skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Teams

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Y Cynghorydd Ioan Thomas (Aelod Cabinet Cyllid), Dilwyn Williams (Prif Weithredwr), Dewi Lake (Pennaeth Ysgol y Moelwyn), Alan Wynn Jones (Pennaeth Ysgol Cymerau) a Donna Roberts (Ysgolion Arbennig).

 

Nododd y Cadeirydd fod 2 sedd wag ar y Fforwm o hyd – y naill ar gyfer llywodraethwr cynradd o Feirionnydd, a’r llall ar gyfer llywodraethwr uwchradd o Ddwyfor.   Nododd hefyd nad oedd cynrychiolydd yr Esgobaeth yn mynychu cyfarfodydd y Fforwm.  Nododd y Swyddog Gwasanaethau Democrataidd y byddai’n mynd ar ôl y materion hyn erbyn y cyfarfod nesaf.

 

Nododd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Adnoddau Addysg fod Neil Foden wedi rhoi’r gorau i’w rôl fel cynrychiolydd NEU ar y Fforwm Undebau Athrawon, ac y gobeithid penodi olynydd iddo erbyn y cyfarfod nesaf.  Cytunwyd i anfon nodyn at Neil Foden i ddiolch iddo am ei wasanaeth a’i gyfraniad i waith y Fforwm hwn. 

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 232 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 25 Ionawr, 2021.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Fforwm a gynhaliwyd ar 25 Ionawr, 2021 fel rhai cywir.

 

5.

MATERION YN CODI O’R COFNODION

Trafod unrhyw faterion yn codi o’r cofnodion.

Cofnod:

Eitem 5 – Materion yn codi o Gofnodion Cyfarfod 28 Medi, 2020

 

·         Materion Ariannol COFID-19

Cadarnhawyd y derbyniwyd ad-daliad o’r golled incwm prydau ysgol.  Nodwyd y caewyd cyfrifon 2021/22 heddiw, a bod tua £700,000 o gronfa Cofid yn dod i’r ysgolion, gyda £400,000 yn digolledu’r sector uwchradd am golled incwm arlwyaeth i ddiwedd y flwyddyn ariannol.

 

·         Cyllid Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)

Yn dilyn trafodaethau yn y Grŵp Strategol, y penderfynwyd adrodd yn ôl erbyn Mawrth 2022, yn hytrach na 2021, ar ganlyniadau’r trafodaethau ynglŷn â sail dyrannu dyraniad strategaeth cynhwysiad yn y fformiwla, gan fod y penaethiaid yn awyddus i gael mwy o amser i ystyried y gwahanol opsiynau.

 

·         Nodwyd bod cyfran helaeth o’r grantiau dderbyniwyd angen eu gwario erbyn 31 Mawrth eleni, ond bod Llywodraeth Cymru wedi caniatáu i’r cynghorau lithro’r rhan o’r grant Cyflymu Dysgu a dderbyniwyd i’r haf.

 

Eitem 6 – Rhagolygon Ysgolion

Nodwyd y derbyniwyd arian effaith demograffi a chwyddiant, fel sy’n arferol.  Nid oedd yn glir ar y pryd a fyddai rhai bidiau’n llwyddiannus, ac roedd yr ysgolion wedi darganfod £160,000 o arbedion yn 2021/22 i gyfrannu tuag at fidiau addysg aflwyddiannus.  Codwyd lefel y Dreth Gyngor i ariannu’r bid o tua £225,000 i gryfhau darpariaeth ADY blynyddoedd cynnar, ac ni fu’n rhaid torri ar y gyllideb ysgolion i gyllido hyn.

 

Nodwyd y parheid i ddisgwyl cadarnhad gan Lywodraeth Cymru am grantiau 2021/22.  Derbyniwyd neges heddiw ynglŷn â’r grant datblygu disgyblion sy’n cael ei ddyrannu ar sail nifer y disgyblion ysgol sy’n cael cinio ysgol am ddim, ond ni fyddai Gwynedd yn derbyn y grant tan ar ôl yr Etholiad ar y 6ed o Fai.  Yn y cyfamser, byddai’n amcangyfrif gwerth y grant fel y gellid symud ymlaen.

 

Eitem 8 – Strategaeth Ddigidol Ysgolion

Nodwyd bod y trafodaethau’n parhau ar lefel Prif Weithredwr Cyngor Gwynedd ar y cyd â Chyngor Ynys Môn a Cynnal.

 

Eitem 9 – Cytundebau Lefel Gwasanaeth 2021-24

Nodwyd, wrth egluro’r cytundebau lefel gwasanaeth, y byddai’n rhaid edrych ar ail-ddyrannu’r arian sy’n mynd i ysgolion ar sail wahanol.  Roedd hyn wedi’i gytuno mewn egwyddor eisoes, ond nid oedd yn glir eto beth fyddai’r effaith ar yr ysgolion unigol, a byddai’n rhaid dod â hyn i’r Fforwm er mwyn gweithredu erbyn y flwyddyn nesaf.

 

Eitem 10 – Dyddiad y Cyfarfod Nesaf

Nododd y Cadeirydd y canslwyd cyfarfod 1 Mawrth o’r Fforwm gan nad oedd yna unrhyw faterion i’w trafod, ond gan iddo dderbyn cwyn ynglŷn â hynny gan ddau aelod, trefnwyd cyfarfod heddiw fel cyfarfod ychwanegol o’r Fforwm.  Ychwanegodd na fu’n bosib’ cael dyddiad cynharach na hyn.

 

6.

CYTUNDEBAU LEFEL GWASANAETH - 2021-24 pdf eicon PDF 118 KB

Adroddiad gan Owen Owens (Uwch Reolwr Gwasanaeth Adnoddau Addysg)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad gan yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Adnoddau Addysg yn nodi bod y cytundebau canlynol wedi dod i ben ar 31/3/21:-

 

·         Arlwyo, Glanhau a Gofalu a Chynnal Tiroedd (cynradd / uwchradd / arbennig a dilynol)

·         Canolfan Fusnes Addysg (cynradd)

 

Eglurwyd -

 

·         Y cynigiwyd y cytundebau Arlwyo, Glanhau a Gofalu a Chanolfan Fusnes Addysg am y cyfnod 1/4/21 i 31/3/24.

·         Y cynigiwyd y cytundeb Cynnal Tiroedd am flwyddyn (1/4/21 i 31/3/22) gan fod y gwaith yn parhau o fodelu dyraniadau ar gyfer Cynnal Tiroedd i ysgolion, fel eu bod yn adlewyrchu gofynion cynnal tiroedd y safleoedd unigol yn well.

·         Y cynhaliwyd proses ymgynghori gydag ysgolion parthed y Cytundebau Lefel Gwasanaeth oedd yn cael eu cynnig iddynt yn Ebrill, 2021.

·         Y derbyniodd yr ysgolion gopïau o’r CLGau drafft a gyflwynwyd gan y gwasanaethau, gan amlygu’r newidiadau ynddynt o’u cymharu â’r CLGau blaenorol.

 

Cyflwynwyd – crynodeb o ymatebion yr ysgolion, a sylwadau’r ysgolion ar y gwahanol gytundebau.

 

Gan gyfeirio at sylwadau’r ysgolion ar y cytundeb cynnal tiroedd, holwyd pam bod cynifer ohonynt naill ai’n defnyddio, neu’n chwilio am gontractwr eu hunain.  Mewn ymateb, nodwyd nad oedd y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn flwyddyn arferol i allu rhoi barn ar y gwasanaeth, gan fod y gwaith torri gwair wedi’i atal am gyfnod oherwydd y cyfnod clo.  Nodwyd ymhellach bod y gwasanaeth canolog yn cynnig gwarant o ran materion megis iechyd a diogelwch, ac yswiriant, ac ati, yn wahanol i gontractau allanol, ond cydnabyddid bod angen i’r gwasanaeth werthu ei hun yn well i’r ysgolion.

 

Mynegodd y Cadeirydd ei bryder fod Ysgol Dyffryn Ogwen yn gwario mwy ar gynnal y gwasanaeth arlwyo nag ysgolion eraill.  Mewn ymateb, nodwyd bod yna amrywiaeth yn y fwydlen ar draws y sir, a bod modd i ysgolion wneud mwy o elw drwy werthu prydau llawn, na byrbrydau.  Rhwng Cofid, ac amgylchiadau eraill, ni fu’n hawdd cael cyfnod arferol i allu gweld beth yn union oedd y tu cefn i hyn, ond bwriedid edrych ar y sefyllfa dros yr wythnosau nesaf.

 

Mynegodd Pennaeth Ysgol Tryfan ei werthfawrogiad o’r capasiti glanhau ychwanegol oedd wedi bod ar gael i’r ysgolion yn ystod y cyfnod Cofid, gan nodi bod hyn wedi hwyluso pethau’n fawr, ac wedi codi cynyddu hyder y staff a’r disgyblion.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr wybodaeth.

 

7.

EITEMAU AR GYFER Y CYFARFOD NESAF

Ystyried eitemau ar gyfer cyfarfod nesaf y fforwm.

Cofnod:

Gofynnwyd i’r Fforwm ystyried eitemau ar gyfer y cyfarfod nesaf.

 

Mynegwyd dymuniad i roi’r cais am eitemau gerbron y cyfarfod penaethiaid.

 

Mynegwyd pryder bod cynifer o grantiau wedi cyrraedd ar y funud ddiwethaf, fel y bu’n amhosib’ gwario’r arian cyn diwedd y flwyddyn ariannol. Pwysleisiwyd pwysigrwydd cyfleu’r neges honno, rhag i bobl gamddehongli sefyllfa ariannol yr ysgolion, a meddwl bod ganddynt falansau uwch nag sydd ganddynt mewn gwirionedd.

 

Ategodd y Pennaeth Cyllid y sylw drwy nodi fod y Cyngor hefyd mewn sefyllfa debyg o ran y grantiau a dderbynnir gan Lywodraeth Cymru, ac er y croesawid y grantiau hynny’n fawr, eu bod yn datgan sefyllfa ychydig yn ffals ar ddiwedd blwyddyn ariannol.  Nododd ymhellach ei fod ef, ynghyd â’r Aelod Cabinet, yn sicrhau bod y rheswm am hynny yn cael ei roi drosodd yn glir ganddynt ym mhob cyfarfod roeddent yn ei fynychu.

 

Nododd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Adnoddau Addysg ei bod yn bwysig i ysgolion adnabod yr adnoddau sydd wedi’u clymu yn yr holiadur wrth dderbyn y balansau diwedd blwyddyn.

 

Rhoddodd y Cyfrifydd Grŵp Ysgolion fraslun o’r sefyllfa o ran balansau ysgolion, gan nodi y byddai’n adrodd yn llawn ar hyn i gyfarfod nesaf y Fforwm ym mis Mehefin.  Nododd fod y balansau wedi cynyddu o £4.3m i £10.7m hyd at 31 Mawrth, 2021.  Derbyniwyd £3m o grantiau, ynghyd â £1m o GwE at ddiwedd y flwyddyn ariannol.  Yn y sector cynradd, gan fod yr ysgolion wedi cau am bron i 6 mis o’r flwyddyn, gwelwyd tanwariant o £400,000 yn y Cynllun Absenoldebau.

 

Mewn ymateb i gwestiwn, eglurwyd na fu trafodaeth am y trothwyon gwahanol, gan mai Llywodraeth Cymru oedd wedi sefydlu’r trothwyon o £50,000 yn y cynradd, a £100,000 yn yr uwchradd, ac mai sut rydym yn dehongli uwchben y trothwyon hynny sy’n bwysig.

 

Nododd y Pennaeth Cyllid fod angen ystyried sut rydym wedi cyrraedd y sefyllfa sydd ohoni.  Fel corff ariannu, os nad oedd Llywodraeth Cymru yn gwario’r arian yn y flwyddyn, roedd yn cael ei ddychwelyd i Lywodraeth y DU, ac roedd yn well gweld yr arian yn cael ei gelcio gan y Cyngor am flwyddyn, na’i fod yn cael ei golli.

 

8.

DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF

Nodi y cynhelir cyfarfod nesaf y fforwm am 3.30yp, ar ddydd Llun, 28 Mehefin, 2021.

 

Cofnod:

Nodwyd y cynhelir cyfarfod nesaf y Fforwm am 3.30yp, ar ddydd Llun, 28 Mehefin, 2021.

 

Eglurodd y Cyfrifydd Grŵp Ysgolion fod y Fforwm wedi bod yn cyfarfod unwaith y tymor yn hanesyddol, yn ddibynnol ar amserlen setliad Llywodraeth Cymru, gydag ail gyfarfod yn ystod Tymor y Gwanwyn petai angen.

 

Gofynnwyd i’r aelodau ystyried rhwng hyn a’r cyfarfod nesaf beth sydd angen i’r Fforwm ei drafod, a phryd, fel y gellir sefydlu rhaglen waith am y flwyddyn yng nghyfarfod Mehefin.