skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriad gan Mr Richard Parry Hughes (Aelod Pwyllgor Cymuned).

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

Cofnod:

 

Datganodd y Cadeirydd, Mr Hywel Eifion Jones, fuddiant personol yn eitem 6 – Adolygiad o’r Fframwaith Safonau Moesegol i GymruYmgynghoriad Llywodraeth Cymru, oherwydd ei fod yn aelod lleyg ar Banel Dyfarnu Cymru, a bod cyfeiriad at y panel yn yr adroddiad. 

 

Nid oedd o’r farn ei fod yn fuddiant oedd yn rhagfarnu, ac ni adawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 247 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfodydd o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y dyddiadau a nodir isod fel rhai cywir:-

 

·         13 Chwefror, 2023;

·         18 Ebrill, 2023 (Cyfarfod Arbennig)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

 

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 13 Chwefror, 2023 ynghyd â’r Cyfarfod Arbennig a gynhaliwyd ar 18 Ebrill, 2023 fel rhai cywir, yn amodol ar y cywiriad isod:-

 

Cofnodion Cyfarfod Arbennig 18 Ebrill, 2023

Eitem 3 – Cŵyn o Dorri’r Cod Ymddygiad a gyfeiriwyd at y Pwyllgor Safonau gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

 

Cywiro brawddeg gyntaf paragraff 6 i ddarllen:-

 

“Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad ysgrifenedig ymchwiliad yr Ombwdsmon, y dogfennau pellach a gyflwynwyd ymlaen llaw gan yr Aelod a’r Ombwdsmon yn unol â threfn cyn-wrandawiad y Pwyllgor, a’r dystiolaeth gan yr Awdurdod yn cadarnhau nad oedd darpariaeth gyfieithu ar gael pan dderbyniwyd yr e-byst gan yr Aelod.”

 

5.

ADRODDIAD AR GANLYNIAD YMCHWILIAD I GWYN YN ERBYN Y CYNGHORYDD LOUISE HUGHES O GYNGOR GWYNEDD pdf eicon PDF 217 KB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo’r adroddiad ar ganlyniad yr ymchwiliad i gŵyn yn erbyn y Cynghorydd Louise Hughes o Gyngor Gwynedd, gan nodi mân newid golygyddol, a’i anfon at y Swyddog Monitro, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Y Cynghorydd Hughes a’r achwynydd, yn unol â gofynion y Rheoliadau.

 

Cofnod:

 

Cyflwynwyd – adroddiad y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau yn manylu ar ganlyniad ymchwiliad i gŵyn yn erbyn y Cynghorydd Louise Hughes o Gyngor Gwynedd, yn unol â darpariaethau Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 2001 (fel y’u diwygiwyd).

 

Ymhellach i gynnwys yr adroddiad, cadarnhawyd bod y Cynghorydd Louise Hughes wedi cyflwyno llythyr o ymddiheuriad i’r achwynydd erbyn hyn a bod y cyfnod atal wedi dod i ben.

 

Gan gyfeirio at yr Hysbysiad o Benderfyniad y Pwyllgor Safonau (oedd ynghlwm fel atodiad i’r adroddiad), nodwyd bod angen cywiro brawddeg gyntaf paragraff 6 i ddarllen:-

 

“Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad ysgrifenedig ymchwiliad yr Ombwdsmon, y dogfennau pellach a gyflwynwyd ymlaen llaw gan yr Aelod a’r Ombwdsmon yn unol â threfn cyn-wrandawiad y Pwyllgor, a’r dystiolaeth gan yr Awdurdod yn cadarnhau nad oedd darpariaeth gyfieithu ar gael pan dderbyniwyd yr e-byst gan yr Aelod.”

 

Diolchodd y Cadeirydd i bawb o’r aelodau am eu mewnbwn ar y diwrnod, ac i’r Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau a’r Swyddog Gwasanaethau Democratiaeth a’r swyddogion i gyd am eu holl waith yn ystod y broses o drefnu a chynnal y gwrandawiad.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r adroddiad ar ganlyniad yr ymchwiliad i gŵyn yn erbyn y Cynghorydd Louise Hughes o Gyngor Gwynedd, gan nodi mân newid golygyddol, a’i anfon at y Swyddog Monitro, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Y Cynghorydd Hughes a’r achwynydd, yn unol â gofynion y Rheoliadau.

 

6.

ADOLYGIAD O'R FFRAMWAITH SAFONAU MOESEGOL I GYMRU - YMGYNGHORIAD LLYWODRAETH CYMRU pdf eicon PDF 290 KB

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Monitro.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo’r ymatebion drafft i Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar yr Adolygiad o’r Fframwaith Safonau Moesegol i Gymru (yn Atodiad 2 i’r adroddiad), er caniatáu eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru, gyda’r ychwanegiad a nodir isod:-

 

  • Cynnwys elfennau o drafodaeth y pwyllgor ynghylch sut y byddai hyfforddiant gorfodol yn gweithio’n ymarferol, datgan troseddau a gorfodi tystion.
  • Nodi’n ychwanegol dan C6 (trefn ar gyfer cyfeirio penderfyniadau apeliadau yn ôl i bwyllgor safonau) ei bod yn hanfodol bod y rhesymeg dros anghytuno â barn tribiwnlys apêl yn cael ei gofnodi’n glir, er mwyn dangos bod y penderfyniad apêl wedi derbyn sylw dyladwy, ond ar falans, bod y pwyllgor yn parhau o’r farn y dylai eu penderfyniad gwreiddiol sefyll.

 

Cofnod:

 

Cyflwynwyd – adroddiad y Swyddog Monitro yn gwahodd y Pwyllgor i ystyried a dod i farn ar ymatebion i’r Ymgynghoriad ar argymhellion yr Adolygiad Annibynnol o’r Fframwaith Safonau Moesegol (adroddiad Richard Penn) er caniatáu eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

Gofynnwyd yn benodol am farn yr aelodau ar yr ymatebion drafft canlynol:-

 

C4.    Ydych chi’n cefnogi’r newidiadau arfaethedig i’r weithdrefn caniatâd i apelio a amlinellir yn yr argymhelliad hwn?  Os nad ydych, pa opsiynau eraill fyddech chi’n eu hawgrymu?

 

Ydym.

 

Sylwadau: Mae’n ymddangos yn briodol y dylai'r Ombwdsman allu gwneud sylwadau ar geisiadau am ganiatâd i apelio ac y dylai'r broses ganiatáu amser i wneud sylwadau.

 

Dylid fod gofyn penodol hefyd i hysbysu Swyddog Monitro perthnasol yn syth hefyd fod apêl wedi ei derbyn gan fod bodolaeth apêl yn ganolog i gychwyn cyfnod atal neu beidio.

 

C13.  Hysbysebu am aelodau annibynnol o'r pwyllgorau safonau: Ydych chi’n cytuno y dylid dileu’r gofyn i hysbysebu swyddi gwag ar gyfer aelodau annibynnol ar bwyllgorau safonau mewn papurau newydd?

 

Ydym.

 

Sylwadau: Mae costau hysbysebion o'r fath yn uchel a dengys profiad anecdotaidd fod y rhan fwyaf o ymgeiswyr yn dod trwy sianeli eraill megis gwefannau neu rwydweithiau presennol Aelodau Unigol. Mae'n bwysicach sicrhau bod ymgeiswyr cymwys o amrediad eang o gefndiroedd yn cael eu denu i'r rôl ac felly dylai LlC gyflwyno canllawiau ar recriwtio cynhwysol.

 

C14a.     Cyn-weithwyr cyngor yn eistedd fel aelodau annibynnol o bwyllgorau safonau: Ydych chi’n cytuno y dylid dileu’r gwaharddiad gydol oes ar gyn- weithwyr cyngor rhag bod yn aelodau annibynnol o bwyllgor safonau eu cyflogwr blaenorol?

 

Nac ydym.  Cryfder y Pwyllgor Safonau ar hyn o bryd yw bod yn rhaid iddynt gynnwys mwyafrif o Aelodau Annibynnol y gellid dweud heb amheuaeth eu bod yn wirioneddol annibynnol ac yn amhleidiol.

 

C14b.     Os ydych chi, beth, yn eich barn chi, fyddai’n gyfnod gras addas rhwng cyflogaeth a phenodi i bwyllgor safonau, ac a ddylai hyn fod yr un fath ar gyfer holl weithwyr cynghorau, neu’n hirach ar gyfer y rheini a oedd gynt mewn swyddi â chyfyngiadau statudol neu wleidyddol?

 

Ni ddylai swyddogion sydd wedi'u cyfyngu'n wleidyddol fedru gwasanaethu fel Aelodau Annibynnol. O ran swyddogion eraill, mae'r safbwynt hwnnw'n fwy cynnil ond awgrymir nad ddylid caniatáu hyn. Os, er gwaethaf y farn hon, yw LlC yn dymuno caniatáu iddynt fod yn gymwys yna mae angen i'r cyfnod gras ar gyfer cyn-weithwyr fod yn hir i leihau'r canfyddiad fod y cyn-weithiwr dal yn cael ei effeithio oherwydd ei gysylltiad blaenorol â'r cyngor. Dylid gosod y cyfnod gras yn gyfnod penodol o megis 5 mlynedd neu gellid bod yn hyblyg ar sail hyd eu gwasanaeth (lluosog) gyda neu heb leiafswm.

 

C16.  Pwyllgorau safonau – galw tystion a sancsiynau: A ddylai pwyllgorau safonau gael y pŵer i alw tystion?

 

Dylai.

 

Sylwadau: Mae'r un ystyriaethau a gyflwynwyd yn yr ymateb i Gwestiwn 5 yn berthnasol fan hyn.  Heb ei bwerau i ymdrin â dirmyg, byddai angen modd o orfodaeth ar y mecanwaith i gyflwyno gwŷs, megis efallai'r pŵer i geisio am warant  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

HUNAN ASESIAD A RHAGLEN WAITH pdf eicon PDF 235 KB

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Monitro.

Penderfyniad:

 

(a)  Mabwysiadu’r canlynol fel hunanasesiad y Pwyllgor Safonau o’i berfformiad yn 2022/23.

 

 

SWYDDOGAETH

ASESIAD

(1/2/3/4)

 

Tystiolaeth

Camau pellach

1.  Hyrwyddo a chynnal safonau ymddygiad uchel gan aelodau

 

 

1.

Mae’r Cadeirydd ac Is Gadeirydd wedi mynychu Fforwm Safonau Cymru i rannu profiadau hefo pwyllgorau safonau eraill.

 

Cyflwyno adroddiad blynyddol i’r Cyngor Llawn

 

Pwyllgor wedi derbyn adroddiad ar Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

 

Parhau i fynychu a chefnogi

 

 

 

2.  Cynorthwyo’r aelodau i gadw at y Cod Ymddygiad

 

2.

Swyddog Monitro a’i dîm yn darparu cyngor ac arweiniad mewn cyfarfodydd ac ar sail un i un i aelodau.

 

Trefnu i gynnal cyrsiau Cod Ymddygiad pellach yn ystod y flwyddyn i ddod.

3.  Cynghori’r Cyngor ynglŷn â mabwysiadu neu ddiwygio’r Cod Ymddygiad

 

1.

Dim achlysur wedi codi i ddiwygio’r Cod.

 

4.  Monitro gweithrediad y Cod Ymddygiad

 

3.

Derbyn adroddiadau rheolaidd o honiadau yn erbyn aelodau

 

Derbyn adroddiadau blynyddol yr Ombwdsmon a Phanel Dyfarnu Cymru

 

 

 

 

 

Parhau i fonitro ac ystyried dulliau amgen o dderbyn gwybodaeth

 

Derbyn adroddiadau rheolaidd o Lyfr Achosion Cod Ymddygiad yr Ombwdsmon.

 

Derbyn adroddiadau blynyddol am y gofrestr buddiannau a lletygarwch.

 

5.  Cynghori, hyfforddi neu drefnu i hyfforddi aelodau ar faterion yn ymwneud â’r Cod Ymddygiad

 

 

3.

Cynhaliwyd hyfforddiant anwytho ar gyfer holl aelodau Cyngor Gwynedd yn dilyn yr etholiadau.

Gosod gofyn penodol i symud ymlaen gyda’r hyfforddiant yn y rhaglen waith am y flwyddyn nesaf.

 

6.  Rhoi goddefebau i aelodau

 

1.

Dim ceisiadau wedi eu hystyried dan y drefn newydd. 

 

 

7.  Ymdrin ag adroddiadau o dribiwnlys achos ac unrhyw adroddiadau gan y Swyddog Monitro ar faterion a gyfeiriwyd gan yr Ombwdsmon

 

1.

Cynhaliwyd 1 gwrandawiad yn ystod y flwyddyn ynglŷn ag Aelod Cyngor Tref a Chymuned

 

8.  Awdurdodi’r Swyddog Monitro i dalu lwfansau i bersonau a gynorthwyodd gydag ymchwiliad

 

Dim angen gweithredu.

 

 

9. Monitro cydymffurfiaeth Arweinyddion Grwpiau Gwleidyddol ar y Cyngor a’u dyletswyddau o dan Adran 52A(1) Deddf Llywodraeth Leol 2000.

 

Cynghori, hyfforddi neu drefnu i hyfforddi Arweinyddion Grwpiau Gwleidyddol ar y Cyngor ynghylch materion sy’n ymwneud â’r dyletswyddau hynny.

 

3.

Cynhaliwyd sesiwn briffio gydag Arweinyddion Grwpiau Gwleidyddol ynglŷn â’r ddyletswydd newydd.

 

Cytunwyd Protocol ar gyfer gweithredu'r ddyletswydd.

Symud ymlaen i ddatblygu ar y drefn, ynghyd â’r drefn adrodd yn ôl i’r pwyllgor.

10.  Ymarfer y swyddogaethau uchod mewn perthynas â chynghorau cymuned

 

2.

Swyddog Monitro a’i dîm yn darparu cyngor ac arweiniad i gynghorau, clercod ac aelodau.

 

Cynhaliwyd prosiect ymgysylltu sylweddol gan y Cadeirydd a’r Aelod Tref a Chymuned arweiniodd at adroddiad gydag argymhellion penodol a chynllun gwaith.

 

Angen adfer y rhaglen ar sail rithiol yn y flwyddyn nesaf.

 

(b)  Cymeradwyo’r rhaglen waith a ganlyn ar gyfer 2023/24:-

 

26 Mehefin, 2023

Adroddiad Blynyddol

Honiadau yn erbyn Aelodau

Llyfr Achosion yr Ombwdsmon

Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Ymateb i Adroddiad Penn

 

6 Tachwedd, 2023

Cofrestr Rhoddion a Lletygarwch

Cofrestr Datgan Buddiant

Adroddiad Blynyddol yr Ombwdsmon

Honiadau yn erbyn Aelodau

Adolygu Gweithrediad Protocol Arweinyddion Grwpiau Gwleidyddol

Adolygu Trefniadau Datrysiad Mewnol

Derbyn Adroddiad o Fforwm Safonau Cymru

Adroddiad ar y Trefniadau ar gyfer delio gyda chyfathrebu wedi  ...  view the full Penderfyniad text for item 7.

Cofnod:

 

Cyflwynwyd – adroddiad y Swyddog Monitro yn gwahodd y pwyllgor i:-

 

·           gynnal hunan asesiad o waith ac allbynnau’r pwyllgor yn ystod 2022/23, ac:-

·           ystyried rhaglen waith ddrafft ar gyfer 2023/24.

 

PENDERFYNWYD

(a)       Mabwysiadu’r canlynol fel hunan asesiad y Pwyllgor Safonau o’i berfformiad yn 2022/23.

 

SWYDDOGAETH

ASESIAD

(1/2/3/4)

 

TYSTIOLAETH

CAMAU PELLACH

1.  Hyrwyddo a chynnal safonau ymddygiad uchel gan aelodau

 

 

1.

Mae’r Cadeirydd ac Is Gadeirydd wedi mynychu Fforwm Safonau Cymru i rannu profiadau hefo pwyllgorau safonau eraill.

 

Cyflwyno adroddiad blynyddol i’r Cyngor Llawn

 

Pwyllgor wedi derbyn adroddiad ar Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

 

Parhau i fynychu a chefnogi

 

 

 

2.  Cynorthwyo’r aelodau i gadw at y Cod Ymddygiad

 

2.

Swyddog Monitro a’i dîm yn darparu cyngor ac arweiniad mewn cyfarfodydd ac ar sail un i un i aelodau.

 

Trefnu i gynnal cyrsiau Cod Ymddygiad pellach yn ystod y flwyddyn i ddod.

3.  Cynghori’r Cyngor ynglŷn â mabwysiadu neu ddiwygio’r Cod Ymddygiad

 

1.

Dim achlysur wedi codi i ddiwygio’r Cod.

 

4.  Monitro gweithrediad y Cod Ymddygiad

 

3.

Derbyn adroddiadau rheolaidd o honiadau yn erbyn aelodau

 

Derbyn adroddiadau blynyddol yr Ombwdsmon a Phanel Dyfarnu Cymru

 

 

 

 

 

Parhau i fonitro ac ystyried dulliau amgen o dderbyn gwybodaeth

 

Derbyn adroddiadau rheolaidd o Lyfr Achosion Cod Ymddygiad yr Ombwdsmon.

 

Derbyn adroddiadau blynyddol am y gofrestr buddiannau a lletygarwch.

 

5.  Cynghori, hyfforddi neu drefnu i hyfforddi aelodau ar faterion yn ymwneud â’r Cod Ymddygiad

 

 

3.

Cynhaliwyd hyfforddiant anwytho ar gyfer holl aelodau Cyngor Gwynedd yn dilyn yr etholiadau.

Gosod gofyn penodol i symud ymlaen gyda’r hyfforddiant yn y rhaglen waith am y flwyddyn nesaf.

 

6.  Rhoi goddefebau i aelodau

 

1.

Dim ceisiadau wedi eu hystyried dan y drefn newydd. 

 

 

7.  Ymdrin ag adroddiadau o dribiwnlys achos ac unrhyw adroddiadau gan y Swyddog Monitro ar faterion a gyfeiriwyd gan yr Ombwdsmon

 

1.

Cynhaliwyd 1 gwrandawiad yn ystod y flwyddyn ynglŷn ag Aelod Cyngor Tref a Chymuned

 

8.  Awdurdodi’r Swyddog Monitro i dalu lwfansau i bersonau a gynorthwyodd gydag ymchwiliad

 

Dim angen gweithredu.

 

 

9. Monitro cydymffurfiaeth Arweinyddion Grwpiau Gwleidyddol ar y Cyngor a’u dyletswyddau o dan Adran 52A(1) Deddf Llywodraeth Leol 2000.

 

Cynghori, hyfforddi neu drefnu i hyfforddi Arweinyddion Grwpiau Gwleidyddol ar y Cyngor ynghylch materion sy’n ymwneud â’r dyletswyddau hynny.

 

3.

Cynhaliwyd sesiwn briffio gydag Arweinyddion Grwpiau Gwleidyddol ynglŷn â’r ddyletswydd newydd.

 

Cytunwyd Protocol ar gyfer gweithredu'r ddyletswydd.

Symud ymlaen i ddatblygu ar y drefn, ynghyd â’r drefn adrodd yn ôl i’r pwyllgor.

10.  Ymarfer y swyddogaethau uchod mewn perthynas â chynghorau cymuned

 

2.

Swyddog Monitro a’i dîm yn darparu cyngor ac arweiniad i gynghorau, clercod ac aelodau.

 

Cynhaliwyd prosiect ymgysylltu sylweddol gan y Cadeirydd a’r Aelod Tref a Chymuned arweiniodd at adroddiad gydag argymhellion penodol a chynllun gwaith.

 

Angen adfer y rhaglen ar sail rithiol yn y flwyddyn nesaf.

 

(b)       Cymeradwyo’r rhaglen waith a ganlyn ar gyfer 2023/24:-

 

26 Mehefin, 2023

Adroddiad Blynyddol

Honiadau yn erbyn Aelodau

Llyfr Achosion yr Ombwdsmon

Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Ymateb i Adroddiad Penn

 

6 Tachwedd, 2023

Cofrestr Rhoddion a Lletygarwch

Cofrestr Datgan Buddiant

Adroddiad Blynyddol  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR SAFONAU 2022-23 pdf eicon PDF 235 KB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau 2022-23 i’w gyflwyno i’r Cyngor llawn ar 6 Gorffennaf, 2023, yn amodol ar wneud mân addasiadau i fywgraffiadau’r aelodau.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau yn amgáu drafft o adroddiad blynyddol y pwyllgor ar gyfer 2022/23.  Gwahoddwyd sylwadau a chymeradwyaeth y pwyllgor i’r ddogfen.

 

Tynnwyd sylw at y ffaith bod yr adroddiad eleni, am y tro cyntaf, yn cyfeirio at y ddyletswydd newydd i arweinyddion grwpiau gwleidyddol gymryd elfen o gyfrifoldeb dros hyrwyddo ymddygiad da a chydweithredu â’r Pwyllgor Safonau.  Nodwyd:-

 

·         Ei bod yn ddyddiau cynnar o ran y drefn yma, ond bod gwaith wedi digwydd o ran annog aelodau i gymryd rhan mewn hyfforddiant Cod Ymddygiad ynghyd â sefydlu’r drefn a chytuno ar brotocol ar gyfer gweithredu’r ddyletswydd newydd i’r dyfodol.

·         Bod angen symud ymlaen i wneud gwaith pellach ar y ddyletswydd ac i ddatblygu’r drefn gyfathrebu o gwmpas hyn yn fwy helaeth fel mae’r trefniadau yn symud yn eu blaenau.

·         Bod elfen o’r drefn yn adweithiol i amgylchiadau sy’n codi o gwmpas materion ymddygiad aelodau.  Byddai’n rhaid cadw llygaid ar y sefyllfa yma, a phetai sefyllfa’n codi, roedd y Protocol yn gosod trefn glir ar gyfer mynd at yr Arweinyddion i drafod unrhyw bryderon penodol sy’n codi.

 

Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhaodd y Swyddog Monitro ei fod yn fodlon bod yr arweinyddion wedi cydymffurfio â’u dyletswyddau newydd yn ystod y flwyddyn a bod sail i symud ymlaen dros y flwyddyn nesaf i adeiladu ar y gwaith yma.

 

Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhawyd bod bwriad i gynnal cyfarfodydd lled reolaidd gyda’r arweinyddion.  Nodwyd hefyd bod bwriad i drefnu cyfarfod anffurfiol rhwng holl aelodau’r Pwyllgor Safonau, yr Arweinyddion a’r Prif Weithredwr, o bosib’, i drafod y ddyletswydd newydd ar lefel ymarferol a’r ffordd orau ymlaen.  Pwysleisiwyd nad oedd bwriad i drafod achosion unigol.

 

Gofynnwyd i’r Swyddog Monitro fwrw ymlaen i drefnu’r cyfarfod a thrafod y rhaglen gyda’r Cadeirydd.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau 2022-23 i’w gyflwyno i’r Cyngor llawn ar 6 Gorffennaf, 2023, yn amodol ar wneud mân addasiadau i fywgraffiadau’r aelodau.

 

9.

HONIADAU YN ERBYN AELODAU pdf eicon PDF 246 KB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau.

Penderfyniad:

Nodi’r wybodaeth.

Cofnod:

Cyflwynwyd - adroddiad y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau yn cyflwyno gwybodaeth am benderfyniadau’r Ombwdsmon ar gwynion ffurfiol yn erbyn aelodau.

 

PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth.