skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Virtual Meeting

Cyswllt: Natalie Lloyd Jones  E-bost: NatalieLloydJones@gwynedd.llyw.cymru

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Cynghorwyr Elin Walker Jones ac Kevin Morris Jones. 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw faterion brys.  

4.

COFNODION pdf eicon PDF 320 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 28 Ionawr 2021 fel rhai cywir (ynghlwm).

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y 28ain Ionawr, 2021 fel rhai cywir. 

 

Rhannodd y Cadeirydd ymateb a dderbyniwyd gan yr AS Ken Skates. Nododd y llythyr y bydd penderfyniad ynghylch dyfodol y rhaglen Arfor yn cael ei wneud wedi iddynt dderbyn gwerthusiad o’r rhaglen bresennol. 

 

5.

CYNLLUN HYBU'R GYMRAEG 2019 - 2023: CYFRANIAD ADRAN YMGYNGHORIAETH pdf eicon PDF 472 KB

Ystyried yr adroddiad.

Penderfyniad:

a)    Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

b)    Dymuno’n dda i’r adran yn eu hymgais barhaol i hyrwyddo defnydd y Gymraeg ymhellach ymysg eu staff.

 

Cofnod:

a.     Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd. 

b.    Dymuno’n dda i’r adran yn eu hymgais barhaol i hyrwyddo defnydd y Gymraeg ymhellach ymysg eu staff. 

 

 

Cyflwynodd y Pennaeth Adran YGC ei adroddiad yn amlygu’r camau a gymerwyd o fewn yr adran er mwyn hybu’r Gymraeg ymysg staff. Cododd y pwyntiau pwysig fel a ganlyn; 

 

·  Nododd bod yr adran wedi profi llwyddiant drwy gydweithio gyda’r Swyddogion Iaith er mwyn eu rhoi ar ben ffordd gyda’u hymdrechion. 

·  Eglurodd bod staff wedi cwblhau Hunan-asesiadau iaith i’w clymu i fewn i’r drefn ac o ganlyniad wedi sylweddoli ba pwyslais sydd ar ddefnyddio’r iaith. 

·  Ategodd bod canran uchel o staff di-gymraeg yn yr adran o gymharu ag adrannau eraill o fewn y Cyngor. 

·  Rhannodd bod 92% o aelodau staff yn cwrdd â gofynion eu swydd ond eglurodd ei bod wedi cymryd peth amser i gymryd fan hyn drwy wersi a dulliau eraill. 

·  Nododd bod y cynllun cyfeillion wedi helpu i sicrhau bod defnydd iaith yn cael ei hyrwyddo yn naturiol ymysg siaradwyr Cymraeg. 

·  Rhannodd enghraifft o un swyddog a ymunodd yn ystod y cyfnod clo gan nodi bod Swyddog arall yn ei chefnogi i gychwyn sgyrsiau yn y Gymraeg. 

·  Eglurodd mai asgwrn cefn y llwyddiant yw gwersi Cymraeg drwy Teams a drwy’r bartneriaeth â’r Brifysgol - nododd bod hyn ar y cyd efo cyswllt rheolaidd gyda swyddogion Iaith. 

·  Rhoddodd bwyslais ar yr aelodau staff canlynol; Alex Jones, Nansi John ac Owain Angus Duncan sydd wedi llwydo â’u hymdrechion ac o ganlyniad i hynny wedi ennill gwobr goffa Dafydd Orwig.  

·  Nododd o 2014 ymlaen bod staff yn mynd i gyfweliadau a chyfarfodydd mewn perthynas â chymwysterau proffesiynol ac yn Defnyddio’r Gymraeg 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau.  Yn ystod y drafodaeth, codwyd y sylwadau canlynol:- 

 

·  Gofynnodd aelod beth yw polisi penodi’r adran er mwyn sicrhau penodi staff sy’n siarad Cymraeg. Ategodd y byddai’n werthfawr bod mewn sefyllfa lle gall y Cyngor ysgogi mwy o siaradwyr Cymraeg i ddilyn gyrfaoedd technegol ac arbenigol er mwyn osgoi’r trafferthion penodi. 

·  Diolchodd yr aelod am y cyflwyniad ac yn ychwanegol at y Swyddogion Iaith am weithio’n ddiwyd ym mhob adran. 

·  Gofynnodd a oedd cyfle i ddylanwadu ar y rhan ddeiliad a chontractwyr allanol i ddefnyddio Cymraeg pan maent yn delio a’r adran YGC. 

·  Holodd aelod faint o staff sy’n gweithio o fewn yr adran er mwyn gosod cyd-destun i’r ffigyrau oedd wedi cwblhau’r hunanasesiad.   

·  Awgrymodd aelod y dylai’r Cyngor weld yr elw buan o’r cydweithio sydd wedi bod rhwng y Cyngor a’r system addysg leol i hyrwyddo pynciau STEM ymysg disgyblion lleol. 

·  Mynegodd aelod bod yr adroddiad yma yn dod gan adran sy’n wynebu llawer mwy o heriau nag eraill i benodi siaradwyr Cymraeg oherwydd y sgiliau penodol sydd angen 

·  Ategodd at hyn gan ofyn ba ymdrech sy’n cael ei wneud i gyrraedd y gweithlu arbenigol ar draws Gymru at ddibenion penodi. 

·  Holodd aelod sut mae’r adran yn sicrhau defnydd o dermau  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

CYNLLUN HYBU'R GYMRAEG 2019 - 2023: CYFRANIAD ADRAN ECONOMI A CHYMUNED pdf eicon PDF 461 KB

Ystyried yr adroddiad.

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

 

Cofnod:

 Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd. 

 

 

Cyflwynodd y Pennaeth Adran Economi a Chymuned ei hadroddiad gan nodi’r ymatebion a phrif bwyntiau o ran hyrwyddo’r iaith Gymraeg o fewn yr adran. Ategodd bod yr adran Economi a Chymuned mewn sefyllfa wahanol i adran fel yr YGC gan fod rhan fwyaf o’r staff yn gallu’r Gymraeg ac yn ei ddefnyddio oherwydd natur eu gwaith. 

 

Cychwynnodd gan bwysleisio bod 97% o staff yr adran wedi cyrraedd y dynodiad iaith ddisgwyliedig. Ategodd bod mwy o waith i wneud ymysg staff sydd wedi bod yn yr adran am amser hir ac yn gallu’r Gymraeg ond ddim yn ei ddefnyddio. Nododd nad oedd heriau recriwtio a bod staff newydd ieuengach yn tueddu i ddefnyddio’u Cymraeg yn naturiol. 

 

Cyfeiriodd at yr adroddiad sy’n cynnwys dolenni perthnasol ar gyfer mwy o wybodaeth ynghylch hyrwyddo’r iaith. Tynnodd sylw at y prif bwyntiau fel a ganlyn; 

·  Bod gan yr adran gobeithion y byddai modd cyllido dilyniant i gynllun Arfor os bydd arian ar gael. 

·  Fuodd cynllun i gyflwyno cerddoriaeth Gymraeg i fusnesau sy’n anghyfarwydd a diwylliant Cymreig yn un llwyddiannus er mwyn hybu’r Gymraeg o fewn y sector Twristiaeth. 

·  Ymfalchïodd yn y gwasanaeth llyfrgelloedd lle mae 100% o staff yn siaradwyr Cymraeg ac yn ei ddefnyddio’n naturiol. Fel gweithwyr yn y gymuned, cydnabuwyd bod ganddynt rôl ychwanegol fel hyrwyddwyr iaith ymysg llyfrgellwyr. Rhannodd lythyr gan un o drigolion sy’n defnyddio’r gwasanaeth ac wedi ymddiddori yn yr iaith o ganlyniad i’r ymdrechion gan y staff. 

·  O ran cytundebau gyda chwmnïau allanol, nododd mai’r gwasanaeth hamdden oedd yr her fwyaf iddynt er mwyn hyrwyddo’r Gymraeg, yn arbennig mewn ardaloedd llai Cymreig yn y Sir. 

·  Eglurodd bod hyn wedi ei ddatrys yn rhannol wrth i gwmni Byw’n Iach gymryd yr awenau. Sicrhaodd bod y cwmni yn glynu at bolisi iaith y Cyngor fel rhan o’u contract 

·  Nododd bod rhwystrau mewn rhai achosion, er enghraifft rhagwelir bydd diffyg Cymraeg mewn cyfarfodydd gyda Llywodraeth Prydain er mwyn trafod cyllid, gan na fydd Llywodraeth Cymru’n gyfrifol dros ddyrannu hwn. 

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau.  Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion canlynol:- 

 

·  Mynegodd aelod ei thristwch na fydd Llywodraeth Cymru’n gyfrifol am ddyrannu cyllid i raglenni newydd ac ategodd y byddai effaith andwyol ar yr iaith Gymraeg. 

·  Croesawu twristiaeth gynaliadwy - gwerthu lle fel cyrchfan yn negyddol, neu ormodedd yn dinistrio beth mae’r bobl yn dod i’w cael. 

·  Ymfalchïodd bod newid pwyslais ar y math o dwristiaeth sy’n fuddiol i ardal fel Gwynedd sef y math cynaliadwy. 

·  Cytunodd aelod bod angen i gwmni Byw’n Iach ymrwymo i hyrwyddo’r Gymraeg ymysg eu staff. Gofynnodd sut mae hyn yn cael ei fesur a herio gan yr adran. 

·  Gofynnodd aelod am fwy o wybodaeth ynghylch y gwahaniaeth fydd rhwng delio a grantiau o Lundain yn hytrach o Gaerdydd a faint o ddylanwad fydd gan y Cyngor i fynnu defnydd o’r Gymraeg. Ategodd bod eisoes enghraifft gyda’r Bwrdd Uchelgais Economaidd sy’n cael ei arwain fwy gan San Steffan ac mae’n  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

POLISI TROSGLWYDDO IAITH YN Y CARTREF LLYWODRAETH CYMRU pdf eicon PDF 361 KB

Ystyried yr adroddiad.

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

 

Cofnod:

 Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd. 

 

Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Iaith gwybodaeth ynghylch polisi trosglwyddo iaith yn y cartref gan Lywodraeth Cymru. Ategodd y buodd ymgynghoriad ar ddechrau’r flwyddyn ddiwethaf cyn y cyfnod clo cyntaf, ac o ganlyniad i hyn nad yw’r polisi wedi dod o flaen y pwyllgor fel dogfen ddrafft. 

 

Eglurodd prif ddiben y polisi sef ffocysu ar drosglwyddo iaith o fewn y cartref yn unig a chynnig arweiniad er mwyn galluogi rhieni a gofalwyr i gyflwyno’r  Gymraeg i’w plant yn y cartref. Croesawodd yr Ymgynghorydd Iaith y ddogfen gan egluro ei fod yn manylu ar faes allweddol, sef annog rhieni sydd wedi dysgu Cymraeg eu hunain o fewn y system addysg i drosglwyddo’r iaith ar yr aelwyd gyda’u plant hwy. 

 

Eglurodd bod ambell i ddatblygiad ymhellach angen gan gynnwys; 

 

·  Datblygu gwell dealltwriaeth ar ymarferion iaith a rhesymau siaradwyr dros beidio trosglwyddo. 

·  Amseru’r cyhoeddiad sef cyn cyhoeddiad canlyniadau’r cyfrifiad diweddaraf sydd â data defnyddiol ynghylch yr iaith Gymraeg 

·  Diffyg ystyriaeth i effaith y pandemig Covid-19 ar arferion iaith tra bu’r ysgolion ar gau. 

·  Diffyg manylder gydag ambell i gam o fewn y polisi a sut i’w gwireddu. 

·  Ei bod yn anwybyddu teuluoedd lle mae’r Gymraeg yn iaith naturiol. 

·  Elfennau sut i ysbrydoli plant i ddefnyddio eu Cymraeg ac ail gynnau’r sgiliau drwy gefnogi’r teulu cyfan. 

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau.  Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion canlynol:- 

 

·  Cytunodd aelodau bod diffyg manylder o fewn y polisi a bod angen enghreifftiau cyfredol o sut y bwriedir gweithredu’r camau. 

·  Ategodd aelod bod tystiolaeth yn ymddangos mewn ysgolion bod effaith negyddol sy’n deillio o ddefnydd gormodol o sgriniau dros y cyfnod clo wedi newid arferion iaith. Ategodd bod hyn yn cynnwys plant yn siarad Saesneg â’u brodyr a chwiorydd. 

·  Rhoddodd un aelod sylw bod pwyslais yr adroddiad ar ardaloedd lle mae plant yn ennill eu Cymraeg drwy'r system addysg ond yn peidio â throsglwyddo’r Gymraeg ar yr aelwyd gyda’u plant hwy yn y dyfodol. Ategodd mai rheswm dros hyn yw gan mai Saesneg yw eu mamiaith. 

·  Mynegodd aelod nad oedd pwyslais ar broblemau sydd fan hyn mewn ardal lle mae Cymraeg yn iaith naturiol o fewn y cartref i’r mwyafrif 

·  Ategodd aelod at hyn gan nodi nad oes sicrwydd beth fydd effaith tymor hir y cyfnodau clo ar yr iaith gan fod arferion plant wedi newid.