Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi.

2.

COFNODION pdf eicon PDF 406 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 11 Gorffennaf, 2022 fel rhai cywir.

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 11 Gorffennaf, 2022 fel rhai cywir.

 

3.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi.

4.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

5.

FFORWM GENEDLAETHOL PWYLLGORAU SAFONAU pdf eicon PDF 226 KB

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Monitro.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

  1. Cytuno ar y Cylch Gorchwyl drafft, gan gynnwys cynrychiolaeth.
  2. Cymeradwyo’r trefniadau arfaethedig i gefnogi’r Fforwm Cenedlaethol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad y Swyddog Monitro yn gwahodd y pwyllgor i gymeradwyo’r trefniadau arfaethedig i gefnogi Fforwm Genedlaethol Pwyllgor Safonau, ac i gytuno ar y Cylch Gorchwyl drafft ar gyfer y Fforwm.

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-

 

·         Croesawyd y bwriad i sefydlu Fforwm Genedlaethol er mwyn cael cysondeb o ran y trefniadau ar draws Cymru.

·         Mewn ymateb i gwestiwn, nododd y Swyddog Monitro fod bwriad i gynnal cyfarfod cyntaf y Fforwm ym mis Rhagfyr, petai modd cael dyddiad.  O ran cynrychiolaeth o Wynedd, mae’n debyg y gofynnid i Is-gadeirydd y pwyllgor hwn fod yn bresennol y tro hwn, gan fod tymor y Cadeirydd yn dod i ben yn Rhagfyr, ond roedd hynny’n ddibynnol ar union ddyddiad y Fforwm.

·         Awgrymodd y Cadeirydd, gan na fyddai’r Swyddog Monitro yn mynychu cyfarfodydd y Fforwm yn arferol, y dylai’r Cadeirydd a’r Swyddog Monitro gyfarfod yn fuan ar ôl pob cyfarfod, er mwyn i’r Cadeirydd hysbysu’r Swyddog Monitro o’r materion a godwyd, ac fel y gall y Swyddog Monitro, yn ei dro, roi adborth i’r Pwyllgor Safonau.

 

PENDERFYNWYD

1.         Cytuno ar y Cylch Gorchwyl drafft, gan gynnwys cynrychiolaeth.

2.         Cymeradwyo’r trefniadau arfaethedig i gefnogi’r Fforwm Cenedlaethol.

 

 

6.

DEDDF LLYWODRAETH LEOL AC ETHOLIADAU (CYMRU) 2021: PROTOCOL DYLETSWYDD ARWEINYDDION GRWPIAU GWLEIDYDDOL A'R PWYLLGOR SAFONAU pdf eicon PDF 342 KB

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Monitro.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

  1. Cymeradwyo Protocol Dyletswyddau Arweinyddion Grwpiau Gwleidyddol a’r Pwyllgor Safonau i’w Arwyddo gan Gadeirydd y Pwyllgor a’r Arweinyddion Grwpiau Gwleidyddol.
  2. Derbyn adroddiad pellach ar weithrediad y Protocol i gyfarfod Mehefin y Pwyllgor Safonau.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad y Swyddog Monitro yn gwahodd y pwyllgor i gymeradwyo drafft o Brotocol Dyletswydd Arweinyddion Grwpiau Gwleidyddol a’r Pwyllgor Safonau.

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-

 

·         Awgrymwyd y dylid cryfhau ail bwynt bwled Camau Gweithredu’r Protocol i nodi ‘Mae disgwyl i aelodau’r grŵp fynychu cyfleoedd datblygu neu hyfforddiant perthnasol ...’ yn hytrach na’u bod yn cael eu ‘Annog’ i wneud hynny, fel bod dyletswydd wedyn ar yr arweinyddion grwpiau i wneud hynny’n flaenoriaeth.  Mewn ymateb, nododd y Swyddog Monitro fod hyn wedi codi yn y trafodaethau gyda’r Arweinyddion Grwpiau, ac mai’r arweiniad statudol oedd yn awgrymu ‘annog’.  Roedd y gweithredu yn cyfeirio at weithio gyda’r Swyddog Monitro i drefnu fod pob aelod Grŵp wedi mynychu hyfforddiant Cod Ymddygiad ar gychwyn tymor.  Ni chredid bod y pŵer gorfodaeth gan yr Arweinyddion Grwpiau, ac awgrymwyd bod y cysyniad o gydweithio yn ffordd fwy ymarferol ac adeiladol o gael y maen i’r wal.

·         Nodwyd y gallai fod yn fwy anodd i Arweinydd Grŵp Annibynnol gadw trefn, gan nad oes ganddynt rym plaid wleidyddol y tu cefn iddynt.  Mewn ymateb, nododd y Swyddog Monitro fod hyn yn ofyn statudol bellach, ond ei fod yn gyfrwng i weithio gydag Arweinyddion i hyrwyddo safonau da, cyfleu negeseuon allweddol a datrys problemau drwy drafod, ac ynghynt, cyn iddynt ddwyshau. 

·         Gan gyfeirio at yr argymhelliad i gyflwyno adroddiad pellach ar weithrediad y Protocol i gyfarfod Mehefin o’r Pwyllgor Safonau, nodwyd y dymunid cael cadarnhad y bydd y 3 Arweinydd Grŵp wedi arwyddo’r Protocol erbyn hynny.  Mewn ymateb, nododd y Swyddog Monitro mai’r bwriad oedd cymeradwyo’r Protocol rŵan a chael yr Arweinyddion i’w arwyddo.

·         Nodwyd ei bod yn anodd i’r Pwyllgor Safonau fonitro cydymffurfiaeth Arweinyddion, gan mai 3 yn unig o aelodau’r Pwyllgor sy’n gynghorwyr, a gofynnwyd i’r Swyddog Monitro hysbysu’r Pwyllgor yn yr adroddiad ym mis Mehefin os bydd unrhyw broblemau wedi codi.  Mewn ymateb, nododd y Swyddog Monitro nad oedd yn rhagweld y sefyllfa honno, ond yn sicr, petai’n gweld problem o sylwedd, bod dyletswydd arno i adrodd i’r Pwyllgor Safonau.

·         Mewn ymateb i bryder a fynegwyd gan aelod ynglŷn â dau fater yn ymwneud ag ymddygiad oedd wedi codi’n ddiweddar, eglurodd y Swyddog Monitro nad oedd y Protocol yn disodli’r trefniadau cwynion i’r Ombwdsmon a chwynion dan y drefn datrysiad lleol, a phe credid bod aelod wedi torri’r Cod Ymddygiad, bod hynny’n fater i’w ddilyn drwy’r sianelau arferol.

 

PENDERFYNWYD

1.         Cymeradwyo Protocol Dyletswyddau Arweinyddion Grwpiau Gwleidyddol a’r Pwyllgor Safonau i’w Arwyddo gan Gadeirydd y Pwyllgor a’r Arweinyddion Grwpiau Gwleidyddol.

2.         Derbyn adroddiad pellach ar weithrediad y Protocol i gyfarfod Mehefin y Pwyllgor Safonau.

 

7.

YMGYNGHORIAD Y PWYLLGOR SAFONAU GYDA DETHOLIAD O GLERCOD CYNGHORAU TREF A CHYMUNED PARTHED Y FFRAMWAITH SAFONAU MOESEGOL pdf eicon PDF 209 KB

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Monitro  (i ddilyn)

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad a gofyn i’r Swyddog Monitro a’r Aelod Pwyllgor Cymunedol baratoi cynllun gweithredu sy’n adlewyrchu’r hyn sydd yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd:-

 

·         Adroddiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau a’r Aelod Pwyllgor Cymunedol yn sgil gwneud darn o waith er mwyn deall yn well anghenion clercod cynghorau cymuned o safbwynt cefnogaeth yng nghyd-destun y fframwaith foesegol a swyddogaethau’r Pwyllgor Safonau yn benodol.

·         Sylwadau’r Swyddog Monitro ar yr adroddiad.

 

Cloriannodd y Swyddog Monitro gasgliadau’r adroddiad yn erbyn swyddogaethau statudol y Pwyllgor mewn perthynas â chynghorau cymuned, ac yna gwahoddwyd yr Aelod Pwyllgor Cymunedol i ddweud gair ynglŷn â’i ganfyddiadau.

 

Nododd yr Aelod Pwyllgor Cymunedol:-

 

·         Bod y gwaith gyda detholiad o glercod cynghorau tref a chymuned wedi amlygu bod clercod weithiau’n cael trafferth cysylltu â’r Cyngor Sir, ac y dylai’r Cyngor Sir ddarparu llinell gymorth neilltuol ar eu cyfer.

·         Y byddai’n fuddiol petai Llywodraeth Cymru yn paratoi llyfryn syml ar y Cod Ymddygiad ar gyfer aelodau cynghorau tref a chymuned, a bod pob aelod o bob cyngor yn derbyn copi ohono wrth arwyddo i fod yn gynghorydd.

·         Bod aelodau cynghorau cymuned yn ddryslyd ynglŷn â’u grym a’u pwerau a’u perthynas â’r Cyngor Sir.

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-

 

·         Diolchwyd i’r Cadeirydd a’r Aelod Pwyllgor Cymunedol am eu gwaith sylweddol yn paratoi’r adroddiad, a nodwyd nad oedd y darlun yn syndod, gan fod yna gymaint o wahaniaeth rhwng cynghorau.

·         Holwyd beth oedd tu cefn i’r sylw yn y Crynodeb Gweithredol bod y berthynas gyda Chyngor Gwynedd yn fwy dyrys ac angen sylw.  Mewn ymateb, eglurodd y Cadeirydd fod y clercod yn gwybod i droi at y Swyddog Monitro ynglŷn â mater safonau, ond yn ei chael yn anodd gwybod at bwy i droi yn y Cyngor Sir ynglŷn â materion eraill.  Er nad oedd hyn yn ymwneud â safonau’n uniongyrchol, roedd yn fater oedd wedi codi’n gyson yn ystod y trafodaethau gyda’r clercod.

·         Gofynnwyd i’r Swyddog Monitro gyflwyno’r awgrym i’r Prif Weithredwr ynglŷn â sefydlu llinell gymorth neilltuol ar gyfer clercod.  Mewn ymateb, nododd y Swyddog Monitro, er y byddai’n hapus i basio’r genadwri ymlaen, nad oedd yn glir beth oedd yr achos busnes y tu cefn i hynny, ac roedd o’r farn y byddai’n anodd symud y syniad yn ei flaen, yn enwedig yn y sefyllfa ariannol anodd sy’n wynebu’r Cyngor ar hyn o bryd.  Nododd hefyd na chredai fod yr adroddiad yn darparu ochr arall y geiniog o ran sut mae’r Cyngor Sir yn gweithio ar hyn o bryd gyda chynghorau tref a chymuned, a’i bod yn debyg bod yna sawl cyswllt amrywiol ar draws y sir ynglŷn â hynny.

·         Mewn ymateb i’r sylw y byddai’n fuddiol pe gallai Llywodraeth Cymru baratoi llyfryn ar y Cod Ymddygiad i aelodau, nododd y Swyddog Monitro fod yna ganllawiau Cod Ymddygiad penodol ar gyfer cynghorau tref a chymuned ar wefan yr Ombwdsmon.  Awgrymodd aelod, er y croesawid y syniad o lyfryn, oni fyddai’n well darparu fideo hyfforddiant ar YouTube, a bod gofyn i bob cynghorydd arwyddo eu bod wedi gwylio’r fideo.  Opsiwn arall fyddai darparu hyfforddiant rhithiol i glercod fel man cychwyn.  Cyfeiriodd y Cadeirydd at  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

HONIADAU YN ERBYN AELODAU pdf eicon PDF 254 KB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau.

Penderfyniad:

Nodi’r wybodaeth.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd - adroddiad y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau yn cyflwyno gwybodaeth am benderfyniadau’r Ombwdsmon ar gwynion ffurfiol yn erbyn aelodau. 

 

PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth.