skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol Zoom

Cyswllt: Einir Rh Davies  01286 679868

Eitemau
Rhif eitem

1.

GWEDDI NEU FYFYRDOD TAWEL

Gweddi neu fyfyrdod tawel

Cofnod:

Agorwyd y cyfarfod gyda gweddi gan Y Cynghorydd Judith Humphreys.

 

2.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Cathryn Davey, Dashu, Cyng. Selwyn E Griffiths

3.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

4.

MATERION BRYS

I nodi unrhyw faterion sydd o frys ym marn y Cadeirydd ar gyfer ystyriaeth

Cofnod:

Cyfeiriodd y Cadeirydd at e-bost oedd wedi dod i law gan CCYSAGau Cymru yn holi am enwebiadau i’r Pwyllgor Gwaith, gyda dyddiad cau o 8 Ebrill, a chytunwyd i gylchredeg yr e-bost.

5.

COFNODION pdf eicon PDF 139 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig bod cofnodion y cyfarfodydd o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 8 Mehefin, 2021 a 23 Tachwedd 2021 yn cael eu harwyddo fel rhai cywir

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Oherwydd nad oedd cworwm, nid oedd modd i’r Cadeirydd gadarnhau cofnodion y ddau gyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 8 Mehefin a 23 Tachwedd fel rhai cywir.  Bydd y cofnodion yn cael eu llofnodi yn y cyfarfod nesaf.

6.

CYNHADLEDD MAES LLAFUR CYTUNEDIG AR GYFER CREFYDD, GWERTHOEDD A MOESEG O FEWN Y CWRICWLWM NEWYDD I GYMRU pdf eicon PDF 846 KB

I drafod y Gynhadledd Maes Llafur Cytunedig Sydd ar y Gweill

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Oherwydd nad oedd cworwm, nid oedd modd i’r Pwyllgor wneud penderfyniad ond

rhannwyd y wybodaeth am y gynhadledd sydd i’w chynnal ar y cyd gyda Ynys Môn, o

dan arweiniad Phil Lord o GwE.

 

 

Cofnod:

Amlinellodd y Cadeirydd yr angen i bob Awdurdod Addysg sefydlu Cynhadledd fel endid ar

wahân i’r cyfarfod CYSAG ar gyfer yr uchod.  Adroddwyd bod y Gynhadledd, sydd i’w chynnal

ar y cyd gydag Ynys Môn wedi ei threfnu ar gyfer 15 Chwefror 2022 o dan arweiniad Phil Lord

o GwE.  Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd y Gynhadledd, a’r cyfle yma i gytuno ar y maes

llafur.  Cadarnhawyd bod angen i’r Pwyllgor lleol ystyried Canllawiau Llywodraeth Cymru, ac

yna i ysgolion gymryd i ystyriaeth y maes llafur cytunedig. 

 

Cyfeiriwyd at y Canllawiau oedd wedi eu paratoi gan y Llywodraeth, ynghyd â’r statws

cyfreithiol.

 

Ni dderbyniwyd unrhyw sylwadau ar y canllawiau ac anogwyd cymaint o Aelodau CYSAG

Gwynedd â phosib i fynychu Y Gynhadledd.

 

PENDERFYNWYD: Oherwydd nad oedd cworwm, nid oedd modd i’r Pwyllgor wneud

Penderfyniad ond rhannwyd y wybodaeth am y gynhadledd sydd i’w chynnal ar y cyd gydag

Ynys Môn, o dan arweiniad Phil Lord o GwE.

 

7.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CYSAG 2020/2021 pdf eicon PDF 926 KB

I ystyried Adroddiad Blynyddol CYSAG ar gyfer 2020/2021

Penderfyniad:

Oherwydd nad oedd cworwm, nid oedd modd i’r Pwyllgor wneud penderfyniad ond diolchwyd am yr adroddiad drafft, a gwnaethpwyd ambell i awgrym.  Nodwyd pryder am nifer y seddi gwag ar Bwyllgor CYSAG a’r angen i holi eto am enwebiadau i’r seddi hyn.

 

Cofnod:

Atgoffwyd yr aelodau bod yr adroddiad yn ystyried y flwyddyn academaidd Medi 2020 i Awst 2021, ac yn dilyn yr un patrwm â’r blynyddoedd a fu.  O ganlyniad i’r pandemig roedd rhai materion na chawsant eu cwblhau, fel yr amlygir yn yr adroddiad.  Nodwyd bod angen diweddaru yr aelodaeth.  Atgoffwyd yr Aelodau bod nifer o faterion pwysig wedi eu trafod mewn cyfarfodydd CYSAG yn ystod y cyfnod, gan gynnwys Dyfodol Addysg Grefyddol ym Mhrifysgol Bangor, cyfethol disgyblion ar bwyllgor CYSAG a lles disgyblion yn ystod y cyfnod.  Adroddwyd ar y pryder nad oedd modd trafod dogfennau ymgynghorol mewn pwyllgor, ond yn hytrach bod y gwaith hel ymatebion wedi gorfod cael ei wneud yn electroneg.

 

Edrychwyd ar argymhellion yr adroddiad a chytunwyd i’w haddasu gan dynnu allan y cyfeiriad at CBAC a’r sefyllfa arholiadau, cynnwys cyfeiriad at arweiniad pynciol a thynnu allan y frawddeg sydd yn sôn am wahodd Aelodau CYSAG i addoli ar y cyd mewn ysgolion, gan nad oedd modd i hyn ddigwydd.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r angen am lyfrau ar gyfer y maes llafur newydd, nodwyd eu bod yn cael eu comisiynu drwy CBAC, a’r gobaith y byddai y Gymraeg a’r Saesneg yn cyrraedd gyda’i gilydd.  Nodwyd yr angen ychwanegol i fod yn wyliadwrus o ddeunydd oedd wedi ei baratoi y tu allan i Gymru gan fod y maes llafur yn wahanol.

 

Mewn ymateb i sylw am yr Aelodaeth, a’r ffaith mai dyma’r ail waith i’r Pwyllgor gyfarfod heb gworwm, cadarnhawyd y bydd Aelodaeth yn cael ei drafod yng nghyfarfod nesaf Fforwm Undebau Athrawon ac y bydd yn cael ei drafod yn y Fforwm Penaethiaid maes o law, yn y gobaith o ehangu yr aelodaeth.  O ran cynrychiolaeth o’r gwahanol grefyddau, cadarnhawyd bod cyswllt wedi ei wneud gyda nifer o grefyddau eraill i geisio cael enwebiadau ond nad oedd unrhyw ymateb wedi bod.  Cytunwyd i barhau gyda’r gwaith a chysylltu gyda’r Brifysgol am gymorth.

 

Nododd y Cadeirydd ei siom nad oedd cworwm eto yn y cyfarfod hwn, er ymdrechion i hysbysu aelodau’r Pwyllgor am y cyfarfod, ond serch hynny ei bod wedi bod yn drafodaeth fuddiol.  Atgoffwyd pawb am y Gynhadledd Maes Llafur sydd i’w chynnal 15 Chwefror, 2022.

 

PENDERFYNWYD Oherwydd nad oedd cworwm, nid oedd modd i’r Pwyllgor wneud penderfyniad ond diolchwyd am yr adroddiad drafft, a gwnaethpwyd ambell i awgrym.  Nodwyd pryder am nifer y seddi gwag ar Bwyllgor CYSAG a’r angen i holi eto am enwebiadau i’r seddi hyn.

 

                        Dechreuodd y cyfarfod am 2.15 p.m. a daeth i ben am 2.50 p.m.

 

 

CADEIRYDD.