skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

*Ethol Cadeirydd ar gyfer y pwyllgor hwn.

 

Penderfyniad:

Ethol Mr Hywel Eifion Jones yn gadeirydd y pwyllgor hwn.

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol Mr Hywel Eifion Jones yn gadeirydd y pwyllgor hwn.

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

*Ethol Is-gadeirydd ar gyfer y pwyllgor hwn.

 

*D.Smae’r rheoliadau perthnasol yn nodi:-

 

“Dim ond aelod annibynnol o'r Pwyllgor Safonau a all fod yn gadeirydd neu is-gadeirydd.”

 

Penderfyniad:

Ethol Mr Aled Jones yn is-gadeirydd y pwyllgor hwn.

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol Mr Aled Jones yn is-gadeirydd y pwyllgor hwn.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriad gan Mr Mark Jones.

 

Gofynnodd y Cadeirydd beth oedd y sefyllfa ddiweddaraf o ran y sedd wag ar y pwyllgor.  Mewn ymateb, eglurodd y Swyddog Monitro yr hysbysebwyd sawl tro am ymgeiswyr, ac y bwriedid adolygu’r sefyllfa.  Nododd hefyd ei fod yn erfyn ar yr aelodau i gyflwyno enwau unrhyw unigolion allai fod â diddordeb yn y rôl.

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Holodd y Cadeirydd a ddylai ddatgan buddiant yn eitem 10 gan ei fod yn aelod o Banel Dyfarnu Cymru.  Mewn ymateb, eglurodd y Swyddog Monitro nad oedd buddiant yn yr achos hwn, gan mai’r adroddiad blynyddol oedd gerbron, a bod y Panel yn gorff cyhoeddus arall beth bynnag.

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi.

6.

COFNODION pdf eicon PDF 309 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd, 2022 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd, 2022 fel rhai cywir.

 

7.

CYNLLUN GWEITHREDU AR SAIL YMGYNGHORIAD Y PWYLLGOR SAFONAU GYDA DETHOLIAD O GLERCOD CYNGHORAU CYMUNED pdf eicon PDF 326 KB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau.

Penderfyniad:

Cymeradwyo’r Cynllun Gweithredu, sy’n cynnwys y 3 elfen ganlynol o gefnogaeth y gellir ei gynnig i aelodau a chlercod cynghorau cymuned ar faterion yn ymwneud â’r Cod Ymddygiad:-

 

1. Cyngor ar faterion penodol - Parhau i gysylltu gyda’r Swyddog Monitro neu’r Dirprwy Swyddog Monitro.

 

2. Gwefan Cyngor Gwynedd - Tudalen Pwyllgor Safonau i gynnwys gwybodaeth a chanllawiau yn ogystal â dolenni i wefannau eraill defnyddiol.

 

3.Hyfforddiant - Cynnal sesiwn hyfforddiant rhithiol ar ffurf ‘webinar’.

Cofnod:

 

Cyflwynwyd – adroddiad y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau yn gwahodd y pwyllgor i gymeradwyo cynllun gweithredu i gyfarch y materion a godwyd yn Adroddiad y Cyn-gadeirydd a’r Aelod Pwyllgor Cymunedol yn dilyn eu hymgynghoriad gyda detholiad o glercod ynglŷn â’r fframwaith moesegol.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Cyn-gadeirydd a’r Aelod Pwyllgor Cymunedol am yr holl waith oedd wedi mynd ymlaen yn y cefndir.

 

Gwahoddwyd yr Aelod Pwyllgor Cymunedol i gyflwyno ei sylwadau ar y cynllun gweithredu.  Nododd:-

 

·         Ei fod yn croesawu’r adroddiad, a bod yma ddealltwriaeth o beth yw dyletswydd y Cyngor Sir a’r Pwyllgor Safonau, ac mai dyletswydd y pwyllgor yw edrych ar ôl, a cheisio codi, safonau yn y cynghorau cymuned.

·         Ei fod yn cytuno ag argymhellion yr adroddiad, ond y dymunai ychwanegu bod llythyr yn cael ei anfon at yr holl gynghorau tref a chymuned yn nodi penderfyniad y pwyllgor fel bod y clercod a’r cadeiryddion yn gwybod bod modd iddynt gysylltu ag Adran Gyfreithiol y Cyngor Sir i gael cyngor ar faterion penodol.

·         Y byddai’r hyfforddiant rhithiol ar ffurf ‘webinar’ yn ein hamddiffyn os yw pobl yn honni nad ydynt wedi cael y cyfle i gael hyfforddiant.  Gan hynny, roedd yn bwysig iawn bod yr hyfforddiant yma’n cael ei gynnig.

·         Bod y materion eraill a godwyd yn faterion gweinyddol i’r Cyngor Sir eu hystyried, ac yn gwbl ar wahân i waith y Pwyllgor Safonau.

 

Mewn ymateb i sylwadau’r Aelod Pwyllgor Cymunedol, nododd y Swyddog Monitro:-

 

·         Bod y clercod eisoes yn cysylltu â’r Adran Gyfreithiol i gael cyngor ar faterion penodol.

·         Ei fod wedi pasio’r adroddiad i sylw’r Gwasanaethau Corfforaethol fel bod yna ymwybyddiaeth o’r materion a godwyd o ran sut mae’r Cyngor yn ymateb yn gyffredinol i ymholiadau.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, codwyd y materion a ganlyn:-

 

·         Awgrymwyd, unwaith y bydd y sesiwn hyfforddiant rhithiol ar gael ar wefan y Cyngor, y gellid gofyn i Unllais Cymru ofyn i bob cyngor tref a chymuned ei gynnwys fel eitem yn eu cyfarfod blynyddol nesaf, fel bod pawb yn ei weld.  Awgrymwyd hefyd y byddai tua 20 munud o hyfforddiant yn ddigonol.  Mewn ymateb, nododd y Swyddog Monitro y byddai’r hyfforddiant tuag awr o hyd, ac yn cyfleu’r prif bwyntiau o ran y Cod Ymddygiad.  Nododd hefyd, unwaith y byddai’r hyfforddiant ar y wefan, y byddai modd i gynghorau ei ddefnyddio, boed hynny cyn, neu yn ystod, cyfarfod o’r Cyngor pan fo pawb gyda’i gilydd.

·         Awgrymwyd na fyddai angen i’r cynghorau cymuned a thref gynnwys yr hyfforddiant yn flynyddol ac efallai y byddai unwaith ar ôl pob etholiad yn ddigonol, heblaw bod yna aelodau newydd yn ymuno â’r cyngor.  O ran cael y neges yma drosodd i’r cadeiryddion a’r clercod, awgrymwyd bod hynny’n cael ei gynnwys yn y llythyr fydd yn cael ei yrru allan, ar gais yr Aelod Pwyllgor Cymunedol, yn nodi penderfyniad y pwyllgor hwn.

·         Nodwyd mai’r broblem fwyaf yw datgan buddiant, ac nad yw pobl yn deall bod angen iddynt adael y cyfarfod pan drafodir mater mae ganddynt fuddiant ynddo.  Mewn ymateb, nododd y  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

COFRESTR RHODDION A LLETYGARWCH pdf eicon PDF 238 KB

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Monitro.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodi a derbyn cynnwys adroddiad a disgwyl adroddiad pellach ar ganlyniad y trafodaethau ynglŷn â chysoni lefel cofrestru rhoddion a lletygarwch rhwng awdurdodau ar lefel genedlaethol. 

 

Cofnod:

 

Cyflwynwyd – adroddiad y Swyddog Monitro yn amlygu trafodaethau ynglŷn â chysoni lefel cofrestru rhoddion a lletygarwch rhwng awdurdodau ar lefel genedlaethol, ac yn gwahodd sylwadau’r pwyllgor ar gynnwys yr adroddiad.

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-

 

·         Awgrymwyd y gallai fod yn amserol i ail-ystyried y penderfyniad blaenorol i beidio cyhoeddi’r Gofrestr Rhoddion a Lletygarwch ar wefan y Cyngor.  Mewn ymateb, nododd y Swyddog Monitro y gellid ystyried hynny, a waeth beth fyddai canlyniadau’r trafodaethau ynglŷn â chysoni’r lefel yn genedlaethol, credid bod hyn yn gyfle fel rhan o raglen waith y pwyllgor hwn i adolygu’r polisi a’i ddiweddaru.

·         Awgrymwyd bod y lefel o £25 ar gyfer cofrestru rhoddion yn parhau’n rhesymol, a nodwyd bod cynghorwyr yn llawer mwy tebygol o dderbyn negeseuon o ddiolch na rhoddion beth bynnag.  Cytunodd y Swyddog Monitro â’r sylw gan nodi fod profiad yn awgrymu ar sail datgan nad oedd llawer o faterion fel hyn yn codi beth bynnag.  Awgrymodd ei bod yn briodol ein bod yn rhan o’r drafodaeth i weld oes modd cysoni’r lefel, gan ddod ag argymhelliad yn ôl i’r pwyllgor hwn, ac ymgynghori â’r Cadeirydd wrth i’r drafodaeth ddatblygu.  Eglurodd nad oedd yn ofynnol cysoni rhwng awdurdodau, ond petai modd gwneud hynny, byddai’n cyd-fynd i raddau ag egwyddorion adroddiad Richard Penn o safbwynt cael system fwy cyson ar draws Cymru.

 

PENDERFYNWYD nodi a derbyn cynnwys adroddiad a disgwyl adroddiad pellach ar ganlyniad y trafodaethau ynglŷn â chysoni lefel cofrestru rhoddion a lletygarwch rhwng awdurdodau ar lefel genedlaethol. 

 

9.

FFORWM GENEDLAETHOL PWYLLGORAU SAFONAU pdf eicon PDF 224 KB

Cyflwyno adroddiad Is-gadeirydd y Pwyllgor Safonau.

Penderfyniad:

Nodi’r wybodaeth.

 

Cofnod:

 

Cyflwynwyd adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Safonau ar y materion a godwyd yng nghyfarfod cyntaf y Fforwm Genedlaethol Pwyllgorau Safonau ar 27 Ionawr, 2023.

 

Nododd y Cadeirydd ei fod yn croesawu sefydliad y Fforwm newydd ac y bydd yn datblygu dros amser i fod yn gyfrwng pwysig i fabwysiadu arferion gorau ledled Cymru.  Yna amlygodd rai materion a godwyd, sef:-

 

·         Y byddai ymgynghoriad 12 wythnos yn cychwyn yn fuan ar yr argymhellion yn adroddiad Penn, a’r gobaith oedd y byddai pob pwyllgor safonau yn cael cyfle i ystyried rhain a rhoi adborth.

·         O ran y ddyletswydd newydd ar arweinyddion grwpiau gwleidyddol ynglŷn ag ymddygiad eu haelodau, bod Swyddog Monitro Cyngor Sir y Fflint wedi paratoi templed enghreifftiol y gallai arweinyddion ei ddefnyddio i gwblhau adroddiad blynyddol fydd yn bwydo i mewn i adroddiad blynyddol y Pwyllgor Safonau, a gofynnodd am farn y Swyddog Monitro ar y templed.  Mewn ymateb, nododd y Swyddog Monitro ei fod yn cefnogi’r syniad o dempled ac yn hapus i edrych ar y ddogfen, ond gan ein bod ym mlwyddyn gyntaf y ddyletswydd newydd yma, o bosib’ y byddai’n rhaid gwyro oddi wrth unrhyw dempled ac adeiladu’r adrodd wrth ddysgu o brofiad eleni.

·         Holwyd a fyddai’n bosib’ addasu’r templed erbyn mis Mehefin pan fydd y Pwyllgor Safonau yn derbyn diweddariad ar weithrediad y Protocol Dyletswydd Arweinyddion Grwpiau Gwleidyddol a’r Pwyllgor Safonau.  Mewn ymateb, nododd y Swyddog Monitro y byddai gweithrediad y ddyletswydd yn rhan o adroddiad blynyddol y pwyllgor, a bwriedid cynnal trafodaethau gyda’r arweinyddion yn yr wythnosau a’r misoedd nesaf i weld sut mae’r gwaith yn datblygu.  Gan y byddai’n ofynnol i’r arweinyddion adrodd i’r Pwyllgor Safonau, y dasg nesaf fyddai cael ffurf yr adroddiad yn barod ar gyfer yr adroddiad blynyddol, a hynny mewn ffordd sy’n cefnogi’r protocol a’r egwyddorion sydd ynddo, a hefyd yn caniatáu i’r Pwyllgor Safonau werthuso’r gwaith.

 

PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth.

 

10.

ADRODDIAD BLYNYDDOL PANEL DYFARNU CYMRU 2021-22 pdf eicon PDF 95 KB

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Monitro.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodi’r adroddiad.

 

Cofnod:

 

Cyflwynwyd - adroddiad y Swyddog Monitro yn atodi copi o Adroddiad Blynyddol 2021-22 Panel Dyfarnu Cymru er sylw’r pwyllgor.

 

Amlygodd y Swyddog Monitro rai materion yn yr adroddiad:-

 

·         Cyfeiriad Llywydd y Panel yn y rhagair i’r adroddiad at y disgwyliad y bydd materion yn gwella o ganlyniad i gyflwyno’r dyletswyddau newydd ar arweinyddion grwpiau gwleidyddol yn ymwneud â safonau mewn bywyd cyhoeddus.

·         Yr achos eithriadol ar dudalen 33 o’r pecyn (Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili) sy’n amlygu bod yr ardaloedd risg i awdurdodau lleol yn llawer mwy technegol a masnachol y dyddiau hyn wrth i lawer mwy o arian cyhoeddus gael ei ffynonellau drwy’r cynghorau.

·         Yr achos ar dudalen 37 o’r pecyn (Cyngor Wrecsam) sy’n enghraifft o bwyllgor safonau yn gwrthod dyfarniad y Tribiwnlys ar apêl yn erbyn eu penderfyniad, ac yn defnyddio eu hawl i ymlynu at eu penderfyniad gwreiddiol ynglŷn â’r achos.

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.

 

11.

ADRODDIAD BLYNYDDOL YR OMBWDSMON 2021-22 pdf eicon PDF 210 KB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodi’r adroddiad.

 

Cofnod:

 

Cyflwynwyd - adroddiad y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau yn atodi copi o Adroddiad Blynyddol yr Ombwdsmon 2021-22.

 

Amlygodd y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau rai materion yn yr adroddiad:-

 

·         Y neges ar dudalen 79 o’r pecyn bod llai o gwynion wedi’u derbyn yn 2021-22 nag yn 2020-21, ond bod y nifer yn 2020-21 wedi bod yn anarferol o uchel, a bod y tueddiad am i fyny yn gyffredinol.

·         Y derbynnir nifer uwch o gwynion am gynghorwyr cynghorau tref a chymuned, ond mae yna lawer mwy o gynghorwyr tref a chymuned nag o gynghorwyr sir.  Mae lefel y gefnogaeth sydd ar gael i gynghorwyr tref a chymuned yn gallu amrywio hefyd, ac felly ni ellir casglu bod yr ymddygiad yn waeth yn y cynghorau hynny.

·         Bod tua hanner y cwynion yn ymwneud â hyrwyddo cydraddoldeb a pharch, gyda’r cwynion parch yn faterion mwy lefel isel a’r cwynion cydraddoldeb, lle mae elfen o wahaniaethu, yn faterion mwy difrifol.  O bosib’ felly bod hyn yn amlygu lle mae’r problemau, a lle mae angen canolbwyntio’r sylw.

·         Y gwelwyd cynnydd yn nifer y cyfeiriadau gan yr Ombwdsmon at bwyllgorau safonau a Phanel Dyfarnu Cymru, a chredir yn gryf mai’r ffordd o wyrdroi’r tueddiadau hyn yw trwy ddarparu hyfforddiant Cod Ymddygiad i gynghorwyr.

·         Bod yna oblygiadau eithaf sylweddol o ran datrysiad lleol, a bod y pwyslais o ran yr hyn y gallwn ni ei wneud yn disgyn ar hyfforddiant.

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.

 

12.

HONIADAU YN ERBYN AELODAU pdf eicon PDF 245 KB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodi’r wybodaeth.

 

Cofnod:

 

Cyflwynwyd - adroddiad y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau yn cyflwyno gwybodaeth am benderfyniadau’r Ombwdsmon ar gwynion ffurfiol yn erbyn aelodau.

 

PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth.

 

13.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 18C, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd ei fod yn ymwneud â thrafodion y Pwyllgor Safonau wrth ddod i benderfyniad ar fater a gyfeiriwyd ato gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

 

Credir na ddylid datgelu’r wybodaeth rhag ofn i unrhyw gyhoeddusrwydd ynglŷn â’r achos ragfarnu sefyllfa’r cynghorydd cyn unrhyw wrandawiad. Fel canlyniad mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu.

 

Cofnod:

 

PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 18C, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972.  Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd ei fod yn ymwneud â thrafodion y Pwyllgor Safonau wrth ddod i benderfyniad ar fater a gyfeiriwyd ato gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.  Credir na ddylid datgelu’r wybodaeth rhag ofn i unrhyw gyhoeddusrwydd ynglŷn â’r achos ragfarnu sefyllfa’r Cynghorydd cyn unrhyw wrandawiad.  Fel canlyniad mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu.

 

Nododd y Swyddog Monitro ei fod yn tynnu ei hun allan o’r mater hwn oherwydd y bu’n rhan o’r trafodaethau gyda’r aelodau sydd ynghlwm â’r achos.  Gan hynny, ymneilltuodd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

14.

ADRODDIAD OMBWDSMON GWASANAETHAU CYHOEDDUS CYMRU AR YMCHWILIAD I GWYN YN ERBYN CYNGHORYDD

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau (copi ar wahân ar gyfer aelodau’r pwyllgor yn unig).

 

Penderfyniad:

 

  1. Gwahodd y person sy’n destun yr ymchwiliad i gyflwyno sylwadau, naill ai ar lafar neu’n ysgrifenedig, mewn perthynas â chasgliadau’r ymchwiliad ac unrhyw honiad ei fod ef / hi wedi methu â chydymffurfio â chod ymddygiad yr awdurdod.
  2. Galw cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Safonau i ystyried a phenderfynu ar y mater.
  3. Gwahodd yr Ombwdsmon i’r gwrandawiad i gyflwyno’r adroddiad a / neu egluro unrhyw faterion sydd ynddo.
  4. Bod y swyddogion, mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd, yn gosod dyddiad (ynghyd â dau wrth gefn) ar gyfer cynnal y gwrandawiad.

 

Cofnod:

 

Cyflwynwyd – adroddiad y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau yn gwahodd y pwyllgor i ystyried adroddiad yr Ombwdsmon ar ymchwiliad i gŵyn yn erbyn cynghorydd, a dod i benderfyniad yn unol â gofynion y rheoliadau perthnasol.

 

PENDERFYNWYD

1.         Gwahodd y person sy’n destun yr ymchwiliad i gyflwyno sylwadau, naill ai ar lafar neu’n ysgrifenedig, mewn perthynas â chasgliadau’r ymchwiliad ac unrhyw honiad ei fod ef / hi wedi methu â chydymffurfio â chod ymddygiad yr awdurdod.

2.         Galw cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Safonau i ystyried a phenderfynu ar y mater.

3.         Gwahodd yr Ombwdsmon i’r gwrandawiad i gyflwyno’r adroddiad a / neu egluro unrhyw faterion sydd ynddo.

4.         Bod y swyddogion, mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd, yn gosod dyddiad (ynghyd â dau wrth gefn) ar gyfer cynnal y gwrandawiad.