Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Yn Rhithiol Drwy Zoom

Cyswllt: Einir Rh Davies  01286 679868

Eitemau
Rhif eitem

1.

GWEDDI NEU FYFYRDOD TAWEL

Cyfle am weddi neu fyfyrdod tawel

Cofnod:

Agorwyd y cyfarfod gyda gweddi gan Y Cynghorydd Paul Rowlinson a chymerwyd y cyfle am fyfyrdod tawel.

 

2.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau ymlaen llaw gan Nathan Abrams, Cyng. Menna Baines, Sion Huws, Heledd Jones a Gwawr M Williams a derbyniwyd ymddiheuriadau hwyr gan Bethan Jones a Naomi Wood.

 

3.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

Cofnod:

4.

MATERION BRYS

I nodi unrhyw faterion sydd o frys ym marn y Cadeirydd ar gyfer ystyriaeth

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw fater brys.

 

5.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 132 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig bod cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf, 2022 yn cael eu harwyddo fel rhai cywir

Cofnod:

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 22 Gorffennaf, 2022, fel rhai cywir a bu i’r Cadeirydd eu llofnodi, ar yr amod bod y cywiriadau canlynol yn cael eu nodi :

 

Eitem 6 – Ychwanegu “… yr ysgolion sydd yn cyflwyno Cwricwlwm i Gymru ym Mlwyddyn 7”

Eitem 6 – Dileu “Chwefror 2021”

Eitem 8 – Ail-eirio “Ychwanegwyd mwy o gynrychiolwyr o’r credoau”

 

6.

AELODAETH A GWAITH CYSAG

Cyflwyniad gan Aelodau CYSAG a golwg ar waith CYSAG

Penderfyniad:

Derbyn y cyflwyniad i waith CYSAG.

 

 

Cofnod:

Cyflwynodd pawb eu hunain a pwy yr oeddynt yn ei gynrychioli.  Rhoddodd Y Cynghorydd Paul Rowlinson gyflwyniad llafar ar waith y Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG) a Chymdeithas Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol Cymru (CCYSAGauC) CYSAG gan gyfeirio at y Llyfryn “Felly Rydych yn Ymuno a’ch CYSAG Lleol” : Llawlyfr i Aelodau CYSAG yng Nghymru.

 

Nodwyd bod nifer o’r materion sydd yn cael eu trafod yn y Llyfryn wedi eu trafod gan CYSAG, megis

 

Cynnal cynhadledd pob pum mlynedd

Trafod y cwricwlwm newydd

Maes llafur cytunedig

Newid enw y pwnc

Cefnogi ysgolion

Danfon cynrychiolwyr i gyfarfodydd CCYSAGauC

Ymateb i ymgynghoriadau

Ystyried sut i fonitro ysgolion

Pa wahaniaeth mae CYSAG yn ei wneud?

Sut all CYSAG Gwynedd wella?

Diffyg arbenigedd yn y maes.

 

PENDERFYNWYD:  Derbyn y cyflwyniad i waith CYSAG.

 

7.

SUT GALL CYSAG FONITRO SAFONAU O FEWN YSGOLION GWYNEDD O 2022? pdf eicon PDF 840 KB

Papur trafod ar ffordd bosib ymlaen

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad ac ysgrifennu at CCYSAGauC am arweiniad.

 

Cofnod:

Atgoffwyd y Pwyllgor o’r rol fonitro sydd gan CYSAG, a cyfeiriwyd at y pecyn oedd wedi ei atodi, yn dangos y sefyllfa cyn 2020.  Nodwyd bod dogfen yn cael ei rhannu i pob Ysgol oedd yn cael Arolwg ESTYN i’w chwblhau, ac yna ei chyflwyno i CYSAG, ond nodwyd bod y cyd-destun wedi newid erbyn hyn. 

Nodwyd y pryder nad yw mor hawdd cael gwybodaeth erbyn hyn, bod ESTYN ddim yn graddoli ysgolion nac yn eu cymharu, ond yn rhoi fwy o naratif yn eu hadroddiadau, ac o ganlyniad bod y ffordd bresennol o fonitro  ddim yn addas erbyn hyn.  Yn ychwanegol, nodwyd y nod i leihau y baich gweinyddol ar athrawon. 

Nodwyd y pryder am y diffyg cefnogaeth arbenigol i CYSAG yn dilyn newidiadau gan GwE, ond bu i’r Pennaeth Addysg gadarnhau bod cyfarfod ar y gweill ganddo fyddai, o bosib, yn cynnig datrysiad.

Teimlwyd efallai na aros a gweld fyddai mwyaf addas ar hyn o bryd, gan ein bod yn y camau cychwynnol o gyfnod o newid.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad ac ysgrifennu at CCYSAGauC am arweiniad

 

8.

DIWEDDARIAD : MAES LLAFUR CYTUNEDIG AR GYFER CREFYDD, GWERTHOEDD A MOESEG O FEWN Y CWRICWLWM NEWYDD I GYMRU pdf eicon PDF 330 KB

Diweddariad ynglyn a’r Maes Llafur Cytunedig ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg o fewn i Cwricwlwm Newydd

Penderfyniad:

Derbyn y diweddariad

Cofnod:

Cyfeiriodd Clerc CYSAG at y camau a gymerwyd i dderbyn y maes llafur cytunedig ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg o fewn y Cwricwlwm Newydd i Gymru, ac er na chafwyd sel bendith y Cabinet erbyn Medi 2022, bod y sel bendith wedi ei roi erbyn hyn.

 

PENDERFYNWYD derbyn y diweddariad.

 

9.

GOHEBIAETH WEDI EI DDERBYN GAN Y CYSAGAU pdf eicon PDF 135 KB

I rannu gohebiaeth fel a ganlyn :

 

a.     Cynhadledd yr Hydref y CYSAGAU

b.     Manylion yr Wythnos Ryng-Ffydd

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn y wybodaeth

Cofnod:

Cynhadledd yr Hydref y CCYSAGauC

 

Nododd y Cynghorydd Paul Rowlinson ei fod wedi mynychu cynhadledd yr Hydref CCYSAGauC, ac adroddodd fel a ganlyn :

 

Bu i’r mynychwyr dderbyn cyflwyniad ar becyn adnoddau Blwyddyn8, ac er bod nifer o fodiwlau yn y broses o gael eu hasesu, eu bod yn edrych yn dda.

 

O ran Materion Llywodraeth Cymru, nododd bod y cwestiwn wedi codi yn dilyn diddymu yr hawl i riant dynnu ei blentyn o wersi, ble cwestiynwyd a fyddai hyn yn creu yr un problemau a hawl rhiant i dynnu disgybl o wersi addysg rhyw, ond nid oeddynt o’r farn fod y sefyllfa yr un peth.

 

Codwyd y mater o fonitro safonau a chadarnhawyd bod angen trafod ymhellach gyda Llywodraeth Cymru.

 

Cyfeiriwyd hefyd at yr angen i bob CYSAG baratoi Adroddiad Blynyddol a thrafodwyd fformat yr adroddiadau presennol.

 

Manylion yr Wythnos Ryng-Ffydd

 

Nodwyd pryder ei bod yn ymddangos bod gweithgareddau wedi eu canslo mewn rhai ardaloedd, ond roedd yn ymddangos mai mewn un ardal yn unig oedd hyn wedi digwydd.

           

PENDERFYNWYD derbyn yr ohebiaeth.

 

 

 

 

 

 

                        Dechreuodd y cyfarfod am 3.30 p.m. a daeth i ben am 4.30 p.m.

 

 

 

 

CADEIRYDD