Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Neuadd Dyfi, Aberdyfi, LL35 0NR

Cyswllt: Glynda O'Brien  01341 424301

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

 Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth Mr Nigel Willis (Clwb Cychod Aberdyfi), Mr James Bradbury-Willis (Siambr Fasnach Aberdyfi)

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o gysylltiad personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

3.

COFNODION pdf eicon PDF 243 KB

I gadarnhau cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 15 Tachwedd 2016. 

 

(Copi’n amgaeedig)

Cofnod:

Cyflwynwyd:               Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi gynhaliwyd ar y 15 Tachwedd 2016.

 

Penderfynwyd:           Derbyn a chymeradwyo’r cofnodion fel rhai cywir.

 

4.

ADRODDIAD GAN Y SWYDDOG MORWROL A PHARCIAU GWLEDIG pdf eicon PDF 149 KB

I ystyried adroddiad gan y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig.

 

(Copi’n amgaeedig)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd:             Adroddiad y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig, Mr Barry Davies, yn diweddaru’r pwyllgor ar faterion rheolaethol yr Harbwr gyda chyfeiriad penodol at y canlynol:-

 

(a)          Cod Diogelwch Morwrol

 

Nodwyd bod y cod diogelwch yn ddogfen fyw a phwysigrwydd i dderbyn sylwadau yn rheolaidd ar y cynnwys fel y gall gael ei adolygu ac bod y ddogfen yn berthnasol i weithgareddau’r Harbwr. Tynnwyd sylw bod y Gwasanaeth yn disgwyl adolygiad gan arbenigwr allanol Asiantaeth Gwylwyr y Glannau ond oherwydd diffyg capasiti staffio nid oedd hyn wedi digwydd ac fe fyddir yn ail-drefnu maes o law.

 

Cyfeiriwyd at lansiad Ymgyrch Neifion a oedd wedi ei gynnal yn ddiweddar yn Ysgol Tywyn yn dilyn adroddiadau fod beicwyr môr yn aflonyddu a phoeni dolffiniaid oddi ar arfordir Abersoch a Thywyn. 

 

Mewn ymateb i’r uchod, nododd Aelod bryder nad oedd swyddogion ac Aelodau yn ymwybodol o ddigwyddiadau lleol ac y dylid sicrhau gwell cyfathrebu rhwng Adrannau i’r dyfodol. 

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod ac y byddai’r Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig yn dilyn y pryder i fyny gyda’r Adran berthnasol.

 

 (b)   Mordwyo

 

Adroddwyd bod bwi'r “Fairway” wedi dod oddi ar ei safle yn dilyn storm “Doris” yn ddiweddar a sicrhawyd y byddir yn anfon Rhybudd i Forwyr yn ddi-oed ac y byddai  trefniadau i’w gwneud gyda’r contractwr lleol i’w osod yn ôl ar y safle.

 

Ychwanegwyd bod cymhorthydd ar y morglawdd yn ardal Tywyn i’w roi yn ôl ar safle ond y byddai’n ofynnol sicrhau bod y llanw a’r tywydd yn dderbyniol i gyflawni’r gwaith.

 

Yn gyffredinol, er gwaethaf y tywydd garw yn ystod storm “Doris” ‘roedd y cymhorthyddion eraill yr harbwr ar eu safleoedd priodol, er hynny, byddir yn sicrhau bod pob cymhorthydd sydd allan o safle yn cael eu ail leoli cyn 1 Ebrill 2017.

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.

 

 (c)       Cynnal a Chadw

 

Amlinellodd yr Harbwr Feistr ar y gwaith a gyflawnwyd dros y gaeaf sef:

·         Pont y Brics

·         Atgyweirio o gwmpas yr Harbwr

·         Atgyweirio ochr y Gerddi wrth ymyl Swyddfa’r Harbwr

·         Gosod bariau / rhwystrau ar ochr y promenâd i atal y tywod ddod drosodd

 

Gobeithir glanhau’r llithrfa’r Bad Achub cyn dechrau’r tymor ynghyd â manion eraill gan sicrhau bod popeth yn barod erbyn Gwyliau’r Pasg.

 

Apeliwyd ar Aelodau’r Pwyllgor hwn i gysylltu gyda’r Harbwr Feistr ar faterion gweithredol fel bod llif y gwaith yn rhedeg yn esmwyth.

 

Derbyniodd y Gwasanaeth air o ddiolch gan gynrychiolydd ar ran Clwb Cychod Aberdyfi am y gwasanaeth a dderbynir gan swyddogion yr Harbwr.

 

(ch)      Materion Staff

 

(i)         Adroddwyd bod cytundeb Cymhorthydd Harbwr Aberdyfi (tymhorol) wedi ei ymestyn ar drefniant tri diwrnod yr wythnos hyd at ddiwedd Mawrth 2017 yn hytrach na symud staff ac sydd wedi profi’n gost effeithiol.  Bwriedir cyflogi dau Gymhorthydd Harbwr (1 ym Mhorthmadog ac 1 ar gyfer Aberdyfi / Tywyn) yn llawn amser o’r 1 Ebrill ymlaen a fydd yn cael ei gyllido o gyllideb  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4.

5.

MATERION I'W HYSTYRIED AR GAIS AELODAU'R PWYLLGOR YMGYNGHOROL

·         Arwyddion Traeth y Bad Achub

Cofnod:

Trafodwyd y materion fel rhan o adroddiad y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig.

 

6.

DYDDIAD CYFARFOD NESAF

I nodi y cynhelir cyfarfod nesaf Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi at 10 Hydref 2017. 

Cofnod:

Penderfynwyd:          Er bod y cyfarfod nesaf wedi ei bennu ar gyfer 10 Hydref 2017, gofynnwyd i’r Swyddog Cefnogi Aelodau ail-drefnu dyddiad ar ddyddiad cyfleus ym mis Tachwedd gan y byddai’n amserol o ran cyflwyno adroddiadau cyllidol