skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

*Ethol Cadeirydd ar gyfer y pwyllgor hwn.

Penderfyniad:

Ethol Dr Einir Young yn gadeirydd y pwyllgor hwn.

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Dr Einir Young yn gadeirydd y pwyllgor hwn.

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

*Ethol Is-gadeirydd ar gyfer y pwyllgor hwn.

 

*D.S – mae’r rheoliadau perthnasol yn nodi:-

 

“Dim ond aelod annibynnol o'r Pwyllgor Safonau a all fod yn gadeirydd neu is-gadeirydd.”

 

Penderfyniad:

Ethol Mr Hywel Eifion Jones yn is-gadeirydd y pwyllgor hwn.

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol Mr Hywel Eifion Jones yn is-gadeirydd y pwyllgor hwn.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriad gan Mr Richard Parry Hughes (Aelod Pwyllgor Cymuned) a Dave Wareing (Aelod Annibynnol).

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

6.

COFNODION pdf eicon PDF 242 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 22 Chwefror, 2021 fel rhai cywir.

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 22 Chwefror, 2021 fel rhai cywir.

 

Mater yn codi o’r cofnodion

Eitem 5 – Hunan Asesiad a Rhaglen Waith

 

Nododd y Swyddog Monitro na fu’n bosib’ cyflwyno trosolwg o’r trefniadau hyfforddiant i’r cyfarfod hwn, ond y bwriedid adrodd ar hynny i’r cyfarfod nesaf.  Bwriedid hefyd ail-afael yn yr elfen o’r cynllun hyfforddi ar gyfer cynghorau cymuned, pan fydd amodau yn caniatáu.

 

7.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR SAFONAU 2020/21 pdf eicon PDF 179 KB

Cyflwyno adroddiad yr Uwch Gyfreithiwr (Corfforaethol).

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo’r adroddiad blynyddol i’w gyflwyno i’r Cyngor llawn ar 8 Gorffennaf, yn ddarostyngedig i ychwanegu cyflwyniad a rhagair gan y Cadeirydd a’r Swyddog Monitro.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad yr Uwch Gyfreithiwr (Corfforaethol) yn amgáu drafft o adroddiad blynyddol y pwyllgor ar gyfer 2020/21.  Gwahoddwyd sylwadau a chymeradwyaeth y pwyllgor i’r ddogfen.

Gofynnwyd i’r aelodau gysylltu â’r Uwch Gyfreithiwr (Corfforaethol) gydag unrhyw ddiweddariadau i’w bywgraffiadau.

 

Nododd y Swyddog Monitro fod Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn gosod adroddiad blynyddol y Pwyllgor Safonau ar sail statudol o’r flwyddyn nesaf ymlaen.

 

Awgrymwyd y dylid cynnwys cyfeiriad yn yr adroddiad blynyddol at fater a godwyd yn y Cyngor llawn droeon ynglŷn â’r prawf budd cyhoeddus.  Mewn ymateb, eglurodd y Swyddog Monitro fod y Llywodraeth yn gwneud gwaith cychwynnol ar adolygiad o’r drefn foesegol yn ei chyfanrwydd, a’i bod yn debyg y byddai trafodaeth ynglŷn â’r prawf budd cyhoeddus yn codi fel rhan o hynny.  Ni ddymunai godi gobeithion, oherwydd bod cymaint o ffactorau yn dylanwadu ar hynny.  Er hynny, efallai bod cyfle trwy gyfrannu at hyn i amlygu sut mae’r drefn yn gweithio i gynghorau cymuned pan mae’r rhiniog yn cael ei osod ar lefel cyngor sir, a chytunodd i ddrafftio geiriad o gwmpas hynny ar gyfer y rhagarweiniad i’r adroddiad blynyddol.

 

Gan gyfeirio at y bwriad dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 i osod dyletswydd statudol ar Arweinyddion Grwpiau Gwleidyddol ynglŷn â safonau ymddygiad aelodau, awgrymwyd y gallai’r hyfforddiant a ddarperir ar gyfer yr Arweinyddion fod o gymorth o ran y mater a godwyd droeon yn y Cyngor, oherwydd y gallai’r Arweinyddion egluro wrth eu haelodau beth yw’r problemau sy’n wynebu’r Pwyllgor Safonau, pa fath o waith mae’r pwyllgor yn ymdrin ag o, ayb.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r adroddiad blynyddol i’w gyflwyno i’r Cyngor llawn ar 8 Gorffennaf, yn ddarostyngedig i ychwanegu cyflwyniad a rhagair gan y Cadeirydd a’r Swyddog Monitro.

 

8.

DEDDF LLYWODRAETH LEOL AC ETHOLIADAU (CYMRU) 2021 - NEWIDIADAU I'R FFRAMWAITH FOESEGOL pdf eicon PDF 332 KB

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Monitro.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

(1)   Yn ddarostyngedig i gyhoeddi arweiniad gan y Llywodraeth, dylid cymryd camau i gynnal hyfforddiant i Arweinyddion Grwpiau Gwleidyddol ar y gofynion a sut y gellid eu cyfarch.

(2)    Y dylai’r Pwyllgor Safonau sefydlu protocol ar gyfer gweithredu, cyd-weithredu a monitro gweithrediad y dyletswydd erbyn Rhagfyr 2021, a hynny mewn cyd-drafodaeth gydag Arweinyddion a Dirprwy Arweinyddion Grwpiau presennol y Cyngor.

(3)    Dylid gosod yr uchod o fewn Rhaglen Waith y Pwyllgor.

(4)   Gwahodd y Swyddog Monitro i fwrw ymlaen â’r gwaith, a threfnu gweithdy ar bwynt penodol er mwyn magu’r berthynas rhwng Arweinyddion y Grwpiau Gwleidyddol ac aelodau’r Pwyllgor hwn.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad y Swyddog Monitro yn manylu ar y newidiadau i’r fframwaith foesegol fel rhan o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, gan gyfeirio’n benodol at gyfrifoldeb statudol Arweinyddion Grwpiau Gwleidyddol am ymddygiad eu haelodau.

 

Awgrymwyd y byddai’n fuddiol trefnu gweithdy rhwng Arweinyddion y Grwpiau Gwleidyddol ac aelodau’r pwyllgor hwn, er mwyn magu perthynas weithredol bositif rhyngddynt.

 

PENDERFYNIAD

(1)     Yn ddarostyngedig i gyhoeddi arweiniad gan y Llywodraeth, dylid cymryd camau i gynnal hyfforddiant i Arweinyddion Grwpiau Gwleidyddol ar y gofynion a sut y gellid eu cyfarch.

(2)     Y dylai’r Pwyllgor Safonau sefydlu protocol ar gyfer gweithredu, cyd-weithredu a monitro gweithrediad y dyletswydd erbyn Rhagfyr 2021, a hynny mewn cyd-drafodaeth gydag Arweinyddion a Dirprwy Arweinyddion Grwpiau presennol y Cyngor.

(3)     Dylid gosod yr uchod o fewn Rhaglen Waith y Pwyllgor.

(4)     Gwahodd y Swyddog Monitro i fwrw ymlaen â’r gwaith, a threfnu gweithdy ar bwynt penodol er mwyn magu’r berthynas rhwng Arweinyddion y Grwpiau Gwleidyddol ac aelodau’r Pwyllgor hwn.

 

9.

COFLYFR ACHOSION COD YMDDYGIAD OMBWDSMON pdf eicon PDF 206 KB

Cyflwyno adroddiad yr Uwch Gyfreithiwr (Corfforaethol).

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad.

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad yr Uwch Gyfreithiwr (Corfforaethol) yn atodi copi o Lyfr Achosion chwarterol diweddaraf yr Ombwdsmon.

 

Nodwyd y byddai’n ddiddorol gwybod beth oedd canlyniadau’r achosion hynny a gyfeiriwyd at Bwyllgor Safonau neu at Banel Dyfarnu Cymru.  Byddai hefyd yn ddiddorol gwybod oedd yna effaith cronnus, e.e. oedd yr un cwynion yn dod trwodd gan yr un person neu o’r un ardal bob tro, oedd yna themâu cyffredin, ayb? 

 

Nodwyd ei bod yn ymddangos bod canlyniadau nifer o’r achosion sy’n cael eu cyfeirio at Bwyllgor Safonau neu at y Panel Dyfarnu yn mynd yn gyhoeddus yn y wasg, ac awgrymwyd y byddai’n fuddiol i’r pwyllgor hwn gael gwybod amdanynt.  Awgrymwyd hefyd, o gofio bod y Coflyfr yn ddogfen gyhoeddus, y byddai’n fuddiol pe byddai adroddiadau mwy manwl o’r achosion ar gael ar gyfer aelodau pwyllgorau safonau.  Mewn ymateb, nododd y Swyddog Monitro fod y Panel Dyfarnu wedi cyhoeddi canllawiau ynglŷn â sut i ddelio ag achosion, a bod hynny ar gael i’r Pwyllgor Safonau beth bynnag.  Eglurodd hefyd fod canlyniadau achosion sy’n cael eu cyfeirio at Bwyllgorau Safonau a’r Panel Dyfarnu yn cael eu cyhoeddi ar wefannau’r cyrff dan sylw.  Fodd bynnag, nid oedd cofrestr ganolog o ganlyniadau achosion ar gael, heblaw drwy’r Ombwdsmon, ac roedd yn anodd mynd ati heb fynd at bob cyngor yn unigol i ofyn am y canlyniad.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

10.

HONIADAU YN ERBYN AELODAU pdf eicon PDF 342 KB

Cyflwyno adroddiad yr Uwch Gyfreithiwr (Corfforaethol).

 

Penderfyniad:

Nodi’r wybodaeth a’r bwriad i drefnu cyfarfod arbennig i ymdrin â chanlyniad ymchwiliad sydd wedi ei gyfeirio i’r Pwyllgor Safonau gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd - adroddiad yr Uwch Gyfreithiwr (Corfforaethol) yn cyflwyno gwybodaeth am benderfyniadau’r Ombwdsmon ar gwynion ffurfiol yn erbyn aelodau.

 

PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth a’r bwriad i drefnu cyfarfod arbennig i ymdrin â chanlyniad ymchwiliad sydd wedi ei gyfeirio i’r Pwyllgor Safonau gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.