skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cynghorydd Anne Lloyd Jones.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

4.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 18C, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd ei fod yn ymwneud â thrafodion y Pwyllgor Safonau wrth ddod i benderfyniad ar fater a gyfeiriwyd ato gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

 

Credir na ddylid datgelu’r wybodaeth rhag ofn i unrhyw gyhoeddusrwydd ynglŷn â’r achos ragfarnu sefyllfa’r cynghorydd cyn unrhyw wrandawiad. Fel canlyniad mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu.

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 18C, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972.  Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd ei fod yn ymwneud â thrafodion y Pwyllgor Safonau wrth ddod i benderfyniad ar fater a gyfeiriwyd ato gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.  Credir na ddylid datgelu’r wybodaeth rhag ofn i unrhyw gyhoeddusrwydd ynglŷn â’r achos ragfarnu sefyllfa’r cynghorydd cyn unrhyw wrandawiad.  Fel canlyniad mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu.

 

5.

CAIS AM INDEMNIAD GAN GYNGHORYDD O DAN BOLISI'R CYNGOR

Ystyried adroddiad yr Uwch Gyfreithiwr (Corfforaethol) (copi ar wahân i ddilyn ar gyfer aelodau’r pwyllgor yn unig).

 

Penderfyniad:

Wedi edrych ar y cais yn ofalus iawn, a gan ystyried Polisi Indemniad Cyngor Gwynedd, a gynhwyswyd yn Atodiad 1 i’r adroddiad a gyflwynwyd i’r pwyllgor, bod y Cadeirydd yn ysgrifennu at yr aelod i’w hysbysu nad yw’r Pwyllgor Safonau mewn sefyllfa i gynnig indemniad iddo mewn perthynas â chynrychiolaeth gyfreithiol yng ngwrandawiad y Pwyllgor Safonau. Mae’r achos mae’r cynghorydd yn amddiffyn yn ymwneud yn llwyr â’i rôl fel Cynghorydd Cyngor Tref. Byddai unrhyw benderfyniad yn effeithio ar y rôl honno’n unig, ac ni fyddai’n cael unrhyw effaith ar rôl y cynghorydd fel aelod o Gyngor Gwynedd.

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad yr Uwch Gyfreithiwr (Corfforaethol) yn gwahodd y pwyllgor i benderfynu ar gais am indemniad gan gynghorydd dan delerau indemniad y Cyngor i Aelodau a Swyddogion.

 

PENDERFYNWYD wedi edrych ar y cais yn ofalus iawn, a gan ystyried Polisi Indemniad Cyngor Gwynedd, a gynhwyswyd yn Atodiad 1 i’r adroddiad a gyflwynwyd i’r pwyllgor, bod y Cadeirydd yn ysgrifennu at yr aelod i’w hysbysu nad yw’r Pwyllgor Safonau mewn sefyllfa i gynnig indemniad iddo mewn perthynas â chynrychiolaeth gyfreithiol yng ngwrandawiad y Pwyllgor Safonau.  Mae’r achos mae’r cynghorydd yn amddiffyn yn ymwneud yn llwyr â’i rôl fel Cynghorydd Cyngor Tref.  Byddai unrhyw benderfyniad yn effeithio ar y rôl honno’n unig, ac ni fyddai’n cael unrhyw effaith ar rôl y cynghorydd fel aelod o Gyngor Gwynedd.