skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhodri Jones  01286 679256

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2022-2023

Penderfyniad:

Ethol y Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn yn Gadeirydd y Pwyllgor Iaith ar gyfer y flwyddyn 2022/23.

 

Cofnod:

Ethol Y Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn fel Cadeirydd ar gyfer y flwyddyn 2022/23. 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-Gadeirydd ar gyfer 2022-2023

Penderfyniad:

Ethol y Cynghorydd Llio Elenid Owen yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor Iaith ar gyfer y flwyddyn 2022/23.

 

Cofnod:

Ethol Y Cynghorydd Llio Elenid Owen fel Is-Gadeirydd ar gyfer y flwyddyn 2022/23.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriad gan Y Cynghorwyr Alan Jones Evans, Gwynfor owen a Menna Jones (aelod Cabinet Cefnogaeth Corfforaethol).

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw fater brys.

 

6.

COFNODION pdf eicon PDF 340 KB

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 7 Ebrill 2022 fel rhai cywir.

 

7.

ADRODDIAD BLYNYDDOL AR WEITHREDIAD SAFONAU'R GYMRAEG pdf eicon PDF 351 KB

I gyflwyno’r Adroddiad Blynyddol drafft i'w gymeradwyo gan yr Aelodau

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Ymgynghorydd Iaith, a thynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

-          Eglurodd yr Ymgynghorydd Iaith fod yr adroddiad yma wedi cael ei greu yn sgil Adran 44 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, sydd yn ei wneud yn ofynnol i’r Cyngor yn dilyn terfyn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, cyn 30 Mehefin 2022.

 

-          Nodwyd hefyd mai ei bwrpas oedd crynhoi ac egluro sut mae’r Cyngor yn gweithredu a chydymffurfio â’r safonau iaith.

 

-          Mynegwyd balchder fod ffigyrau’r adroddiad yn dangos fod 99.1% o weithlu’r Cyngor yn meddu â sgiliau Cymraeg. Mae’r ffigwr hwn yn cynnwys unrhyw berson sydd ag unrhyw fath o sgiliau ieithyddol Cymraeg - bod yn rhugl, yn rhannol rugl neu dim ond yn deall ychydig ar yr iaith.

 

-          Datganwyd fod 91% o holl staff y Cyngor yn cyrraedd dynodiad iaith eu swydd. Mae’r gallu i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg yn bwysig iawn i’r Cyngor, ac roedd yr Ymgynghorydd Iaith yn falch fod y ffigwr yma yn un uchel. Er hyn, derbyniwyd fod modd cynyddu’r ffigwr hwn. Un ffordd o geisio gwneud hyn yn bresennol ydi drwy gynnig hyfforddiant ar yr iaith Gymraeg i’r staff hynny sydd ddim yn cyrraedd eu gofynion ieithyddol eto, er mwyn eu helpu i ddatblygu’r sgiliau.

 

-          Soniwyd fod 909 o swyddi wedi cael eu hysbysebu ar wefan y Cyngor yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf a oedd yn nodi fod sgiliau’r Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl.

 

-          Eglurwyd fod nifer o ddatblygiadau wedi cael eu cwblhau dros y flwyddyn er mwyn sicrhau fod gwasanaethau dwyieithog yn gallu cael ei gynnig yn effeithiol:

 

o   Mae’r timoedd Cyfieithu a Gwasanaethau Democrataidd wedi bod yn brysur dros y flwyddyn yn datblygu cyfleusterau er mwyn gallu cynnal cyfarfodydd aml-leoliad. Mae arbrofi wedi cael ei gwblhau er mwyn sicrhau fod cyfarfodydd yn gallu cael eu cynnal gyda phobl yn mynychu yn y siambrau a rhai pobl yn mynychu yn rhithiol a hynny gan sicrhau fod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd yn gallu parhau yn ddi-rwystr.

 

o   Mae treialon wedi cael eu cynnal gydag adrannau’r Cyngor ar gyfer system hunanasesu newydd. Mae’r system yma yn gofyn iddyn nhw gwblhau hunanasesiad er mwyn gweld i ba raddau maen nhw yn cydymffurfio â safonau’r iaith. Mae hyn yn galluogi i’r adran Cefnogaeth Gorfforaethol wneud Hunanasesiad Corfforaethol o gydymffurfiaeth y Cyngor a’r safonau iaith ar gyfer ei gyflwyno i’r Comisiynydd Iaith.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau’r pwyllgor holi cwestiynau:

-          Holwyd os oes modd edrych ar ganran o niferoedd staff y Cyngor sydd yn cyrraedd lefel dynodiad iaith eu swydd dros dreigl amser, er mwyn gallu ei gymharu gyda’r blynyddoedd diwethaf.

 

-          Gofynnwyd a oedd modd cysylltu gydag asiantaethau a chyrff eraill sydd yn cydweithio â’r Cyngor pan fydd methiannau ieithyddol yn digwydd ar eu rhan. Holwyd hefyd os oes modd gwneud hyn ar lefel uchel er mwyn sicrhau fod safonau ieithyddol ein partneriaid yn ddigonol.

 

-          Mynegwyd barn fod tystiolaeth anecdotaidd yn awgrymu bod safon sgiliau iaith yn cynyddu wrth i raddfeydd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

POLISI IAITH A GWEITHGAREDDAU HYBU'R GYMRAEG: ADRAN OEDOLION, IECHYD A LLESIANT pdf eicon PDF 442 KB

Cyflwyno gwybodaeth am gyfraniad yr Adran i’r Polisi Iaith, a sut mae’r adran yn mynd ati i hybu a hyrwyddo’r Gymraeg yn eu gwaith.

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Uwch Reolwr Busnes yr adran, a thynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

-          Eglurwyd fod yr adran yn dilyn Fframwaith Strategol Olynol o’r enw ‘Mwy na Geiriau’ sydd yn gosod gofynion ar yr adran i sicrhau fod gofal ar gael i drigolion y Sir drwy gyfrwng y Gymraeg heb iddyn nhw orfod gwneud cais amdano.

 

-          Adroddwyd mai un o heriau mwyaf yr adran yn ddiweddar yw recriwtio staff o’r newydd. Mae hyn yn broblem genedlaethol, ac o fewn y sir mae rhai ardaloedd yn fwy anos nag eraill i recriwtio staff. Yn ogystal â hyn, mae rhai swyddi penodol, megis Therapyddion Galwedigaethol yn anodd eu llenwi gan fod angen sgiliau arbenigol yn ogystal â sgiliau Cymraeg.

 

-          Manylwyd ar faes arbenigol iawn mae’r adran yn ymwneud ag o sef y cyflwr Dementia. Mae ymchwiliadau bellach yn dweud ei fod yn hollbwysig i gleifion dderbyn gofal yn yr iaith maent yn teimlo mwyaf cyfforddus yn ei ddefnyddio, gan fod hyn yn gwella eu llesiant. Yn dilyn hyn mae’r adran yn gweithio i ddatblygu unedau Dementia mewn tai gofal, staff cefnogol arbenigol y cyflwr a thechnoleg newydd i gefnogi pobl sydd eisiau aros yn eu cartref eu hunain.

 

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau’r pwyllgor holi cwestiynau:

-          Gofynnwyd a oes modd sicrhau fod gofal drwy gyfrwng y Gymraeg ar gael i bobl  sydd yn dioddef o gyflwr Dementia o fewn y sector preifat.

 

-          Holiwyd a oedd yr adran wedi gorfod ystyried hysbysebu am swyddi ble nad oedd y Gymraeg yn hanfodol er mwyn denu ymgeiswyr sydd yn meddu â’r sgiliau arbenigol perthnasol.

 

-          Holiwyd a oes yna broses gan yr adran i geisio paru cleifion gyda gofalwyr sydd yn gallu darparu gofal yn unol â dewis iaith y claf, yn enwedig o gofio nad ydy pob claf angen gofal drwy gyfrwng y Gymraeg

 

-          Gofynnwyd a oes yna fwriad i gynnig gofal drwy gyfrwng y Gymraeg y tu hwnt i Wynedd ar hyn o bryd, ac os ydi’r gyllideb ar gael er mwyn gallu darparu gofal yn effeithiol.

Mewn ymateb, nododd yr Uwch Reolwr Busnes:

Bod  sicrhau gofal trwy’r Gymraeg i gleifion o fewn y sector breifat yn heriol iawn gan fod gan bob claf yr hawl i ddewis ble maent yn derbyn eu gofal. Dyma’r rheswm pam fod yr adran mor awyddus i’r Cyngor gynnig a darparu gofal drwy’r Gymraeg.

 

-          Cadarnhawyd bod pob ymdrech yn cael ei wneud i baru cleifion gyda gofalwyr sydd gyda sgiliau ieithyddol addas. Gall hyn fod yn heriol ar brydiau, yn enwedig pan fo claf angen gofal brys.

 

-          Mynegwyd bwriad i ddatblygu’r cyfleoedd all-sirol o dderbyn gofal drwy gyfrwng y Gymraeg. Nodwyd fod y cyfleon hyn yn gyfyngedig ar hyn o bryd ond mae  Gwynedd yn arwain y ffordd i annog siroedd eraill drwy’r fforwm ‘mwy na geiriau’.

 

-          Eglurwyd bod bwriad i drio dennu gweithwyr proffesiynol e.e. Gweithwyr Cymdeithasol a Therapyddion sydd wedi symud i ffwrdd o’r ardal yn nôl i Wynedd i fyw  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

POLISI IAITH A GWEITHGAREDDAU HYBU'R GYMRAEG: ADRODDIAD GAN ADRAN PLANT A CEFNOGI POBL pdf eicon PDF 464 KB

Cyflwyno gwybodaeth am gyfraniad yr Adran i’r Polisi Iaith, a sut mae’r adran yn mynd ati i hybu a hyrwyddo’r Gymraeg yn eu gwaith.

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

 

Cofnod:

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth yr adran, a thynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol:

-          Eglurwyd fod yr adran yma, yn debyg i’r Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant yn dilyn Fframwaith Strategol Olynol ‘Mwy na Geiriau’.

 

-          Mae’r Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar yn cydweithio yn agos gyda CWLWM, sef 5 sefydliad arweiniol cenedlaethol gofal plant, er mwyn hyrwyddo’r Gymraeg ar draws lleoliadau gofal plant o fewn y Sir. Mae hyn yn aml iawn yn arwain at brosiectau newydd sydd yn cael eu hybu gan y 5 sefydliad megis podlediad newydd gan y Mudiad Meithrin gyda chymorth Nia Parry o’r enw ‘Baby Steps Into Welsh’ sydd yn helpu plant a rhieni i ddysgu’r iaith. Mae’r Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar hefyd yn elwa o gydweithio gyda CWLWM gan fod Cynllun Croesi’r Bont gan y Mudiad Meithrin yn pontio dosbarthiadau meithrin yn ieithyddol, ac mae 11 cylch o fewn y sir yn derbyn cefnogaeth o’r fath.

                                        

-          Adroddwyd fod yr adran hefyd yn hybu’r Gymraeg yn annibynnol mewn sawl ffordd. Mae grantiau o £100 yn cael ei gynnig i warchodwyr plant preifat di-gymraeg er mwyn prynu adnoddau Cymraeg perthnasol. Yn ogystal â hyn, mae sawl tîm o fewn yr adran yn defnyddio cwrs rhiantu ‘FRIENDS’ ac wedi llwyddo i gyfieithu’r cwrs i’r Gymraeg ar gyfer rhieni’r Sir.

 

-          Nodwyd fod dim modd cael lleoliad gofal plant addas o fewn y sir ar gyfer pob plentyn, yn aml am resymau diogelwch. Os na fydd lleoliad cyfrwng Cymraeg ar gael i’r plentyn, bydd yr adran a’r Gweithwyr Cymdeithasol yn parhau i ymweld a chysylltu â’r plant yn yr iaith Gymraeg er mwyn helpu eu datblygiad ieithyddol.

 

-          Esboniwyd fod yr adran yn arwain 55 o ddarparwyr Addysg Feithrin ar hyn o bryd sydd yn derbyn cefnogaeth gan Athrawes Blynyddoedd Cynnar i gynorthwyo gydag addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Ymfalchïwyd yng Nghynllun Dechrau’n Deg, sydd yn gwasanaethu mewn rhannau difreintiedig o fewn y Sir, ac yn darparu addysg cyfrwng Cymraeg i blant 2 oed. Mae 12 lleoliad gofal plant Dechrau’n Deg o fewn y Sir ar hyn o bryd.

 

-          Amlygwyd fod gwaith yn cael ei gwblhau i hybu’r Gymraeg ar gyfer plant hŷn hefyd megis creu a datblygu Ap Gwobr Dug Caeredin ar gyfer plant ysgol uwchradd.

 

-          Cadarnhawyd fod hybu’r Gymraeg wedi cael lle blaenllaw gan yr adran yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Bu un aelod o staff, Stephen Wood, yn llwyddiannus yng Ngwobrau Coffa Dafydd Orwig eleni am ei lwyddiant wrth ddysgu’r Gymraeg. Yn ogystal â defnyddio’r iaith ar lafar o fewn yr adran, mae llawr o adnoddau ysgrifenedig a fideos wedi cael eu datblygu er mwyn hyfforddi staff ar amryw o nodweddion pwysig yr adran. Hefyd, mae’r adran yn y broses o drosleisio adnoddau ar gyfer defnydd rhanbarthol a chenedlaethol er mwyn darparu gwasanaeth dwyieithog effeithiol.

 

-          Trafodwyd gwaith effeithiol y Gwasanaeth Ieuenctid, a nodwyd fod sawl cynllun megis garddio, coginio a gweithdai graffiti, bellach ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg a bod adborth y plant 16-25 oed oedd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

10.

POLISI IAITH pdf eicon PDF 348 KB

I gyflwyno diwygiad o Bolisi Iaith y Cyngor er mwyn i Aelodau’r Pwyllgor ei drafod a’i gymeradwyo i symud ymlaen i gael cymerdwyaeth y Cabinet.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth yr adran, a thynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol:

-          Eglurwyd fod yr adran yma, yn debyg i’r Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant yn dilyn Fframwaith Strategol Olynol ‘Mwy na Geiriau’.

 

-          Mae’r Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar yn cydweithio yn agos gyda CWLWM, sef 5 sefydliad arweiniol cenedlaethol gofal plant, er mwyn hyrwyddo’r Gymraeg ar draws lleoliadau gofal plant o fewn y Sir. Mae hyn yn aml iawn yn arwain at brosiectau newydd sydd yn cael eu hybu gan y 5 sefydliad megis podlediad newydd gan y Mudiad Meithrin gyda chymorth Nia Parry o’r enw ‘Baby Steps Into Welsh’ sydd yn helpu plant a rhieni i ddysgu’r iaith. Mae’r Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar hefyd yn elwa o gydweithio gyda CWLWM gan fod Cynllun Croesi’r Bont gan y Mudiad Meithrin yn pontio dosbarthiadau meithrin yn ieithyddol, ac mae 11 cylch o fewn y sir yn derbyn cefnogaeth o’r fath.

                                        

-          Adroddwyd fod yr adran hefyd yn hybu’r Gymraeg yn annibynnol mewn sawl ffordd. Mae grantiau o £100 yn cael ei gynnig i warchodwyr plant preifat di-gymraeg er mwyn prynu adnoddau Cymraeg perthnasol. Yn ogystal â hyn, mae sawl tîm o fewn yr adran yn defnyddio cwrs rhiantu ‘FRIENDS’ ac wedi llwyddo i gyfieithu’r cwrs i’r Gymraeg ar gyfer rhieni’r Sir.

 

-          Nodwyd fod dim modd cael lleoliad gofal plant addas o fewn y sir ar gyfer pob plentyn, yn aml am resymau diogelwch. Os na fydd lleoliad cyfrwng Cymraeg ar gael i’r plentyn, bydd yr adran a’r Gweithwyr Cymdeithasol yn parhau i ymweld a chysylltu â’r plant yn yr iaith Gymraeg er mwyn helpu eu datblygiad ieithyddol.

 

-          Esboniwyd fod yr adran yn arwain 55 o ddarparwyr Addysg Feithrin ar hyn o bryd sydd yn derbyn cefnogaeth gan Athrawes Blynyddoedd Cynnar i gynorthwyo gydag addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Ymfalchïwyd yng Nghynllun Dechrau’n Deg, sydd yn gwasanaethu mewn rhannau difreintiedig o fewn y Sir, ac yn darparu addysg cyfrwng Cymraeg i blant 2 oed. Mae 12 lleoliad gofal plant Dechrau’n Deg o fewn y Sir ar hyn o bryd.

 

-          Amlygwyd fod gwaith yn cael ei gwblhau i hybu’r Gymraeg ar gyfer plant hŷn hefyd megis creu a datblygu Ap Gwobr Dug Caeredin ar gyfer plant ysgol uwchradd.

 

-          Cadarnhawyd fod hybu’r Gymraeg wedi cael lle blaenllaw gan yr adran yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Bu un aelod o staff, Stephen Wood, yn llwyddiannus yng Ngwobrau Coffa Dafydd Orwig eleni am ei lwyddiant wrth ddysgu’r Gymraeg. Yn ogystal â defnyddio’r iaith ar lafar o fewn yr adran, mae llawr o adnoddau ysgrifenedig a fideos wedi cael eu datblygu er mwyn hyfforddi staff ar amryw o nodweddion pwysig yr adran. Hefyd, mae’r adran yn y broses o drosleisio adnoddau ar gyfer defnydd rhanbarthol a chenedlaethol er mwyn darparu gwasanaeth dwyieithog effeithiol.

 

-          Trafodwyd gwaith effeithiol y Gwasanaeth Ieuenctid, a nodwyd fod sawl cynllun megis garddio, coginio a gweithdai graffiti, bellach ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg a bod adborth y plant 16-25 oed oedd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10.