skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sioned Mai Jones  01286 679665

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Gareth Thomas (Aelod Cabinet Datblygu’r Economi), Cynghorydd Brian Woolley (Cyngor Cymuned Arthog), Mr John Johnson (Cymdeithas Bysgota Abermaw a Bae Ceredigion), Cynghorydd Matthew Harris (Grŵp Gwella Cyrchfannau Abermaw) ac Arthur Francis Jones (Uwch Swyddog Harbyrau).

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi.

3.

COFNODION pdf eicon PDF 230 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y 19eg o Hydref 2021 fel rhai cywir.

Cofnod:

Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 19 Hydref 2021.

 

Materion yn codi o’r cofnodion:

 

·         Nofio Awyr Agored – Nodwyd bod y Bartneriaeth Awyr Agored wedi awgrymu y dylid cysylltu â chwmni ‘Swim Wales’ i drafod datblygiadau nofio awyr agored yn yr Harbwr. Eglurwyd y bydd datblygiadau yn cael eu rhannu efo’r Harbwr Feistr neu efo’r Rheolwr Morwrol.

 

4.

DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL YR HARBWR pdf eicon PDF 199 KB

I ystyried

 

a) adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau

b) adroddiad yr Harbwrfeistr

c) astudiaeth Posibilrwydd Carthu

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodi a derbyn yr adroddiad.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiadau isod a gwahoddwyd yr Aelodau i gynnig sylwadau am eu cynnwys a gofyn cwestiynau.

 

a)      Adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau yn rhoi diweddariad cryno i’r pwyllgor ar faterion yr harbwr ar gyfer y cyfnod rhwng mis Hydref 2021 a mis Mawrth 2022.

Cyn cychwyn nodwyd bod yr Uwch Swyddog Harbyrau yn anfon ei ddymuniadau gorau i’r Pwyllgor. Gobeithiai fod yn ôl yn ei waith cyn diwedd mis Mai. Dymuna’r Pwyllgor anfon eu dymuniadau a gwellhad buan at Arthur.

 

Tynnwyd sylw at y materion canlynol:

 

Angorfeydd Abermaw a Chofrestru Cychod

 

Adroddwyd bod y ceisiadau i gyd wedi cael eu hanfon i’r cyn-gwsmeriaid a bod rhai eisoes wedi dychwelyd. Bydd y system Cofrestru Cychod Pŵer a Badau Dŵr Personol ar lein yn cael ei lansio wythnos yma. Nodwyd bod oedi efo’r system o gadarnhau angorfa ar lein yn yr holl harbyrau; ychwanegwyd bod y system yn prysur ddatblygu a bydd yn mynd yn fyw ym mis Mawrth 2023.

 

Cod Diogelwch Morwrol Porthladdoedd

 

Nodwyd bod archwiliadau wedi eu cynnal gan Asiantaeth Gwylwyr y Glannau a bod statws cod diogelwch Gwynedd wedi ei gadarnhau. Eglurwyd bod datganiad wedi ei arwyddo gan yr Aelod Cabinet Economi a Chymuned wedi ei anfon i’r asiantaeth i gadarnhau cydymffurfiaeth â’r cod. Bydd y cod diogelwch harbyrau yn parhau i gael ei adolygu yn rheolaidd. Pwysleisiwyd bod y tîm harbyrau yn dibynnu ar fewnbwn aelodau’r Pwyllgor gan nodi ei bod yn bwysig dod a materion sy’n ymwneud â diogelwch yr harbwr i sylw Swyddogion.

 

Holiwyd beth oedd canlyniad yr ymgynghoriad Cenedlaethol ynglŷn â jet-sgi. Nodwyd bod sylwadau cynhwysfawr wedi eu cyflwyno i’r Llywodraeth. Rhagwelir y bydd ymateb gan y Llywodraeth tua canol y flwyddyn a bydd y sylwadau hyn ar gael i aelodau’r Pwyllgor. Ychwanegwyd bod croeso i aelodau’r Pwyllgor dderbyn copi o ymateb y Cyngor i’r ymgynghoriad os ydynt yn dymuno.

 

Adroddwyd na fydd digwyddiad y ‘Black Rock Blast’ yn digwydd eleni ychwaith oherwydd Cofid. Gobeithiwyd ei gynnal y flwyddyn nesaf. Nodwyd bod y digwyddiad hwn wedi rhoi platfform cadarn i dynnu sylw at ymddygiad da yn ymwneud a chychod pŵer a jet-sgis. 

 

Gwnaethpwyd sylw am gwynion gafodd eu derbyn ynglŷn â jet-sgis ble deliodd y Rheolwr Morwrol yn gyflym â’r cwynion, roedd y Cynghorwyr yn hapus iawn efo’r canlyniad. Anogwyd y Cynghorwyr i gysylltu â’r tîm harbyrau cyn gynted ag y bo modd os ydynt yn derbyn cwynion er mwyn gallu ymateb a delio efo’r sefyllfa yn syth. Ychwanegwyd nad oedd nifer fawr o gwynion wedi eu derbyn a bod llawer o’r cwynion yn ymwneud â diffyg dealltwriaeth o reoliadau. Gobeithiwyd y bydd Heddwas yn mynychu gwahanol harbyrau dros gyfnod yr Haf ac yn mynd allan o gwmpas yr arfordir. Nodwyd bod ail afael yn y cydweithio oedd yn arfer bodoli efo Heddweision yn gam positif.

 

Materion Staffio

 

Adroddwyd y bydd yr Harbwr Feistr presennol yn gadael ei swydd ar y 1af  Ebrill. Bydd angen edrych ar benodi Harbwr Feistr newydd i Abermaw gan gydnabod y bydd yn her  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4.

5.

MATERION I'W HYSTYRIED AR GAIS AELODAU'R PWYLLGOR YMGYNGHOROL

I ystyried materion ar gais yr Aelodau

 

-       Materion a godwyd gan Gyngor Tref Abermaw (e-bost dyddiedig 4ydd o Fawrth 2022)

Cofnod:

Ramp yn Fairbourne

 

Gwnaethpwyd cais gan grŵp cymunedol am arian ar gyfer gosod ramp i alluogi preswylwyr ac ymwelwyr Fairbourne i allu cael mynediad i’r traeth. Nodwyd ei bod yn annheg nad oedd mynediad yn bodoli. Ychwanegwyd bod y Cyngor Cymuned yn ceisio dod o hyd i arian; bydd angen o gwmpas £50,000 i gyllido’r gost.

 

Nododd y Rheolwr Morwrol ei fod wedi cael trafodaethau efo Clerc Cyngor Cymuned Arthog am y ramp. Adroddodd y bydd angen i unrhyw beth gaiff ei ychwanegu yn Fairbourne fod yn gadarn a pheidio ag yn amharu ar y llif arfordirol a’i bod yn bwysig cael y trefniadau a’r hawliau priodol mewn lle. Nodwyd y byddai angen trwydded forol am ei fod o dan y marc dŵr llanw uchel cymedrig felly mae’n debyg y byddai’r gost yn llawer fwy na £50,000. Ychwanegodd ei fod yn gobeithio cyfarfod efo Cyfoeth Naturiol Cymru ar ôl y Pasg i drafod eu gofynion ar y safle.

 

Eglurodd y Rheolwr Morwrol ymhellach ei fod wedi cyflwyno datganiad o ddiddordeb ar gyfer grantiau arfordirol ond nad oes capasiti i’w ddatblygu ar hyn o bryd. Nododd ei fod yn deall y rhwystredigaeth ac yn gobeithio cael trafodaeth bellach efo’r Cyngor Cymuned yn fuan.

 

Llecynnau yn y compownd a rheoli parcio yn y compownd.

 

Cyfeiriwyd ar y pwyntiau oedd wedi eu codi gan gynrychiolydd Cyngor Tref Abermaw mewn e-bost blaenorol. Nododd y Rheolwr Morwrol nad oedd ganddo ateb pendant i’r cwestiynau am yr uchod. Ychwanegodd y bydd oedi ar y cynlluniau oedd mewn lle oherwydd y bydd Harbwr Feistr newydd yn cael ei benodi a bydd angen caniatáu amser iddyn nhw setlo yn y rôl felly nid oes rhaglen bendant ar hyn o bryd.

 

Cofnodion

 

Holiwyd pwy sy’n derbyn copi o gofnodion y cyfarfodydd ac os ydynt yn cael trafodaeth bellach yn unrhyw le. Adroddwyd bod y cofnodion yn cael eu rhannu efo’r Aelod Cabinet Economi a Chymuned. Dymuna’r Pwyllgor ddiolch i’r Aelod Cabinet presennol am ei gefnogaeth dros y blynyddoedd. Ychwanegwyd nad oes trafodaeth bellach yn y Cabinet o ganlyniad i gofnodion y Pwyllgor hwn ond bydd y tîm morwrol yn dod a materion pwysig ger bron y Tîm Arweinyddiaeth a’r Cabinet pe bai angen.

 

Ras 10km Abermaw

 

Cymerodd gynrychiolydd y Pwyllgor Ras y Tri Copa y cyfle i sôn am y digwyddiad uchod fydd yn cael ei gynnal ar y 9fed o Orffennaf ac am y gwaith parhaus i allu cynnal y digwyddiad. Nodwyd ei fod yn ddigwyddiad mawr i Abermaw gyda gwaith paratoi mewn lle ers blynyddoedd. Ychwanegodd y bydd angen gofyn caniatâd i glirio wal gefn maes parcio’r Clwb Hwylio gan bod llawer o dywod wedi pentyrru yno. Diolchwyd am waith cynrychiolydd y Pwyllgor Ras y Tri Copa a gobeithiwyd y bydd y diwrnod yn llwyddiant.

 

 

Cymerodd y Cadeirydd y cyfle i ddiolch i aelodau’r Pwyllgor, staff y Cyngor a staff yr harbwr am eu gwaith a’r gefnogaeth dros y blynyddoedd gan mai hwn fydd ei gyfarfod olaf. Dymunodd yn dda i bawb at y dyfodol.  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

DYDDIAD CYFARFOD NESAF

I nodi y cynhelir cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Abermaw ar yr 8fed o Dachwedd 2022.

Cofnod:

8 Tachwedd 2022.