skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Y Ganolfan, Porthmadog, Gwynedd. LL49 9LU. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Glynda O'Brien  01341 424301

Nodyn: glyndaobrien@gwynedd.llyw.cymru 

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Andrew Roberts (Ysgol Y Berwyn), Edward Bleddyn Jones (Llywodraethwr Cynradd), Elin ap Gwilym (Llywodraethwr Cynradd), Anest Gray Frazer (Yr Esgobaeth),  Garem Jackson (Pennaeth Addysg).

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I ddatgan unrhyw fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

3.

COFNODION pdf eicon PDF 302 KB

I gadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol gynhaliwyd ar 13 Tachwedd 2017. 

 

(Copi’n amgaeedig)

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r Fforwm Cyllideb Ysgolion a gynhaliwyd ar 13 Tachwedd 2017 fel rhai cywir.

 

4.

MATERION YN CODI O’R COFNODION

Cofnod:

Eitem 5 (ch) – Grant Gwisg Ysgol

 

Adroddodd y Rheolwr Cyllid nad oedd gwybodaeth pellach wedi ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru ynglyn â’r grant uchod ond bod yr Adran Addysg wedi cyflwyno bid i’r Cabinet fel rhan o’r broses o osod cyllideb y Cyngor.  

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.

 

4a

TALU AR LEIN

I dderbyn diweddariad llafar ar yr uchod.

 

Cofnod:

(a)  Eitem 4 (c) – Talu ar Lein a Chlwb Brecwast (Clwb Gofal)

 

Adroddodd yr Uwch Reolwr Gwasnaeth Adnoddau Addysg bod y system i gadw’r llyfrau ar gyfer talu am ginio ysgol (“SIMS Dinner Money”) wedi’i gyflwyno i bob ysgol.

 

Nodwyd bod Clwb Gofal Cyn-ysgol wedi cychwyn ar 8 Ionawr 2018 – roedd hyn wedi bod yn anodd gan fod yr ysgolion ar gau dros y Nadolig ac wedi ei gwneud yn anodd gosod cyfrifon rhieni.

 

Roedd y ddau gynllun sef talu am ginio a thalu am ofal yn cael eu hwyluso os gwneir taliadau ar lein gan rieni a’r mwyaf o rieni sy’n talu ar lein golyga hyn lai o waith cadw llyfrau i’r Clercod Cinio.  Nodwyd bod y meddalwedd yn gwneud y cyfrif yn awtomtatig am daliadau electronig gan rieni.

 

Trafodwyd y materion uchod gyda Phenaethiaid Cynradd a chytunwyd bod angen hyrwyddo’r maes ymhellach ac annog mwy o rieni i dalu ar lein.  Yn deillio o’r drafodaeth gyda’r Penaethiaid derbyniwyd awgrymiadau adeiladol ganddynt ynglyn â sut y gellir cael mwy i dalu ar lein.

 

Trefnwyd cylch hyfforddiant pellach i’r ysgolion nad oedd wedi llwyddo mynychu cyn y Nadolig ac roedd rhai ysgolion wedi nodi dymuniad i’w clercod fynychu’r hyfforddiant am yr eildro, gyda rhai Penaethiaid wedi datgan dymuniad i fynychu’r hyfforddiant hefyd.

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.

 

5.

CLWB BRECWAST

I dderbyn diweddariad llafar ar yr uchod. 

6.

GRANT 6ED DOSBARTH

I dderbyn diweddariad llafar ar yr uchod. 

 

 

Cofnod:

Adroddodd y Rheolwr Cyllid bod gwybodaeth wedi ei dderbyn ond heb ei ryddhau i ysgolion hyd yma.  Nodwyd bod lleihad yn y gyllideb a dderbynnir yn ogystal â lleihad mewn nifer cyrsiau y disgybl.  Yn anffodus, am y bumed flwyddyn yn olynol, parheir i ariannu ar sail llai o ddisgyblion na’r gwir nifer sydd yn yr ysgolion.  Roedd y Pennaeth Cyllid a’r Pennaeth Addysg wedi trafod y mater ac yn bwriadu anfon llythyr yn cyfleu eu pryder am y sefyllfa i Lywodraeth Cymru.  Nodwyd bod y dyraniadau grant yn seiliedig ar yr hyn sydd wedi digwydd dros y 3 mlynedd diwethaf yn hytrach na rhagweld niferoedd.  Rhaid bod yn bwyllog ac yn wyliadwrus beth yw’r graddfa cwblhau (“completion rate”).  Fe fydd toriad o 10% a gyfer 2019/20 a’r flwyddyn ddilynol yn waeth. 

 

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.

 

7.

GRANT DATBLYGU DISGYBLION

I dderbyn diweddariad llafar ar yr uchod. 

Cofnod:

Adroddodd y Rheolwr Cyllid bod ysgolion wedi derbyn rhagolygon a bod gwerth y grant y disgybl yn aros ‘run fath â llynedd.

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.

8.

GRANT GWELLA ADDYSG

I dderbyn diweddariad llafar ar yr uchod. 

Cofnod:

Adroddodd y Rheolwr Cyllid bod y mater uchod wedi derbyn llawer o sylw ac nad oedd newyddion da o gwbl,  gyda’r grant ar lefel Cymru yn lleihau £26m ac ar lefel Gogledd Cymru golygai hyn yn fras ostyngiad o oddeutu £5m.  Gyda chostau yn cynnyddu gyda chwyddiant, golygai hynny oddeutu £7.5m o leihad mewn termau ‘real’.  Nodwyd bod oddeutu 50% o’r grant yn ymwneud â’r Cyfnod Sylfaen, a gyda effaith y cytundebau tâl cenedlaethol, golygai ar gyfartaledd leihad i ysgolion o oddeutu 22-23% dros y ddwy flynedd nesaf. 

 

Cyfeiriwyd at y llythyr anfonwyd i Benaethiaid Ysgolion ym mis Rhagfyr 2017 pryd nodwyd nad oedd y ffigyrau wedi newid a olygai oddeutu £600,000 o leihad yn y gyllideb yn 2018/19. Roedd y sefyllfa yn un anodd dros ben gyda’r grant yn lleihau 17% ar lefel Gogledd Cymru gyda chwyddiant yn 1%, a drwy leihad yn y grant byddai mwy o bwysau ar Ganolfannau Iaith, llwybrau dysgu 14 – 16 oed.   Fe fydd Bwrdd Rheoli GwE yn penderfynu ar ddyraniad y grant ac fe sicrhawyd y byddai’r Cyngor yn dryloyw ynglyn ag unrhyw effaith i ysgolion.

 

O safbwynt amserlen, hyderir y byddai’r  Adran Gyllid dderbyn mwy o wybodaeth yn y pythefnos nesaf 

 

Mynegwyd bryder enfawr ymysg yr athrawon oherwydd dros y blynyddoedd roedd ysgolion wedi gorfod ymdopi gyda mwy a mwy o doriadau ac y byddai toriad o oddeutu 20% ar y Cyfnod Sylfaen yn handwyol, ac yn effeithio ar y gwasanaethau craidd. 

 

Yn amlwg, nodwyd bod anniddigrwydd dros Gymru gyfan ynglyn â’r sefyllfa, ac nad yw yn dderbyniol, ond yn anffodus dyma yw’r gwirionedd gyda grantiau yn lleihau, a bod y sefyllfa yn gymhleth ac anodd.

 

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod, a disgwylir am wybodaeth pellach i’w anfon i Benaethiaid Ysgolion gan y Rheolwr Cyllid maes o law.

 

9.

CYTUNDEBAU LEFEL GWASANAETH YSGOLION

I dderbyn diweddariad llafar gan yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Adnoddau Addysg, 

Cofnod:

Cyflwynwyd tabl i’r Fforwm yn nodi sefyllfa Cytundebau Lefel Gwasanaeth am 2018-21 ar gyfer Ysgolion Cynradd, Uwchradd, Arbennig a Dilynol.

 

Adroddwyd fel a ganlyn:

 

Cynnal Tiroedd – cynigir wasanaeth am 3 blynedd ac ymwelwyd â phob ysgol i gasglu manylion gyda’r gwaith o drosglwyddo’r wybodaeth i gynllun / map o safle ysgolion yn parhau.  Nodwyd nad oedd angen CLG Cynnal Tiroedd ar Ysgol Hafod Lon (newydd) tan y flwyddyn nesaf.

 

Uned Cefnogi Addysg – nodwyd bod gwaith o ddiffinio rôlau penodol yr Uned Gefnogi Addysg / Swyddfa Ardal yn parhau.  Bwriedir parhau gyda’r un cytundeb lefel gwasanaeth am flwyddyn arall gan dreialu cefnogaeth newydd heb ddim cost ychwanegol i’r ysgolion.

 

Personél, Cyflogau a Chefnogaeth Gyfreithiol – nodwyd bod rhai materion yn gorgyffwrdd â rôlau’r Uned Gefnogol / Swyddfa Ardal.  Bwriedir parhau gyda’r un cytundeb lefel gwasanaeth am flwyddyn arall.

 

Bwrieidir dilyn yr un drefn â llynedd o ran cynnig y CLGau i’r ysgolion gan roi cyfle iddynt gyflwyno sylwadau a nodi os ydynt am eu derbyn neu beidio.  Bwriedir cyflwyno adroddiad crynodol i’r Fforwm Cyllideb Ysgolion yn dilyn hynny.

 

Penderfynwyd:          Cymeradwyo i ymestyn y cytundebau lefel gwasanaeth isod, fel a nodir uchod:

 

(a)  Uned Cefnogi Addysg

(b)  Personél, Cyflogau a Chefnogaeth Gyfreithiol

 

10.

CYLLIDEB CYNGOR GWYNEDD 2018/19

I dderbyn diweddariad llafar gan y Pennaeth Cyllid ar yr uchod. 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad i’r Aelodau yn ystod y cyfarfod gan y Pennaeth Cyllid yn amlinellu gwybodaeth ynglŷn â chyllideb 2018/19.

 

Adroddodd yr Aelod Cabinet Cyllid eu bod wedi treulio oriau o amser yn ceisio cael cyllideb cytbwys i’r Cyngor ac ni welwyd sefyllfa tebyg i hyn o’r blaen.  Gwelwyd o’r tabl gyflwynwyd ynglyn â setliad Grant Cynnal Refeniw i ariannu llywodraeth leol y bydd Cyngor Gwynedd yn derbyn cynnydd grant o £1m erbyn y flwyddyn nesaf sy’n gynnydd o 0.6%, gyda chyfartaledd y cynnydd ar draws Cymru yn 0.2%. 

 

Rhagwelir yn ystod y dair blynedd 2018/19 – 2020/21 y bydd angen i’r Cyngor chwilio am arbedion o hyd at £20m.  Ar hyn o bryd, gofynnir i phob Pennaeth Adran flaengynllunio toriadau o 3%, 10% a 20% a rhagwelir y bydd effaith toriadau pellach yn seiliedig ar y canrannau uchod yn erchyll, gyda’r ddwy gyllideb fwyaf y Cyngor yn Addysg a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gorfod cyfrannu.

 

 Eglurodd y Pennaeth Cyllid, wrth ddatblygu cyllideb drafft ar gyfer 2018/19, daeth yn amlwg fod yna bryder yn codi ynglyn â’r gyllideb ysgolion.  Ers cyhoeddiad setliad grant awdurdodau lleol, roedd cyfeiriad Llywodraeth Cymru at “gyllid ychwanegol” a gwarchodaeth ysgolion wedi codi disgwyliadau ariannol Penaethiaid a Llywodraethwyr ar gyfer 2018/19.

 

Roedd Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru wedi gwneud rhai datganiadau camarweiniol am sefyllfa ariannol ysgolion. Wedi trafodaeth gydag Aelodau Cabinet, cytunwyd ffordd ymlaen er mwyn osgoi trosglwyddo targed arbedion pellach i ysgolion Gwynedd eleni:

 

(a)  Demograffi

 

Nodwyd bod sefyllfa net ysgolion yn -£225,000.

 

(b)  Integreiddio ADY

 

Argymhellir i gytuno bid o £319,000 i gyfarch gorwariant ar y gyllideb integreiddio disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol, ac fe fydd y gyllideb “Addysg” ar ei ennill o’i gymharu â llynedd oherwydd hyn a chwyddiant o £1.4m fydd wedi’i ariannu gan y Cyngor.

 

(c)  Canoli Integreiddio

 

Bydd £347,000 yn trosglwyddo o’r gyllideb ysgolion yn ganolog i’r Adran Addysg, a thra bydd y gyllideb ysgolion yn gostwng, bydd yr angen i ysgolion wario hefyd yn gostwng.

 

(ch)      Problemau Addysg

 

Nodwyd bod nifer o broblemau wedi codi ym maes Addysg fyddai yn golygu bod yn rhaid i’r Cyngor ychwanegu ymhellach at y gyllideb Addysg drwy’r broses bidiau, neu i’r Adran Addysg leihau’r gyllideb ysgolion, os am gael gyllideb gytbwys yn 2018/19.  Byddai cyfanswm y materion hyn wedi golygu cynhaeafu £1.7m o arbedion o’r gyllideb ysgolion, a barn aelodau’r Cabinet ydoedd fod hynny’n anymarferol.  Felly, cytunwyd i argymell y datrysiadau canlynol:

 

Gwariant uwch ar gludiant                          £516,000

 

O adael y gyllideb uchod fel ag y mae byddai’n creu’r angen am gyllid parhaol ychwanegol o £286,000 yn 2018/19 a £230,000 i gwrdd diffyg 2017/18.  Argymhellir y byddir yn defnyddio tanwariant corfforaethol i ddileu gorwariant eleni, ond mynnu bod yr Adrannau Addysg ac Amgylchedd yn ail ymweld â’u polisïau / trefniadau cludiant gyda golwg ar reoli’r gwariant o fewn y gyllideb sydd ar gael erbyn 2019/20.  Er mwyn prynu amser i fedru gwneud y newid, yn y cyfamser argymhellir pontio £200,000 o’r £286,000 fyddai ei angen yn 2018/19 drwy ddarparu cyllideb unwaith ac am byth, gyda’r Adran  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10.

11.

RHAGOLWG BALANSAU YSGOLION 31 MAWRTH 2018 pdf eicon PDF 263 KB

I dderbyn adroddiad ar yr uchod gan y Rheolwr Cyllid. 

 

(Copi’n amgaeedig)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Cyllid i godi ymwybyddiaeth y Fforwm Cyllideb Ysgolion o ragolwg balansau ysgolion ar 31 Mawrth 2018.

 

Tywyswyd yr aelodau drwy’r adroddiad gan nodi mai ymarferiad pen desg gan yr Adran Gyllid oedd gerbron gan nad oedd yn ymarferol bosibl cysylltu â thrafod gyda phob ysgol yn unigol o fewn yr amserlen.  Fe fyddir yn cyflwyno gwir ffigyrau yng nghyfarfod nesaf y Fforwm yn ystod tymor yr haf.

 

Nodwyd bod trafodaethau yn mynd rhagddynt ynghylch Ysgolion Tywyn a’r Berwyn ynglŷn â’u diffyg ariannol.  Cydnabuwyd ymhellach o’r ysgolion sydd gyda balansau negyddol bod yr Adran Gyllid yn parhau i gydweithio gyda’r ysgolion hynny. 

 

Pwysleiswyd bod arian y balansau ar gael i’r disgyblion cyfredol sydd yn yr ysgolion ar hyn o bryd.

 

Penderfynwyd:          Derbyn, nodi a diolch am y rhagolygon ac edrychir ymlaen i dderbyn adroddiad pellach yng nghyfarfod nesaf y Fforwm.