skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Y Cynghorydd Gareth Thomas (Aelod Cabinet Economi a Chymuned), Cynghorydd Bob Tyrrell (Cyngor Cymuned Aberdyfi), Al Crisp (Outward Bound Wales), Josh Cooper (RNLI Aberdyfi) ac Arthur Francis Jones (Uwch Swyddog Harbyrau)

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Diweddariad ar brosiectau Wal y Cei a Phont Bryn Llestair (Picnic Island Bridge)

 

          Wal Cei Aberdyfi

 

Croesawyd Owain Griffiths (Prif Beiriannydd Ymgynghoriaeth Gwynedd) i’r cyfarfod i roi diweddariad ar brosiect wal y cei. Adroddwyd, wedi derbyn tri chais am y gwaith bod yr Uned, wedi dilyn proses o asesu’r ceisiadau, yn y broses o gynnig y gwaith i gwmni sydd yn arbenigo fel Contractwr Morol o fewn Peirianneg Sifil o’r enw Teignmouth Maritime Services Ltd (TMS) o Ddyfnaint.

 

Derbyniwyd bod y broses wedi bod yn un hir, ond bellach bod llythyr gan Lywodraeth Cymru wedi ei dderbyn yn cadarnhau telerau'r grant ynghyd ag arian cyfatebol gan Gyngor Gwynedd i dalu am y gwaith. Amlygwyd mai’r cam nesaf fydd gosod rhaglen ddiwygiedig a thrafod cyfnod yr achos busnes yn llawn gyda’r cwmni. Nodwyd nad oedd dyddiad pendant ar gyfer dechrau’r gwaith, ond unwaith y daw rhaglen ddiwygiedig i law, byddai’r wybodaeth yn cael ei rhyddhau. Cadarnhawyd bod yr arian yn ddiogel a bod y cwmni eisoes wedi ymweld â’r safle ac wedi cyfarfod rhai rhandaliad. Ategwyd mai dymuniad YGC oedd sefydlu un grŵp i ymgysylltu gyda’r gymuned fydd yn cyfarfod yn rhithiol unwaith y mis i drafod materion yn ymwneud â’r prosiect - y bwriad yw cynnal y cyfarfod cyntaf yn ystod mis Ebrill.

 

Yn dilyn y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau;

·         Bod y newyddion yn bositif ac i’w groesawu

·         Doeth fyddai cael Clerc Cyngor Cymuned Aberdyfi yn aelod o’r grŵp cymunedol

·         Dylid llunio rhaglen waith a pharatoi ar gyfer cyfnod cyn gweithreduposib trefnu storfeydd, symud offer a pharatoi mynediadawgrym amser o ryw 6 wythnos

·         Bydd angen ystyried effaith y gwaith ar yr economi leol - y gwaith yn debygol o gael ei weithredu yn ystod cyfnod prysur / gwyliau ysgol. Os yw’r arian yn ei le onid gwell fyddai oedi fel y bydd llai o darfu ac effaith ar y gymuned?

·         Bod prisiau offer, dur, tanwydd ac adnoddau yn codi

·         Bydd loriau trwm yn cario dur yn amharu ar symudiadau yn y drefangen paratoi ar gyfer hyn

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn ag oedi’r gwaith, ystyriwyd mai gwell fyddai gweithredu mor fuan â phosib gan y byddai dechrau ar y gwaith yn ystod misoedd yr Hydref yn agored i risgiau tywydd garw a chynnydd mewn costau adnoddau. Ategwyd bod pryderon eisoes yn bodoli ynglŷn â phryniant offer (sheet piles) ar gyfer creu sylfaen - dyma’r mater fydd yn pennu dechrau’r gwaith. Sicrhawyd bod y pryderon yn cael eu hystyried, ond doeth fyddai parhau ac ymdrin ag unrhyw faterion wrth iddynt godi.

 

Phont Bryn Llestair (Picnic Island Bridge)

 

Amlygodd Mr Barry Davies (Rheolwr Gwasanaeth Morwrol), er yr oediad, bod bwriad cwblhau'r gwaith yn 2022. Nodwyd bod y gwaith yn cael ei ariannu drwy gyfraniadau gan Cyngor Gwyendd, Outward Bound Wales, FLAG a Network Rail, ond bellach bod costau dur wedi cynnydd yn sylweddol ac felly y gyllideb yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 3.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 220 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 2il o Dachwedd 2021 fel rhai cywir  

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar Dachwedd 2il

2021, fel rhai cywir.

 

          Nid oedd unrhyw faterion yn codi o’r cofnodion

 

 

5.

DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL YR HARBWR pdf eicon PDF 108 KB

I ystyried adroddiad yr Uwch Swyddog Harbwr

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a nodi yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiadau isod, a gwahoddwyd yr Aelodau i gynnig sylwadau am eu cynnwys a gofyn cwestiynau.

 

a)      Adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau yn rhoi diweddariad cryno i’r pwyllgor ar faterion yr harbwr ar gyfer y flwyddyn a ddaw i ben Mawrth 2022.

Yn absenoldeb yr Uwch Swyddog Harbyrau nododd Rheolwr Gwasanaeth Morwrol mai braf oedd cyhoeddi blwyddyn lwyddiannus gyda chynnydd yn nifer ymwelwyr a chwsmeriaid yn adlewyrchu llacio graddol cyfyngiadau covid a rhwystrau teithio tramor.

 

Tynnwyd sylw at y materion canlynol:

 

Angorfeydd a chofrestru cychod

 

Adroddwyd y byddai’r gwasanaeth cofrestru a thalu ar lein yn agor i gwsmeriaid gofrestru eu llestr drwy wefan y Cyngor ar y 31ain o Fawrth 2022. Adroddwyd bod y drefn a gyflwynwyd Mawrth 2021 wedi bod yn llwyddiannus iawn a gwelwyd am y tro cyntaf restr aros am angorfeydd yn Harbwr Pwllheli.

 

Côd Diogelwch Morol Porthladdoedd

 

Nodwyd bod y Gwasanaeth yn adolygu’r Côd Diogelwch Morol yn rheolaidd er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i gydymffurfio’n llawn gyda’r safonau diogelwch yn harbyrau Gwynedd - bydd archwiliad allanol o’r côd yn cael ei gynnal gan unigolyn dynodedig. Ategwyd bod datganiad cydymffurfiaeth wedi ei arwyddo ac wedi ei gyflwyno i’r Asiantaeth Gwylwyr y Glannau. Amlygwyd pryderon difrifol ynglŷn â chyflwr y cei yn Aberdyfi (dim o ran ei strwythur ond y risg uchel i ddefnyddwyr eraill). Er bod gwybodaeth ac arwyddion yn ymddangos ar y cei yn amlygu risgiau a phryderon i ddiogelwch y cyhoedd, rhaid gwneud mwy ac mae yn anorfod bod yr Uned Morwrol yn gweithredu ar frys i sicrhau diogelwch y safle. Nodwyd bod y risg o beidio clirio / cadw offer pysgotwyr wedi ei gyfarch drwy greu lle cadw offer yn y compownd a derbyniwyd bod angen sicrhau cydweithrediad gan y pysgotwyr i flaenoriaethu diogelwch y cyhoedd. Ategwyd, pan fydd y gwaith clirio yn dechrau ar gyfer wal y cei, bydd yr offer yn cael ei symud yn barhaol i’r compownd.

 

Anogwyd yr Aelodau i gyflwyno sylwadau rheolaidd ar addasrwydd y Côd Diogelwch Morol

 

Materion Staffio

 

Canmolwyd yr holl staff (harbwr a thraeth) am eu gwasanaeth drwy gydol y pandemig i sicrhau diogelwch yr harbwr a’r traeth gan gydymffurfio yn llawn gyda chanllawiau Llywodraeth Cymru. Nodwyd bod 2 swydd barhaol yn Harbwr Aberdyfi gyda bwriad o gyflogi 2 swydd dymhorol yno a 3 yn Nhywyn. Ategwyd, bod ymateb i’r swyddi wedi bod yn siomedig iawn ond braf oedd cael adrodd bod Mr George Watson yn dychwelyd - un a phrofiad yn y maes, yn arweinydd tîm cryf ac yn gyfathrebwr da.

 

Materion Ariannol

 

Amlygwyd y tebygolrwydd y byddai ffioedd a thaliadau arfaethedig ar gyfer Harbwr Aberdyfi, ynghyd a ffioedd lansio cychod pŵer a chychod personol am 2022/23, yn codi yn unol â chyfradd chwyddiant.

 

Diolchwyd am yr adroddiad. Braf oedd adrodd bod y sefyllfa ariannol yn bositif ac er mai bychan yw’r incwm, bod cyfraniad yr Harbwr a thraeth Aberdyfi yn werthfawr i’r economi leol.

 

(b)    Adroddiad yr Harbwr Feistr yn crynhoi’r materion Mordwyo a Gweithredol a wnaed ac  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

MATERION I'W HYSTYRIED AR GAIS AELODAU'R PWYLLGOR YMGYNGHOROL

I ystyried materion a dderbyniwyd

Cofnod:

Dim i’w nodi

7.

DYDDIAD CYFARFOD NESAF

I nodi bydd cyfarfod nesaf Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi yn cael ei gynnal 25ain o Hydref 2022

 

Cofnod:

Cadarnhawyd bod y cyfarfod nesaf ar y 25ain o Hydref 2022.