skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Zoom

Cyswllt: Rhodri Jones  01286 679326

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

Ethol Cadeirydd ar gyfer 2022/23.

Penderfyniad:

Etholwyd y Cynghorydd Robert Dewi Owen fel Cadeirydd y Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi ar gyfer y flwyddyn 2022/23.

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Dewi Owen yn Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer y flwyddyn 2022/23.

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

Ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2022/23.

Penderfyniad:

Etholwyd Y Cynghorydd John Pughe fel Is-gadeirydd y Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi ar gyfer y flwyddyn 2022/23.

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd John Pughe yn Is-gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer y flwyddyn 2022/23.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Y Cynghorydd Anne Lloyd Jones ac William Arthur Stockford (Harbwrfeistr Aberdyfi).

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

5.

MATERION BRYS

Ystyried unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi.

 

6.

COFNODION pdf eicon PDF 227 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 29 Mawrth, 2022 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r cyfarfod hwn a gynhaliwyd ar 29 Mawrth 2022, fel rhai cywir.

 

7.

DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL YR HARBWR pdf eicon PDF 246 KB

Cyflwyno adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodi a derbyn yr adroddiad

.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiadau isod, a gwahoddwyd yr Aelodau i gynnig sylwadau am eu cynnwys a gofyn cwestiynau.

 

Adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau yn rhoi diweddariad cryno i’r pwyllgor ar faterion yr harbwr ar gyfer y flwyddyn a ddaw i ben Mawrth 2023.

 

·       Atgoffwyd yr aelodau fod cylch gorchwyl pwyllgorau’r harbwr wedi cael ei greu o dan Adran 102 Deddf Llywodraeth Leol 1972 a bod Cabinet y Cyngor yn cadarnhau’r aelodaeth.

·       Eglurwyd fod Aelod Cabinet Economi a Chymuned yn cael gwahoddiad i fynychu’r cyfarfodydd er mwyn trafod materion pwysig gyda’r aelodau, cyn adrodd yn ôl i’r Cabinet ble fydd angen.

·       Datganwyd fod lleihad yn y nifer o gychod ar angorfeydd yr harbwr. Mae hyn yn achosi pryder gan fod gostyngiad o tua 30% wedi bod yn y ffigyrau hyn yn y blynyddoedd diwethaf, Er hyn, cadarnhawyd fod gwaith yn cael ei wneud er mwyn hysbysebu’r angorfeydd er mwyn cynyddu’r nifer o ddefnyddwyr unwaith eto.

·       Pwysleisiwyd fod yr harbwr dal i fod yn brysur iawn. Fe welir tystiolaeth o hyn yn y ffaith fod nifer uchel iawn o bobl wedi cofrestru i gadw eu cychod ar yr harbwr. Nodwyd hefyd fod defnydd cyffredinol o gychod yn uchel iawn. Er bod y ffigyrau wedi lleihau ychydig, mae’r defnydd o’r harbwr yn uchel iawn o’i gymharu gyda harbyrau eraill y sir.

·       Cadarnhawyd bod cyfarfod herio perfformiad wedi cael ei gynnal ar 21ain Hydref 2022.

·       Mynegwyd diolchiadau i bawb o fewn y Clwb Hwylio, Outward Bound, y Clwb Rhwyfo a’r Bad Achub am gydweithio mor effeithiol gyda’r harbwr yn ystod y flwyddyn.

 

·       Canmolwyd y cwmni sydd wedi bod yn brysur yn ddiweddar yn gwneud gwaith adeiladu o gwmpas yr harbwr drwy adnewyddu wal y cei. Roedd aelodau yn falch iawn fod grisiau pwrpasol yn cael ei ymgorffori fewn i wal y cei ac y bydd y grisiau hyn yn defnyddiol er mwyn bod o gymorth i’r rhai fydd yn ceisio mynediad at ei cychod wrth ymweld ac Aberdyfi.

o   Nodwyd bod un cornel o adeilad yr harbwr yn disgyn 10mm ac mae gwaith yn cael ei wneud er mwyn sicrhau fod strwythur yr adeilad yn parhau i fod yn gadarn

·       Holiwyd am leoliad cywir y grisiau. Yn wreiddiol, credwyd bod y ddau set o risiau yn mynd i’r lanfa er mwyn cynorthwyo’r cychod. Bellach mae un set o’r grisiau ar y lanfa ger swyddfa’r harbwr ac un arall o flaen y Clwb Hwylio.

o   Cadarnhawyd fod y grisiau yn cael eu rhannu ar gyfer y defnydd gorau i’r holl ddefnyddwyr cyn decaf â phosibl. Bydd cynllun y gwaith adeiladu yn cael ei rannu gyda’r aelodau fel rhan o grŵp ffocws er mwyn iddynt allu gweld sut bydd yr harbwr yn edrych yn dilyn yr holl waith adeiladu sy’n mynd yn ei flaen ar hyn o bryd.

 

Côd Diogelwch Morol Phorthladdoedd

 

·       Manylwyd fod yr harbwr wedi cymryd rhan mewn dau asesiad diweddar gan Wylwyr y Glannau. Mae’r canlyniadau o’r asesiadau hynny yn dangos fod yr harbwr yn cydymffurfio â’r côd.

·       Cadarnhawyd bod holl asesiadau risg  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

ETHOL SYLWEDYDDION

I ethol sylwedyddion i wasanaethu ar y canlynol:

 

a)    Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Porthmadog

b)    Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Abermaw

c)     Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Pwllheli

 

Penderfyniad:

Etholwyd Desmond George a David Williams yn Sylwedyddion ar Bwyllgorau Ymgynghorol Harbyrau Pwllheli, Abermaw a Porthmadog. 

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD

 

Etholwyd Desmond George yn Sylwedydd ar Bwyllgorau Ymgynghorol Harbyrau Pwllheli, Abermaw a Porthmadog, ac i David Williams fynychu yn ei le os nad yw’n gallu bod yn bresennol.

 

9.

DYDDIAD CYFARFOD NESAF

Nodi y cynhelir cyfarfod nesaf Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi ar 21 Mawrth, 2023.

Cofnod:

Cadarnhawyd bod y cyfarfod nesaf ar y 21ain o Fawrth 2023.

 

Cymerwyd y cyfle i ddiolch yn fawr i’r Rheolwr Harbyrau am flynyddoedd o waith caled ac am ei ymrwymiad a’i angerdd tuag at harbyrau’r sir. Rhannwyd dymuniadau gorau iddo yn ei ymddeoliad.