Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Ni
dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o
fuddiant personol. |
|
Ystyried adroddiad yr Uwch
Gyfreithiwr (Corfforaethol). Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
4(a) Rhaid
i chi gyflawni’ch dyletswyddau gan roi sylw dyledus i’r egwyddor y dylid cael
cyfle cyfartal i bawb beth bynnag fo’u rhywedd, hil,
anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, oed neu grefydd. 4(b)
Trin pobl eraill gyda pharch ac ystyriaeth. 4(c)
Rhaid i chi beidio â bwlio nac aflonyddu ar neb, gan gynnwys aelodau eraill,
swyddogion y cyngor neu aelodau o’r cyhoedd.
·
Mae’r Pwyllgor hefyd yn
gofyn iddo ystyried ac adlewyrchu ar ei ymddygiad, yn benodol y modd y mae’n
siarad ac yn gohebu gydag eraill mewn unrhyw rôl gyhoeddus arall sydd ganddo ar
hyn o bryd, neu yn y dyfodol. Mae’r
Pwyllgor hefyd yn ei annog i fanteisio ar unrhyw gyfleoedd hyfforddiant sydd ar
gael mewn perthynas â’r Cod Ymddygiad i aelodau Cofnod: Croesawodd y
Cadeirydd bawb i’r gwrandawiad a chyflwynodd swyddogion yr Ombwdsmon eu hunain
i’r aelodau. Yna esboniodd y
Cadeirydd natur / fformat y gwrandawiad. Cefndir 1. Ystyriodd y
Pwyllgor adroddiad gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (“yr Ombwdsmon”)
i gŵyn a wnaed gan gadeirydd Pwyllgor Personél Cyngor Tref Tywyn (“y
Cyngor”) y Cynghorydd John Pughe, bod y Cynghorydd George Michael Stevens (“yr
Aelod”) wedi torri Cod Ymddygiad y Cyngor. 2. Honnwyd bod yr
Aelod wedi ymddwyn yn amharchus tuag at Glerc y Cyngor ar y pryd (“y Clerc”)
a’i fod wedi ei thanseilio dro ar ôl tro.
Roedd y gŵyn yn ymwneud â gohebiaeth a anfonwyd gan yr Aelod at y
Clerc a gohebiaeth a anfonwyd gan yr Aelod am y Clerc. 3. Daeth yr
Ombwdsmon i’r casgliad bod gohebiaeth yr Aelod yn cynnwys sylwadau personol
difrïol a oedd yn amharchus ac mai bwriad y sylwadau ynglŷn â phrofiad y
Clerc oedd tanseilio’r Clerc. Yn ychwanegol, defnyddiodd yr Aelod iaith â
thuedd tuag at ryw benodol wrth wneud sylwadau am y Clerc. 4. Daeth yr
Ombwdsmon i’r penderfyniad y gallai’r Aelod fod wedi torri Cod Ymddygiad y
Cyngor, yn benodol, paragraffau 4(a), 4(b) a 4(c), sy’n darparu: “4. Mae'n rhaid i chi: (a) gyflawni eich dyletswyddau a’ch cyfrifoldebau
gan roi ystyriaeth briodol i'r egwyddor y dylai fod cyfle cyfartal i bawb,
waeth beth fo'u rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, oedran neu grefydd; (b) dangos parch at bobl eraill ac ystyriaeth
iddynt; (c) peidio â bwlio nac aflonyddu unrhyw unigolyn Canfu'r Ombwdsmon
hefyd y gellid ystyried gweithredodd yr Aelod yn rhesymol fel ymddygiad a allai
fod wedi torri paragraff 6 (1) (a) y Cod Ymddygiad: “6 (1) Mae'n rhaid i chi: (a) beidio ag ymddwyn mewn ffordd y gellid ystyried
yn rhesymol ei bod yn dwyn anfri ar eich swydd neu'r awdurdod;” 5. Cyfeiriodd yr
Ombwdsmon ei adroddiad ymchwilio at Swyddog Monitro Cyngor Gwynedd i'w ystyried
gan ei Bwyllgor Safonau. Y Gwrandawiad 6. Cyflwynodd yr
Uwch Gyfreithiwr (Corfforaethol) (Dirprwy Swyddog Monitro Cyngor Gwynedd oedd
yn cynghori’r Pwyllgor) ei adroddiad ar gychwyn y gwrandawiad. Eglurodd fod yr Aelod wedi ymddiswyddo fel
aelod o Gyngor Tref Tywyn ar 4 Rhagfyr 2021 a bod yr Aelod wedi cadarnhau nad
oedd yn bwriadu mynychu’r gwrandawiad.
Eglurodd nad oedd ymddiswyddiad yr Aelod yn newid yr angen i’r Pwyllgor
ystyried a phenderfynu ar adroddiad yr Ombwdsmon. Serch hynny o safbwynt y cosbau oedd ar gael
i’r Pwyllgor pe bai’n dod i’r casgliad bod yr Aelod wedi torri’r Cod, ni fyddai
gwahardd yr aelod bellach yn opsiwn. 7. Penderfynodd y
Pwyllgor fwrw ymlaen gyda’r gwrandawiad ac ystyriodd adroddiad ysgrifenedig
ymchwiliad yr Ombwdsmon a’r dogfennau pellach oedd wedi eu cyflwyno ymlaen llaw
gan yr Aelod a’r Ombwdsmon yn unol â threfn cyn-wrandawiad y Pwyllgor.
Ystyriodd y Pwyllgor hefyd gyflwyniadau llafar gan Katrin Shaw, Prif Gynghorydd
Cyfreithiol a Chyfarwyddwr Ymchwiliadau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
a gan Leigh McAndrew, Swyddog Ymchwilio’r Ombwdsmon. Y Penderfyniad 8. Ystyriodd y Pwyllgor yn gyntaf unrhyw ganfyddiad o ffaith yr oedd angen iddo wneud. ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 3. |