skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Natalie Lloyd Jones  01286 679490

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Y Cynghorydd Gareth Thomas, Llyr B. Jones (Pennaeth Cynorthwyol Economi a Chymuned), Cynghorydd Bob Tyrrell (Cyngor Cymuned Aberdyfi), Will Stockford (Harbwrfeistr Aberdyfi).

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Dim i’w nodi.

 

3.

COFNODION pdf eicon PDF 124 KB

a)    Cadarnhau cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 2ail Fawrth 2021 fel rhai cywir

b)     Materion yn codi

 

Cofnod:

a.     Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 2ail o Fawrth, 2021, fel rhai cywir.

 

b.    Nid oedd unrhyw faterion yn codi o’r cofnodion

 

4.

DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL YR HARBWR pdf eicon PDF 286 KB

I ystyried yr adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

(1)  Penderfynwyd nodi a derbyn yr adroddiad.

 

(2)   Ymateb i bapur ymgynghori’r Adran Drafnidiaeth “Strengthening enforcement of the dangerous use of recreational and personal watercraft” bod y pwyllgor hwn yn ffafrio opsiwn 3, sef llunio deddfwriaeth dan adran 112 o Ddeddf Diogelwch Rheilffyrdd a Thrafnidiaeth 2003 i ymestyn darpariaethau perthnasol Deddf Llongau Masnach 1995, a rheoliadau perthnasol, i gynnwys badau dŵr hamdden a phersonol.

 

Cofnod:

 

Rhoddwyd diweddariad ar faterion rheolaethol yr harbwr gan y Uwch Swyddog Harbyrau. Nododd y prif bwyntiau fel a ganlyn:

 

-    Bod 76 o gychod ar angorfeydd o gymharu â 47 yn 2020. Ategodd yn gyffredinol, bod harbyrau Gwynedd wedi gweld cynnydd yn nifer y cychod ar angorfeydd.

-    Tybiwyd bod y cynnydd o ganlyniad i ryddhad rheoliadau Covid-19 yn ogystal â’r parhad o’r rhwystrau i deithio dramor.

-    Rhannwyd bod y drefn cofrestru ar-lein ar gyfer cychod pŵer a jetskis wedi bod yn llwyddiant

-    Crynhowyd y cyfanswm cofrestriadau 1,308 a chyfanswm ar gyfer cofrestriadau Cychod Dwr Personol (jestskis) 1,302.

-    Nododd bod y Pwyllgor yn ymwybodol bod y gwasanaeth yn cydymffurfio â’r cod diogelwch morwrol, ac ategodd i aelodau eu hysbysu ynghylch unrhyw sylwadau.

 

Cyflwynwyd diweddariad ar faterion staffio fel a ganlyn:

 

-    Nododd nad yw’r lefel staffio wedi newid ers yr adroddiad diwethaf ac ategodd bod y gwasanaeth yn medru galw staff o Borthmadog neu Abermaw os oes angen yn codi.

-    Penodwyd 2 warden traeth i gynorthwyo gyda goruchwylio rheolaeth ar brif draeth Aberdyfi ac ategwyd yn ôl adborth gan drigolion bod hyn wedi bod yn llwyddiant.

-    Mewn perthynas â materion Pwyllgor, mynegwyd balchder yn y gefnogaeth sydd i’r Pwyllgor hwn, a rhannwyd bod sedd wag ar hyn o bryd. Dywedodd bod cais wedi dod gan y mudiad bad achub i lenwi’r sedd, a gofynnwyd am gefnogaeth yr aelodau i sicrhau bod y sedd yn cael ei lenwi erbyn y cyfarfod nesaf yn y Gwanwyn.

 

 

 

Cyflwynwyd materion ariannol gan Reolwr Morwrol, aethpwyd ati i egluro’r sefyllfa ariannol yr Harbwr gan nodi’r gyllideb, gwariant a gwir wariant ac egluro unrhyw gôr neu danwariant i’r aelodau.

 

Aethpwyd ati i drafod y ddogfen ar ymgynghoriad cryfhau gorfodaeth ar ddefnydd peryglus cychod pleser a badau dwr personol. Eglurodd bod dyddiad cau'r ymgynghoriad wedi bod, fodd bynnag mae llythyr wedi ei hysgrifennu i’r Adran Drafnidiaeth yn Llundain yn nodi dyddiad y pwyllgor hwn ac yn egluro y bydd sylwadau Cyngor Gwynedd yn cael eu rhannu yn dilyn y Pwyllgor.

 

Adroddwyd bod 4 opsiwn ynghlwm a’r ymgynghoriad gyda’r un ffafriol i ddiwygio’r ddeddf Diogelwch Rheilffyrdd a Thrafnidiaeth 2003 i ymestyn darpariaethau perthnasol Deddf Llongau Masnach 1995, a rheoliadau perthnasol, i gynnwys badau dŵr hamdden a phersonol. Eglurodd bod y Pwyllgorau harbyrau eraill, eisoes wedi penderfynu cefnogi’r opsiwn yma. Ategodd nad oed rhaid dilyn y dewis hwn a gofynnwyd am farn yr Aelodau.

 

 

Yn ystod y drafodaeth cafwyd y sylwadau isod gan aelodau:

 

-    Mynegwyd balchder o weld bod niferoedd y cychod yn uwch gan i fod yn dda iawn i’r gwasanaeth o ran cyllid ychwanegol.

-    Gofynnwyd am gywirdeb gyda niferoedd gan fod y copi Saesneg yn wahanol i’r un Gymraeg o ran nifer cofrestriadau.

-    Rhoddwyd sylw am gwt y wardeniaid traeth a gofynnwyd a yw’n bosib gosod rhywbeth mwy gweddus i’r ardal.

-    Nodwyd bod y staff wedi wynebu tymor prysur iawn a diolchwyd i’r holl staff a oedd ar gael o gwmpas yr harbwr.  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4.

5.

ADRODDIAD YR HARBWRFEISTR pdf eicon PDF 119 KB

I ystyried adroddiad yr Harbwrfeistr.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Harbwrfeistr Cynorthwyol yn nodi’r prif bwyntiau ar y materion gweithredol fel a ganlyn:

 

-        Gyda materion mordwyo nododd bod y sianel yn newid yn gyson ac yn cael ei fonitro drwy gydol y tymor fel bod modd rhoi rhybuddion i forwyr

-        Eglurwyd bod ‘Trinity House’ wedi bod i archwilio a nodwyd bod contractwyr lleol wedi cwblhau’r gwaith cynnal a chadw fel yr ofynnwyd ar y cynorthwyon mordwyo.

-        Mewn perthynas â materion gweithredol, nododd bod diwedd ar y cyfyngiadau Covid wedi arwain at Haf brysur iawn ond bod y wardeniaid ychwanegol wedi bod o gymorth mawr.

-        Ychwanegodd bod y mwyafrif o ymwelwyr wedi bod yn barchus, fodd bynnag cofnodwyd ambell i brofiad amharchus. Nododd yn ychwanegol bod cynnydd mewn sbwriel yn cael ei adael o amgylch yr harbwr a’r traeth.

-        Eglurodd bod cynnydd aruthrol mewn SUP’s (StandUp Paddleboards) ar y traeth, llwyddodd y warden i gynghori defnyddwyr ar ddiogelwch y môr ag i gadw’r sianel yn glir.

-         Aethpwyd ati i egluro’r holl waith cynnal a chadw sydd wedi bod megis gyda’r cytiau a’r bad patrolio.

 

 

Ychwanegodd y Rheolwr Morwrol y canlynol:

 

-        Bod recriwtio i swyddi tymhorol yn heriol a gofynnwyd i’r aelodau hysbysebu unrhyw swyddi o fewn eu wardiau neu gymunedau.

-        O ganlyniad i gamdriniaeth eiriol, mae’r gwasanaeth wedi buddsoddi mewn camerâu Teledu Cylch Gyfyng i staff wisgo.

-        Er mwyn ymdrin â sbwriel, y rhan fwyaf o ganlyniad i ymwelwyr yn dal crancod, nododd bydd angen cydweithio efo siopau lleol sy’n gwerthu’r offer yn ogystal â lleoli biniau ar gyfer plastig o amgylch yr harbwr.

-        Eglurodd sefyllfa wal y cei gan nodi ei fod yn deall rhwystredigaeth y Pwyllgor wrth i hyn fod yn bwnc trafod ers blynyddoedd. Fodd bynnag, nododd bod y gwaith wedi ei hail dendro a bod y ceisiadau yn cael eu hasesu gan yr adran YGC.

-        Ychwanegodd y byddai’r cyfathrebu gyda’r aelodau wedi’r penderfyniad gael ei wneud ar enillydd y contract.

 

Cafwyd y wybodaeth isod ynghylch sefyllfa Ynys Picnic gan gynrychiolydd Outward Bound Trust:

 

-        Nodwyd erbyn y pwyllgor nesaf bydd bont yn ei le neu ar y ffordd. Diolchwyd i Network Rail am eu cefnogaeth tra bod y gwaith yn digwydd.

-        Eglurodd bod partneriaid lleol a Chyngor Gwynedd yn asesu’r sylfaen ym mis Tachwedd ac yna bydd broses o dynnu’r hen strwythur a’i ddisodli gydag un newydd.

-        Mewn perthynas â chostau, nododd y Rheolwr Morwrol bod costau dur er enghraifft wedi cynyddu yn sylweddol a gobeithiwyd bod y tendr ffurfiol yn dod o fewn y gyllideb.

 

 

 

Yn ystod y drafodaeth, cafwyd y sylwadau isod gan aelodau:

 

-        Holwyd os oedd cost i’r gwasanaeth harbyrau i ddelio efo sgerbydau anifeiliaid sy’n cael eu golchi mewn gan y môr.

-        Mynegwyd bod llawer o bethau positif wedi bod yn yr ardal dros yr haf ond am y sbwriel. Ategwyd aelodau bod angen cychwyn sgwrs efo siopau ac awgrymwyd system benthyca offer fel eu bod yn dychwelyd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

MATERION I'W HYSTYRIED AR GAIS AELODAU'R PWYLLGOR YMGYNGHOROL

I ystyried materion ar gais yr Aelodau.

Cofnod:

Holwyd aelod ynghylch hylendid dŵr yn yr afon a beth yw’r diweddariad gyda’r llygredd i’r afon Ddyfi.

 

Nodwyd aelod bod tywod ar y stryd fawr yn broblem a chyfeiriwyd at y Pwyllgor blaenorol pan drafodwyd hyn a phenderfynwyd peidio ymyrryd gan nad oedd arian o fewn y gyllideb. 

Ategodd aelod bod hyn yn peri anawsterau i’r bad achub gan fod tywod ar y llithrfa.

 

Mewn ymateb i’r materion, nododd y Rheolwr Morwrol y pwyntiau canlynol:

 

-    Aberdyfi yn cyrraedd y gofynion angenrheidiol o ran hylendid dwr yn ôl Llywodraeth Cymru.

-    Ychwanegodd os oes risg i ansawdd dwr ymdrochi, bod y Gwasanaeth yn derbyn rhybuddion gan Gyfoeth Naturiol Cymru ac yna’n hysbysebu’r rhybuddion.

-    Nododd os oes unrhyw bryderon llygredd yn dod o lefydd penodol, y dylid hysbysebu CNC ar frys fel bod modd i swyddogion archwilio unrhyw honiad.

-    Mewn perthynas â’r tywod, cydymdeimlwyd gyda’r broblem ond nododd nad oes gan y Gwasanaeth arian i lanhau llithrfa yn rheolaidd a gofynnwyd i’r bad achub rhoi rhaglen mewn lle i sicrhau bod y lithrfa’n glir.

 

 

7.

DYDDIAD CYFARFOD NESAF

Nodi bydd cyfarfod nesaf y Pwyllgor yn cael ei gynnal 22ain o Fawrth 2022.

Cofnod:

Cadarnhawyd bod y cyfarfod nesaf ar y 22ain o Fawrth, 2022.