Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Yn Rhithiol Drwy Zoom

Cyswllt: Einir Rh Davies  01286 679868

Eitemau
Rhif eitem

1.

GWEDDI NEU FYFYRDOD TAWEL

Cyfle am weddi neu fyfyrdod tawel

Cofnod:

2.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Miriam Amlyn (NAS/UWT), Beca Brown (Aelod

Cabinet Addysg), Garem Jackson (Pennaeth Addysg), Heledd Jones (NEU), Edward

Pari-Jones (Dyneiddiwr) a Gwawr M Williams (Eglwys Bresbyteraidd Cymru)

 

3.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

Cofnod:

4.

MATERION BRYS

I nodi unrhyw faterion sydd o frys ym marn y Gadair ar gyfer ystyriaeth

Cofnod:

5.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 200 KB

Bydd y Gadair yn cynnig bod cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 29 Tachwedd, 2022 yn cael eu harwyddo fel rhai cywir

Cofnod:

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 29 Tachwedd, 2022, fel rhai cywir a bu i’r Cadeirydd eu llofnodi. 

 

Rhoddwyd diweddariad ynglŷn â Eitem 7 : Sut Gall CYSAG Fonitro Safonau o Fewn Ysgolion Gwynedd o 2022?, gan gadarnhau nad oes bwriad ymweld ag ysgolion ar hyn o bryd, ond y byddai y mater yn cael ystyriaeth bellach mewn cyfarfod yn y dyfodol yn dilyn derbyn arweiniad gan CCYSAGauC.

 

6.

MAES LLAFUR CYTUNEDIG : Y CANLLAWIAU AR GYFER CREFYDD, GWERTHOEDD A MOESEG O FEWN Y CWRICWLWM NEWYDD : CYNLLUN CYNGOR GWYNEDD pdf eicon PDF 397 KB

Diweddariad ynglŷn a Chynllun Cyngor Gwynedd mewn perthynas a’r Maes Llafur Cytunedig ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg

Penderfyniad:

Cymeradwyo Cynllun Cyngor Gwynedd.

 

Cofnod:

Cadarnhawyd bod Cabinet Cyngor Gwynedd wedi derbyn Canllawiau Llywodraeth Cymru mewn cyfarfod blaenorol, ond bod Gwynedd angen creu ei Chynllun ei hun, yn seiliedig ar y Canllawiau.  Cadarnhawyd unwaith byddai y Cynllun yn derbyn sêl bendith CYSAG  y byddai yn dod yn Gynllun Terfynol.  Nodwyd y gobaith bod gan ysgolion yr adnoddau angenrheidiol, yn enwedig yn y Gymraeg, er mwyn i’r Cynllun lwyddo.

 

PENDERFYNWYD:  Cymeradwyo Cynllun Cyngor Gwynedd.

 

 

7.

CANLLAWIAU ADDOLI AR Y CYD pdf eicon PDF 687 KB

Trafodaeth ac y Canllawiau Addoli ar y Cyd Presennol 

Penderfyniad:

Gan fod y Canllawiau wedi dyddio erbyn hyn, cytunwyd bod angen diweddaru y Canllawiau.  Penderfynwyd sefydlu Gweithgor, i gynnwys cynrychiolwyr o’r Crefyddau, Cynghorwyr ac Athrawon i edrych ar ddiweddaru y Canllawiau.  Derbyniwyd cynnig Y Cynghorydd Elin Walker Jones a’r Parchedig Nick Sissons i fod yn rhan o’r Gweithgor a chytunwyd i holi am ragor o aelodau, y tu allan i’r cyfarfod.

 

Cofnod:

Cyflwynodd Clerc CYSAG yr eitem gan gadarnhau bod y Canllawiau wedi dyddio erbyn hyn, er bod y Ddeddfwriaeth yn parhau yr un fath.  Cadarnhaodd, o ran Gofyn Statudol, nad oes gofyn am ddogfen, ond ei bod yn ymddangos bod Ysgolion yn gweld mantais i gael mynediad at ddogfen.  Cwestiynodd y Clerc a oes angen diweddariad?  Sut mae CYSAG yn dymuno symud ymlaen i wneud unrhyw ddiweddariadau a pwy fyddai yn fodlon cyfrannu at y gwaith?  Nodwyd y pwysigrwydd i ddisgyblion gyd-gyfarfod, a nodwyd pryder nad yw yn ymddangos bod ysgolion yn cyd-gyfarfod. 

 

Nodwyd yr ymdeimlad bod angen diweddaru y Canllawiau o ran :

 

Mynd i’r Afael â’r Anghydbwysedd yn y Canllawiau :

Angen enghreifftiau newydd gan fod llawer o sôn am y calendr Cristnogol, ynghyd â chynnig enghreifftiau Cristnogol, a fawr o sôn am  ffydd na chalendrau megis Mwslemiaeth, Bwdhaeth, Hindŵaeth na Iddewiaeth  Nodwyd pryder am yr anghydbwysedd a’r gwerth sydd yn cael ei golli o beidio â dysgu am grefyddau eraill.

 

Sylwadau neu eirfa wedi Dyddio :

e.e. .”rhaid cynnal addoliad pob dydd” a theimlwyd bod y gofyn i gynnal yn parhau ond nid yn yr un ffordd. 

Defnydd cyson o’r gair “addoliad” a’r angen am ddiffiniad o’r term

Iaith y Canllawiau ddim yn adlewyrchu y byd presennol erbyn hyn, megis yr angen am gyfeiriad at ymdawelu ac ystyried materion iechyd meddwl a lles ysbrydol. 

Efallai byddai rhai athrawon yn fwy bodlon arwain ar fyfyrdod yn hytrach na addoli.

 

Y Ffordd Ymlaen

Awgrymwyd y byddai sefydlu Panel/Is-Bwyllgor/Gweithgor yn ffordd ymlaen i gynnwys cynrychiolwyr o’r grwpiau ffydd ac addysg.  Nodwyd hefyd y byddai hyn yn ffordd i ddod a gwahanol gyfryngau ynghyd . 

 

PENDERFYNWYD : Gan fod y Canllawiau wedi dyddio erbyn hyn, cytunwyd bod angen diweddaru’r Canllawiau.  Penderfynwyd sefydlu Gweithgor, i gynnwys cynrychiolwyr o’r Crefyddau, Cynghorwyr ac Athrawon i edrych ar ddiweddaru y Canllawiau.  Derbyniwyd cynnig Y Cynghorydd Elin Walker Jones a’r Parchedig Nick Sissons i fod yn rhan o’r Gweithgor a chytunwyd i holi am ragor o aelodau, y tu allan i’r cyfarfod. 

 

8.

MATERION CCYSAGauC pdf eicon PDF 180 KB

i.               Llythyr gan Gadeirydd CCYSAGauC

ii.              Enwebiadau ar gyfer Pwyllgor Gwaith CCYSAGauC

iii.             Dyddiad i’r Dyddiadur : Cyfarfod Gwanwyn CCYSAGauC

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

i.               Llythyru CCYSAGauC i ddiolch am eu cefnogaeth yn ystod y cyfnod cynhyrchu y Maes Llafur Cytunedig Newydd ar gyfer Crefydd Gwerthoedd a Moeseg.

ii.              Gan na ddaeth enwebiadau i law yn ystod y cyfarfod ar gyfer y Pwyllgor Gwaith, penderfynwyd ail-holi y tu allan i’r cyfarfod.

iii.             Nodwyd dyddiad Cyfarfod Gwanwyn CCYSAGauC

 

Cofnod:

Materion CCYSAGauC

 

i.               Llythyr gan Gadeirydd CCYSAGauC

ii.              Enwebiadau ar gyfer Pwyllgor Gwaith CCYSAGauC

iii.             Nodi dyddiad Cyfarfod Gwanwyn CCYSAGauC 

           

PENDERFYNWYD :

 

i.               Llythyru CCYSAGauC i ddiolch am eu cefnogaeth yn ystod cyfnod cynhyrchu’r Maes Llafur Cytunedig Newydd ar gyfer Crefydd Gwerthoedd a Moeseg. 

ii.              Gan na ddaeth enwebiadau i law yn ystod y cyfarfod ar gyfer y Pwyllgor Gwaith, penderfynwyd ail-holi y tu allan i’r cyfarfod.

iii.            Nodi dyddiad Cyfarfod Gwanwyn CCYSAGauC.

 

 

 

 

 

 

                        Dechreuodd y cyfarfod am 3.30 p.m. a daeth i ben am 4.25 p.m.

 

 

 

 

CADEIRYDD.