Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Zoom - I gael mynediad cyhoeddus i’r cyfarfod, cysylltwch â ni.

Cyswllt: Annes Sion  01286 679490

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

Penderfyniad:

Cynghorydd Elin Walker Jones

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cynghorydd Elin Walker Jones

 

Cadeiriwyd y cyfarfod gan yr Is-gadeirydd y Cynghorydd Judith Humphreys gan fod y Cadeirydd, y Cynghorydd Alwyn Gruffydd yn profi problemau technegol.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Penderfyniad:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Penderfyniad:

Ni godwyd unrhyw faterion brys.

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 297 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 19 Hydref 2021 fel rhai cywir (ynghlwm).

Penderfyniad:

Fe nodwyd y cofnodion fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y 19 Hydref 2021 fel rhai cywir yn ddarostyngedig ar gynnwys y Cyng. Eric M Jones yn bresennol yn y cyfarfod.

 

5.

CYNLLUN HYBU'R GYMRAEG : ADRAN ADDYSG pdf eicon PDF 490 KB

Cyflwyno gwybodaeth am gyfraniad yr Adran Addysg i weithrediad y Polisi Iaith a Chynllun Hybu’r Gymraeg yng Ngwynedd

 

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

 

Cofnod:

 Cyflwynwyd adroddiad gan yr Aelod Cabinet Addysg, y Cynghorydd Cemlyn Williams yn manylu ar gyfraniad yr Adran Addysg i weithrediad y Polisi Iaith a Chynllun Hybu’r Gymraeg yng Ngwynedd. Manteisiodd ar y cyfle i amlygu rhai o uchafbwyntiau'r Adran Addysg ynghyd a rhai heriau maent yn wynebu i’r dyfodol.

 

Tynnwyd sylw at ‘Cyfundrefn Addysg Drochi tuag at 2032 a thu hwnt’ a'r buddsoddiad o £1.1 miliwn o arian cyfalaf addysg Gymraeg Llywodraeth Cymru i sefydlu safleoedd addysg drochi o’r newydd yn Tywyn a Bangor, ynghyd â gwella’r cyfleusterau presennol ym Mhorthmadog. Cyfeiriwyd at y strategaeth ddysgu digidol arloesol ac uchelgeisiol sydd yn anelu i ddarparu gliniaduron a/neu ddyfeisiadau digidol i holl ddisgyblion ac athrawon y sir gan sicrhau mynediad didrafferth at waith yn yr ysgol ac yn y cartref. Ategodd y Pennaeth Addysg mai’r gobaith yw ffurfweddu’r dyfeisiadau yn y Gymraeg fyddai’n galluogi’r plant i gyfathrebu gyda’u teuluoedd a’u ffrindiau yn y Gymraeg a’u hannog i ddefnyddio’r Gymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol.

 

Yng nghyd-destun rhai o’r heriau, amlygwyd pryder bod safon yr iaith a sgiliau iaith cymdeithasol wedi dirywio mewn rhai ardaloedd yn ystod y pandemig. Ystyriwyd hynny yn anochel efallai, oherwydd bod llai o gyswllt rhwng disgyblion a’u hathrawon /cymorthyddion, er ymgais cyson gan ysgolion i gadw cysylltiad gyda disgyblion i geisio adennill tir. Cyfeiriwyd at yr her o recriwtio staff gyda chymwysterau addas i alluogi darparu gwasanaeth a/neu ddysgu drwy’r Gymraeg, a hefyd at brinder therapyddion iaith a seicolegwyr addysg sydd, er yn bryder cenedlaethol, i’w weld yn waeth yng Ngwynedd oherwydd yr angen am wasanaeth dwyieithog. Ategwyd bod trafodaethau cyson gyda Llywodraeth Cymru i geisio lliniaru’r broblem.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Rhoddwyd cyfle i aelodau’r pwyllgor holi cwestiynau a derbyniwyd ymatebion i‘r cwestiynnau hynny gan y Swyddogion Addysg

 

A fyddai modd gweithredu yn rhyngweithiol drwy geisio newid trywydd gyrfa staff dysgu, (drwy ariannu cynlluniau hyfforddi perthnasol) i fod yn seicolegwyr addysg?

 

Yr Adran Addysg wedi bod yn rhyngweithiol yn lleol mewn ymgais i recriwtio seicolegwyr addysg. Cynigion bwrsariaeth wedi bod yn llwyddiannus. Cynnig arall yw ceisio ennyn diddordeb drwy ddarpariaeth ôl 16 gan dargedu agweddau o brentisiaethau yn y maes.

 

Cyfeiriwyd at y ffaith bod canran defnydd o’r Gymraeg fel iaith gyntaf yn y cyfnod sylfaen yng Ngwynedd yn uwch nag unrhyw sir arall yng Nghymru, ond bod cwymp i’w weld ar ddiwedd bl 9. Holwyd a yw’r cwymp yn un cyffredinol ar draws y Sir neu a yw’n benodol i rai lleoliadau yn unig?

 

Ymddengys pan fydd disgyblion yn dewis eu pynciau TGAU a llwybr gyrfa ar ddiwedd Bl9 bod nifer helaeth yn dewis pynciau drwy’r Saesneg. Er nad oedd tystiolaeth i roi sylwedd i’r farn, bod y sefyllfa er hynny yn bodoli. Nodwyd bod ysgolion, gyda chefnogaeth yr Adran Addysg, yn hyrwyddo’r Gymraeg ac yn annog disgyblion i barhau gydag addysg Gymraeg. Nodwyd bod yr Adran Addysg yn cydweithio gyda Chanolfan Bedwyr ym Mangor i geisio sicrhau bod hyfforddiant ac adnoddau digidol Cymraeg ar gael i hwyluso mynediad i athrawon a disgyblion  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

CYNLLUN HYBU'R GYMRAEG : CEFNOGAETH GORFFORAETHOL pdf eicon PDF 625 KB

Cyflwyno gwybodaeth am gyfraniad yr Adran Cefnogaeth Gorfforaethol i weithrediad y Polisi Iaith a Chynllun Hybu’r Gymraeg yng Ngwynedd

 

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Nia Jeffreys, Aelod Cabinet dros Cefnogaeth Gorfforaethol. Nodwyd fod y Gymraeg yn un o brif flaenoriaethau’r Adran a tynnwyd sylw at rai o brif brosiectau’r Adran (Prosiect Prentisiaethau, Prosiect Enwau Llefydd Cynhenid, Hysbysebu Swyddi a Datblygiad Hunaniaith) ynghyd a’r gwaith cefndirol sydd wedi ei wneud gan y Tîm Caffael. Eglurwyd fod gwaith blaenllaw wedi ei wneud yn y maes Cydraddoldeb i ddatblygu templed asesu effaith integredig sydd yn gosod ystyriaethau ieithyddol o fewn asesiadau effaith Cydraddoldeb, a bod y datblygiad yma wedi cael ei fabwysiadu gan weddill y 5 awdurdod yng Ngogledd Cymru. Llongyfarchwyd y gwaith yma. Eglurwyd fod yr adran yn blaenoriaethu recriwtio mwy o staff dwyieithog, yn enwedig yn yr adran gyfreithiol.

 

Ategodd Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol fod holl staff yr Adran yn gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg. Nododd bod yr Uned Iaith yn rhan o’r Adran ac yn dilyn penderfyniad y Cabinet, bod bwriad penodi Pen Swyddog Iaith i arwain Hunaniaith a’i ddatblygu i fod yn endid annibynnol tu hwnt i’r Cyngor i’r dyfodol.

 

Eglurwyd bod y Cynllun Cadw’r Budd yn Lleol wedi ei ddatblygu i gynnwys ‘gwerth cymdeithasol’ fel rhan o’r ystyriaethau i gontractau busnesau. O ganlyniad, nodwyd fod datblygu sgiliau Cymraeg yn cael ei gynnwys mewn contractau rhwng y Cyngor a chwmnïau allanol.

 

Ym maes Hysbysebu Swyddi, nodwyd fod gwaith wedi ei wneud ar y cyd gyda’r Comisiynydd Iaith i allu derbyn ffurflenni DBS yn y Gymraeg (yn hytrach nag yn uniaith Saesneg) ynghyd a gwaith cyffelyb i annog derbyn tystysgrifau uniaith Gymraeg yng Nghymru yn ogystal â derbyn tystysgrifau dwyieithog os yn cofrestru yn Lloegr.

 

Pwysleisiwyd fod yr holl brentisiaethau sy’n ymuno a’r Cyngor yn cytuno i fuddsoddi yn y Gymraeg.

 

Mynegwyd gwerthfawrogiad i’r gwaith cyfieithu rhithiol sy’n cael ei wneud dros Zoom. Eglurwyd ei bod yn ofynnol i’r Cyngor ddefnyddio Zoom i gael y gwasanaeth cyfieithu, er mai TEAMS ydi’r adnodd ffurfiol sy’n cael ei ddefnyddio gan y Cyngor i gyfathrebu yn rhithiol yn ddyddiol. Mae’r Uned Gyfieithu bellach wedi llwyddo i addasu a hyfforddi i ddarparu’r gwasanaeth ar-lein ar ZOOM.

 

Nodwyd fod y Cyngor wedi bod yn cyd-weithio gyda’r corff IOSH i ddefnyddio eu hadnoddau mewn sesiynau hyfforddi staff, yn benodol o fewn y maes Iechyd a Diogelwch. Dywedwyd mai yn Saesneg yr oedd yr adnoddau i gyd yn cael eu derbyn yn hanesyddol, ond bod y Cyngor wedi pwyso i gael caniatâd i gyfieithu’r adnoddau er mwyn sicrhau bod ein staff yn gallu cwblhau’r gwaith yn Gymraeg.

 

Atgoffwyd yr aelodau fod yr Adran yn parhau i rannu Tip Cymraeg y mis i’r staff gael atgoffau eu hunain o reolau gramadegol amrywiol yn y Gymraeg a bod caniatáu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn un o brif flaenoriaethau ‘Cynllunio’r gweithlu’

 

Tynnwyd sylw at hysbyseb gan Brifysgol Bangor am fyfyriwr i gyflawni ymchwil PhD mewn defnydd y cyhoedd o wasanaethau Cymraeg mewn sefydliad cyhoeddus. Eglurwyd y bydd Cyngor Gwynedd yn cydweithio ar y prosiect ac y bydd y dystiolaeth ymchwil yn cael ei gasglu  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

CYNLLUN HYBU'R GYMRAEG : ADRAN TAI AC EIDDO pdf eicon PDF 566 KB

Cyflwyno gwybodaeth am gyfraniad yr Adran Tai ac Eiddo i weithrediad y Polisi Iaith a Chynllun Hybu’r Gymraeg yng Ngwynedd

 

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Pennaeth Tai ac Eiddo a eglurodd yn fras bod yr Adran yn cynnwys cymysgedd o wasanaethau rheng flaen sy’n golygu ymdrin â nifer o gwsmeriaid a budd-ddeiliad sydd, yn eu tro, angen gwasanaeth dwyieithog a pharch tuag at eu dewis o iaith (tu hwnt i Gymraeg a Saesneg mewn rhai sefyllfaoedd)

 

Amlygwyd bod yr Adran yn rhoi blaenoriaeth i gydymffurfio gyda Pholisi Iaith y Cyngor ac yn eu gallu i gynnig gwasanaeth Cymraeg i’w defnyddwyr gwasanaeth boed yn fewnol neu yn allanol. Adroddwyd, yn ôl yr Adroddiad Chwarterol Dynodiadau Iaith ddiweddaraf bod 95% o staff yr Adran yn cyrraedd neu efo sgiliau y tu hwnt i Ddynodiadau Iaith ei swyddi, sydd ychydig yn uwch na chyfartaledd Y Cyngor o 92%.

 

Wrth drafod rhai o uchafbwyntiau’r Adran nodwyd mewn nifer o’r prosiectau bod yr Adran yn ceisio cadw pobl yn eu cartrefi, yn lleol a thrwy weithredu hyn yn atgyfnerthu'r Gymraeg yn y cymunedau hynny. Tynnwyd sylw hefyd at ddefnydd o’r Iaith mewn Contractau Adeiladu - er mai Saesneg a ddefnyddir i gael mynediad i’r farchnad ehangach, mae cymalau yn y cytundebau yn nodi y dylai unrhyw arwyddion, byrddau gwybodaeth neu gylchlythyrau fod yn ddwyieithog ac na chaniateir arwyddion uniaith Saesneg. Petai ymgynghoriad cyhoeddus fel rhan o brosiect, eglurwyd y byddai disgwyl i'r contractwyr ei gynnal yn y Gymraeg / dwyieithog neu os nad yw hynny’n bosib, darparu cynrychiolwyr sydd yn siarad Cymraeg neu gyfieithydd. Cyfeiriwyd hefyd at yr angen i dendrau gwerth uchel ddarparu Ymateb Buddion Cymdeithasol.

 

Nodwyd bod staff wedi mynychu cyrsiau gloywi iaith gyda mwy wedi eu trefnu i’r dyfodol a bod bwriad datblygu rhagor o hyfforddiant penodol yn y Gymraeg yn y maes Tai (rhan fwyaf o’r hyfforddiant yn digwydd yn y Saesneg). Er nad yw hynny yn rhwystro nac yn atal eu gallu i weithredu, y brif nod yw cyflwyno’r hyfforddiant yn Gymraeg neu’n ddwyieithog.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. 

 

A oes bwriad gan yr Adran Tai i adeiladu tai cymunedol eu hunain neu brynu stoc tai teras mewn ardaloedd trefol er mwyn eu tynnu oddi ar y farchnad /sefyllfa tai rhent preifat sydd yn arwain at ddefnydd Air B&B neu dai amlbreswyliaeth?

 

Yr Adran yn canolbwyntio ar dai marchnad agored a thai gwag, ond erbyn hyn yn edrych i brynu tai teras at ddefnydd pobl leol. Er bod bwriad prynu tai, y farchnad dai ar hyn o bryd yn ‘boeth’ a’r Adran wedi gorfod gosod mesurau yn eu lle i ymateb yn gyflym i’r farchnad. Ategwyd bod diddordeb wedi ei amlygu mewn nifer o dai ar werth, gydag un wedi ei brynu hyd yma.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

 

8.

YMGYNGHORIAD LLYWODRAETH CYMRU : CYNLLUN TAI CYMUNEDAU CYMRAEG pdf eicon PDF 365 KB

Cyflwyno papurau’r Ymgynghoriad a gwahodd sylwadau gan yr aelodau ar gynnwys y ddogfen. Bydd yr Uned Iaith yn llunio ymateb i’r ymgynghoriad ar sail y sylwadau a dderbynnir.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan ofyn i’r Uned Iaith lunio ymateb i’r ymgynghoriad ar sail y sylwadau a dderbyniwyd gan yr Aelodau.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd dogfennau gan yr Ymgynghorydd Iaith ynghylch ymgynghoriad Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg Llywodraeth Cymru er gwybodaeth. Eglurwyd bod yr ymgynghoriad cynnig camau i geisio mynd i’r afael â’r sefyllfa dai presennol ac yn deillio o ganfyddiadau adroddiad Simon Brookes yn 2021. Nodwyd bod cyfle i’r Pwyllgor roi sylwadau fyddai’n cael eu hychwanegu at ymateb yr Uned Iaith i’r Ymgynghoriad.

 

Amlygwyd pryderon,

  • bod yr ymgynghoriad ar effaith y pandemig ar grwpiau cymunedol cyfrwng Cymraeg, y cyfeiriri ato yn yr ymgynghoriad, wedi ei gynnal yn ystod y pandemig, ac felly ystyriwyd nad oedd gwir effeithiau wedi dod i’r amlwg eto. Cynigwyd bod angen ymgynghoriad mwy diweddar i roi darlun cyflawn.
  • bod llawer o bwysau ar fentrau cymunedol sydd yn ddibynnol ar wirfoddolwyr gan eu bod yn bwynt cyswllt i nifer o bobl yn y gymuned.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth ddilynol:

  • Holwyd a oedd data am oroesiad grwpiau cymunedol/mentrau cymunedol yn ystod y cyfnod COVID. Nodwyd nad oedd cofnod penodol o ddata gan y tîm Iaith.
  • Croesawyd yr ymgynghoriad, ond mynegwyd pryder am y pwysau a disgwyliadau cynyddol sydd yn cael eu rhoi ar fentrau cymdeithasol a bod angen cefnogaeth gydweithredol yn benodol i’r mentrau cymunedol llai sefydledig gan fod pryder i’r rhain gael eu hanghofio.
  • Pwysleisiwyd fod angen gallu profi yr angen lleol, ac mai mentrau lleol sydd yn aml yn gallu adnabod yr angen hwnw orau. Tynnwyd sylw at arferion da o ranberchnogaeth yn ardal Llanuwchllyn a nodwyd bod angen cydweithio efo mentrau cymdeithasol i ganfod yr angen gwirioneddol am dai. Nodwyd yr angen i gael eglurhad pellach gan y Llywodraeth am eu bwriadau yng nghyd-destun y strategolaeht i gyraedd miliwn o siaradwyr, a sut y maent yn bwriadu creu swyddiHolwyd ymhellach os oedd cynnal swyddi mewn cymunedau Cymraeg yn rhan o’r cynlluniau hyn.
  • Awgrymwyd hefyd bod angen gallu gweithredu ar unwaith yn dilyn argymhellion yr ymgynghoriad hwn a’r ymgynghoriad diweddar ar faterion Cynllunio, yn hytrach na grofod aros tan cyhoeddi y CDLl nesaf.
  • Mynegwyd pryder y gallai’r Llywodraeth fod yn araf yn prosesu'r polisïau ai drosi cyffredin i gwyliau a bod angen i hyn gael ei ddatrys cyn gynted â phosibl
  • Holwyd os oedd modd ychwanegu ymwybyddiaeth iaith mewn addysg yn rhan o’r adrancwestiwn cyfraniad cyffredinolgan fynegi fod hyn yn ystyriaeth fawr o fewn y cymunedau Cymreig.
  • Nodwyd y dylai’r Comisiwn a’r Llywodraeth arwain drwy esiampl a chael gweddill yr awdurdodau yng Nghymru i gael y Gymraeg fel eu prif iaith weinyddol fewnol.
  • Nodwyd ei bod yn hollbwysig bod y sylfeini cywir yn cael eu gosod ar gyfer y Gwaith peilot yn Llyn, ac y dylai pobl leol a chynghorwyr gyfranogi a bod yn rhan o’r broses er mwyn sicrhau atebolwrwydd lleol, gan ei fod yn hanfodol ccael y llais lleol er mwyn cael gwir ddealltwriaeth o’r sefyllfa.
  • Eglurwyd fod angen sicrhau fod yr angen lleol yn cael  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

YMCHWIL TAI NEWYDD YNG NGWYNEDD pdf eicon PDF 324 KB

Cyflwyno canlyniadau’r gwaith ymchwil er gwybodaeth i’r aelodau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

·       Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau

·       Cyfeirio cais gan aelodau’r Pwyllgor at yr Aelod Cabinet perthnasol i ystyried diweddaru’r wybodaeth yn dyfodol

Cofnod:

9.

ADRODDIAD YMCHWIL TAI NEWYDD YNG NGWYNEDD

 

Cyflwynwyd canlyniadau’r ymchwiliad gan Reolwr Ymchwil a Gwybodaeth. Adroddwyd bod yr ymchwil yn waith a gomisiynwyd gan Dîm Arweinyddiaeth  y Cyngor yn 2018 i gasglu tystiolaeth am y maes fel bod gwybodaeth wrth gefn ar gyfer gwahanol swyddogaethau Cyngor ym meysydd tai, cynllunio, yr Iaith Gymraeg, ayyb.

 

Ymwelwyd â phob tŷ oedd wedi eu hadeiladu o’r newydd yng Ngwynedd o fewn cyfnod penodol, gan holi pwy oedd yn byw yno, o ble roeddent wedi symud a’u rhesymau dros ddewis tŷ newydd yn yr ardal. Holwyd hefyd lle roeddent yn byw o’r blaen er mwyn casglu gan gasglu tystiolaeth o’r gadwyn tai cyn symud i dŷ newydd. Nodwyd bod dau fersiwn o’r canlyniadau - fersiwn gryno a fersiwn lawn yn manylu ar y canfyddiadau. Eglurwyd mai y bwriad oedd cyflwyno’r wybodaeth fel rhan o ddigwyddiad torfol ar faterion tai yn ystod 2020, ond yn sgil covid,  nad oedd digwyddiad o’r fath wedi bod yn ymarferol. Ategwyd, gyda marchnad dai lleol wedi ei thrawsnewid yn ystod y cyfnod covid, bod casgliadau‘r ymchwiliad wedi dyddio ynghynt na’r disgwyl.

 

Amlygwyd bod holl aelodau etholedig y Cyngor wedi cael cyfle i glywed y cyflwyniad am y gwaith mewn sesiwn biffio ym mis Rhagfyr 2021.

 

Trafodwyd rhai o’r prif ganfyddiadau gan ymhelaethu ar casgliadau’r ymchwiliad i faterion Iaith

  • Bod  y cyfran o breswylwyr y tai newydd oedd yn siarad Cymraeg (sef 68%) yn debyg iawn i’r cyfran ymysg poblogaeth Gwynedd yn gyffredinol yn y Cyfrifiad diwethaf (sef 65%).
  • Bod patrwm fesul grŵp oedran yn dangos fod preswylwyr ieuengach tai newydd yn fwy tebygol o siarad Cymraeg na rhai hŷn, gyda 91% o blant 3 – 11 oed a 68% o bobl 25-44 oed yn gallu siarad Cymraeg. Mae’r cyfran isaf (sef 47%) ymhlith y grŵp oedran 65 – 84 oed.
  • Bod preswylwyr tai newydd mewn datblygiadau “bychan” (4 tŷ neu lai) ychydig yn fwy tebygol o fod yn gallu siarad Cymraeg na phreswylwyr datblygiadau mwy (74% o’i gymharu â 66%). Hefyd roedd cyfran fymryn uwch o breswylwyr tai newydd rhent cymdeithasol yn siarad Cymraeg, o’i gymharu â phreswylwyr tai newydd eraill (74% o’i gymharu â 68%).

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Rhoddwyd cyfle i aelodau’r pwyllgor holi cwestiynau a derbyniwyd ymatebion i‘r cwestiynau hynny gan y Swyddogion

 

Pryd fydd canfyddiadau Cyfrifiad 2021 yn cael eu cyhoeddi?

Rhai canlyniadau i’w cyhoeddi yn ystod Mai /Mehefin ac yna mewn camau hyd ddiwedd Hydref 2022. Ategwyd nad oedd amserlen bendant wedi ei chyhoeddi

 

Llongyfarchwyd yr Adran ar gwblhau ymchwil diddorol iawn. A oes angen trydydd opsiwn wrth holi beth yw prif iaith y cartref? Gofynnwyd a oedd y canfyddiad yn amlygu’r duedd gyffredinol?

Derbyn bod angen ystyried cwestiwn ychwanegol, ond yr holiadur yn dilyn patrwm  cyfrifiad er mwyn cysondeb. Yr holiadur yn gofyn am brif iaith y cartref, ond wrth gynnal sgwrs roedd mwy o wybodaeth yn cael ei gynnig. Yr ymchwil yn atgyfnerthu’r farn gyffredinol.

 

Nodwyd bod cais am y wybodaeth yma wedi ei wneud ers tro  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.