Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Dwyryd, Canolfan Gyswllt y Cyngor, Penrhyndeudraeth

Cyswllt: Annes Sion  01286 679490

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd i’r pwyllgor hwn am y flwyddyn 2019/20.

Cofnod:

PENDERFYNWYD:   Ail-ethol Mr Godfrey Northam yn Gadeirydd y Fforwm am y flwyddyn 2019/20.

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-Gadeirydd i’r pwyllgor hwn am y flwyddyn 2019/20.

Cofnod:

PENDERFYNWYD:   Ethol Cynghorydd Cemlyn Williams yn Is-gadeirydd y Fforwm am y flwyddyn 2019/20.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Andrew Roberts (Ysgol y Berwyn), Annest Frazer (Esgobaeth Bangor), Edward Bleddyn Jones (Llywodraethwyr Ysgol Tregarth), Donna Roberts (Ysgol Hafod Lon), Trystan Larsen (Ysgol Rhostryfan) ac Owain Roberts (Ysgol Maesincla)

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

5.

COFNODION pdf eicon PDF 97 KB

I gadarnhau cofnodion cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 4 Mawrth 2019.

(Copi’n amgaeedig)

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r Fforwm Cyllideb Ysgolion a gynhaliwyd ar 4 Mawrth fel rhai cywir.

 

6.

MATERION YN CODI O’R COFNODION

Cofnod:

Eitem 5 – CYLLIDEB CYNGOR GWYNEDD 2019/20 – YSGOLION

 

Holwyd os oedd bid ar gyfer cyllideb cludiant ac integreiddio wedi ei gadarnhau bellach. Cadarnhawyd fod y bid wedi ei gymeradwyo erbyn 2019/20, ond efallai nid am yr union ffigwr sydd i’w gweld yn y cofnodion, ond ei fod wedi ariannu i’r lefel gorwariant diwygiedig.

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.

 

7.

CYFRIFON TERFYNOL YSGOLION 31/03/2019 pdf eicon PDF 89 KB

I dderbyn adroddiad ar yr uchod gan Hefin Owen

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod hon yn adroddiad sydd yn dod yn flynyddol i’r Fforwm. Nodwyd fod, yn gyffredinol, falansau holl ysgolion Gwynedd wedi aros yn £4.0m sydd yn cyfateb i 5.42% o’r dyraniad terfynol. Mynegwyd fod gan 7 ysgol ddiffyg ariannol gwerth -£207,106 ond gobeithir y bydd modd symud o’r sefyllfa yma yn ystod y flwyddyn.

 

Tynnwyd sylw i ddatganiad Llywodraeth Cymru ar falansau ysgolion ar gyfer Mawrth 31, 2018 oedd yn nodi fod gan Wynedd y lefel uchaf o gronfeydd wrth gefn fesul disgybl. Rhagwelir y bydd y datganiad nesaf ar gyfer 31 Mawrth 2019 (i’w rhyddhau yn Hydref 2019) yn parhau i ddangos balansau ysgolion Gwynedd fel y rhai uchaf yng Nghymru.

 

Amlygwyd fod yr atodiad yn giplun o falansau ysgolion dros y tair blynedd diwethaf. Ychwanegwyd fod 42 wedi gweld cynnydd yn eu balansau tra bod 60 wedi gweld lleihad. Esboniwyd y bydd yr Adran Addysg yn llythyru'r ysgolion sydd a balansau dros y trothwy - sef £50k yn y Cynradd a £100k yn yr Uwchradd i nodi fod angen cynllun clir ar sut maent yn bwriadu gwario'r arian. Bydd adroddiad ar hyn ym mis Tachwedd.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Trafodwyd fod grantiau yn cyrraedd yn hwyr gan y Llywodraeth ond fod angen casglu mwy o dystiolaeth am hyn. Ychwanegwyd fod ysgolion weithiau yn ymwybodol o’r grantiau ac yn gallu gwario cyfran cyn ei dderbyn ond efallai y buasai yn syniad  creu cynlluniau yn barod rhag ofn i’r dyfodol.

¾     Mynegwyd fod rhai ysgolion yn tan wario rhag ofn fod angen dod o hyd i arbedion ac felly fod arian ar gael i ddiswyddiadau.

¾     Tynnwyd sylw at y ffaith fod balansau 60 ysgol wedi lleihau dros y flwyddyn, a bod angen cadw golwg ar hyn.

 

Penderfynwyd:         

(i) Cymeradwyo bod yr Adran Addysg a’r Adran Gyllid:

(a)  Yn cydweithio’n agos gyda’r ysgolion gyda diffyg ariannol er mwyn sicrhau eu bod yn clirio’r diffyg cyn gynted â phosib.

(b)  Yn parhau i fonitro cyllidebau ysgolion.

 

8.

DIWEDDARIAD GRANTIAU YSGOLION 2019/20 pdf eicon PDF 43 KB

I dderbyn adroddiad ar yr uchod gan Hefin Owen.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad ynghyd ag atodiad yn manylu’r prif grantiau sydd wedi’i datganoli i bob ysgol yng Ngwynedd am 2019/20.

 

Tywyswyd y fforwm drwy’r adroddiad - cyfeiriwyd at y grantiau unigol gan nodi:

 

§  Grant 6ed - Fod ysgolion eisoes wedi derbyn gwybodaeth trwy ddyraniad 2019/20 am rhaniad o’r grant £3.3m . Esboniwyd fod gwybodaeth fynegol wedi’i dderbyn yn ddiweddar am grant ychwanegol o £96,000 gan Lywodraeth Cyngor tuag at y cynnydd mewn cost pensiwn athrawon 6ed dosbarth. Mynegwyd nad yw’r  llythyr cynnig a’r amodau wedi ei dderbyn gan y Cyngor hyd yma.

 

§  Grant Gwella Addysg (GGA) a Grant Datblygu Disgyblion (GDD) – nodwyd nad oedd newid yn y grantiau yn dilyn y drafodaeth ym mis Mawrth. Ychwanegwyd fod yr amcan ddyraniad a wnaethpwyd yn Ebrill yn  gywir.

 

§  Grant Pensiwn Athrawon - Medi 2019 - Esboniwyd fod gwybodaeth fynegol wedi’i dderbyn yn ddiweddar am grant ychwanegol o £1,529,003 gan Lywodraeth Cymru tuag at y cynnydd mewn cost pensiwn athrawon Cyfnod Sylfaen, CA2, CA3 a CA4.  Mynegwyd nad yw’r llythyr cynnig a’r amodau wedi ei dderbyn gan y Cyngor hyd yma. Nid yw’n eglur ar hyn o bryd os gellid defnyddio rhan o’r grant ar gyfer cynnydd yng nghost pensiwn athrawon yr Adran Addysg.  Mynegwyd fod y dyraniad yn 94% o beth oedd y Cyngor yn ei ddisgwyl.

 

Ychwanegodd y Pennaeth Cyllid bu addewid gan y Llywodraeth am yr arian grant Pensiwn, ond nid oedd y swm yn llawn, ac mae’r Cyngor yn parhau i ddisgwyl am yr arian.  Ategwyd disgwyliad y bydd chwyddiant tâl athrawon ym Medi yn 2.75%, gan nodi fod cyllidebau 2019/20 yn cynnwys darpariaeth ar gyfer cynnydd o 2%, a disgwylir gall  ysgolion ddygymod gyda’r gwahaniaeth, fydd am y 7 mis gwerth tua 0.4% o’u cyllideb . Esboniwyd y bydd yn anodd darogan beth fydd yn digwydd ym Medi 2020.

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.

 

9.

SEFYLLDA ARIANNOL POSIB 2020/21

I dderbyn adroddiad llafar ar yr uchod gan Dafydd L Edwards

Cofnod:

Bu i’r Pennaeth Cyllid nodi ei bod yn gynnar i drio darogan beth fydd setliad grant yr awdurdodau lleol erbyn 2020/21 a thu hwnt. Ychwanegodd fod adolygiad gwariant cynhwysfawr Llywodraeth San Steffan yn llithro, a bydd hwnnw’n allweddol erbyn cyfnod 2021/22 - 2022/23. Eglurwyd nad oes dyddiad pendant pryd fydd yr adolygiad yn cael ei gynnal, ond fod awgrym y bydd ei effaith yn oedi am flwyddyn.  Nodwyd fod Cyllideb Tachwedd 2019 Canghellor Hammond wedi nodi cynnydd sylweddol mewn gwariant cyhoeddus, ond fod swmp yr arian yma wedi’i ymrwymo ar gyfer y sector Iechyd a gostyngiadau treth.

 

Nododd y Pennaeth Cyllid ei fod wedi holi Llywodraeth Cymru os byddant yn rowlio grantiau penodol 2019/20 ar gyfer tâl a pensiwn athrawon i mewn i’r grant craidd yr awdurdodau lleol erbyn 2020/21, ond ymatebwyd drwy nodi nad oeddent yn gado dim. Mynegwyd fod posibilrwydd o setliad ‘cash-fflat’ i’r Cyngor unwaith eto, ac os felly, gyda phwysau chwyddiant a galw cynyddol am wasanaethau gofal cymdeithasol, mae posibilrwydd y buasai bwlch cyllido hyd at £10m yn wynebu’r Cyngor erbyn 2020/21.

 

Esboniwyd er mwyn delio â hyn mae posibilrwydd y bydd y Cabinet yn gofyn i holl wasanaethau’r Cyngor, gan gynnwys yr ysgolion, i ddod o hyd i gyfran o’u chwyddiant eu hunain, ond bydd trafodaeth bellach am hyn.  Nododd y Pennaeth Cyllid fod sôn am chwyddiant tâl athrawon ym mis Medi o tua 2.75%, ond dim sôn am y Medi dilynol.

 

Mynegwyd y bydd angen paratoi am gyfnod o ansicrwydd, gan fod penderfyniadau Llywodraeth Cymru yn debygol o fod yn hwyr yng nghylch cyllidebu 2020/21.  O ran y canlyniad ariannol, casglwyd fod y posibiliadau yn hynod eang ar gyfer 2020/21, heb sôn am edrych am sefyllfa 2021/22 – 2022/23.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Nodwyd fod lot o doriadau wedi ei gwneud y llynedd ac eleni, ac felly posibilrwydd y bydd arbedion yn dod i’r Ysgolion. Ychwanegwyd nad oes unrhyw gynlluniau arbedion yn ei lle ar gyfer Ebrill 2020.

 

10.

DYDDIADAU CYFARFODYDD Y FLWYDDYN ACADEMAIDD 2019/20

Cofnod:

Dyddiadau wedi ei cylchredeg i’r aelodau hyd Mawrth 2020.