Lleoliad: Parlwr Mawr, Theatr y Ddraig, Barmouth Community Centre, Jubilee Road, Barmouth, Gwynedd. LL42 1EF
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol Cadeirydd
ar gyfer 2019 / 2020 Cofnod: PENDERFYNWYD ail ethol y Cynghorydd Gethin Williams yn
Gadeirydd y Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2019/20 |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol Is
gadeirydd ar gyfer 2019 / 2020 Cofnod: PENDERFYNWYD ail ethol y Cynghorydd Eryl Jones-Williams
yn Is-gadeirydd y Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2019/20. |
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Y Cynghorydd Gareth
Thomas (Aelod Cabinet - Economi), Barry Davies (Rheolwr Morwrol a Pharciau Gwledig), Dr John Smith (Grŵp Mynediad Traphont Abermaw), Mr Martin Parouty (Grŵp Defnyddwyr Harbwr Abermaw) a’r Cynghorydd
Dyfrig Siencyn (Cyngor Gwynedd) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Dim i’w nodi |
|
a) Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhalliwyd 26.03.19 fel rhai cywir b) Materion yn codi Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 26ain Mawrth, 2019, fel rhai cywir. Materion yn codi
o’r cofnodion: (a)
Digwyddiadau Adroddwyd bod y gweithgareddau a’r digwyddiadau allweddol a gynhaliwyd ar y traeth gan FLAG (Fisheries Local
Action Group) wedi bod yn llwyddiannus ac wedi codi ymwybyddiaeth. Diolchwyd i bawb oedd
wedi bod yn rhan o’r trefniadau
ac i unrhyw syniadau ar gyfer
digwyddiadau i’r dyfodol gael
eu hanfon at Alison Kinsey (b)
Ffordd y Compownd Mewn ymateb i gais
gan y Pwyllgor yn y cyfarfod diwethaf
i sefydlu rheolaeth addas ar gyfer y safle,
nododd Pennaeth Cynorthwyol Economi a Chymuned bod adolygiad i orchmynion parcio'r
Sir yn cael
ei gynnal. Ategodd bod rhestr ddrafft o safleoedd wedi eu hadnabod
a bod Ffordd y Compownd wedi ei gynnwys
ar y rhestr honno. Amlygwyd bod Grŵp Tasg wedi ei sefydlu
i gynorthwyo’r gwasanaeth cludiant gyda’r gwaith o ddadansoddi’r amrediad opsiynau ar gyfer
rheoli parcio yn wyneb heriau
ariannol incwm o feysydd parcio yn y dyfodol. Cynigiwyd
rhoi diweddariad ar waith y Grŵp
Tasg yn y cyfarfod nesaf Cymeradwywyd yr adran forwrol
am eu gwaith o gynnal a chadw Ffordd y Compownd ond gwarthus yw’r
modd y mae
defnyddwyr yn defnyddio’r safle. Nodwyd bod pum digwyddiad wedi bod ar y safle, ond
diffyg tystiolaeth teledu cylch cyfyng
i’r Heddlu gynnal ymchwiliad pellach. Cynigiwyd yr angen i
gyfyngu’r defnydd i grŵp penodol
o ddefnyddwyr neu ystyried opsiwn i’r dyfodol o dalu
am ddefnyddio’r gofod. (c)
Angorfeydd Mewn ymateb i gofnod
y cyfarfod diwethaf bod angen ceisio barn defnyddwyr ynglŷn â pham bod perchnogion angorfeydd yn ymadael,
nodwyd mai anodd yw darganfod
un ystadegyn dros y lleihad mewn defnydd. Ategwyd
mai tebyg yw’r sefyllfa ar
draws y wlad. (ch) Cyfleuster penodol ar gyfer
beiciau dwr Mewn ymateb i awgrym
gan y Pwyllgor yn y cyfarfod diwethaf
bod angen ystyried dulliau o reoli a darparu cyfleuster penodol ar gyfer
angori beiciau dwr, nododd yr
harbwr feistr mai anodd fyddai
dynodi safle a chyfleuster penodol ar eu cyfer.
Y rhwystr pennaf yw’r llaid sydd
yn rhwystro’r beiciau rhag angori
a gellid ond angori wrth y llithrfa
neu’r pontŵn ar adegau pan mae’r
llanw yn caniatáu hynny. Yr ymddygiad a welir ar hyn o bryd
yw gwthio’r beic ar y traeth
a’i barcio yno. Amlygwyd bod y beiciau dwr yn
cael eu defnyddio
gan amlaf fel modd hwylus
o gyrraedd y dref o feysydd carafanau cyfagos. Ategwyd bod modd ffurfio llwyfan
glanio tu hwnt i’r morglawdd
ond ni
fyddai hyn mewn gwirionedd yn gyfleus. Nodwyd
bod ymdrechion wedi ei gwneud i
geisio hwyluso’r ddarpariaeth ond dim opsiynau amgen oni bai bod modd
carthu’r harbwr. Adroddwyd nad oedd beiciau dwr yn dod ag unrhyw incwm i’r harbwr a phetai beiciau dwr yn cael eu lansio oddi ar lithrfa byddai’r incwm yn mynd tuag at gyllid traethau. Nodwyd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL YR HARBWR PDF 69 KB a) I ystyried adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau b) I ystyried adroddiad yr Harbwr Feistr Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Adroddiad yr Uwch
Swyddog Harbyrau Cyflwynwyd adroddiad gan yr Uwch
Swyddog Harbyrau yn rhoi diweddariad
cryno ar faterion yr Harbwr
am y cyfnod rhwng Mawrth 2019 a Hydref 2019. Angorfeydd Mewn ymateb i gofnod
y cyfarfod diwethaf bod angen ceisio barn defnyddwyr ynglŷn â pham bod perchnogion angorfeydd yn ymadael,
nodwyd mai anodd yw darganfod
un ystadegyn dros y lleihad mewn defnydd. Ategwyd
mai tebyg yw’r sefyllfa ar
draws y wlad Cod Diogelwch Atgoffwyd yr Aelodau bod yr Asiantaeth Morwrol a Gwylwyr y Glannau wedi cynnal archwiliad
ym Mawrth 2019 ar drefniadau penodol
a system Harbyrau Bwrdeistrefol
Gwynedd er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth a’r Cod Diogelwch Morol. Yn dilyn ymweliad
pellach i weld sut roedd yr
ychwanegiadau a awgrymwyd wedi ei gweithredu,
adroddwyd bod Capten Quader (archwilydd o’r Asiantaeth) yn fodlon bod y Gwasanaeth yn cydymffurfio
â darpariaethau’r Cod Diogelwch
Morol Porthladdoedd. Materion Staffio Adroddwyd bod penderfyniad wedi ei wneud i
estyn cyfnod cyflogaeth dymhorol Cymhorthydd Harbwr Abermaw tan ddiwedd Rhagfyr 2019 er mwyn sicrhau cefnogaeth
i’r harbwr feistr ynghyd â chysondeb gwasanaeth ar draws y Sir. Ategwyd mai’r bwriad yw
pennu’r swydd yn un barhaol. Materion Ariannol Cyflwynwyd cyllideb yr harbwr
i amlygu’r sefyllfa ariannol bresennol hyd at ddiwedd Medi 2019. Amcangyfrifwyd
gorwariant o £11,807. Amlygwyd
bod bwriad o godi ffioedd lansio dyddiol o £10 i £15 Mewn ymateb i gwestiwn
ynglŷn â gwariant ar ‘offer a chelfi’, mynegwyd nad yw’r
gwariant yn wastraffus, bod popeth sydd yn ymwneud
a chynnal a chadw, offer ac
offer llaw yn cael ei gynnwys
yn y gyllideb yma. Ategwyd nad yw disgwyliad
oes yr offer yn hir oherwydd
yr amodau cras. Gofynnwyd hefyd os oedd
y gyllideb yn cael ei gosod
yn gywir ac addas i’r deilliannau.
Awgrymwyd y dylai’r Cynghorwyr sydd ar y Pwyllgor gynnig
mewnbwn i osod y gyllideb. Sylwadau yn codi o’r
drafodaeth ·
Sut mae’r codiad mewn ffioedd
yn cymharu ag awdurdodau eraill? ·
Er y codiad mewn prisiau, nid yw
bob amser yn bosibl lansio - hyn yn dibynnu
ar y llanw a'r lleoliad lansio
penodol ·
Bod
cynnydd o 50% yn un cam mawr Bydd y codiad yn effeithio
bob defnyddwyr yr harbwr ac nid y rhai hynny sydd
angen eu targedu e.e., defnyddwyr
beiciau dwr ·
Bod
angen annog a hyrwyddo defnyddwyr i brynu tocyn
blynyddol sydd yn fwy o werth
am arian Mewn ymateb i’r sylwadau
nododd Pennaeth Cynorthwyol Economi a Chymuned o ganlyniad i’r incwm yn
lleihau nid oedd modd cynyddu’r
gyllideb. Ategodd yr angen i
hyrwyddo ac annog mwy o ddefnydd a bod codi incwm yn
sicrhau parhad gwasanaeth (b) Adroddiad yr Harbwr
Feistr Cyflwynwyd adroddiad gan yr Harbwr Feistr yn manylu ar faterion mordwyo, gweithredol
a chynnal a chadw. Tynnwyd sylw at y materion canlynol: ·
Bod
buddsoddiad sylweddol wedi ei wneud
i uwchraddio’r bwiau mordwyo yn
y sianel ·
Bod
cynllun gwaith gweithredu a gwaith cynnal a chadw wedi ei adnabod
ar gyfer y gaeaf · Bod ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
MATERION I'W HYSTYRIED AR GAIS AELODAU'R PWYLLGOR YMGYNGHOROL Grwp Defnyddwyr Harbwr Abermaw ·
Cynllun Datblygu
Harbwr Abermaw ·
Llaid / cronni
tywod / Mesurau lliniaru ·
Grisiau cyhoeddus ·
Railtrack a Thraphont
Abermaw Cyngor Tref Abermaw ·
Symudiad Tywod ·
Morglawdd ·
Carthu Clwb Hwylio Merioneth ·
Tywod ger y
Baddondy Cofnod: Amlygwyd dymuniad i lunio cynllun
datblygu. Derbyniwyd nad oedd
cyllideb i wireddu a gweithredu’r cynllun, ond teimlwyd
bod angen cael cynllun yn ei
le i osod cyfeiriad a chynllunio ymlaen i’r dyfodol.
Yn ddelfrydol, dymunwyd cyngor ar y gwaith y gellid
ei gyflawni a’r deddfwriaethau perthnasol sydd angen eu hystyried
i garthu'r harbwr . ·
Pwysleisiwyd yr
angen i ymgysylltu
gyda’r cyhoedd a rhoi dealltwriaeth iddynt o’r hyn
gall ei wneud ar hyn na all ei wneud. ·
Etholwyd John Smith, Rob Triggs,
Alison Kinsey, Peter Appleton, Wendy Ponsford yn aelodau o’r
Grŵp Tasg ynghyd a’r swyddogion
allweddol. ·
Cam
cyntaf y grŵp fyddai sefydlu sylfaen i gynllun
datblygu gan roi ystyriaeth briodol i’r Fframwaith
Cod Diogelwch Morwrol. ·
Yr
ail gam fydd cyflwyno’r cynllun datblygu i Cyfoeth Naturiol
Cymru fel bod modd iddynt gyfrannu
ac ymateb i’r cynllun. (a)
Grisiau Cyhoeddus
(b)
Railtrack a Thraphont Abermaw
(ch) Symudiad Tywod Yn dilyn y gwaith clirio a wnaed ym Mawrth 2019 ar glirio tywod
gofynnwyd am adborth o ran
cost ac effaith. Eglurwyd y
byddai modd cynnwys yr eitem
ar raglen Mawrth 2020 - byddai hyn yn gyfle
i gael
adborth o flwyddyn lawn a gwir effaith y gwaith. (c)
Morglawdd Gwnaed sylw bod angen cadw'r morglawdd yn glir o dywod
er mwyn sicrhau
mynediad i ddefnyddwyr. Amlygwyd bod offer ar gael yn iard Priffyrdd
a Bwrdeistrefol fyddai’n addas ar gyfer
y gwaith clirio. Sylwadau yn codi o’r
drafodaeth ddilynol: ·
Awgrym i ail ymgynnull y Grŵp Tywod ·
Angen amlygu’r pryderon i Bennaeth
Priffyrdd a Bwrdeistrefol ·
Bod
y gymuned leol yn barod i
gynorthwyo gyda’r gwaith clirio ·
Bod
y morglawdd yn ased gwerthfawr i’r dref - yn galluogi mynediad i ddefnyddwyr cadair
olwyn, teuluoedd gyda phramiau ayyb ·
Angen i’r morglawdd fod yn
glir drwy’r flwyddyn ·
Gwahodd Rheolwr Twristiaeth a Marchnata i’r cyfarfod
ynghyd ag aelodau o’r Cyngor Tref ·
Cynnal trafodaeth gyda’r Adran Priffyrdd
a Bwrdeistrefol ynglŷn
â defnyddio’r offer (dd) Tywod ger y baddondy Amlygywd bod y tywod gerllaw y baddondy bellach yn ffurfio twyn.
Cadarnhaodd yr harbwr feistr y byddai yn ymdrin
a’r sefyllfa |
|
DYDDIAD CYFARFOD NESAF I nodi cynhelir cyfarfod nesaf Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Abermaw ar 24ain Mawrth 2020 Cofnod: Nodwyd y bydd y cyfarfod nesaf yn cael
ei gynnal ar 24ain Mawrth, 2020. |