Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Parlwr Mawr, Theatr y Ddraig, Barmouth Community Centre, Jubilee Road, Barmouth, Gwynedd. LL42 1EF

Cyswllt: Glynda O'Brien  01341 424301

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd i’r pwyllgor hwn am y flwyddyn 2017-18.

 

Cofnod:

Penderfynwyd:          Ethol y Cynghorydd Gethin Williams yn Gadeirydd y Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2017/18.

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd i’r pwyllgor hwn am y flwyddyn 2017-18.

 

Cofnod:

Penderfynwyd:          Ethol y Cynghorydd Eryl Jones-Williams yn Is-gadeirydd y Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2017/18.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

 I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau oddi wrth: Y Cynghorydd Ioan Ceredig Thomas (Aelod Cabinet - Economi), Cyng. Louise Hughes (Cyngor Gwynedd), Mr John Johnson (Cymdeithas Pysgota Abermaw a Bae Cerdigion, Mr Arthur F. Jones (Uwch Swyddog Harbyrau).

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. 

Cofnod:

Derbyniwyd datganiad o gysylltiad personol gan yr aelodau isod am y rhesymau a nodir:  

 

(a)          Cyng. Gethin Williams – aelod o’r Ymddiriedolaeth Cymunedol

(b)          Cyng. Julian Kirkham  - yn perthyn i un o’r gweithredwyr fferi

(c)           Mr Mike Ellis – aelod o bwyllgor Ras y Tri Copa

(d)          Mrs Wendy Ponsford – aelod o’r Clwb Hwylio, aelod o’r Ymddiriedolaeth Cymunedol

(e)          Cyng. Rob Triggs – aelod o’r Ymddiriedolaeth Cymunedol, aelod o’r Clwb Hwylio

(f)            Mr Martin Parouty – gweithredwr masnachol yn yr harbwr, aelod o’r Clwb Hwylio ac Ymddiriedolaeth Cymunedol

(g)          Dr John Smith – aelod o’r Clwb Hwylio, aelod o’r Ymddiriedolaeth Cymunedol

 

Ni fu i’r Aelodau bleidleisio ar faterion a oedd yn ymwneud â’u buddiant personol. 

 

5.

COFNODION pdf eicon PDF 241 KB

I gadarnhau cofnodion cyfarfod blaenorol  o Bwyllgor Ymgynghorol Harbwr Abermaw  a gynhaliwyd ar 14 Mawrth 2017.

 

(Copi’n amgaeedig)

Cofnod:

Cyflwynwyd:               Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Abermaw gynhaliwyd ar y 14 Mawrth 2017.

 

Penderfynwyd:          Derbyn a chymeradwyo’r cofnodion fel rhai cywir.

 

6.

ADRODDIAD GAN Y SWYDDOG MORWROL A PHARCIAU GWLEDIG pdf eicon PDF 314 KB

I ystyried adroddiad y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

 

Cyflwynwyd:             Adroddiad y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig, Mr Barry Davies, yn diweddaru’r pwyllgor ar faterion rheolaethol yr Harbwr.

 

Cyfeiriwyd yn benodol at y canlynol:-

 

(a)                                                  Aelodaeth y Pwyllgor  -  gofynnwyd i Grŵp Mynediad Traphont Abermaw gyflwyno

cyfansoddiad a chofnodion eu Cyfarfod Blynyddol i’r Swyddog Cefnogi Aelodau, yn unol â phenderfyniad Cabinet Cyngor Gwynedd yn 2014.  Bydd angen i’r mudiadau / sefydliadau gyflwyno’r wybodaeth yn flynyddol.

 

 

(b)                                                 Angorfeydd a Chofrestru Cychod Abermaw – cyflwynwyd rhestr ychwanegol i’r

Aelodau yn ystod y cyfarfod a chyfeirwyd at y dau gwch a dorrwyd yn rhydd yn ddiweddar.  Pwysleiswyd nad oedd dim o’i le ar yr angorfeydd ond yn hytrach y ddolen rhwng blaen y cwch a’r bwi a falwyd ac sydd yn gyfrifoldeb i’r perchennog.  Annogir perchnogion cychod yn rheolaidd i sicrhau eu bod yn dilyn y canllawiau priodol a bod yr angorfeydd yn addas i’r pwrpas.  Mewn ymateb i ymholiad gan Aelod, cadarnhawyd bod staff yr Harbwr yn gwirio ac yn sicrhau bod y stropiau yn addas.  Teimlai’r Gwasanaeth Morwrol yn rhwystredig yn wyneb y ffaith bod trefniadau mewn lle ar gyfer cyflwyno dogfennaeth gyfredol priodol i’r Harbwr Feistr ond nad oedd ambell unigolyn yn cydymffurfio.  Awgrymwyd i’r dyfodol y byddai angen cynnal awdit o’r oll angorfeydd ac os nad ydynt yn gymwys yn unol â chanllawiau’r Gwasanaeth, ni fyddai opsiwn ond eu gwahardd o’r Harbwr a chyfarwyddo i godi’r angorfeydd allan. 

 

Pwysleiswyd bwysgirwydd i sefydlu proses gadarn i ymdrin â’r mater uchod ac awgrymwyd y byddai’n fuddiol i adolygu’r Is-ddeddfau fel bo modd gweithredu’n fwy llym i’r dyfodol.  Croesawyd gefnogaeth y Pwyllgor Ymgynghorol i’r awgrym hwn ac anogwyd Aelodau i ledaenu’r neges i’w mudiadau o bwysigrwydd bod angorfeydd yn cyrraedd gofynion ac yn addas i bwrpas.    

 

Mewn ymateb i ymholiad ynglyn â’r ystadegau o gychod pwer / hwylio a’r ganran ym Meirionnydd yn lleihau o’i gymharu â chynnydd  ym Mhenllŷn, esboniodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig bod Pwllheli wedi ei adnabod fel man i gynnal rasus lleol a bod yna ddiwydiant hwylio cryf yno. 

 

Ychwanegwyd bod Clwb Hwylio Meirionnydd yn gwneud gwaith gwych hefo’r ieuenctid yn nhref Abermaw.

 

Penderfynwyd:          Cymeradwyo bod y Gwasanaeth Morwrol yn cynnal adolygiad o’r Is-ddeddfau Harbwr er mwyn sefydlu gweithdrefn gadarn i’w roi mewn lle ar gyfer cyflwyno dogfennaeth priodol o addasrwydd angorfeydd. 

 

 

(c)                                                  Cod Morwrol a Diogelwch Porthladdoedd

 

Adroddodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig bod archwilwyr Asiantaeth Gwylwyr y Glannau (MCA), Adran Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru, wedi cynnal arolwg o drefniadau a sustemau diogelwch presennol harbyrau’r Sir ac fe fyddir yn cyflwyno eu hadroddiad i gyfarfod nesaf y Pwyllgor Ymgynghorol yn y gwanwyn.  Ni ragwelwyd bod unrhyw broblemau yn deillio o’r arolwg a’u barn cychwynnol ydoedd bod y Gwasanaeth yn cydymffurfio gyda’r gofynion yn gyffredinol ond bod angen matrics hyfforddiant cynhwysfawr i staff.  Canolbwyntiwyd yr arolwg ar harbyrau Aberdyfi, Porthmadog a Phwllheli ac ni fu ymweliad ag Abermaw oherwydd prinder amser.  Nodwyd ganddynt bod angen tacluso oddi amgylch cei harbwr Aberdyfi a chyflwynwyd sylwadau ar lafar ynglyn â llêd y sianel yn Harbwr  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

MATERION I'W HYSTYRIED AR GAIS AELODAU'R PWYLLGOR YMGYNGHOROL

(a)       Aelod Lleol:

 

1. Adroddiad ar y 'barrier'

2. Dyfodol y pontwn

3 .Cais am 'ardal weithgareddau wedi ei rhaffu i ffwrdd'

4. Cais i cynnal cystadleuath lleol i dylunio (ac adeiladu) 'caban traeth' unigryw i Bermo (yn lle defnyddio storage container haearn, fel yr arfer).

5. Statws adnoddau(peiriannau ayyb) y harbwr

6. Diffyg presenoldeb ar dyddiau digwyddiadau.

 

 

(b)       Cyngor Tref Abermaw:

 

1.    Taclusrwydd cyffredinol a lle storio o amgylch yr harbwr

2.    Ffrydiau incwm

3.    Parcio ar y ffordd ger y Compownd

 

(c)       Cyngor Cymuned Arthog

 

1.    Y diweddaraf am reoli Pwynt Penrhyn

2.    Llithrfa De Penrhyn Drive

 

 

(ch)     Clwb Hwylio Meirionnydd:

 

1.    Trafod man ymdrochi agored o fewn ardal yr harbwr

2.    Ychydig iawn o le sydd i gychod ‘Fin Keel’

3.    Posib defnyddio matin sgwrio concrid i unioni’r disgyniad yng ngwaelod y llithrfa.

 

 

(d)       Grŵp Defnyddwyr Harbwr Abermaw:

 

1.    Pontŵntrosglwyddiad cyfrifoldeb a chynnal a chadw

2.    Angorfeyddmynd ag angorfeydd i’r lan bob gaeaf.

3.    Parth Gwahardd Cychod Pŵer / Cychod Dŵr Personoladfer y bwiau i farcio’r parth ymdrochi i sicrhau lle mwy diogel i ymdrochi

 

 

 

 

 

Cofnod:

(a)          Cais am ardal weithgareddau wedi ei rhaffu i ffwrdd

Adroddod y Cadeirydd ei fod wedi derbyn cais ar gyfer dynodi ardal weithgareddau wedi ei rhaffu ffwrdd yn yr harbwr ar gyfer defnydd gweithgareddau hamdden. 

 

Penderfynwyd:          Cymeradwyo i ymchwilio i’r mater gan ofyn i’r unigolion a wnaed y cais gysylltu â’r Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig i drafod eu syniadau ymhellach.

 

(b)          Cais i gynnal cystadleuaeth lleol i ddylunio (ac adeiladu) “caban traeth” unigryw i Abermaw

Adroddod y Cadeirydd bod angen rhywbeth mwy esthetig na’r hyn sydd yn bodoli’n barod ac a fyddai o fudd twristiaeth. 

 

Penderfynwyd:          Cymeradwyo’r syniad mewn egwyddor ac i unigolion sydd â diddordeb yn yr uchod i gysylltu gyda’r Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig i drafod ymhellach unrhyw syniadau a ddaw i law.

 

(c)          Taclusrwydd cyffredinol a lle storio o amgylch yr Harbwr

Derbyniwyd cwyn gan aelod o’r cyhoedd am gelfi pysgota ar yr harbwr ac nad oedd lle i’r plant ddal crancod.  Nodwyd bwysigrwydd i’r pysgotwyr gadw celfi pysgota yn y compownd.

 

Penderfynwyd:          Gofyn i’r Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig drafod gyda’r pysgotwyr i sicrhau bod y cawelli yn cael eu cadw gan adael bwlch i bobl fedru cerdded o’u hamgylch.

 

(ch)     Ffrydiau Incwm

 

Gofynnwyd a oedd unrhyw fodd i fedru cynyddu incwm i’r harbwr?  Nodwyd bod llawer mwy o ganŵs a caiacs i’w gweld ac a oedd yr awdurdod yn codi ffi arnynt? 

 

Mynegodd aelod bod cymaint o fynd a dod gan gychod yn ardal yr Harbwr ac y byddai cynyddu defnydd yn y dŵr o amgylch yr harbwr yn creu risg o ddiogelwch.

 

Mewn ymateb, esboniodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig y ceisir annog gweithgareddau yn yr Harbwr ond ni chodir ffi gan na fyddai’n gost effeithiol yn wyneb y ffaith y byddai’n costio mwy i weinyddu’r trefniadau o gasglu’r ffioedd.

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.

 

(d)          Parcio ar y ffordd ger y compownd

Nodwyd y byddai’r contractwyr yn cael cynnig cyntaf o ran parcio ar y tir uchod.

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.

 

 

(dd)     Cynnal a chadw angorfeydd a ffurflenni adrodd yn ôl

 

Adroddwyd y byddir yn trafod y mater uchod gyda’r staff perthnasol ym mis Tachwedd i’w wyntyllu.

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.

 

(e)          Y diweddaraf am reoli Pwynt Penrhyn

Adrododd y Cyng. Julian Kirkham ar yr hyn drafodwyd yng nghyfarfod Cyngor Cymuned Arthog yn ddiweddar a’u bod yn gwneud cais i Adran Priffyrdd y Cyngor am gymorth ar gyfer:

  • Paentio mannau parcio wrth y man troi a’r man pasio
  • Gosod peiriant talu ac arddangos yn yr ardal barcio, gyda'r ysgrifen canlynol i’w gynnwys ar yr arwyddion taliadau "Mae arian o'r peiriant talu ac arddangos hwn yn mynd i gadw toiledau'r Friog ar agor”
  • Gosod rhwystr cyfyngiad uchder cryf. Byddai angen gosod arwyddion rhybudd ar y ffordd i'r Friog ac ar Ogledd Penrhyn Drive  hefyd, er gwybodaeth i yrrwyr cerbydau mawr
  • Atgyweirio arwydd "Cadw'n Glir" ar ben y ffordd i lawr i'r giât.
  • Gyda chaniatâd y Swyddog Morwrol, gosodwyd giât i gau’r ardal ar frig y llithrfa er  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

ETHOL SYLWEDYDDION

I ethol sylwedyddion i wasanaethu fel a ganlyn:

 

a) Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi

b) Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Porthmadog

c) Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Pwllheli

 

Cofnod:

Ystyried enwebiadau ar gyfer sylwedyddion i wasanaethu ar y pwyllgorau canlynol:

 

(a)  Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi

(b)  Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Porthmadog

(c)   Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Pwllheli

 

Cyflwynwyd enwau’r tri Aelod canlynol, ac fe fyddant yn penderfynu rhwng ei gilydd pa gyfarfod fyddant yn mynychu:

 

Y Cyng. Rob Triggs

Y Cyng. Julian Kirkham

Mr Martin Parouty

 

Penderfynwyd:    Gofyn i’r Swyddog Cefnogi Aelodau anfon y dyddiadau iddynt fel y gallent benderfynu a chadarnhau pwy fydd yn mynychu’r cyfarfodydd.

 

 

9.

DYDDIAD CYFARFOD NESAF

I nodi cynhelir cyfarfod nesaf Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Abermaw ar 6 Mawrth 2017.

Cofnod:

Penderfynwyd:    Nodi y cynhelir y cyfarfod nesaf ar 6 Mawrth 2018.