Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Dim i’w nodi.

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Gan gyfeirio at eitem 7, nododd y Cadeirydd, Mr Hywel Eifion Jones, ei fod yn aelod lleyg ar Banel Dyfarnu Cymru.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 144 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfodydd o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 6 Tachwedd, 2023 a 10 Ionawr, 2024 (Cyfarfod Arbennig) fel rhai cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfodydd o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 6 Tachwedd, 2023 a 10 Ionawr, 2024 (Cyfarfod Arbennig) fel rhai cywir.

 

5.

DYLETSWYDDAU ARWEINYDDION GRWPIAU GWLEIDYDDOL A'R PWYLLGOR SAFONAU pdf eicon PDF 119 KB

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Monitro.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo’r meini prawf ar gyfer monitro ac adrodd cydymffurfiaeth â’r ddyletswydd ar Arweinyddion Grwpiau Gwleidyddol mewn perthynas â safonau ymddygiad Aelodau Grwpiau (Atodiad 1 i’r adroddiad a gyflwynwyd i’r Pwyllgor), ynghyd â’r templed ffurflen adrodd (Atodiad 2).

 

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad y Swyddog Monitro yn gwahodd y pwyllgor i gymeradwyo meini prawf ar gyfer monitro ac adrodd cydymffurfiaeth â’r ddyletswydd ar Arweinyddion Grwpiau Gwleidyddol mewn perthynas â safonau ymddygiad Aelodau Grwpiau.

 

Nododd y Swyddog Monitro:-

 

·         Bod yr argymhelliad i’r pwyllgor yn seiliedig ar awgrymiadau a ddatblygwyd gan Grŵp Swyddogion Monitro Cymru fel dangosyddion posib’ ar gyfer meintioli a mesur y ddyletswydd.

·         Bod yr argymhelliad yn caniatáu i’r pwyllgor dderbyn adroddiad ystyrlon ar ddiwedd y flwyddyn ynglŷn â sut mae’r ddyletswydd wedi gweithio, a hefyd yn caniatáu iddo yntau, fel Swyddog Monitro, adrodd i’r pwyllgor mewn cyd-destun lle mae pawb yn deall beth yw’r disgwyliadau, ayb, ar ei gyfer.

·         Y cydnabyddiad nad yw’r ddyletswydd yn un sy’n priodoli ei hun i ddata neu ystadegau’n hawdd, a’i bod fwy i wneud â diwylliant a chloriannu barn.

·         Bod y meini prawf yn cynnwys 8 o faterion y gellid eu rhoi ymlaen fel man cychwyn i adrodd yn eu herbyn o ran sut mae’r Arweinyddion wedi cydweithio mewn ffordd ymarferol ar hyrwyddo’r ddyletswydd.

·         Mai’r argymhelliad oedd i beidio cynnwys yr opsiynau isod yn y meini prawf am y rhesymau a nodir:-

Ø  Arweinwyr Grwpiau i sicrhau, lle mae yna benderfyniad polisi gan y Cyngor, bod aelodau’r Grŵp yn glynu atynt – credid bod y mater hwn yn mynd i dir anodd o ran hawl mynegiant aelodau a hawl aelodau i anghytuno.

Ø  Arweinwyr Grwpiau i sicrhau nad yw gwybodaeth anghywir yn cael ei rhoi allan yn y byd cyhoeddus er osgoi niweidio enw da’r Cyngor – ystyriwyd fod hyn yn agored i ddehongliad a byddai materion megis dwyn anfri dan y Cod yn fwy perthnasol.

Ø  Arweinwyr Grwpiau i sicrhau bod gwiriadau DBS yn cymryd lle’n briodol – credid bod y mater hwn, o bosib’, yn priodoli ei hun i amgylchiadau penodol mewn rhai cynghorau, yn hytrach nag yng Ngwynedd.

·      Iddo gynnal trafodaethau defnyddiol ac adeiladol gyda’r Arweinyddion Grwpiau yn unigol yn ystod mis Ionawr ynglŷn â materion sy’n codi ac i gytuno ar gyfeiriad, ayb.

·      Bod y cydweithio hyd yma yn argoeli’n broses adeiladol a fydd, gobeithio, yn cyfrannu at gynnal safonau ymddygiad yn y Cyngor, ac efallai’n gyfrwng i drafod materion cyn iddyn nhw ddatblygu.

·      Mai’r un her oedd y cwrs Cod Ymddygiad i aelodau a bu llai o ddiddordeb na’r disgwyl yn y cwrs i’w gynnal ar 21 Chwefror.  Bwriedid ail redeg y cwrs yn ystod mis Ebrill a byddai’n gyfle hefyd i gael trafodaeth gyda’r Arweinyddion ac i annog presenoldeb ar y cyrsiau.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r meini prawf ar gyfer monitro ac adrodd cydymffurfiaeth â’r ddyletswydd ar Arweinyddion Grwpiau Gwleidyddol mewn perthynas â safonau ymddygiad Aelodau Grwpiau (Atodiad 1 i’r adroddiad a gyflwynwyd i’r Pwyllgor), ynghyd â’r templed ffurflen adrodd (Atodiad 2).

 

Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhawyd y byddai Arweinyddion y Grwpiau Gwleidyddol yn derbyn copi o’r ffurflen adrodd yn dilyn y cyfarfod hwn.

 

6.

HONIADAU YN ERBYN AELODAU pdf eicon PDF 95 KB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodi’r wybodaeth.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau yn cyflwyno gwybodaeth i’r pwyllgor am benderfyniadau’r Ombwdsmon ar gwynion ffurfiol yn erbyn aelodau.

 

Ar bwynt o eglurder, nododd y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau y dylai’r fersiwn Gymraeg o frawddeg ddiwethaf y crynodeb i’r ail gŵyn (Atodiad 2 i’r adroddiad) ddarllen ‘Dewisodd yr aelod gyfeirio’r mater at yr Ombwdsmon i’w ystyried yn hytrach na mynd drwy Drefn Datrys Lleol y Cyngor’.

 

Nododd y Swyddog Monitro fod yr ail gŵyn yn amlygu pa mor anodd yw tynnu’r ffin rhwng llefaru rhydd a dweud rhywbeth a allai fod yn dramgwyddus i rai pobl ac roedd yn falch o gefnogaeth yr Ombwdsmon i’r drefn datrys lleol yn ei sylwadau ar yr achos.

 

Holwyd a oedd yr Ombwdsmon, o bosib’, yn awgrymu bod yna ddiffyg ymddiriedaeth yn y drefn datrys lleol, ac a ellid bod yn hyderus bod y drefn yn gadarn ac yn effeithlon.  Mewn ymateb, nododd y Swyddog Monitro:-

 

·         Bod y drefn mewn lle a bod addasiadau wedi’u gwneud iddi bellach a thrafodaeth wedi’u cynnal gydag Arweinyddion y Grwpiau Gwleidyddol hefyd.

·         Ei bod yn naturiol, wrth fynd i drefn fel hyn, bod cwestiynau’n codi, ond anogid yr aelodau i gael sgwrs gydag ef yn gyntaf ynglŷn â’r camau a roddir mewn lle i sicrhau bod y broses yn deg ac yn briodol.

 

PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth.

 

7.

ADRODDIAD BLYNYDDOL PANEL DYFARNU CYMRU 2022-23 pdf eicon PDF 48 KB

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Monitro.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodi’r adroddiad er gwybodaeth.

Cofnod:

Cyflwynwyd - adroddiad y Swyddog Monitro yn atodi adroddiad blynyddol Panel Dyfarnu Cymru ar gyfer 2022-23 er sylw’r pwyllgor.

 

Nododd y Swyddog Monitro fod achos APW/008/2021-022/CT ar dudalen 34 o’r rhaglen yn amlwg yn croesi’r ffin o safbwynt hawl mynegiant, ac yn tanlinellu, er y gall aelodau feirniadu cysyniadau neu anghytuno â barn rhywun, bod gwneud datganiadau sydd yn ffeithiol anghywir, ayb, yn golygu bod y warchodaeth yn diflannu’n sydyn.

 

Sylwyd bod y crynodeb o achos APW/009/2021-022/CT, hefyd ar dudalen 34 o’r rhaglen, yn nodi ei bod yn ymddangos, ar adeg ysgrifennu’r adroddiad, nad oedd y Cyngor dan sylw wedi cydymffurfio â’r argymhellion o fewn yr amserlen ofynnol, a holwyd beth fyddai canlyniad hynny.  Mewn ymateb, nododd y Swyddog Monitro:-

 

·         Bod yr adroddiad yn argymell y dylai holl gynghorwyr presennol y Cyngor dan sylw fynychu hyfforddiant Cod Ymddygiad, ayb, ond nad oedd grym penodol, ar hyn o bryd, i orfodi materion o’r fath ar gyngor cyfan.  Fodd bynnag, petai achos arall yn codi yn yr un cyngor, byddai’r Ombwdsmon yn cymryd sylw o’r ffaith na ddarparwyd hyfforddiant ayb.

·         Bod un o’r trafodaethau yn sgil adolygiad Penn yn ymwneud ag ehangu pŵer, er enghraifft, Pwyllgor Safonau, i fynnu bod camau penodol, megis mynychu hyfforddiant, yn cymryd lle.

·         O ran yr achos dan sylw, petai’r broblem yn parhau a bod yna ganfyddiadau pellach, o bosib’ y byddai’r mater yn cael ei gyfeirio at yr archwilwyr yn y pen draw os yw diwylliant y cyngor yn cyrraedd y lefel yna.

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad er gwybodaeth.