Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cynghorydd Dewi Roberts.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

Cofnod:

Datganodd y Cynghorydd Anne Lloyd Jones fuddiant personol yn eitem 6 – Adroddiad ar Ganlyniad Ymchwiliad i Gŵyn yn erbyn y Cynghorydd Michael Stevens o Gyngor Tref Tywyn, oherwydd ei bod yn aelod o Gyngor Tref Tywyn.  Nid oedd o’r farn ei fod yn fuddiant oedd yn rhagfarnu, ac ni adawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

Datganodd Mr Hywel Eifion Jones fuddiant personol yn eitem 8 – Adroddiad Blynyddol Panel Dyfarnu Cymru 2019-20 a 2020-21, oherwydd ei fod yn aelod lleyg ar Banel Dyfarnu Cymru.  Nid oedd o’r farn ei fod yn fuddiant oedd yn rhagfarnu, ac ni adawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 189 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfodydd o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y dyddiadau a ganlyn fel rhai cywir:-

 

·         26 Hydref, 2021 (Cyfarfod Arbennig)

·         8 Tachwedd, 2021

·         8 Rhagfyr, 2021 (Cyfarfod Arbennig)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfodydd o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 26 Hydref, 8 Tachwedd ac 8 Rhagfyr, 2021 fel rhai cywir, yn amodol ar nodi nad oedd y Cynghorydd Anne Lloyd Jones wedi cyflwyno ymddiheuriad i gyfarfod 26 Tachwedd, ond yn hytrach wedi methu bod yn rhan o’r cyfarfod.

 

5.

GRWP TASG A GORFFEN - Y FFRAMWAITH SAFONAU FOESEGOL pdf eicon PDF 246 KB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau.

Penderfyniad:

 

(a)  Gofyn i’r Swyddog Monitro ddod yn ôl gydag adroddiad i’r Pwyllgor, mewn ymgynghoriad â’r Grŵp Tasg a Gorffen, ar gamau gweithredu mewn ymateb i Adroddiad Richard Penn.

(b)  Bod y Cadeirydd a’r Aelod Pwyllgor Cymunedol yn cynnal trafodaeth gychwynnol gyda sampl o glercod cynghorau cymuned a thref, er mwyn dechrau deall yr anghenion yn y sir.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau yn manylu ar ganfyddiadau ac argymhellion y Grŵp Tasg a sefydlwyd gan y pwyllgor i drafod canfyddiadau’r Adolygiad o’r Fframwaith Safonau Moesegol i Gymru.

 

Nododd y Swyddog Monitro ei fod yn croesawu adroddiad y Grŵp Tasg, gan ychwanegu:-

 

·         Y bu’r ymarferiad yn gyfle i gymryd cam yn ôl o waith y Pwyllgor Safonau a lle mae’n eistedd o fewn yr Awdurdod, a’i broffil. 

·         Bod adroddiad Richard Penn yn gyfle i weld yr hyn oedd yn digwydd mewn llefydd eraill, ac i ystyried a oedd yna syniadau neu gyfleoedd i ddatblygu’r pwyllgor. 

·         Ei bod nawr, ar drothwy Cyngor o’r newydd yn dilyn yr Etholiadau ym mis Mai, yn amser da i ddechrau adeiladu ar hyn drwy’r broses anwytho, ayb.

·         Y gwelid o’r adroddiad bod yna lawer o bethau ymarferol y gellid eu hymgorffori mewn rhaglen waith, ac mewn ffordd o weithredu hefyd, megis y cysyniad yn Neddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 bod arweinyddion grwpiau gwleidyddol yn gyfrifol am ymddygiad eu haelodau.  Roed gan y pwyllgor hwn rôl newydd i hyrwyddo, cefnogi a monitro’r gwaith yma, ac roedd hynny’n agor y drws i gael perthynas fwy byw ac agos gyda’r arweinyddion grwpiau.  Byddai hefyd yn fodd o sicrhau gwell cyswllt gydag uwch reolaeth y Cyngor, y swyddogion statudol eraill, neu o leiaf godi ymwybyddiaeth o’r Pwyllgor Safonau.

·         Bod awgrym bod cynghorau cymuned a thref yn brif ffynhonnell problemau Cod Ymddygiad, ac er bod yna elfen o wirionedd yn hynny, roedd y ffaith bod yna dros 60 o gynghorau cymuned a thref o amrywiol faint ar draws Gwynedd, gydag oddeutu 750 o gynghorwyr yn gwasanaethu ar y cynghorau hynny, yn golygu bod canran yr aelodau sy’n dod ar draws materion Cod Ymddygiad yn gymharol fychan.  Gan hynny, roedd y gwaith cenhadu a gwneud y cyswllt a rhoi’r gefnogaeth am fod yn waith cyson, ond fel roedd yr adroddiad yn nodi, roedd rhaid cychwyn yn rhywle a chreu platfform i ddatblygu perthynas fwy byw.

·         Fel y corff â’r cyfrifoldeb statudol tuag at ymddygiad aelodau yn y cynghorau cymuned, roedd yn bwysig nad oedd y Pwyllgor Safonau yn mynd ar goll yn y broses o gefnogi a hyrwyddo, a’i fod yn cael ei weld fel y corff statudol gyda’r rôl drosolwg a chynnal.

 

Mewn ymateb i gwestiynau, nododd y Swyddog Monitro:-

 

·         Ei bod yn amlwg bod yna amrywiaeth ar draws Cymru o ran sut mae pwyllgorau safonau yn gweithredu.  Roedd sôn am ymestyn y Fforwm Cadeiryddion ar draws Cymru gyfan, a byddai hynny’n rhoi cyfle i gychwyn cael cysondeb.  Roedd y pwyllgor hwn wedi ymateb i Adroddiad Richard Penn drwy weld beth mae pobl eraill yn wneud, ac efallai y gellid dysgu o hynny er mwyn edrych ar y ffordd mae’r pwyllgor yn gweithio.  Ychwanegwyd mai’r neges o Gynhadledd Safonau Cymru Gyfan a gynhaliwyd yn ddiweddar oedd bod lle i ni ddysgu oddi wrth ein gilydd.

·         O ran y rhwystredigaeth na all aelodau bellach gymryd rhan mewn trafodaethau ar faterion lle mae ganddynt  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

ADRODDIAD AR GANLYNIAD YMCHWILIAD I GWYN YN ERBYN Y CYNGHORYDD MICHAEL STEVENS O GYNGOR TREF TYWYN pdf eicon PDF 185 KB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo’r adroddiad ar ganlyniad yr ymchwiliad i’r gŵyn yn erbyn y Cynghorydd Michael Stevens o Gyngor Tref Tywyn, i’w anfon at y Swyddog Monitro, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, y Cynghorydd Stevens a’r achwynydd, yn unol â gofynion y Rheoliadau.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau yn manylu ar ganlyniad ymchwiliad i gŵyn yn erbyn y Cynghorydd Michael Stevens o Gyngor Tref Tywyn, yn unol â darpariaethau Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 2001 (fel y’u diwygiwyd).

 

Diolchwyd i’r swyddogion am eu gwaith trylwyr a’u cefnogaeth i’r aelodau yn ystod yr holl broses o drefnu a chynnal y gwrandawiad.

 

Nodwyd bod penderfyniad Llywydd Panel Dyfarnu Cymru i wrthod cais y Cynghorydd Michael Stevens am ganiatâd i apelio yn erbyn penderfyniad y Pwyllgor Safonau yn adlewyrchu bod y pwyllgor wedi dod i benderfyniad rhesymol, ac wedi’i eirio’n ofalus a da, ar y mater.

 

Ategodd y Cadeirydd y sylw hwn, gan nodi ei bod hithau wedi ei phlesio’n arw gydag ymateb y Panel Dyfarnu, a diolchodd i bawb am y gefnogaeth.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r adroddiad ar ganlyniad yr ymchwiliad i’r gŵyn yn erbyn y Cynghorydd Michael Stevens o Gyngor Tref Tywyn, i’w anfon at y Swyddog Monitro, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, y Cynghorydd Stevens a’r achwynydd, yn unol â gofynion y Rheoliadau.

 

7.

HONIADAU YN ERBYN AELODAU pdf eicon PDF 262 KB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau.

 

Penderfyniad:

Nodi’r wybodaeth.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd - adroddiad y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau yn cyflwyno gwybodaeth am benderfyniadau’r Ombwdsmon ar gwynion ffurfiol yn erbyn aelodau.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at ddyhead y Grŵp Tasg, a sefydlwyd i drafod y Fframwaith Safonau Foesegol, am ragor o fanylion ynglŷn â honiadau tra bo’r achosion hynny’n mynd rhagddynt.

 

Mewn ymateb i gwestiwn, eglurodd y Swyddog Monitro fod y Cynghorydd Roy Owen wedi ei atal tan yr Etholiad ym mis Mai, a gan nad oedd wedi ei ddiarddel fel aelod, bod ganddo hawl i sefyll eto fel ymgeisydd.  Yn yr un modd, gan nad oedd y Cynghorydd Michael Stevens wedi’i ddiarddel o fod yn aelod o unrhyw gyngor, roedd modd iddo sefyll eto fel ymgeisydd ar Gyngor Tref Tywyn.

 

Awgrymodd y Cadeirydd mai dyma lle’r oedd pobl yn gweld y drefn braidd yn wan.

 

PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth.

 

8.

ADRODDIAD BLYNYDDOL PANEL DYFARNU CYMRU 2019-20 A 2020-21 pdf eicon PDF 177 KB

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Monitro.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodi’r adroddiadau er gwybodaeth.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd - adroddiad y Swyddog Monitro yn atodi copïau o Adroddiadau Blynyddol 2019-20 a 2020-21 Panel Dyfarnu Cymru er sylw’r pwyllgor.

 

Croesawyd y ffaith bod yr adroddiadau bellach yn cynnwys crynodebau o achosion.

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiadau er gwybodaeth.