Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Hen Eglwys y Santes Fair, Tremadog

Cyswllt: Glynda O'Brien  (01341) 424301

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau oddi wrth Andrew Roberts (Ysgol y Berwyn), Dylan Minnice (Ysgol Botwnnog), Dewi Lake (Ysgol y Moelwyn), Dafydd Meirion Roberts (Ysgol Brynrefail), Menna Wynne Pugh (Ysgol Penybryn, Tywyn), Trystan Larsen (Ysgol Rhostryfan), Gwilym Jones (Ysgol Borth y Gest).

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Derbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan y Cynghorydd Peredur Jenkins a Mrs Llinos Lloyd yn Eitem 7 ar y rhaglen gan eu bod yn llywodraethwyr ar gorff cysgodol Ysgol Bro Idris

3.

COFNODION pdf eicon PDF 332 KB

I gadarnhau cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 4 Gorffennaf 2016.

 

(Copi’n amgaeedig)

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r Fforwm Cyllideb Ysgolion a gynhaliwyd ar 4 Gorffennaf 2016 fel rhai cywir.

 

4.

MATERION YN CODI O’R COFNODION

Cofnod:

Adroddodd y Pennaeth Cyllid bod setliad grant 2017/18 llywodraeth leol yn dangos cynnydd o 0.1% ar gyfartaledd  i awdurdodau lleol Cymru, sydd wedi’w groesawu gan rai, er ei fod yn annigonol i gynnal parhad ein gwasanaethau cyfredol oherwydd chwyddiant, yr ardoll prentisiaeth, ayb, a bod costau annisgwyl ym maes gofal cymdeithasol hefyd yn taro’r Cyngor.  Fodd bynnag, atgoffwyd y Fforwm bod gwaith cadarn wedi cael ei gyflawni flwyddyn yn ôl i wynebu’r toriadau,  a chynlluniau ar droed, er bu llithriad ag ambell strategaeth, megis anghenion dysgu ychwanegol.  Ni ragwelir gofyn am gyfraniad ychwanegol i’r £4.3m gan yr ysgolion yn 2017/18.  Yn dilyn derbyn y setliad drafft, gwnaethpwyd asesiad a rhagwelir y bydd rhaid i’r Cyngor gynllunio ar gyfer arbediad o oddeutu £8m dros y blynyddoedd 2018/19 – 2019/20.  Ychwanegwyd nad oedd rhai awdurdodau wedi bod mor ddarbodus â Chyngor Gwynedd, a rhagwelwyd toriadau i ysgolion dros y ffin yn 2017/18.

 

Nododd Bennaeth Uwchradd bryder o safbwynt rhagolygon y sector uwchradd yn 2017/18 a’u bod yn wynebu lleihad mewn niferoedd disgyblion am un flwyddyn a olygai oddeutu £400k o golled ‘demograffi’ i’r sector a darganfod oddeutu £300k o arbedion.  Rhagwelir blwyddyn anodd iawn i’r sector uwchradd ac amlygwyd yr angen i osgoi gorfod diswyddo staff ym Medi 2017 ac wedyn ail-gyflogi staff y flwyddyn ganlynol.  Nodwyd ymhellach bod ysgolion wedi gwneud toriad o oddeutu 14% i’r staff dysgu flwyddyn ddiwethaf a bod sefyllfa’r niferoedd disgyblion yn ergyd i’r sector uwchradd.  Gofynnwyd tybed a fyddai modd ystyried cynllun pontio i gynorthwyo ysgolion mewn sefyllfaoedd ariannol anodd. 

 

Mewn ymateb, nododd yr Aelod Cabinet Addysg nad oedd cynllun o’r fath ar hyn o bryd ond y gallasai gyflwyno pryder y sector uwchradd i’r Cabinet bod ysgolion yn wynebu sefyllfa erchydus.

 

Ychwanegodd yr Aelod Cabinet Adnoddau ni ellir peidio ymgymryd â’r arbedion hir-dymor, ond y byddai modd ystyried cynllun un-tro i gynorthwyo ysgolion uwchradd am y flwyddyn anodd.  Holodd y Cadeirydd os byddai cynllun cymorth o’r fath yn ystyried balansau’r ysgolion unigol, a cytunodd y swyddogion i edrych ar hynny.

           

            Penderfynwyd:

 

            (a)        Derbyn a nodi’r uchod a gofyn i’r Adran Gyllid ystyried cynllun pontio dros dro ar gyfer cynorthwyo ysgolion uwchradd all fod yn wynebu trafferthion ariannol, gan ystyried gwarged balansau sydd dros 5%.    

 

            (b)       Gofyn i’r Aelod Cabinet Addysg a’r Aelod Cabinet Adnoddau gyfleu pryder y sector uwchradd yn deillio o’r uchod.

 

 

 

 

5.

YSGOLION GYDA DIFFYG BALANSAU pdf eicon PDF 323 KB

I ystyried adroddiad gan y Pennaeth Addysg ar yr uchod.

 

(Copi’n amgaeedig)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd, yn unol â chais y Fforwm Cyllideb Ysgolion, adroddiad y Pennaeth Addysg yn amlinellu cefndir ynghyd ag atodiad a oedd yn rhestru’r ysgolion hynny sydd gyda diffyg balansau.

 

Tynnwyd sylw bod y nifer o ysgolion gyda diffyg wedi cynyddu a bod 4 ysgol wedi bod gyda diffyg ar ddiwedd pob blwyddyn dros y tair blynedd diwethaf.

 

Fodd bynnag, nododd yr  Uwch Reolwr Gwasanaeth Adnoddau Addysg, bod amgylchiadau ysgolion yn gallu amrywio yn flynyddol ac yn dilyn trafodaeth gyda’r ysgolion a oedd wedi eu hamlygu’n felyn ar yr atodiad ynghlwm i’r adroddiad, nodwyd fel a ganlyn ynghylch yr ysgolion isod:

 

Llanrug            -           rhagwelir na fyddai diffyg ar ddiwedd 2016/17

Rhostryfan      -           rhagwelir na fyddai diffyg ar ddiwedd 2017/18

Hendre            -           rhagwelir na fyddai diffyg ar ddiwedd 2017/18

Y Berwyn        -           y byddai lleihad yn y diffyg erbyn 2016/17

 

Tynnwyd sylw bod Ysgolion Y Berwyn a Thywyn yn derbyn gwarchodaeth staffio ac awgrymwyd y dylid cynnal gwaith ymchwil pellach yng nghyd-destun ysgol Tywyn pam nad yw’r ysgol yn gallu gosod cyllideb gytbwys o fewn y gyllideb.

 

Rhagwelir y byddai gweddill yr ysgolion (ac eithrio Ysgol Rhosgadfan yn seiliedig ar gytundeb am gyfnod o amser) yn clirio’r diffyg.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol amlygwyd y pwyntiau canlynol:

 

(a)  Byddai unrhyw warged /diffyg o’r ysgolion hynny sydd yn cau yn trosglwyddo i’r awdurdod ac fe fyddai’r ysgolion newydd yn derbyn un gyllideb

(b)  Ei bod yn annhebygol y byddai ambell ysgol yn lleihau’r diffyg a bod  ysgolion eraill yn ymdrechu a brwydro i gynnal eu hysgolion

(c)  Awgrymwyd y dylid anfon neges i’r ysgolion sydd gyda diffyg bod disgwyliad iddynt ymdrechu’n galed i leihau’r diffyg

 

Penderfynwyd:          (a)        Derbyn a nodi cynnwys yr adroddiad.

 

                                    (b)       Gofyn i’r Uwch Reolwr Gwasanaethau Adnoddau Addysg :

 

(i)            anfon llythyr yn cyfleu safbwynt y Fforwm Cyllideb Ysgolion y dylai’r ysgolion hynny sydd â diffyg balansau ymdrechu’n galed i leihau’r diffyg ariannol

(ii)           drefnu ymchwil pellach i gyllideb a chynnydd diffyg ariannol Ysgol Tywyn.     

 

 

6.

YSGOLION GYDA GWARGED BALANSAU pdf eicon PDF 249 KB

I ystyried adroddiad gan y Pennaeth Addysg ar yr uchod.   

 

(Copi’n amgaeedig)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd, yn unol â chais y Fforwm Cyllideb Ysgolion, adroddiad y Pennaeth Addysg yn amlinellu manylion ynglŷn â’r ysgolion hynny sydd gyda gwarged balansau dros 5%.

 

Tywyswyd yr Aelodau drwy’r atodiad ynghlwm i’r adroddiad gan y Rheolwr Cyllid gan nodi bod cyfanswm nifer ysgolion gyda gwarged dros 5% wedi lleihau, gyda’r cyfanswm ariannol yr elfen gwarged dros 5% wedi cynyddu.  Nodwyd bod 87 ysgol wedi bod gyda gwarged dros 5% ar ryw bwynt yn ystod y tair blynedd diwethaf a 50 ysgol wedi bod gyda gwarged dros 5% ar ddiwedd pob blwyddyn o’r cyfnod (yr ysgolion hynny amlygwyd yn felyn yn yr atodiad).

 

Roedd y Rheolwr Cyllid o’r farn nad oedd y balansau ar y cyfan yn peri pryder gan fod amgylchiadau ysgolion yn gallu newid a rhai ysgolion yn  cydweithio drwy orfod rhannu penaethiaid ac felly nad oedd y balansau yn rhai parhaol. 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol amlygwyd y pwyntiau canlynol:

 

(a)           Mynegwyd pryder gan yr Aelod Cabinet Addysg bod cynnydd yn y nifer o ysgolion sydd gyda gwarged o dros 10% a thra’n derbyn bod sefyllfaoedd pob ysgol yn wahanol, roedd yn anodd iddo fel Aelod Cabinet ddadlau dros achos ysgolion yn enwedig pan fo’r Cyngor o dan bwysau aruthrol  o safbwynt toriadau yn y gyllideb.

(b)           Dylai unrhyw warged sydd gan yr ysgolion gael ei ddefnyddio ar gyfer y disgyblion cyfredol sydd yn yr ysgolion ac y dylid dwyn i gyfrif yr ysgolion hynny sydd gyda balansau dros 20%  

(c)           Byddai’n werthfawr a defnyddiol i ysgolion ar gyfer mantoli eu cyllidebau i wybod beth yw’r rhagolygon / faint sydd ar ôl fel bo modd iddynt gael gwell darlun o beth yw’r ffigwr real

(d)           Mewn ymateb i ymholiad ynglŷn â monitro'r ysgolion hynny sydd gyda balansau dros y trothwy, eglurwyd bod proses mewn lle gydag ysgolion yn cyflwyno cynllun a’r swyddogion perthnasol yn eu hystyried. 

 

 

Penderfynwyd:          (a)        Derbyn a nodi cynnwys yr adroddiad.

 

                                    (b)       Gofyn i’r Rheolwr Cyllid:

 

(i)            Gyflwyno mantolen i gyfarfod nesaf y Fforwm Cyllideb Ysgolion ym mis Ionawr yn nodi colofn ychwanegol ar gyfer rhagolygon balansau ar ddiwedd 31 Mawrth 2017 er mwyn rhoi gwell darlun o faint yw’r ffigwr real sydd gan ysgolion yn weddill ar ôl gosod eu cyllideb.

(ii)          Gydweithio gydag ysgolion ar gyfer cyflawni’r uchod.

 

 

7.

METHODOLEG CYLLIDO YSGOL DDILYNOL pdf eicon PDF 285 KB

I ystyried adroddiad gan y Pennaeth Addysg ar yr uchod.  

 

(Copi’n amgaeedig)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Addysg yn amlinellu methodoleg ac egwyddorion ar gyfer cyllido Ysgol Ddilynol.

 

Adroddodd y Rheolwr Cyllid y bydd ysgol ddilynol newydd sef Ysgol Bro Idris yn agor ym mis Medi 2017 a rhoddwyd ystyriaeth i sut y byddir yn ariannu’r ysgolion dilynol.  Eglurwyd ymhellach  o safbwynt methodoleg y byddir yn mewnbynnu ystadegau addysg Gynradd ar gyfer pob safle’r Ysgol Ddilynol a’u rhedeg yn unigol drwy’r Fformiwla Cyllido Ysgolion Cynradd.  Yn yr un modd y byddir yn mewnbynnu’r ystadegau addysg Uwchradd ar gyfer pob safle’r Ysgol Ddilynol a’u rhedeg yn unigol trwy’r Fformiwla Cyllido Ysgolion Uwchradd.  Cyfanswm y symiau wedi’i chyfrifo ar gyfer pob safle fydd cyfanswm dyraniad cyllido’r Ysgol Ddilynol.

 

O safbwynt yr egwyddorion, eglurodd y Rheolwr Cyllid ar sut y cyfrifir cyfartaledd cyflog Ysgol Ddilynol.

 

Mewn ymateb i ymholiad ynglyn a’r nifer o ysgolion o fewn dalgylch yr Ysgol Ddilynol sydd yn derbyn gwarchodaeth lleiafswm nifer athrawon, cadarnhaodd y Rheolwr Cyllid y byddai’r ysgolion hynny yn parhau i dderbyn y warchodaeth ar gyfer ariannu Rheolwr / athro a bod y warchodaeth oddeutu £600,000 yn y sector Gynradd.

 

Eglurwyd ymhellach mai un gyllideb a sefydlir i’r Ysgol Ddilynol a’r corff llywodraethol fyddai’n gyfrifol am fodelu’r gyllideb.

 

Nododd yr Aelod Cabinet Adnoddau y byddai’r Ysgol Ddilynol yn un arloesol ac o safbwynt llwyddiant i’r model pwysleisiwyd bod yn rhaid i’r gyllideb fod yn hyfyw i greu sefydlogrwydd dros gyfnod o 3 / 4 blynedd.

 

Mewn ymateb i ymholiad ynglyn a gwerthu’r safleoedd sydd yn cau, nodwyd posibilrwydd nad oedd modd eu gwerthu oherwydd amodau hanesyddol sy’n bodoli ar yr adeiladau.   

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi cynnwys yr adroddiad a chymeradwyo’r fethodoleg cyllido Ysgol Ddilynol.

 

 

8.

CYTUNDEBAU LEFEL GWASANAETH 2017/18 I 2019/20

I dderbyn adroddiad llafar ar yr uchod.  

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad llafar gan yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Adnoddau Addysg gan nodi mai’r bwriad eleni ydoedd symlhau’r cytundebau.  Byddir yn gofyn i’r swyddogion priodol gynllunio’r cytundebau ar gyfer 2017/18 am gyfnod o 3 blynedd, ymgynghori ar y cynnwys gyda’r ysgolion, ac fe fyddir yn adrodd yn ôl i’r Fforwm Cyllideb Ysgolion gyda’r ymatebion yn cyfarfod Haf 2017.  Ychwanegwyd y byddir yn gorfod rhoi ystyriaeth i fodel gwahanol eleni i gyfarch yr ysgolion dilynol sef Bro Idris a’r Berwyn.

 

Penderfynwyd:          Derbyn, nodi a diolch am yr adroddiad.

 

9.

PENNU DYDDIADAU AR GYFER CYFARFODYDD

·         7 Chwefror 2017

·         ?  Mehefin  / Gorffennaf 2017

·         ? Tachwedd 2017

Cofnod:

Adroddwyd er bod 7 Chwefror 2017 wedi ei bennu ar gyfer cyfarfod nesaf y Fforwm, teimlwyd y byddai’n fwy derbyniol i gynnal cyfarfod ddiwedd mis Ionawr a gofynnwyd i’r Swyddog Cefnogi Aelodau drefnu gyda’r Cadeirydd a’r swyddogion priodol ddyddiad cyfleus.

 

Gwnaed cais  i gadw’n glir o brynhawniau Mawrth, os yn bosibl.

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.