Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhodri Jones  01286 679256

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

3.

MATERION BRYS

I nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellr eu hystyried.

Cofnod:

4.

COFNODION pdf eicon PDF 431 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 10 Hydref 2022 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 10 Hydref 2022 fel rhai cywir.

 

5.

CYNLLUN HYBU'R GYMRAEG: ADRAN ADDYSG pdf eicon PDF 507 KB

I gyflwyno gwybodaeth am gyfraniad yr adran i’r Polisi Iaith.

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet Addysg a thynnwyd sylw’n fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

-      Sicrhawyd bod Polisi Iaith Addysg Cyngor Gwynedd wedi cael ei wreiddio drwy holl waith yr Adran Addysg ac ysgolion y sir.

-      Eglurwyd bod ymgynghoriad llawn wedi cael ei gynnal ar ddrafft o Gynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg (CSGA). Ymhelaethwyd bod y CSGA yn weithredol ers mis Medi 2022. Eglurwyd y byddai’n cael ei fonitro’n gyson gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg Llywodraeth Cymru a bod yr adran yn mynd i ddefnyddio’r cynllun fel dogfen fyw er mwyn sicrhau bod sefyllfa unigryw Gwynedd yn cael ei adlewyrchu ynddo.

-      Tynnwyd sylw penodol at fyd rhithiol ‘Aberwla’ fel darpariaeth arloesol y Gyfundrefn Addysg Drochi. Bu i swyddogion Llywodraeth Cymru ymweld â’r safle trochi newydd ym Mangor yn ddiweddar i weld y dysgwyr a oedd yn newydd-ddyfodiaid yn defnyddio cyfarpar rhithwir er mwyn caffael y Gymraeg drwy fynychu archfarchnad rithwir Aberwla. Canmolwyd y dull cyfoes a blaengar o godi hyder plant i ddefnyddio’r Gymraeg mewn sefyllfaoedd gwahanol, fyddai’n eu galluogi maes o law i ddefnyddio’u sgiliau yn y gymuned. Canmolwyd staff y ganolfan drochi am eu gwaith arbennig ar y prosiect newydd yma.

-       Yng nghyd-destun recriwtio, nodwyd fod rhai heriau recriwtio yn rhai o wasanaethau’r Adran megis arlwyo a glanhau, a bod problemau recriwtio athrawon ar gyfer pynciau penodol mewn ysgolion uwchradd yng Ngwynedd, ond pwysleisiwyd fod yr heriau recriwtio athrawon yn her genedlaethol.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion canlynol:

 

Gofynnwyd a oes gan rieni’r hawl i fynnu bod addysg eu plant yn cael ei ddarparu drwy gyfrwng y Saesneg, gan eithrio Cymraeg fel cyfrwng dysgu. Nodwyd y byddai hynny’n gallu bod yn niweidiol i allu’r disgyblion rheiny i dderbyn swydd yn eu hardal leol oherwydd diffyg yn eu sgiliau Cymraeg.

-      Mewn ymateb i’r ymholiad cadarnhaodd yr Aelod Cabinet Addysg ei bod hi’n rhannu’r pryder ond yn derbyn bod amryw o resymau pam fod rhieni yn gofyn i’w plant gael eu haddysgu drwy gyfrwng y Saesneg.

-      Mewn ymateb i’r ymholiad nododd y Pennaeth Addysg bod modd i ddisgyblion dderbyn rhannau o’u haddysg drwy gyfrwng y Saesneg o dan y cwricwlwm newydd ac yn unol a’n polisi iaith ni yma yng Ngwynedd. Mae hyn er mwyn sicrhau bod disgyblion yn hyderus ac yn hyfedr yn defnyddio’r Gymraeg a’r Saesneg.

-      Ymhelaethwyd bod yr ymholiad hwn yn codi gan rieni o dro i dro, a bod swyddogion yr Adran a holl athrawon y Sir yn trafod gyda rhieni er y manteision o dderbyn addysg ddwyieithog, gyda’r gobaith y byddent  yn fodlon dilyn yr arweiniad hwnnw. Nodwyd bod yr adran wedi gweld cynnydd yn niferoedd y rhieni sy’n fwy brwdfrydig i ddysgu Cymraeg fel oedolion ar ôl gweld cynnydd eu plant wrth ddysgu’r Gymraeg.

-      Cadarnhaodd y Pennaeth Addysg fod Llywodraeth Cymru wedi gosod gwaelodlin ar faint o addysg sy’n cael ei ddarparu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hyn wedi ei osod  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

CYNLLUN HYBU'R GYMRAEG: ADRAN CEFNOGAETH GORFFORAETHOL pdf eicon PDF 390 KB

I gyflwyno gwybodaeth am gyfraniad yr adran i’r Polisi Iaith.

 

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth Adran Cefnogaeth Gorfforaethol a thynnwyd sylw’n fras at y prif bwyntiau canlynol:

-      Cadarnhawyd bod yr adran yn ganolog i hybu’r Gymraeg o fewn y Cyngor.

-      Datganwyd bod 98.3% o weithlu’r adran yn cyrraedd dynodiad iaith y swydd. Manylwyd bod 95.1% o holl staff yr adran wedi cwblhau’r hunan asesiad iaith. Credir bod hyn yn dda iawn gan fod 66 aelod o staff newydd wedi cael eu penodi o fewn y ddwy flynedd ddiwethaf.

-      Adroddwyd bod yr adran yn arwain ar dri o brosiectau blaenoriaeth y Cyngor.

-      Cydnabuwyd bod yr adran wedi derbyn heriau yn ddiweddar.

-      Eglurwyd bod yr adran yn gweithio er mwyn sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn cael ei ddefnyddio mewn contractau caffael, dylanwadu ar systemau cynlluniau gweithlu a chysylltu gyda sefydliadau allanol i Wynedd a Chymru o fewn y maes cofrestru ac arwyddo dadleniadau troseddol er mwyn sicrhau darpariaeth ddwyieithog.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion canlynol:

 

Gofynnwyd a yw’r uned gyfreithiol yn rhan o’r adran.

-      Mewn ymateb i’r ymholiad cadarnhaodd Pennaeth yr Adran Cefnogaeth Gorfforaethol nad ydi’r gwasanaeth cyfreithiol yn rhan o’r Adran.

 

Canmolwyd yr adran am eu gwaith yn ymwneud ag enwau lleoedd Cymraeg, a holwyd os oes modd cydweithio â Google Maps er mwyn iddynt ddefnyddio’r enwau Cymraeg ar gyfer ardaloedd y Sir.

-      Mewn ymateb i’r ymholiad nododd yr Ymgynghorydd Iaith nad yw’r adran wedi llwyddo i annog Google i ddefnyddio enwau lleoedd Cymraeg eto gan fod cwmnïau o’r fath yn cael eu gwybodaeth o nifer o wahanol ffynonellau. Er hyn, cadarnhawyd bod yr adran yn cydweithio gydag Arolwg Ordnans (Ordnance Survey) er mwyn iddynt ddefnyddio enwau Cymraeg ar fapiau. Mae’r gwaith hwn wedi bod yn gadarnhaol hyd yma ond mae’n debygol bydd hyn yn brosiect parhaus er mwyn cael cysondeb o fewn eu mapiau.

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

 

 

7.

CYNLLUN HYBU'R GYMRAEG: ADRAN TAI AC EIDDO pdf eicon PDF 483 KB

I gyflwyno gwybodaeth am gyfraniad yr adran i’r Polisi Iaith.

 

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth Adran Tai ac Eiddo a thynnwyd sylw’n fras at y prif bwyntiau canlynol:

-      Eglurwyd bod yr adran yn delio gyda nifer o wasanaethau rheng flaen megis digartrefedd, ffoaduriaid a chyflenwad tai. Esboniwyd bod materion corfforaethol i’r adran hefyd megis glanhau a diogelwch y swyddfeydd. Golyga hyn bod yr adran yn ymwneud â llawer iawn o bobl ac yn falch o adrodd bod y gwasanaethau hyn i gyd yn cael eu cynnig yn Gymraeg / yn ddwyieithog.

-      Cadarnhawyd bod nifer o bobl sy’n defnyddio gwasanaethau’r adran yn dod o wahanol gefndiroedd ac yn aml iawn gydag anghenion penodol neu’n dioddef o straen. Teimla’r adran bod cyfathrebu gyda defnyddwyr yn eu dewis iaith yn hanfodol ac mae’r adran yn falch o lwyddo i wneud hynny.

-      Adroddwyd bod amser ac ymdrech wedi bod gan yr adran i gynorthwyo pobl drwy’r sefyllfa bresennol yn Wcráin. Mae’r adran wedi llwyddo i sefydlu cannoedd o bobl yn y sir am gyfnod er mwyn rhoi lloches iddynt.

-      Mynegwyd bod 94% yn cyrraedd lefel dynodiad iaith eu swydd, gyda’r mwyafrif helaeth o’r gweithlu wedi cwblhau’r hunanasesiad. Rhannwyd balchder bod hyn yn gynnydd o 67% ers Ionawr 2022. Cadarnhawyd bod 6 aelod o staff wedi mynychu hyfforddiant ieithyddol.

-      Manylwyd bod yr adran yn credu bod y Polisi Tai Cyffredin, sy’n rhoi blaenoriaeth am dai cymdeithasol i unigolion â chysylltiad at Wynedd yn sicrhau bod pobl leol yn gallu byw yn eu cymunedau. Credir bod hyn yn lleihau mudo a symudedd sy’n cael ei nodi fel bygythiad i’r Gymraeg o fewn y Cynllun Hybu’r Gymraeg. Ymhelaethwyd bod 96% o  osodiadau tai cymdeithasol wedi mynd i bobl â chysylltiadau lleol rhwng Medi 2021-22.

-      Soniwyd bod argyfwng tai yn yr ardal ar hyn o bryd ac mai nod y Cynllun Gweithredu Tai yn sicrhau bod pobl yn gallu aros yn eu cymunedau drwy amryw o gynlluniau megis Cynlluniau Datblygu Tai Ein Hunain a chynlluniau prynwyr tro cyntaf.

-      Rhannwyd balchder bod systemau cyfrifiadurol yr adran ar gyfer Cynllun Opsiynau Tai.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion canlynol:

 

Yn sgil cymal yn yr adroddiad yn nodi gofynion statudol i hysbysebu yn Saesneg (yn ogystal a Chymraeg) nododd rhai aelodau’r Pwyllgor y gallai hyn arwain at roi contractwyr Cymraeg o dan anfantais.

-      Mewn ymateb i’r ymholiad cadarnhaodd Pennaeth Adran Tai ac Eiddo bod hysbysebu’n Saesneg yn ofyniad statudol sy’n cael ei roi ar yr adran. Er hyn, pwysleisiwyd bod yr adran yn hysbysebu yn ddwyieithog yn aml.

-      Eglurwyd o fewn Fframwaith y Cyngor bod Polisi Iaith Cyngor Gwynedd yn cael ei rannu gyda’r cwmnïau yn dilyn derbyn pob cais am waith. Mae’r adran yn clymu’ cwmnïau i ofynion ieithyddol Cymraeg o fewn y gwasanaeth maent yn ei ddarparu.

-      Yn dilyn cais, cytunodd Pennaeth yr Adran Tai ac Eiddo i rannu’r gofyn statudol a proffiliau ieithyddol contractwyr yr adran gyda’r aelodau.

 

Gofynnwyd a yw’r adran yn gallu darparu gwybodaeth am faint  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

CANLYNIADAU CYFRIFIAD 2021 - YR IAITH GYMRAEG pdf eicon PDF 808 KB

Rhannu Gwybodaeth o’r Cyfrifiad am niferoedd a chyfran y siaradwyr Cymraeg yng Ngwynedd.

Penderfyniad:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Reolwr Ymchwil a Gwybodaeth ac Uwch Swyddog Ymchwil a Dadanseoddeg. Tynnwyd sylw’n fras at y prif bwyntiau canlynol:

-      Eglurwyd bod y Cyfrifiad diweddaraf wedi cael ei gynnal ar 21ain o Fawrth, 2021, gyda’r canlyniadau manwl  am yr iaith Gymraeg yn cael eu cyhoeddi ar 6ed Rhagfyr 2022.

-      Eglurwyd bod y cwestiwn canlynol yn cael ei ofyn fel rhan o’r cyfrifiad a dyma ddefnyddiwyd fel sail i’r data:

“Ydych chi’n gallu deall, siarad, darllen, neu ysgrifennu Cymraeg?

§  Deall Cymraeg Llafar

§  Siarad Cymraeg

§  Darllen Cymraeg

§  Ysgrifennu Cymraeg

§  NEU ddim un o’r uchod”

-      Cadarnhawyd bod canran siaradwyr Cymraeg (a oedd yn 3 oed neu hŷn) yng Ngwynedd wedi gostwng o 65.4% yn 2011 i 64.4% yn 2021. Nodir bod hyn yn llai na’r gostyngiad cyffredinol yn siaradwyr Cymraeg yng Nghymru sydd yn 1.2%.

-      Adroddwyd bod canran siaradwyr Cymraeg yng Ngwynedd wedi gostwng pob degawd ers 1981 ac yn yr amser hynny mae’r canran wedi gostwng 12.2%.

-      Datganwyd mai’r grŵp oedran gyda’r nifer fwyaf o siaradwyr Cymraeg yw’r grŵp 3 i 15 oed. Er hyn, cadarnhawyd bod gostyngiad o 2.9% o siaradwyr Cymraeg yn y grŵp oedran hwn.

-      Eglurwyd bod cyfraddau siaradwyr Cymraeg yng Ngwynedd yn debyg iawn i’r patrymau a welir yng Nghymru yn gyffredinol. Nodwyd mai’r unig grŵp oedran sy’n wahanol i batrwm cenedlaethol ydi bod cynnydd o 0.6% o siaradwyr Cymraeg rhwng 50 a 64 oed yng Ngwynedd ond gostyngiad o 0.7% sydd dros Gymru’n gyffredinol.

-      Manylwyd ar yr 13 ardal o fewn Gwynedd gan gadarnhau mai Dalgylch Caernarfon sydd â’r canran fwyaf o’r siaradwyr Cymraeg (85.3%) a’r niferoedd lleiaf i weld yn ardal Bro Dysynni (38.6%). Eglurwyd bod lleihad mewn nifer o siaradwyr Cymraeg i’w gweld mewn 10 ardal, gyda chynnydd mewn nifer siaradwyr yn ardaloedd Pen Llŷn, Dalgylch Bangor a Bro Dysynni yn unig.

-      Cadarnhawyd bod y pum gymdogaeth gyda’r niferoedd uchaf o siaradwyr Cymraeg wedi ei leoli yn ardal Arfon ac mae’r pum cymdogaeth gyda’r lleiaf o siaradwyr i’w gweld yn ardal Bangor.

-      Adroddwyd mai Llanbedrog ac Abersoch yw’r gymdogaeth gyda’r cynnydd mwyaf o siaradwyr Cymraeg, ble mae’r gostyngiad mwyaf i’w weld yn ardal Hendre, Bangor.

-      Nodwyd bod 7.1% o’r boblogaeth wedi cadarnhau eu bod yn deall Cymraeg llafar ond methu eu siarad. Mae hyn yn uwch na chyfradd Cymru o 5.2%. Cadarnhawyd mai’r gymdogaeth gyda’r nifer fwyaf o bobl yn deall Cymraeg llafar ond methu ei siarad oedd cymdogaeth Marchog.

-      Adnabuwyd cymdogaeth Peblig, Caernarfon fel y gymdogaeth ble roedd y nifer fwyaf o bobl yn gallu siarad Cymraeg ond ddim ei ddarllen na’i ysgrifennu.

-      Esboniwyd bod canlyniadau’r Cyfrifiad yn dangos bod 2.3% o boblogaeth Cymru yn siarad Cymraeg ond methu ei ddarllen nac ei ysgrifennu. Mae’r gyfradd yma ar gyfer Gwynedd yn 5.4%.

-      Pwysleisiwyd bod gwybodaeth fanylach yn cael ei ryddhau ar lefel wardiau, a bydd gwaith yn cael ei wneud er mwyn dadansoddi’r canlyniadau.

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

COMISIYNYDD Y GYMRAEG: ADRODDIAD SICRWYDD 2021-22 pdf eicon PDF 827 KB

Er gwybodaeth yn unig.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Ymgynghorydd Iaith a nodwyd y pwyntiau canlynol:

-      Adroddwyd bod yr adroddiad yn un blynyddol sy’n cael ei gyflwyno gan y Comisiynydd Iaith a’i bwrpas yw rhoi eu hargraff at sut mae amrywiol gyrff cyhoeddus yn cydymffurfio â safonau ieithyddol.

-      Pwysleisiwyd nad yw’r adroddiad wedi cael ei wneud yn benodol ar gyfer Cyngor Gwynedd ond yn hytrach yn rhoi darlun cenedlaethol cyffredinol.

-      Eglurwyd bod yr adroddiad yn  rhoi awgrymiad o ba feysydd fydd yn cael sylw gan y Comisiynydd yn y flwyddyn i ddod.

 

Gwahoddwyd yr aelodau i gysylltu â’r Ymgynghorydd Iaith os oes unrhyw ymholiad yn codi o’r adroddiad.

 

10.

LLYWODRAETH CYMRU: LLYTHYR GAN WEINIDOG Y GYMRAEG AC ADDYSG pdf eicon PDF 158 KB

Er gwybodaeth yn unig, ni fydd trafodaeth ar gynnwys y llythyr. Mae’r eitem hon wedi cael ei gyfieithu i’r Saesneg gan y Cyngor.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr ohebiaeth fel rhan o raglen y pwyllgor er gwybodaeth yn unig. Ni thrafodwyd y mater o fewn y cyfarfod.