skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Virtual Meeting - Teams

Cyswllt: Ffion Bryn Jones 

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn ymddiheuriadau am absenoldebau.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Dafydd Gibbard (Prif Weithredwr), Iona Wyn Jones, Debbie Anne Jones a Donna Roberts

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

 

3.

MATERION BRYS

Unrhyw faterion brys i’w drafod.

Cofnod:

Dim i’w nodi.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 407 KB

I gadarnhau fod y cofnodion o’r cyfarfod blaenorol ar 28/06/2021 yn gywir.

 

(Copi wedi ei atodi)

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Fforwm a gynhaliwyd ar 28 Mehefin, 2021 fel rhai cywir.

 

5.

MATERION YN CODI O’R COFNODION pdf eicon PDF 749 KB

·       Balans Ysgolion - 31/03/2021

·       Grantiau Ysgolion – 2021/22

·       Diweddariad Gweithgor Cyllid ADY

·       Cyfundrefn Addysg Drochi tuag at 2032 a thu hwnt

Cofnod:

i.        BALANSAU YSGOLION BLWYDDYN GYLLIDOL 2020/21

 

Cyflwynwyd y rhan yma gan Cyfrifydd Grŵp Ysgolion.

Rhannwyd Datganiad gan Llywodraeth Cymru ar Falansau Ysgolion Cymru yn ei gyfanrwydd. Nodwyd fod y cyfanswm o Falanasau yn ysgolion Cymru wedi cynyddu o oddeutu £150 miliwn yn y flwyddyn Covid cyntaf. Credwyd yn gryf mai prif reswm hynny oedd gan fod yr ysgolion wedi bod ynghau dros gyfnodau yn ystod y pandemig i ran helaeth o’r disgyblion.

Eglurwyd nad oedd yr un ysgol mewn diffyg yng Ngwynedd ar ddiwedd y flwyddyn ariannol diwethaf- ond fod £17 miliwn o falansau negyddol wedi cronni drwy Gymru yn y flwyddyn ariannol diwethaf. Tynnwyd sylw at y ffaith y byddai Gwynedd yn rhif 7 o’r 22 awdurdod yng Nghymru o’r Balansau uchaf pe bai’r balansau negyddol yn cael eu diysytru.

 

Dyma’r pwyntiau a godwyd o’r drafodaeth-

-        Nodwyd fod angen cofio fod Gwynedd yr ail uchaf o’r balansau fesul pob disgybl yn unigol a fod angen cysidro yn y farn tuag at y Balansau. Cynigwyd fod hyn o ganlyniad i gymorth athrawon llanw a chyflenwad i gefnogi disgyblion bregus. Pryderwyd sut y byddent yn rheoli gwahanol ffyrdd wnaiff ysgolion ddelio efo’r grantiau hwyr hyn gyda rhai am gario mwy o falans drosodd a’i gilydd.

-        Pryderwyd fod ysgolion wedi cael eu cyfarch â llawer o grantiau hwyr eleni, a gofynnwyd beth oedd yn ddisgwyliedig o’r ysgolion wrth eu derbyn. Eglurwyd fod y Llywodraeth ac Estyn wedi adrodd mewn cyfarfod ADIW eu bod yn cydnabod fod y grantiau yn creu balansau ffug. Sicrhawyd fod hyn yn cael ei ragweld ac felly’n debygol na fyddai ysgolion yn cael eu cosbi am y ffigyrau hyn.

-        Tynnwyd sylw at y ffaith fod y balansau wedi bod yn gymharol uchel cyn Covid ac felly fod angen rhoi ystyriaeth i hyn. Nodwyd fod Cyllidebau Addysg wedi cael eu gwarchod yn arw yn ystod y pandemig a heb orfod gwynebu cwtogiadau fel gweddill yr adrannau, ac felly fod angen gwneud rhywbeth i wella’r balansau. Pwysleisiwyd er hyn, nad oes angen diystyru effaith y pandemig yn gyfan gwbl

-        Pryderwyd y bydd y sefyllfa ariannol yn parhau yn y blynyddoedd i ddod a fod y grantiau hwyr yn cyfrannu at hyn. Cydnabuwyd fod y Llywodraeth yn cefnogi ysgolion efo gwariant ychwanegol sydd wedi dod o sgil Covid, ond fod angen ystyried oblygiadau hyn ar y balansau i’r dyfodol. Poenwyd y bydd ysgolion yn cael eu cosbi efo’r balansau hyn a bydd angen cyfiawnhau y gwariannau sydd i ddod i osgoi hyn.

-        Eglurwyd fod gwariant parhaol ar staffio ond nad oedd grantiau yn cael eu darparu  i ysgwyddo’r gyllideb yma.

-        Parhawyd gyda’r bryder o staffio. Mynegwyd mai nawr oedd rhai o effeithiau hir dymor yn dangos ei hun, gyda’r brif un yn pa mor fregus ydi disgyblion. Nodwyd i ateb hyn fod angen staff ychwanegol i gefnogi’r digyblion, ac y bydd angen sicrhau’r gyllideb yma am flynyddoedd i ddod.

-        Mynegwyd rhwystredigaeth dros y grantiau hwyr hyn a dymuniad  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

RÔL A CHYFANSODDIAD Y FFORWM pdf eicon PDF 341 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd gan yr Uwch Gyfreithiwr.

 

          Eglurwyd ei bod hi wedi dod yn ofyniad statudol o 2003 ymlaen i bob Awdurdod Lleol i ffurfio Fforwm o’r fath yma i rannu a chyhoeddi penderfyniadau Cyllidebol Ysgolion. Penderfynwyd ar fformat y Fforwm yng Ngwynedd gan y Bwrdd y cyfnod hwnnw, neu’r Cabinet fel mae’n cael ei adnabod bellach. Eglurwyd fod rhaid cael oleiaf 15 aelod ar y Fforwm, a rhain efo cyswllt i ysgolion megis Penaethiaid a Llywodraethwyr. Nodwyd fod modd cael aelodau allanol ond nad ydynt ddim mwy na 25% o’r holl aelodaeth megis- gan gynnwys swyddogion a cyrff awdurdodol. Eglurwyd fod angen enwebiadau i benodi’r aelodau hyn. Caniatawyd ar y pryd i gyrff bleidleisio i gael unigolion i ymuno i arsylwi’r Fforwm.

Tynnwyd sylw fod yr aelodaeth bresennol yn dilyn patrwm cyffelyb i’r aelodaeth wreiddiol, oni bai am newid mewn swyddi a newid yn strwythur y Cyngor. Nodwyd fod dyletswydd i’r Fforwm adrodd i gyrff llywodraethu ysgolion. Eglurwyd mai mater i awdurdodau lleol oedd i nodi a pennu pa mor aml sydd angen i’r Fforwm gyfarfod, er ceir argymhelliad yn y ddogfen arferion da i’w dilyn â ffurfiwyd yn 2010.

 

 

          Sylwadau a godwyd –

-        Pryderwyd fod y nodiadau yn nodi mai hyd at 4 mlynedd dylai aelodaeth unigol barhau. Nodwyd mai argymhelliad oedd hyn yn unig a nad oedd rhaid dilyn hyn yn dynn.

-        Eglurwyd fod lle i addasu a rhannu sylwadau ynghylch â’r ddogfen grëwyd i’r eitem i’w wneud yn addas i’r Fforwm bresennol megis ychwanegu ac addasu’r swyddogion sydd angen bod yn bresennol i’r Fforwm. Pwysleisiwyd y byddai angen mynd â’r awgrymiadau ar strywthur y Fforwm ymlaen at y Cyngor i’w ystyried a’i benderfynu yn derfynol.

-        Mynegwyd na fyddai penodi dirprwyon yr arfer orau i’r Fforwm yma i gael cysondeb yn yr aelodaeth sy’n bresennol.

 

PENDERFYNIAD – Derbyn y diweddariadau a’r adroddiad.

 

7.

CYLLIDEB 2022/23

Fe fydd Cyflwyniad llafar yn cael ei roi gan Pennaeth Cyllid.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros Gyllid, a’r Pennaeth Cyllid.

 

          Nodwyd y byddai’r cyflwyniad o’r Gyllideb yn cael ei roi ymlaen i’r Cyngor Llawn, yn dilyn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Archwilio a’r Cabinet. Eglurwyd fod cyfres o seminarau a chyflwyniadau wedi bod drwy Ionawr i drafod ac egluro’r drefn gyda’r gyllideb i’r aelodau. Tynnwyd sylw at y ffaith y bydd diweddariadau cyson ar y gyllideb os y bydd unrhyw newidiadau neu addasiadau i’r ffigyrau a’r amserlen.

 

          Rhannwyd fod y setliad arferol o grantiau Llywodraeth yn 9.4% ar gyfartaledd yng Nghymru, lle mai 8.8% ydi o i ni yng Ngwynedd sydd yn argoeli’n dda. Eglurwyd mai’r rheswm tebygol fod Gwynedd yn derbyn is na’r gyfartaledd ydi fod poblogaeth îs yn y Sir o’i gymharu â siroedd eraill yng Nghymru. Nodwyd ei fod yn swm sylweddol fwy i’r hyn sydd am fod flwyddyn nesaf sef 3.5%, a 2.4% y flwyddyn ganlynol. Eglurwyd mai 5% oedd y chwyddiant presennol, ond fod pryder yr aiff fyny i 7% erbyn Ebrill. Amlygwyd fod y chwyddiannau hyn am achosi costau uwch.

 

          Atgoffwyd ein bod wedi derbyn £16 miliwn o gymorth ariannol tuag at COVID gan Llywodraeth Cymru erbyn diwedd y flwyddyn ariannol yma. Eglurwyd fod angen gwneud cyfrifadau i’n gwarchod at y dyfodol yn dilyn derbyn cymorth ariannol o’r fath, gan gofio na fydd y gefnogaeth ariannol yma yn cael ei ddosbarthu y flwyddyn nesaf.

 

Mynegwyd neges o ddiolch ar ran y cyn Bennaeth Cyllid i aelodau’r Fforwm am yr holl gyd-weithio dros y degawdau.

 

Eglurwyd mai’r hafaliad i gael cyllideb cytbwys ydi fod gwariant net yn llai na’r arbedion yn hafal i cyfanswm grantiau llywodraeth a treth Cyngor. Nodwyd eu bod wedi creu rhagdybiaethau synhwyrol o’r chwyddiant fydd i ddod wrth ddamcaniaethu’r gyllideb yn y flwyddyn sydd i ddod. Parhawyd fod y rhagdybiaethau hyn yn cynnwys cyfrifiadau chwyddiant mewn cyflogau a chyflenwadau, effaith Covid a setliadau grantiau. Nodwyd mai un o’r chwyddiannau mewn cyflogau ydi y cynyddiad yng nghyflogau athrawon o 1.75% yn y pum mis sydd yn weddill yn y flwyddyn academaidd. Damcaniaethpwyd cynnydd pellach ar gyfer y cyfnod academaidd newydd o Medi ymlaen at ddiwedd y flwyddyn economaidd yma. Eglurwyd hefyd fod ystyriaeth i’r cynnydd mewn mewnbwn yswiriant gwladol o 1.25%. Nodwyd fod cyfrifiad o chwyddiant o £2.6 miliwn i gyd efo’i gilydd ar draws y Cyngor gan gynnwys costau ynni a thanwydd, gofal preswyl ayb.

 

Nodwyd fod addasiadau pellach wedi bod i Ddemograffi Ysgolion i adlewyrchu’r sefyllfa bresennol. Nodwyd fod gostyngiad yn niferoedd y digsyblion yn y Cynradd, ond cynnydd yn y niferoedd o ddisgyblion Uwchradd. Eglurwyd fod y gwariant net wedi cael gostyngiad o £57 mil o ganlyniad i’r newidiadau hyn. Atgoffwyd fod effaith tebyg wedi bod yn y niferoedd flwyddyn diwethaf hefyd.

 

Eglurwyd mai canlyniad hyn oll ydi gwariant o £13.2 mil pellach i ymateb ar alw y chwyddiant, yn ychwanegol i wariant ychwanegol o £8.1 mil ar bwysau gwasanaeth.

Nodwyd fod y Cyngor wedi derbyn cyllideb i gefnogi costau COVID hyd at y flwyddyn ariannol nesaf, ond fod  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

STRATEGAETH DDIGIDOL YSGOLION pdf eicon PDF 359 KB

Cofnod:

Cyflwynwyd gan y Pennaeth Cynorthwyol Technoleg Gwybodaeth.

 

          Diweddarwyd y prosiect hyd yn hyn, ac eglurwyd nad oedd yr adroddiad yn rhoi cyfiawnhad o faint o waith sydd wedi mynd rhagddo yn y flwyddyn diwethaf. Tynnwyd sylw at y ffaith fod mwy o ddatblygiadau wedi bod yn yr adran Cynradd na’r Uwchradd ar hyn o bryd.

 

Atgoffwyd ar Tachwedd 9 2021 eu bod wedi derbyn caniatâd i dderbyn y Strategaeth Ddigidol a chytundeb i ddarparu hanner y gost i gael gliniaduron i CA2 Uwchradd ac i’r athrawon, a thabledi i’r Sylfaen gan y Cabinet. Eglurwyd fod y gyllideb yma yn ychwanegol i’r gyllideb blaenorol o £2.25 miliwn i adnewyddu’r dechnoleg y rhwydwaith. Eglurwyd dros gyfnod o 10 mlynedd fod angen ymrwymo i wariant o oddeutu £10 miliwn ar gyfer yr offer. Tynnwyd sylw fod dros 61% o’r gyllideb yma am gael ei gyfrannu gan y Cyngor.

 

Nodwyd fod trafodaethau o’r fath wedi cael eu cynnal ym Môn cyn y Nadolig hefyd o fewn eu Pwyllgorau gwaith. Eglurwyd mai’r brif drafodaeth sydd angen tynnu sylw ato ydi mewnoli’r gefnogaeth. Gobeithiwyd i fewnoli’r gefnogaeth Technegol i gefnogi’r ysgolion, ac eglurwyd fod hyn yn parhau i fod mewn trafodaeth efo’r cwmni Cynnal gan y ddau Gyngor i drafod y gwaith ag effaith gwneud hyn ar y cwmni. Nodwyd fod trafodaethau cyfreithiol a chyflogaeth yn cael eu cynnal i drafod effeithiau mewnoli ar y Cyngor. Sicrhawyd y bydd cadarnhad o’r trafodaethau hyn erbyn Ebrill 1, ynghyd a’i strategaeth gyllido. Esboniwyd y byddai rhywbeth o’r fath yn gorfodi i’r Cyngor gyflogi staff ychwanegol. Nodwyd y bydd treial o’r cynllun peilot yn cael ei dreialu cyn y Pasg, gyda gliniaduron yn cael eu blaenoriaethu i staff yna ddisgyblion Uwchradd. Eglurwyd fod yr amserlen yma’n ddibynnol ar yr amserlen gan y tîm cyfreithiol.

 

Sylwadau a godwyd o’r drafodaeth-

-        Gofynnwyd beth oedd y ddarpariaeth yswiriant i’r adnoddau a sut oedd hyn yn cael ei weithredu. Atebwyd nad oedd trefniadau penodol yn ei le eto, ond fod ymchwil i bolisïau mewn lle gyda’r polisi gorau ar hyn o bryd am fod yn £24 yr un y flwyddyn. Disgwylid cadarnhad ar yr opsiynau polisau gwahanol sydd ar gael gan ystyried y byddent yn derbyn y cyfarpar am 5 mlynedd ond bod posibilrwydd y bydd rhai yn torri neu yn mynd ar goll. Cadarnhawyd y bydd diweddariadau cyson yn cael eu rhannu.

-        Holwyd os y bydd lleoliadau diogel yn cael eu cynnig i gadw’r gliniaduron yn ddiogel. Eglurwyd fod costau sylweddol ynghlwm â chabinet gwefru a bod angen rhoi ystyriaeth ddwys i wir angen y ddarpariaeth.

-        Poenwyd os y bydd digyblion yn cael eu darparu efo gliniadur newydd os bydd diffyg efo’r un dderbynir ar y dechrau. Nodwyd y bydd gobaith i gyflenwi’r disgyblion efo gliniadur newydd os bydd dim modd arbed y gliniadur sydd ganddynt yn barod.

-        Rhannwyd lawer o bryder cymdeithasol a ddeir o ganlyniad i ddisgyblion yn cario gliniaduron drud efo nhw tu allan i’r ysgol, boed yn darged i gael eu dwyn neu yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

DYRANIAD CYNNAL TIROEDD pdf eicon PDF 449 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Uwch Reolwr Ysgolion.

 

            Nodwyd fod angen tynnu’r cyfeiriad at y ‘Cabinet’ yn argymhelliant yr adroddiad.

 

Eglurwyd fod yr ysgolion wedi eu cyflwyno efo ymgynghoriad i benderfynu ar un o ddau opsiwn dyraniad cyllideb dyrannu tiroedd – 1) ail ddyranu arian cynnal tiroedd yn wahanol i’r drefn bresennol, ond fod y gyllideb cyfansymol yn aros yn un faint i’r adran Cynradd a’r adran Uwchradd. 2) i’r holl arian fod yn cael ei rannu o’r un pot i’r holl sectorau ysgolion i’w ddyrannu yn ôl yr angen.

 

Eglurwyd fod 13 ysgol Cynradd wedi ymateb, 3 ysgol Uwchradd wedi ymateb, 1 ymateb gan ysgolion dilynol a 0 ymateb gan ysgolion arbenigol. Nododd fod y mwyafrif yn cefnogi cynnig o model 2. Nodwyd fod nifer o sylwadau anaddas i’r ymgynghoriad wedi eu derbyn, ond eu bod yn cael eu hystyried at ddatblygiadau pellach i’r model. Tynnwyd sylw fod nifer yn bryderus o sut oedd y gwaith yn cael ei ddosbarthu yn ôl oriau o waith, ond cysurwyd fod y drefn yma’n cael ei ystyried yn unol â’r model ddaw i law. Pryderwyd nifer am gost y cytundeb gwasanaeth, ond nodwyd nad oedd hyn yn ystyriaeth i’r ymgynghoriad yma.

 

Pwysleisiwyd petai newidiadau i’r gwaith cynnal tiroedd yn ôl datblygiadau’r ysgol fod angen i’r ysgol ddiweddaru’r adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol i wirio yr addasiad a gwirio’r oriau o waith sydd ei angen yn unol â hynny.

 

Sylwadau â godwyd o’r drafodaeth-

-        Gofynnwyd faint o’r 17 wnaeth ymateb oedd yn ymateb o ysgolion oedd yn derbyn llai o gyllideb? Nodwyd nad oedd y wybodaeth yma wedi ei gasglu. Mynegwyd y byddai’n fuddiol derbyn y wybodaeth yma gan y byddai’n debygol i ysgolion sydd ddim yn cael eu heffeithio neu’n derbyn mwy o arian am fod efo agwedd gwahanol i’r modelau sy’n cael eu cynnig.

-        Gofynnwyd sut oedd dyraniad amser i drin gwellt yn cael ei benderfynu. Eglurwyd nad oedd maint y maes yn golygu fod angen llawer o amser i’w drin, yn hytrach fod angen ystyried yr hwylustod i’r lleoliad.

-        Nodwyd ei bod hi’n bechod i gyn lleiad o bobl ymateb i’r arolwg ac felly nad yw’n cynrychioli’n deg.

-        Trafodwyd os oedd hi’n deg i model 2 gael ei symud yn ei flaen efo cyn lleiad o gynrychiolaeth. Penderfynwyd fod pawb wedi cael cyfle teg i’w lenwi ac felly y dylent gario ymlaen a’r cynlluniau.

 

PENDERFYNIAD – Derbyn y diweddariadau a’r adroddiad.

 

10.

RHAGLEN WAITH pdf eicon PDF 195 KB

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan Cyfrifydd Grŵp Ysgolion.

 

Nodwyd fod y rhaglen waith yn gorfod cadw at y prif nodweddion i’r Fforwm, ond eglurwyd y bydd pethau yn cael eu ychwanegu yn unol â’r materion perthnasol i amser y cyfarfod. Cadarnhawyd y bydd diweddariadau yn cael eu rhannu dros e-bost rhwng cyfarfodydd os yn berthnasol, neu cynnal Fforwm ychwanegol be pai rhaid.

 

Sylwadau â godwyd o’r drafodaeth-

-        Cynigwyd fod angen cadw at un cyfarfod y tymor hyd yn oed os nad oes agenda llawn iawn i’w drafod. Nodwyd fod gormod o gyfnod wedi mynd heibio y tro hwn ac y byddai’n fuddiol i gael cadw cyswllt fwy rheolaidd. Mynegwyd fod cofnodion yn dyddio os yn gadael gormod o amser fynd heibio.

 

PENDERFYNIAD – Derbyn y diweddariadau a’r adroddiad.

 

11.

DYDDIAD CYFARFOD NESAF

Cofnod:

Nodwyd y bydd diwedd Mehefin neu dechrau Gorffennaf yn addas.

 

 

Dechreuodd y cyfarfod am 3.30 y.h. a daeth i ben am 4.45 y.h.