Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Neuadd Dyfi, Aberdyfi, LL35 0NR

Cyswllt: Sion Owen  01286 679665

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Mr Brian Bates (Bad Achub), Mr Barry Davies (Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig) 

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o gysylltiad personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

COFNODION pdf eicon PDF 73 KB

I dderbyn a chadarnhau cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgr Harbwr a gynhaliwyd ar 13 Tachwedd 2018.

Cofnod:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi gynhaliwyd ar y 13 Tachwedd 2018.

 

Penderfynwyd: Derbyn a chymeradwyo’r cofnodion fel rhai cywir.

 

4.

ADRODDIAD GAN YR UWCH SWYDDOG HARBYRAU pdf eicon PDF 69 KB

I dderbyn adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(a)       Diweddariad ar Faterion Rheoli’r Harbwr

 

Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Harbyrau ei adroddiad, gan nodi:

-          Ei fod yn rhagweld y byddai contractwyr angorfeydd yn gosod angorfeydd yn yr harbwr yn niwedd Mawrth, gan gyflwyno Tystysgrif Ansawdd Angorfeydd i’r Harbwrfeistr cyn y gellid angori unrhyw gwch.

-          Fod adolygiad o drefniadau harbyrau Gwynedd yn cael ei gynnal gan yr Asiantaeth Forwrol  a Gwylwyr y Glannau ar drefniadau diogelwch.

-          Fod swydd harbwrfeistr cynorthwyol llawn amser ar fin cael ei hysbysebu, gyda’r bwriad o gael yr harbwrfeistr cynorthwyol newydd yn ei le erbyn y Pasg.

-          Cyflwynodd adroddiad ar gyllidebau’r Harbwr, gan nodi tra bod tanwariant pan gynhyrchwyd yr adroddiad ariannol yn niwedd Chwefror, ac y byddai’r arian hwnnw wedi cael ei wario ar gwblhau gwaith rhaglenedig erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.

-          Fod gwariant tir ac adeiladau a nodwyd yn cael ei wario ar renti a chynnal a chadw o gwmpas yr harbwr. Roedd swyddfa’r harbwrfeistr wedi ei gynnwys yma, a nodwyd fod lleoliad swyddfa’r Harbwrfeistr yn cael ei adolygu gan nad oedd yr adeilad presennol yn cwrdd â gofynion modern.

 

Sylwadau a chwestiynau yn codi o’r drafodaeth:

-          Faint o geisiadau oedd wedi eu derbyn ar gyfer angorfeydd?

-          Nodwyd pryder fod y broses o benodi harbwrfeistr cynorthwyol yn araf, a bod yr amserlen yn dynn os oedd bwriad i benodi erbyn y Pasg.

-          Sut y llwyddwyd i beidio gwario dim o’r gyllideb ar gyfer cychod a cherbydau?

 

Mewn ymateb nododd yr Harbwrfeistr ei fod yn amcangyfrif fod 75 i 80 ffurflen gais wedi eu derbyn. Byddai’n rhannu’r nifer terfynol gydag aelodau’r Pwyllgor oedd â diddordeb pan fyddai’r rhif hwnnw ar gael.

 

Ychwanegodd yr Uwch Swyddog Harbyrau ei fod yn rhannu pryder aelodau’r pwyllgor am arafwch y broses o benodi hawrbwrfeistr cynorthwyol, ond bod diddordeb wedi ei ddangos yn y swydd. Nododd fod costau cychod a cherbydau’r Harbwr yn digwydd dod o gyllidebau eraill ac felly heb eu dangos ar y fantolen. Fodd bynnag, nododd fod cwch yr Harbwrfeistr wedi bod allan o’r dŵr ac angen gwaith atgyweirio cyn bod yn ddiogel i’w ddefnyddio, ond nad fyddai cyllideb ar gael i wneud y gwaith hwnnw tan y flwyddyn ariannol nesaf.

 

(b)       Adroddiad yr Harbwrfeistr

 

Cyflwynodd yr Harbwrfeistr ei adroddiad gan nodi’r prif bwyntiau canlynol:

-       Fod Harbwr Aberdyfi wedi cael archwiliad gan Dy’r Drindod ar drefniadau diogelwch a mordwyo, gan ganfod fod y trefniadau priodol mewn lle.

-       Fod cwrs sianel fordwyo Harbwr Aberdyfi wedi culhau a symud i’r gogledd. ‘Roedd hyn wedi achosi llawer o waith addasu er mwyn cynorthwyo a sicrhau diogelwch mordwyo. Pwysleisiwyd pwysigrwydd cysylltu â swyddfa’r harbwr er mwyn cael gwybodaeth gyfredol am ddiogelwch mordwyo.

-       Fod gwaith cynnal a chadw wedi ei wneud, a gofynnodd am sylwadau ar raglen waith cynnal a chadw ar gyfer gaeaf 2018-19.

-       Fod arwyddion diogelwch wedi eu gosod yn Nhywyn ac Aberdyfi yn dilyn adolygiad manwl ar y cyd gyda’r RNLI.

-       Fod cyflwr y llwyfan cerdded pren  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4.

5.

DYDDIAD CYFARFOD NESAF

I nodi bydd cyfarfod nesaf Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi yn debygol o gael ei gynnal ar 12 Tachwedd 2019.

Cofnod:

Nodwyd byddai cyfarfod nesaf y Pwyllgor yn cael ei drefnu ar gyfer Tachwedd 12 2019 yn Neuadd Dyfi, Aberdyfi.