skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gwyrfai, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

          Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

Cofnod:

Y Cynghorydd Anne Lloyd Jones a Mr Richard Parry Hughes

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

          Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 83 KB

          Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 9 Gorffennaf, 2018 fel rhai cywir  (ynghlwm).

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 9 Gorffennaf, 2018 fel rhai cywir.

 

Gan gyfeirio at eitem 10 o’r cofnodion – Cynhadledd Safonau Cymru 2018 - nododd y Cadeirydd y bu rhywfaint o gamddealltwriaeth ynglŷn â’r gynrychiolaeth o’r pwyllgor yn y gynhadledd ac, i osgoi dryswch tebyg yn y dyfodol, awgrymodd y byddai’n fuddiol cylchredeg pwyntiau gweithredu’r pwyllgor i’r aelodau yn fuan ar ôl pob cyfarfod.

 

5.

ADOLYGIAD O'R DREFN AR GYFER CEISIADAU AM ODDEFEBAU pdf eicon PDF 83 KB

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Monitro  (ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad y Swyddog Monitro yn gwahodd y pwyllgor i drafod a phenderfynu a ddylid diwygio’r drefn ar gyfer ceisiadau am oddefebau.

 

Gofynnwyd i’r aelodau ystyried y priodoldeb o ganiatáu i ymgeiswyr am oddefebau ymddangos gerbron y pwyllgor.  ‘Roedd tri opsiwn ar gael, sef:-

 

·         Caniatáu i ymgeiswyr ymddangos gerbron y pwyllgor a chyflwyno eu ceisiadau yn bersonol, ond ‘roedd hynny’n cynyddu’r risg o dderbyn gwybodaeth ychwanegol ar y diwrnod na chafodd ei gloriannu’n ddigonol.

·         Caniatáu i ymgeiswyr ymddangos gerbron y pwyllgor i ddarparu mwy o eglurhad ar eu cais drwy ateb cwestiynau’n unig.

·         Parhau â’r drefn bresennol o wneud y gwaith ar sail adroddiad ysgrifenedig gan y Swyddog Monitro, yn cynnwys copi o’r ffurflen gais am oddefeb ynghyd ag unrhyw wybodaeth ychwanegol a dderbyniwyd gan y swyddogion ar ôl cysylltu gyda’r ymgeisydd.

 

Yn ystod y drafodaeth, nodwyd y pwyntiau a ganlyn:-

 

·         Na fyddai’n orfodol i ymgeiswyr ddod gerbron y Pwyllgor Safonau, felly o ran y sylw yn yr adroddiad y byddai’r drefn yn gostus o ran amser i’r ymgeisydd, eu dewis hwy fyddai dod i’r cyfarfod.  Hefyd, ni ragwelid y byddai’r costau teithio’n sylweddol.

·         Bod niferoedd y ceisiadau am oddefeb yn llawer is nag yr oedd rai blynyddoedd yn ôl, adeg y broses trefniadaeth ysgolion.

·         Bod gallu’r ymgeisydd i roi ei bwynt drosodd yn bersonol yn bwysig iawn.

·         O bosib’ bod cais yn glir ar bapur, ac nad oes angen yr ymgeisydd yno, ond byddai’n dda medru rhoi’r cyfle iddynt, petai angen.

·         Bod ymgeiswyr aflwyddiannus yn y gorffennol wedi dweud y byddai wedi bod yn fuddiol iddynt fod wedi gallu dod i’r pwyllgor i roi esboniad pellach.  Er hynny, efallai na fyddai’r esboniad hwnnw wedi gwneud gwahaniaeth i’r canlyniad.

·         Gan fod cwestiynau’r aelodau yn debygol o fod yn dod o gyfeiriad ychydig gwahanol i gwestiynau’r swyddogion, nid yw’n bosib’ i’r swyddogion ddyfalu ymlaen llaw pa gwestiynau sy’n debygol o godi yn y pwyllgor a gofyn y cwestiynau hynny i’r ymgeiswyr ar adeg cloriannu’r wybodaeth ar gyfer y pwyllgor.

·         Bod lle i gryfhau’r cyswllt gyda chlercod y cynghorau cymuned a thref gan na all swyddogion y Cyngor Sir ateb cwestiynau am fusnes y cyngor dan sylw.

·         Ei bod yn hynod bwysig bod ymgeiswyr yn llenwi’r ffurflen yn gyflawn a bod perygl, o wahodd ymgeiswyr i ddod i’r cyfarfod, na fyddent yn trafferthu llawer gyda chynnwys y ffurflen.  O bosib’ hefyd bod rhai pobl yn cael trafferth llenwi’r ffurflen.

·         Bod yr argymhelliad i ‘fynnu’ bod y Clerc yn darparu llythyr yn esbonio’r cyd-destun yn rhoi gormod o bwysau arnynt, ac y dylid yn hytrach nodi bod ‘disgwyl’ iddynt ddarparu llythyr.

 

PENDERFYNWYD

(a)     Caniatáu i ymgeiswyr am oddefebau fynychu cyfarfodydd y Pwyllgor Safonau i ateb cwestiynau posib’ gan y pwyllgor yn unig, pe dymunent.  Mae hyn ar yr amod:

·         Na chaniateir iddynt gyflwyno eu hachos.

·         Y disgwylir iddynt fod wedi llenwi eu ffurflenni cais yn gyflawn ac yn gywir.

(b)     Caniatáu goddefeb i aelodau fod yn bresennol yn y cyfarfodydd ar gyfer ateb cwestiynau ynglŷn â’u cais.

(c)     Adolygu’r  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

PRESENODLEB Y PWYLLGOR SAFONAU AR WEFAN Y CYNGOR pdf eicon PDF 43 KB

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Monitro  (ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad y Swyddog Monitro yn gwahodd sylwadau ac argymhellion y pwyllgor ar yr hyn sydd i’w gynnwys am y Pwyllgor Safonau ar wefan y Cyngor

 

Yn ystod y drafodaeth, nodwyd y pwyntiau a ganlyn:-

 

·         Ei bod yn fanteisiol i bobl ddod i wybod mwy am yr hyn mae’r pwyllgor yn ei wneud, a hefyd i ddeall na all y Pwyllgor Safonau gynnig datrysiad i bopeth.

·         Gan gyfeirio at fanylion aelodaeth y pwyllgor ar y wefan ar hyn o bryd, nodwyd y dylid gosod enwau’r aelodau naill ai yn ôl trefn y wyddor, neu fesul categori, h.y. etholedig, annibynnol a phwyllgor cymunedol.

 

Nododd y Swyddog Monitro y gellid ystyried cynnwys siart llif ar y wefan ynglŷn â’r drefn gwynion am y Cod Ymddygiad, h.y. sut i gwyno a beth sy’n digwydd i’r gŵyn.  Hefyd, mewn ymateb i ymholiad, cytunodd y Swyddog Monitro i geisio mwy o wybodaeth gan yr Ombwdsmon ynglŷn â beth yw’r disgwyliadau o ran yr amserlennu ac i gynnwys hyn gyda’r llinell amser.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad gyda’r sylwadau a ganlyn:-

·         Sicrhau bod aelodaeth y pwyllgor ar y wefan naill ai yn ôl trefn y wyddor, neu fesul categori, h.y. etholedig, annibynnol a phwyllgor cymunedol.

·         Bod y Swyddog Monitro yn ceisio mwy o wybodaeth gan yr Ombwdsmon ynglŷn â beth yw’r disgwyliadau o ran amserlennu cwynion ac yn cynnwys hyn gyda’r llinell amser ar y wefan.

 

7.

HONIADAU YN ERBYN AELODAU pdf eicon PDF 55 KB

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Monitro  (ynghlwm).

 

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad y Swyddog Monitro yn cyflwyno gwybodaeth am benderfyniadau’r Ombwdsmon ar gwynion ffurfiol yn erbyn aelodau.

 

Eglurodd y Swyddog Monitro nad oedd penderfyniad yr Ombwdsmon i beidio ymchwilio i gŵyn yn golygu nad oedd aelod wedi torri’r Cod Ymddygiad a bod angen cyfleu’r neges i’r aelod nad yw’r ymddygiad yn briodol ac y gall yr Ombwdsmon gymryd hynny i ystyriaeth os bydd yn gweld patrwm o gwynion tebyg yn datblygu yn erbyn yr aelod yn y dyfodol.

 

Yn ystod y drafodaeth, nodwyd y pwyntiau a ganlyn:-

 

·         Ei bod yn bwysig bod pobl yn deall eu bod wedi torri’r Cod, er nad oes ymchwiliad.

·         Y pryderir am yr effaith ar y dioddefwyr os nad yw’r Ombwdsmon yn ymchwilio.

·         Bod angen pwysleisio bod rhaid parchu’r Cod, waeth beth yw’r amgylchiadau.

·         Os oes canfyddiad y gallai’r Cod fod wedi ei dorri mewn achos nad yw’r Ombwdsmon am ymchwilio iddo, y dylai’r Swyddog Monitro anfon llythyr at yr aelod, yn rhoi sylw i lythyr yr Ombwdsmon ac yn atgoffa’r aelod o bwysigrwydd parchu’r Cod.

·         Bod angen rhoi pwyslais ar yr angen i aelod ymddwyn yn barchus tuag at bawb bob amser.

 

PENDERFYNWYD

(a)     Nodi’r adroddiad.

(b)     Os oes canfyddiad gan yr Ombwdsmon y gallai’r Cod fod wedi ei dorri mewn achos nad yw’r Ombwdsmon am ymchwilio iddo, y dylai’r Swyddog Monitro anfon llythyr at yr aelod dan sylw yn rhoi sylw i lythyr yr Ombwdsmon, yn cyfeirio at farn yr Ombwdsmon, pwysigrwydd y Cod Ymddygiad ac yn cynnig awgrymiadau am gymorth neu gefnogaeth.

 

 

8.

ADRODDIAD BLYNYDDOL YR OMBWDSMON 2017-18 pdf eicon PDF 46 KB

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Monitro  (ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth, adroddiad y Swyddog Monitro yn amgáu Adroddiad Blynyddol yr Ombwdsmon 2017/18.

 

Nododd y Swyddog Monitro fod nifer y cwynion cod ymddygiad a ddaeth i law yn ymwneud â chynghorau cymuned wedi cynyddu 33%.  Er hynny, ‘roedd nifer y cwynion ar draws Cymru yn isel – tua 200.  Ar yr egwyddor nid da lle gellir gwell, cychwynnwyd ar y peilot yng Ngwynedd, yn y gobaith y byddai’n dwyn ffrwyth.

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.

 

9.

CYNHADLEDD SAFONAU CYMRU 2018

Derbyn adroddiad llafar gan y Swyddog Monitro.

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad llafar gan y Swyddog Monitro ar Gynhadledd Safonau Cymru 2018 a gynhaliwyd yn Aberystwyth ar 14 Medi.  Nododd y byddai adroddiad ffurfiol o’r gynhadledd ar gael maes o law ac y cynhelir cynhadledd 2019 yn y Gogledd.

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.