Datganiad o Gyfrifon a chofnodion

y cyfarfod CCYSAGAU a gynhaliwyd 16 Mehefin 2021.

 

Cafwyd diweddariad o gyfarfod yr Hydref o CCYSAGAU a gynhaliwyd 23 Tachwedd 2021, ble bu

iddynt dderbyn cyflwyniad ar y Cwricwlwm Newydd gan swyddog o Gonsortia Canol De Cymru, Dwyrain De Cymru a GwE.  Adroddwyd yn y cyfarfod am y gefnogaeth oedd ar gael a chodwyd y pryder ei bod yn ymddangos bod CCYSAGAU De Cymru yn cael rhan greiddiol mewn cymhariaeth â’r Gogledd.  Nodwyd yn benodol y pryder am y diffyg cefnogaeth gan GwE i CYSAG.

 

Cyfeiriwyd hefyd at y gyfres sydd wedi ei chyhoeddi gan Hodder i gyd-fynd â’r cwricwlwm newydd, a gofynnwyd i’r neges gael ei lledaenu nad yw y gyfres o reidrwydd yn addas i Gymru gan nad ydynt wedi derbyn unrhyw fewnbwn o Gymru wrth ei chreu.

 

Yna trafodwyd yr angen i drefnu Cynhadledd Maes Llafur Cytûn cyn Medi 2022, ac awgrymwyd

efallai y gellid cynnal y cyfarfod cyntaf ar Chwefror 1af.  Cadarnhawyd fod y Gynhadledd yn gorff

ar wahân i CYSAG ond y byddai yn gwneud synnwyr i barhau gyda’r un aelodaeth.  Yn sgil hyn

awgrymwyd efallai y byddai modd ysgrifennu at y cyrff crefyddol am enwebiadau gan fod nifer o

seddi gwag ar y CYSAG a’r aelodaeth wedi dirywio mewn niferoedd. 

 

 

PENDERFYNWYD Oherwydd nad oedd cworwm, nid oedd modd i’r Pwyllgor wneud penderfyniad ond derbyniwyd yr adroddiadau er gwybodaeth.   

 

 

 

 

                        Dechreuodd y cyfarfod am 2.00 p.m. a daeth i ben am 3.10 p.m.

 

CADEIRYDD