skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sioned Mai Jones  01286 679665

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

Ethol Cadeirydd ar gyfer 2022/23.

Penderfyniad:

Ethol y Cynghorydd Rob Triggs fel Cadeirydd y Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Abermaw ar gyfer 2022/23.

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Rob Triggs yn Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer y flwyddyn 2022/23.

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

Ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2022/23.

Penderfyniad:

Ethol y Cynghorydd Eryl Jones-Williams fel Is-gadeirydd y Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Abermaw ar gyfer 2022/23.

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Eryl Jones-Williams yn Is-gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer y flwyddyn 2022/23.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Louise Hughes (Cyngor Gwynedd) a’r Cynghorydd Nia Jeffreys (Aelod Cabinet Datblygu’r Economi) yn ogystal â Wendy Ponsford (Clwb Hwylio Meirionydd), Mark James (Cymdeithas y Bad Achub) a Ian Sadler (Pwyllgor Ras y Tri Copa).

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

 

5.

COFNODION pdf eicon PDF 237 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar yr 22ain o Fawrth 2022 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r cyfarfod hwn a gynhaliwyd ar 22 Mawrth 2022, fel rhai cywir.

 

6.

DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL YR HARBWR pdf eicon PDF 249 KB

I ystyried

 

a) adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau

b) adroddiad yr Harbwrfeistr

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodi a derbyn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiadau isod, a gwahoddwyd yr Aelodau i gynnig sylwadau am eu cynnwys a gofyn cwestiynau.

 

Adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau yn rhoi diweddariad cryno i’r pwyllgor ar faterion yr harbwr ar gyfer y flwyddyn a ddaw i ben Mawrth 2023.

 

·       Atgoffwyd yr aelodau fod cylch gorchwyl pwyllgorau’r harbwr wedi cael ei greu o dan Adran 102 Deddf Llywodraeth Leol 1972 a bod Cabinet y Cyngor yn cadarnhau’r aelodaeth.

·       Cadarnhawyd bod angen i aelodau’r pwyllgor nodi’n ffurfiol os nad ydynt yn gallu parhau i fynychu’r pwyllgor er mwyn gallu newid yr aelodaeth yn ffurfiol ac ethol cynrychiolydd newydd.

·       Eglurwyd fod Aelod Cabinet Economi a Chymuned yn cael gwahoddiad i fynychu’r cyfarfodydd er mwyn trafod materion pwysig gyda’r aelodau, cyn adrodd yn ôl i’r Cabinet ble fydd angen.

·       Datganwyd fod lleihad yn y nifer o gychod ar angorfeydd yr harbwr. Cadarnhawyd bod y niferoedd wedi gostwng yn harbyrau eraill y sir hefyd. Er hyn, mae niferoedd y cychod sydd wedi eu hangori yn yr harbwr dal yn uchel ac mae nifer ymwelwyr i’r dref wedi cynyddu. Pwysleisiwyd bod nifer y cychod sydd wedi eu cofrestru i’w cadw yno wedi aros yn gyson.

·       Mynegwyd bod cyflwr yr angorfeydd yn dda iawn ac mae llai o doriadau wedi digwydd eleni.

·       Esboniwyd bod y swyddogion yn o broses o greu holiadur boddhad cwsmer ar gyfer y flwyddyn nesaf. Bydd hwn yn holiadur digidol a gobeithir i’r ffigyrau cychwynnol gael eu rhannu â’r pwyllgor yn y cyfarfod nesaf.

 

Côd Diogelwch Morol Phorthladdoedd

 

·       Manylwyd fod yr harbwr wedi cael archwiliad trylwyr gan Wylwyr y Glannau ac wedi derbyn adborth cadarnhaol. Mae’r harbwr wedi derbyn archwiliad gan Berson Dynodedig allanol, sef Capten Mark Forbes o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Mae’r Cyngor wedi rhyddhau Datganiad o Gydymffurfiad gyda’r Cod Diogelwch i Asiantaeth Gwylwyr y Glannau fel rhan o’r broses angenrheidiol.

·       Soniwyd bod digwyddiad wedi codi yn ddiweddar ble roedd cwch wedi suddo. Mae’r cwch bellach wedi cael ei roi ar y traeth ac mae’r swyddogion wedi cysylltu gydag asiant y cwch. Mae gan y perchennog 21 diwrnod i symud y cwch neu bydd rhaid i’r swyddogion ei dynnu oddi ar y safle. Mynegwyd bod digwyddiadau o’r fath yn anodd ei datrys yn gyflym gan fod anawsterau yn codi gyda phwy sydd yn berchen ar y tir. Nid oes modd i’r swyddogion symud unrhyw gychod oddi ar y tir os yw’n dir preifat neu’n dir  rheilffordd.

o   Holiwyd pwy fyddai’n gorfod talu i dalu am symud y cwch hwn a chadarnhaodd y Rheolwr Harbyrau mai’r Awdurdod Harbyrau sydd yn gorfod talu’r gost. Gellir derbyn ad-daliad o’r costau hyn gan y perchennog os oes prawf mai nhw sy’n berchen y cwch.

o   Eglurwyd bod gan Gyfoeth Naturiol Cymru fas-data o gychod sydd wedi cael eu gadael ar ôl os byddai hynny’n ddefnyddiol i swyddogion yn y dyfodol.

 

·       Mynegwyd pryder am y defnydd o Fadau Dŵr Personol (jet ski) yn yr ardal, gan eu bod yn gallu bod yn beryglus i ddefnyddwyr eraill y môr.

o   Cadarnhawyd yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

ETHOL SYLWEDYDDION

I ethol sylwedyddion i wasanaethu ar y canlynol –

 

a) Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi

b) Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Porthmadog

c) Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Pwllheli

Penderfyniad:

Penderfynwyd cysylltu gyda holl aelodau’r pwyllgor dros e-bost er mwyn rhoi cyfle i’r holl aelodau rhoi eu hunain ymlaen fel sylwedyddion.

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD cysylltu gyda holl aelodau’r pwyllgor dros e-bost er mwyn rhoi cyfle i’r holl aelodau rhoi eu hunain ymlaen fel sylwedyddion.

 

8.

MATERION I'W HYSTYRIED AR GAIS AELODAU'R PWYLLGOR YMGYNGHOROL

I ystyried materion ar gais yr Aelodau.

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

9.

DYDDIAD CYFARFOD NESAF

I nodi y cynhelir cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Abermaw ar yr 28ain o Fawrth 2023.

 

Cofnod:

Cadarnhawyd bod y cyfarfod nesaf ar y 28ain o Fawrth 2023.

 

Cymerwyd y cyfle i ddiolch yn fawr i’r Rheolwr Harbyrau am flynyddoedd o waith caled ac am ei ymrwymiad a’i angerdd tuag at harbyrau’r sir. Rhannwyd dymuniadau gorau iddo yn ei ymddeoliad.