skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Einir Rh Davies  01286 679868

Eitemau
Rhif eitem

1.

GWEDDI NEU FYFYRDOD TAWEL

Gweddi neu Fyfyrdod Tawel

Cofnod:

Agorwyd y cyfarfod gyda gweddi gan Y Cynghorydd Paul Rowlinson a chymerwyd y cyfle am

fyfyrdod tawel.

 

2.

ETHOL CADEIRYDD

I Ethol Cadeirydd i’r Pwyllgor Hwn am y Flwyddyn 2022/2023

Penderfyniad:

Ethol y Cynghorydd Menna Baines yn Gadeirydd y Pwyllgor hwn am y cyfnod 2022/23

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Menna Baines yn Gadeirydd y pwyllgor hwn am y

cyfnod 2022/23.  Diolchwyd i’r Cynghorydd Paul Rowlinson am Gadeirio CYSAG dros y pum

mlynedd diwethaf.

 

3.

ETHOL IS GADEIRYDD

I Ethol Is Gadeirydd i’r Pwyllgor hwn am y Flwyddyn 2022/2023

 

Penderfyniad:

Ethol y Cynghorydd Meryl Roberts yn Is Gadeirydd y Pwyllgor hwn am y cyfnod 2022/23

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Meryl Roberts yn Is Gadeirydd y pwyllgor hwn am y

cyfnod 2022/23.

 

4.

YMDDIHEURIADAU

I Dderbyn Unrhyw Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Cathryn Davey, Y Cynghorydd Elin Walker Jones a Gwawr M Williams.

 

5.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I Dderbyn Unrhyw Ddatganiad o Fuddiant Personol

Cofnod:

6.

MATERION BRYS

I nodi unrhyw faterion sydd o frys ym marn y Cadeirydd ar gyfer ystyriaeth

Penderfyniad:

Yn dilyn y gynhadledd i drafod yr uchod, ac er mwyn arbed llithriad pellach, bod yr Adran Addysg yn paratoi adroddiad ar gyfer sylw y Cabinet yn eu cyfarfod nesaf, yn argymell derbyn y ddau faes llafur cytunedig a argymhellwyd gan y Gynhadledd Maes Llafur Cytunedig a gynhaliwyd ar 15 Chwefror 2022.

 

Ymddiheurwyd na fyddai modd rhyddhau y maes llafur yn ffurfiol i Ysgolion, nes derbyn cymeradwyaeth y Cabinet.

 

Cofnod:

Cytunodd y Cadeirydd i gais i drafod yr uchod fel mater brys.  Nodwyd siom, er bod y Gynhadledd Cytunedig wedi ei chynnal ers 15 Chwefror, 2022, oedd mewn da bryd ar gyfer y tymor newydd, nad oedd yr Awdurdod wedi gallu symud materion ymlaen. Yn ychwanegol, nodwyd pryder am y diffyg arweiniad gyda y camau nesaf.  Cadarnhawyd bod cyngor wedi dod i law erbyn hyn, a’i bod yn ymddangos bod angen cymeradwyaeth y Cabinet cyn gallu symud ymlaen a rhyddhau y maes llafur cytunedig yn ffurfiol i Ysgolion.  Nodwyd yr angen i’r Adroddiad fynd gerbron y Cabinet yn ei gyfarfod ym mis Medi yn cynnig argymell derbyn y ddau faes llafur cytunedig.  Nodwyd pryder bod nifer o ysgolion yn cychwyn y tymor newydd heb arweiniad, yn enwedig yr ysgolion sydd yn cyflwyno i Flwyddyn 7 ym mis Medi, gan mai argymell parhau gyda yr un presennol i Flwyddyn 8 ymlaen oedd yr argymhelliad.  Cadarnhawyd bod arolygiadau Estyn yn ail-gychwyn hefyd a nodwyd effaith yr uchod ar arolygiadau Estyn.

 

PENDERFYNWYD, yn dilyn y gynhadledd, trafod yr uchod, ac er mwyn arbed llithriad pellach, bod yr Adran Addysg yn paratoi adroddiad ar gyfer sylw y Cabinet cyn gynted â phosib, yn argymell derbyn y ddau faes llafur cytunedig a argymhellwyd gan y Gynhadledd Maes Llafur Cytunedig a gynhaliwyd ar 15 Chwefror 2022.

 

Ymddiheurwyd na fyddai modd rhyddhau y maes llafur yn ffurfiol i Ysgolion, nes derbyn cymeradwyaeth y Cabinet.

 

 

7.

COFNODION Y CYFARFODYDD DIWETHAF pdf eicon PDF 139 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig bod cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 8 Mehefin 2021, 23 Tachwedd 2021 a 1 Chwefror 2022 yn cael eu harwyddo fel rhai cywir

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y tri chyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 8 Mehefin 2021, 23 Tachwedd 2021 ac 1 Chwefror 202210 Chwefror, 2021 fel rhai cywir, a bu i’r Cadeirydd eu llofnodi. Nodwyd y pryder nad oedd modd i lawer o weithgareddau arferol CYSAG gymryd lle, nid yn unig oherwydd y sefyllfa Covid, ond oherwydd y sefyllfa o ran diffyg quorum yn y tri cyfarfod diwethaf.

 

8.

AELODAETH CYSAG

I Ystyried Ehangu Aelodaeth Presennol CYSAG

Penderfyniad:

1.    Yn dilyn y gwaith ail-edrych ar Gyfansoddiad CYSAG yn 2019, ble ychwanegwyd at y crefyddau,  mewn ymateb i’r pryder bod nifer o seddi gwag ar CYSAG, penderfynwyd bod angen gofyn i’r Cabinet ail-edrych ar yr Aelodaeth eto.

 

2.    Paratoi adroddiad i’r Cabinet, yn argymell addasu y Cyfansoddiad i gynnwys pump sedd addysg, i gynnwys y Prif Undebau a cynrychiolwyr o GYDGA a GCSU.

 

3.    Ail holi am aelodau i gynrychioli’r Eglwys Fethodistaidd a’r Annibynwyr a’r crefyddau eraill nad ydynt wedi enwebu cynrychiolwyr eto

 

Cofnod:

Cadarnhawyd bod nifer o seddi gwag ar CYSAG er bod gwahoddiadau wedi eu hymestyn i’r enwadau, yn dilyn ail-edrych ar y Cyfansoddiad yn 2019.   Amlygwyd yr angen i ail-edrych ymhellach ar y Cyfansoddiad o ran seddi gwag y cynrychiolwyr athrawon.  Cadarnhawyd, yn sgil uno undebau a’r nifer cynyddol o aelodau yn y tair prif Undeb erbyn hyn, bod angen llenwi pum sedd athrawon yn y Cyfansoddiad.  Awgrymwyd y byddai yn fuddiol cynnig sedd yr un i gynrychiolwyr y tair prif undeb, ynghyd â cheisio cynrychiolydd o GYDGA a GCSU.  Cytunwyd bod hon yn ffordd dda o lenwi y seddi, ac y byddai yn ffordd o annog cydweithio da rhwng Undebau, cynrychiolydd o’r sector uwchradd a chynrychiolydd o’r sector gynradd. 

 

O ran yr enwadau crefyddol, nodwyd bod y Cabinet wedi penderfynu ymestyn y cynrychiolwyr i gynnwys Iddewon a Mwslemiaid, ac er ei bod yn ymddangos bod swyddogion wedi ceisio cael cynrychiolwyr, nad oeddynt wedi llwyddo, ond nodwyd bod angen parhau i geisio cael cynrychiolwyr.

 

PENDERFYNWYD:  

 

1.     Yn dilyn y gwaith ail-edrych ar Gyfansoddiad CYSAG yn 2019, ble ychwanegwyd at y crefyddau,  mewn ymateb i’r pryder bod nifer o seddi gwag ar CYSAG, penderfynwyd bod angen gofyn i’r Cabinet ail-edrych ar yr Aelodaeth eto.

 

2.     Paratoi adroddiad i’r Cabinet, yn argymell addasu y Cyfansoddiad i gynnwys pum sedd addysg, i gynnwys y Prif Undebau a chynrychiolwyr o GYDGA a GCSU.

 

3.     Ail holi am aelodau i gynrychioli’r Eglwys Fethodistaidd a’r Annibynwyr a’r crefyddau eraill nad ydynt wedi enwebu cynrychiolwyr eto

 

9.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CYSAG 2020-2021 pdf eicon PDF 203 KB

I Dderbyn Adroddiad Blynyddol CYSAG ar gyfer 2020 - 2021

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr Adroddiad, a chytuno i ail-ymweld a’r Holiadur Addysg Grefyddol sydd yn

cael ei ddosbarthu i ysgolion, gan ystyried ei addasrwydd yn ei ffurf bresennol.

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD derbyn yr Adroddiad, a chytuno i ail-ymweld â’r Holiadur Addysg Grefyddol

sydd yn cael ei ddosbarthu i ysgolion, gan ystyried ei addasrwydd yn ei ffurf bresennol.

 

10.

MATERION CYSAGau pdf eicon PDF 816 KB

I nodi y cyfathrebu sydd wedi ei dderbyn gan CYSAGau

 

Diweddariad : Cynadleddau Meysydd Llafur Cytunedig 2022

Cwestiynau a Ofynnir yn Aml (FAQs) – Cynadleddau Meysydd Llafur Cytunedig 2022

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd yr Ohebiaeth

Cofnod:

PENDERFYNWYD derbyn yr ohebiaeth.

 

 

 

 

 

 

                        Dechreuodd y cyfarfod am 3.30 p.m. a daeth i ben am  4.20 p.m.

 

 

 

 

CADEIRYDD.