Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

*Ethol Cadeirydd ar gyfer y pwyllgor hwn. 

Penderfyniad:

Ethol y Dr Einir Young yn gadeirydd y pwyllgor hwn.

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Dr Einir Young yn gadeirydd y pwyllgor hwn.

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

*Ethol Is-gadeirydd ar gyfer y pwyllgor hwn.

 

*D.S – mae’r rheoliadau perthnasol yn nodi:-

 

“Dim ond aelod annibynnol o'r Pwyllgor Safonau a all fod yn gadeirydd neu is-gadeirydd.”

 

 

Penderfyniad:

Ethol Mr Hywel Eifion Jones yn is-gadeirydd y pwyllgor hwn.

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol Mr Hywel Eifion Jones yn is-gadeirydd y pwyllgor hwn.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi.

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi.

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

6.

COFNODION pdf eicon PDF 306 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 14 Chwefror, 2022 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 14 Chwefror, 2022 fel rhai cywir, yn amodol ar gywiro dau gyfeiriad at y Cadeirydd fel ‘he’ yn hytrach na ‘she’ yn y fersiwn Saesneg, fel a nodir isod:-

 

“The Chair noted that the discussion on Richard Penn's Report in the Standards Conference had been of a very high standard, but we, in Gwynedd, had made great strides in understanding the report from our perspective. She added that if any other standards committees had undertaken a similar exercise to the Task Group in Gwynedd, it would be interesting to bring all the work together to see whether there were similar themes that could be discussed further.”

 

“The Chair shared the slides ‘Standards – a view from Gwynedd’ that she had presented at the recent All Wales Standards Conference.”

 

7.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR SAFONAU 2021/22 pdf eicon PDF 178 KB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo’r adroddiad blynyddol i’w gyflwyno i’r Cyngor llawn ar 6 Hydref, yn ddarostyngedig i ychwanegu cyflwyniad a rhagair gan y Cadeirydd a’r Swyddog Monitro, cyfeiriad at ymateb yr Ombwdsmon i benderfyniad y Pwyllgor ar y gŵyn a gyfeiriwyd ato, ac i wneud mân addasiadau i fywgraffiadau’r aelodau.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau yn amgáu drafft o adroddiad blynyddol y pwyllgor ar gyfer 2021/22.  Gwahoddwyd sylwadau a chymeradwyaeth y pwyllgor i’r ddogfen.

 

Nodwyd bod un aelod wedi cyflwyno diweddariad i’w fywgraffiad eisoes a chyfeiriodd aelodau at ddiweddariadau / cywiriadau pellach, sef:- 

 

·         Mr Hywel Eifion Jones – ddim yn aelod o Fwrdd Betsi Cadwaladr bellach, ond yn aelod o Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio Cyngor Gwynedd.  Hefyd yn Gadeirydd Adra ac yn aelod o Fwrdd Pensiynau Gwynedd.

·         Y Cynghorydd Beth Lawton – ddim yn Is-gadeirydd Pwyllgor Craffu Gofal Cyngor Gwynedd bellach, ond yn Gadeirydd y Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi yn ystod 2021/22.

·         Y Cynghorydd Anne Lloyd Jones – yn parhau i fod yn Drysorydd cangen leol yr NSPCC.

 

Awgrymwyd y dylid cynnwys cyfeiriad dan y pennawd ‘Achosion fu gerbron y Pwyllgor’ at ymateb cadarnhaol yr Ombwdsmon i benderfyniad y pwyllgor ar y gŵyn a gyfeiriwyd ato, gan nodi bod yr achos yn un a fethodd fynd i apêl oherwydd bod y pwyllgor wedi gwneud ei waith mor drylwyr, a hynny oherwydd y gefnogaeth a ddarparwyd gan yr Adran a’r swyddogion.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r adroddiad blynyddol i’w gyflwyno i’r Cyngor llawn ar 6 Hydref, yn ddarostyngedig i ychwanegu cyflwyniad a rhagair gan y Cadeirydd a’r Swyddog Monitro, cyfeiriad at ymateb yr Ombwdsmon i benderfyniad y pwyllgor ar y gŵyn a gyfeiriwyd ato, ac i wneud mân addasiadau i fywgraffiadau’r aelodau.

 

 

8.

HUNAN ASESIAD A RHAGLEN WAITH pdf eicon PDF 260 KB

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Monitro.

Penderfyniad:

 

(a)          Mabwysiadu’r canlynol fel hunan asesiad y pwyllgor o’i berfformiad yn 2021/22.

 

SWYDDOGAETH

ASESIAD

(1/2/3/4)

 

Tystiolaeth

Camau pellach

1.  Hyrwyddo a chynnal safonau ymddygiad uchel gan aelodau

 

 

1.

Mae’r Cadeirydd ac Is Gadeirydd wedi mynychu Fforwm Safonau Gogledd Cymru i rannu profiadau hefo pwyllgorau safonau eraill.

 

Cyflwyno adroddiad blynyddol i’r Cyngor Llawn

 

Pwyllgor wedi derbyn adroddiad ar Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

 

Parhau i fynychu a chefnogi

 

 

 

2.  Cynorthwyo’r aelodau i gadw at y Cod Ymddygiad

 

3.

Swyddog Monitro a’i dîm yn darparu cyngor ac arweiniad mewn cyfarfodydd ac ar sail un i un i aelodau.

 

Adfer camau hyfforddiant pan mae adnoddau yn caniatáu

3.  Cynghori’r Cyngor ynglŷn â mabwysiadu neu ddiwygio’r Cod Ymddygiad

 

1.

Dim achlysur wedi codi i ddiwygio’r Cod.

 

4.  Monitro gweithrediad y Cod Ymddygiad

 

3

Derbyn adroddiadau rheolaidd o honiadau yn erbyn aelodau

 

Derbyn adroddiadau blynyddol yr Ombwdsman a Phanel Dyfarnu Cymru

 

 

 

 

Penderfynodd y Pwyllgor gychwyn gwaith ynglŷn â’r ddyletswydd newydd a osodwyd ar Arweinyddion Grwpiau Gwleidyddol ynglŷn ag ymddygiad eu haelodau.

 

Parhau i fonitro ac ystyried dulliau amgen o dderbyn gwybodaeth

 

Derbyn adroddiadau blynyddol am y gofrestr buddiannau a lletygarwch.

 

Yn dilyn yr Etholiad, bydd camau yn cael eu cymryd i weithio gydag Arweinyddion Grŵp i sefydlu trefniadau gweithredol ar gyfer y ddarpariaeth newydd.

 

5.  Cynghori, hyfforddi neu drefnu i hyfforddi aelodau ar faterion yn ymwneud â’r Cod Ymddygiad

 

 

3.

Trefnwyd hyfforddiant anwytho ar gyfer aelodau newydd Cyngor Gwynedd yn paratoi at yr etholiadau.

Angen edrych ar ddarparu hyfforddiant newydd.

6.  Rhoi goddefebau i aelodau

 

1.

Dim ceisiadau wedi eu hystyried dan y drefn newydd. 

 

 

7.  Ymdrin ag adroddiadau o dribiwnlys achos ac unrhyw adroddiadau gan y Swyddog Monitro ar faterion a gyfeiriwyd gan yr Ombwdsmon

 

1.

Ymdriniwyd ag un achos a gyfeiriwyd at y Pwyllgor gan yr Ombwdsmon.

 

8.  Awdurdodi’r Swyddog Monitro i dalu lwfansau i bersonau a gynorthwyodd gydag ymchwiliad

 

Dim angen gweithredu

Ni fu achlysur i dalu lwfans o’r fath

 

 

9.  Ymarfer y swyddogaethau uchod mewn perthynas â chynghorau cymuned

 

3

Swyddog Monitro a’i dîm yn darparu cyngor ac arweiniad i gynghorau, clercod ac aelodau.

 

Mabwysiadu peilot ar gyfer hyfforddi Cod Ymddygiad.  Wedi cynnwys sesiwn i beilota cynnwys y cwrs.

 

Rhaid ystyried hyn fel blaenoriaeth.

 

 

(b)     Cymeradwyo’r rhaglen waith a ganlyn ar gyfer 2022/23:-

 

11 Gorffennaf, 2022

Adroddiad Blynyddol

Honiadau yn erbyn Aelodau

Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

 

21 Tachwedd 2022

Cofrestr Rhoddion a Lletygarwch

Cofrestr Datgan Buddiant

Adroddiad Blynyddol yr Ombwdsmon

Honiadau yn erbyn Aelodau

Mabwysiadu Protocol Arweinyddion Grwpiau Gwleidyddol

 

13 Chwefror 2023

Adroddiad Blynyddol y Panel Dyfarnu

Honiadau yn erbyn Aelodau

Hunan Asesiad a Rhaglen Waith

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor

 

(c)  Awdurdodi’r Cadeirydd a’r Aelod Pwyllgor Cymunedol, mewn ymgynghoriad â’r Swyddog Monitro, i fwrw ymlaen â’r gwaith gyda sampl o glercod cynghorau cymuned a thref i ddeall yn well beth yw eu hanghenion, gan sicrhau trefn foesegol briodol ar gyfer gwneud hynny, ac ymgynnull cyfarfod pellach o’r Grŵp Tasg a Gorffen – Y Fframwaith Safonau Moesegol ddechrau Medi i dderbyn adborth  ...  view the full Penderfyniad text for item 8.

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad y Swyddog Monitro yn gwahodd y pwyllgor i:-

·         gynnal hunan asesiad o waith ac allbynnau’r pwyllgor yn ystod 2020/21; ac

·         ystyried rhaglen waith ddrafft ar gyfer 2022/23.

 

Wrth gynnal yr hunan asesiad, nodwyd y pwyntiau a ganlyn:-

 

·         Y byddai’n fuddiol rhifo’r swyddogaethau yn y tabl o hyn allan.

·         Y dylid sicrhau bod hunan asesiadau blaenorol y pwyllgor wrth law yn y dyfodol er mwyn gallu cymharu, sicrhau cysondeb a mesur cynnydd.

·         Mynegwyd siomedigaeth mai ond 5 allan o’r 69 cynghorydd sir oedd yn bresennol yn yr hyfforddiant diweddar ar y Cod Ymddygiad.  Mewn ymateb, eglurwyd bod pob cynghorydd sir wedi derbyn hyfforddiant cyffredinol ar y Cod fel rhan o’r diwrnodau croesawu yn dilyn yr etholiadau diweddar, a bod o leiaf un sesiwn arall mwy manwl wedi’i drefnu.  Bwriedid cynnal sesiwn debyg gydag aelodau cyfetholedig y Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi hefyd.

·         Awgrymwyd y byddai’r Protocol Arweinyddion Grwpiau Gwleidyddol arfaethedig yn fodd o gael gwell trefn ar y sefyllfa drwy roi pwysau a chyfrifoldeb ar yr Arweinyddion i sicrhau bod eu haelodau yn mynychu hyfforddiant o’r fath.

·         Awgrymwyd, o safbwynt bod yn weledol, y dylai aelodau o’r Pwyllgor Safonau, neu o leiaf y Cadeirydd/Is-gadeirydd fod yn bresennol ar gychwyn y sesiynau hyfforddiant.

·         Awgrymwyd ei bod yn gamarweiniol dweud mai ond 5 aelod oedd wedi mynychu’r hyfforddiant diweddar ar y Cod gan fod yr hyfforddiant yn cael ei recordio ac ar gael ar y Fewnrwyd Aelodau i bawb ei wylio yn eu hamser eu hunain.  Nodwyd y byddai’n fuddiol gwybod faint o bobl sydd wedi gwylio’r recordiad a chytunodd y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau i wneud ymholiadau ynglŷn â hynny.

·         Holwyd a oedd y recordiad o’r hyfforddiant ar gael ar gyfer aelodau cynghorau cymuned a thref yn ogystal.  Mewn ymateb, eglurwyd bod y recordiad ar gael ar Fewnrwyd Aelodau Gwynedd yn unig ar hyn o bryd, ond diau y byddai modd i’r Cyngor drefnu mynediad ar gyfer aelodau’r cynghorau cymuned a thref.  Nodwyd ei bod yn bwysig sicrhau bod y recordiad ar gael i bawb, ac awgrymwyd y byddai’n fuddiol cynnwys yr hyfforddiant ar dudalen we'r Pwyllgor Safonau yn ogystal.  Nododd y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau y byddai’n edrych ar y ffordd orau ymlaen o ran sicrhau bod yr adnodd ar gael.

·         Gan gyfeirio at y swyddogaeth o fonitro gweithrediad y Cod Ymddygiad (4), eglurodd y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau fod yr Ombwdsmon wedi dirwyn y Llyfr Achosion Cod Ymddygiad i ben, a bellach bod rhaid mynd i wefan yr Ombwdsmon i chwilio am wybodaeth ynglŷn ag achosion.  Gan hynny, byddai’n rhaid edrych beth yw’r ffordd orau o gyflwyno’r wybodaeth i’r pwyllgor yn y dyfodol.  O bosib’ y gellid cyfuno hynny gyda’r adroddiadau rheolaidd ar honiadau yn erbyn aelodau, gyda’r nod o gyflwyno rhywbeth mwy ystyrlon i’r pwyllgor. 

·         O ran y swyddogaeth o ymarfer yr holl swyddogaethau mewn perthynas â chynghorau cymuned (9), roedd peth anghytundeb ymhlith yr aelodau ynglŷn â’r asesiad, gyda rhai o blaid defnyddio categori 3 ar y sail bod yna gamau sydd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

HONIADAU YN ERBYN AELODAU pdf eicon PDF 259 KB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau.

Penderfyniad:

Nodi’r wybodaeth.

Cofnod:

Cyflwynwyd - adroddiad y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau yn cyflwyno gwybodaeth am benderfyniadau’r Ombwdsmon ar gwynion ffurfiol yn erbyn aelodau.

 

Gan gyfeirio at gŵyn rhif 202004473, mynegwyd pryder ei bod wedi cymryd gymaint o amser i’r Ombwdsmon ddod i’r farn nad oedd yr aelod wedi methu â chydymffurfio â’r Cod Ymddygiad, a nodwyd bod hyn yn hollol annheg ar yr aelod oedd wedi gorfod wynebu etholiad gyda’r mater hwn yn gysgod drosto.  Mewn ymateb, nodwyd bod hwn yn bwynt oedd yn cael ei godi’n aml, ac er bod Swyddfa’r Ombwdsmon yn dweud eu bod yn cyflymu’r broses o gynnal asesiad cychwynnol i benderfynu a ddylid ymchwilio i gŵyn ai peidio, roedd yr ymchwiliad ei hun yn medru cymryd llawer iawn o amser.

 

PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth.