Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Virtual Meeting - Teams

Cyswllt: Einir Rh Davies  01286 679868

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

Ethol Cadeirydd ar gyfer 2022/2023

Cofnod:

PENDERFYNWYD ail-ethol Arwyn Williams, Pennaeth Ysgol Brynrefail, yn Gadeirydd y Fforwm am 2022/23.

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

Ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2022/2023

Cofnod:

PENDERFYNWYD gan nad oedd enw yn cael ei gynnig ar gyfer y rôl is-gadeirydd y byddai y rôl yn cael ei gadael yn wag am y tro, er mwyn gallu symud ymlaen gyda y cyfarfod.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Dafydd Gibbard (Prif Weithredwr), Siôn Huws (Adran Gyfreithiol y Cyngor), Y Cynghorydd Gwilym Jones (Llywodraethwr Ysgol Borthygest) a Donna Roberts (Ysgol Hafod Lon).

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi.

6.

COFNODION pdf eicon PDF 341 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 7 Chwefror, 2022

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Fforwm a gynhaliwyd ar 7 Chwefror, 2022 fel rhai cywir.

 

7.

MATERION YN CODI O’R COFNODION

Trafod unrhyw faterion yn codi o’r cofnodion.

Cofnod:

Nodwyd bod nifer o’r materion eisoes wedi eu cynnwys ar yr agenda.

 

8.

BALANSAU YSGOLION 31/3/22 pdf eicon PDF 220 KB

Adroddiad gan Kathy Bell, (Cyfrifydd Grŵp Ysgolion).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyfrifydd Grŵp Ysgolion, gan nodi bod patrwm cenedlaethol yn ymddangos yn y ffigyrau oedd yn mynd hyd at ddiwedd Hydref.  Cadarnhawyd mai Gwynedd yw’r Awdurdod gyda’r balansau uchaf y pen yng Nghymru, gyda dim un o ysgolion Gwynedd mewn diffyg.  Ategwyd at hyn gan y Pennaeth Addysg, oedd wedi bod yn trafod gyda Llywodraeth Cymru, oedd yn cadarnhau fod y balansau yn anghyffredin o uchel, a’u hawgrym o gynllun gwario dros dair blynedd.

 

Nododd y Cyfrifydd Grŵp y bydd £7.5 miliwn yn diflannu erbyn diwedd y flwyddyn os yw cynlluniau yn cael eu cario allan.

 

Cadarnhawyd nad oes trafodaeth wedi bod gydag ysgolion unigol, ond nad yw y sefyllfa mor addawol ac mae y balansau yn ei awgrymu, gyda llawer o ysgolion wedi ymrwymo i wario yn y flwyddyn newydd.  Nodwyd bod materion ychwanegol hefyd megis codiadau cyflogau, a chynnydd mewn prisiau tanwydd fydd yn effeithio ar y ffigyrau.  Cadarnhawyd na fydd lleihad yn grantiau sylweddol y Llywodraeth.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

9.

GRANTIAU YSGOLION 2022/2023 pdf eicon PDF 371 KB

Adroddiad gan Kathy Bell, (Cyfrifydd Grŵp Ysgolion).

Cofnod:

Atgoffodd y Cyfrifydd Grŵp Ysgolion y Fforwm o’r grantiau sylweddol sydd wedi eu derbyn dros y ddwy flynedd ddiwethaf, o’u cymharu gyda grantiau eleni o £13 miliwn.  Nodwyd, yn flaenorol, fod grant hwyr refeniw cynnal a chadw wedi ei dderbyn, ond cadarnhawyd nad yw hwn ar y cardiau eleni. 

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

10.

STRATEGAETH ARIANNOL Y CYNGOR 2023/2024

Adroddiad Llafar gan Dewi A Morgan, (Pennaeth Cyllid)

Cofnod:

Rhoddwyd cyflwyniad gan y Pennaeth Cyllid, a gadarnhaodd bod llawer o’r wybodaeth yn newid yn barhaus, ac na fydd ffigwr Setliad Ariannol yr Awdurdod ar gael nes 14 Rhagfyr.  Nododd y Pennaeth Cyllid ei bod yn ymddangos y bydd y setliad yn llai gwael na’r hyn yr oedd wedi ofni, a rhannodd sleidiau gyda’r Fforwm.  Cyfeiriodd at faterion fydd yn cael effaith ar y setliad megis chwyddiant cyffredinol o 10/11%, a bod digartrefedd wedi cynyddu yn y Sir.

 

O ran sefyllfa ariannol y flwyddyn gyfredol (2022/23), cadarnhawyd na fydd grantiau ychwanegol, a disgwylir bydd gorwariant o £7.1 miliwn yn erbyn cyllideb y Cyngor.  Gan na ddisgwylir grantiau ychwanegol eleni, bydd rhaid llenwi’r bwlch trwy ddefnyddio balansau y Cyngor.  Cyfeiriodd y Pennaeth Cyllid at lythyr oedd eisoes wedi ei ddanfon at Benaethiaid ynglŷn â’r bwlch ariannol, ond nodwyd efallai y daw y bwlch i lawr fymryn.

 

Nodwyd bod ffigyrau cyfrifiad 2021 yn dechrau bwydo drwodd hefyd, ac mae llygedyn o obaith y bydd y setliad fymryn yn well na’r hyn oedd wedi ei ragweld.  Cadarnhawyd efallai y bydd posib prynu amser yn 2023/24 ond wrth gwrs mae hyn yn ddibynnol ar gyhoeddiad y Gweinidog.

 

Cyfeiriwyd at yr opsiynau i gau’r bwlch, ond mae yna waith balansio, yn enwedig gan fod y sefyllfa ariannol wedi newid mor annisgwyl ers dechrau’r flwyddyn ariannol gyfredol.

 

Cyfeiriwyd at y drefn blaenoriaethu, gan gadarnhau bod y Prif Weithredwr a’r Cyfarwyddwyr yn edrych ar y cynigion unigol o bob Adran, a bydd hyn yn cael ei ddilyn gan bob Pennaeth yn mynd gerbron y Tîm Arweinyddiaeth 19 a 20 Rhagfyr i drafod ymhellach. 

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Cyllid at fodelu toriadau o 1% i 6% ar gyfer ysgolion, ac er y gellir prynu amser, dim ond am gyfnod mae hyn yn bosib.

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Cyllid at y drefn a ffigyrau dangosol gyda thoriad fflat ar draws y sectorau i gyd.  Nododd bod 6% yn gyfystyr â £4.8 miliwn, ond pwysleisiwyd mai ffigyrau dangosol ydy y rhain.

 

Cadarnhawyd yr angen am gyfarfod arall ddiwedd Ionawr/dechrau Chwefror yn ddibynnol ar

ddyddiaduron. 

 

Pwysleisiwyd mai y rhain yw y ffigyrau gwaethaf.

 

Diolchodd y Pennaeth Addysg am gyflwyniad da, eglur, gan nodi bod yn rhaid i bob Adran baratoi, ond nad oedd modd darogan y sefyllfa ar hyn o bryd.

 

Agorwyd y cyfarfod i gwestiynau / sylwadau :

 

Nododd y Cadeirydd mae un peth yw dangos ffigyrau, ond nid yw y ffigyrau yn dangos sefyllfa fregusrwydd plant sydd yn dod dros Covid.  Nododd y Pennaeth Addysg bod gwaith adfer y sefyllfa effaith Covid ar blant.  Yn ychwanegol, cadarnhaodd y Pennaeth Addysg ei fod wedi gorfod darlunio ardrawiad ar bobl Gwynedd wrth wneud cynigion i’r Tîm Arweinyddiaeth.  Nododd y Pennaeth Addysg yr angen i ystyried y toriadau cyffredinol ar draws y tri sector, er bod y dip demograffeg wedi taro y cynradd ac eto i ddod i’r uwchradd. 

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid bod pob cynnig yn cael ei ystyried, ar draws y Cyngor.

 

Cododd Cynrychiolydd yr Undeb gwestiwn ynglŷn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10.

11.

CANOLFANNAU IAITH 2023/2024

Adroddiad Llafar gan Rhys M Glyn, (Pennaeth Cyfundrefn Addysg Drochi Gwynedd)

Cofnod:

Cafwyd cyflwyniad gan Bennaeth Cyfundrefn Addysg Drochi Gwynedd.  Cyfeiriodd at y cyfarfod 28/6/21 ble drafodwyd y Grant Gwella Addysg a’r gymeradwyaeth ynglŷn â’r cyfraniad gan ysgolion.  Nododd y bwriad i fodelu opsiynau er mwyn ymgynghori gydag ysgolion a’r Fforwm.  Nododd y dymuniad na fydd angen mynd ar ofyn ysgolion ac y bydd modd dod o hyd i’r arian eleni, gan drafod ymhellach yn y cyfarfod nesaf sut y bydd yn cael ei ariannu.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad ac i dderbyn diweddariad pellach yn y cyfarfod nesaf.

 

12.

INTEGREIDDIO 2023/2024 pdf eicon PDF 479 KB

Cyflwyniad gan Ffion Edwards Ellis, (Pennaeth Cynorthwyol Anghenion Addysg Arbennig a Chynhwysiad)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyfeiriwyd at yr arolwg ar-lein oedd wedi ei rannu er mwyn derbyn sylwadau Penaethiaid. Cadarnhawyd bod 33 holiadur wedi dod i law, gyda Model 7 ar gyllidebu ysgolion yn cael ei ffafrio.  Nodwyd bod y sylwadau yn trafod effaith Model 7 ar gyllidebau ysgolion ac y byddent yn symud ymlaen i wneud mwy o waith ar Fodel 7.

 

Cadarnhawyd mai y camau nesaf fydd edrych ar Fodel 7 yn fwy gofalus, gan ystyried y sylwadau, gan edrych ar newid yn Ebrill 2023, ac yna ail-drafod os ydy y model yn addas ai peidio. 

 

Croesawodd y Cynrychiolydd Undeb bod y gwaith sicrhau ansawdd y data yn cael ei wneud gyda swyddogion ansawdd. 

 

Nododd y Pennaeth Cynorthwyol Anghenion Addysg Arbennig a Chynhwysiad y bydd gwaith yn cael i wneud i edrych os yw'r pwysedd yn gywir.  Yn ychwanegol, nododd mai wrth wneud y gwaith modelu y bydd yn dod yn glir os oes rhywbeth ddim yn iawn.  Cadarnhawyd y bydd yn cael sylw drwy lygaid darparwyr.

 

Cadarnhawyd y bydd diweddariad yn cael ei roi yn y cyfarfod Ionawr/Chwefror.

 

Cwestiynwyd a oes grŵp yn edrych ar y gwaith a chadarnhawyd bod gweithgor yn bodoli ond bod angen cynrychiolaeth newydd.  Cadarnhawyd bod Gwynedd yn symud ymlaen yn dda ac o flaen ambell Sir gyfagos.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad ac i dderbyn diweddariad pellach yn y cyfarfod nesaf.

 

13.

RHAGOLYGON TAIR MLYNEDD pdf eicon PDF 269 KB

Adroddiad gan Kathy Bell, (Cyfrifydd Grŵp Ysgolion)

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Gyfrifydd Grŵp Ysgolion, ble nodwyd bod y Sir yn edrych ar golli 550 o blant cynradd oherwydd lleihad mewn niferoedd.  Golyga hyn golli £1.2 miliwn yn y sector cynradd dros dair blynedd.  Cadarnhawyd bod Llywodraeth Cymru yn ail-edrych ar Grant y Chweched, ond efallai y byddent yn symud i’w osod ar ffigyrau gwir, a chadarnhawyd bod popeth i fyny yn yr awyr.  Nodwyd os yw balansau wedi  mynd, y bydd angen pontio Ebrill i Awst.    Nodwyd bod llawer o bethau i fyny yn yr awyr ar hyn o bryd a bod ystadegau genedigaethau yn ymddangos i fod yn gostwng.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

14.

CYTUNDEBAU LEFEL GWASANAETHAU 2023 pdf eicon PDF 121 KB

Adroddiad gan Owen Owens, (Uwch Reolwr Ysgolion)

Cofnod:

Adroddodd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Adnoddau Addysg bod wyth cytundeb yn dod i ddiwedd eu hoes a bod ysgolion wedi cael cynnig rhoi sylwadau, ac y byddent yn cael eu trafod yn y cyfarfod nesaf, mewn manylder.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chael diweddariad yn y cyfarfod nesaf.

 

15.

DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF

I’w Gadarnhau

Cofnod:

Cadarnhawyd y bydd y cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal Dydd Llun 6 Chwefror am 3.30 p.m. dros Teams. 

 

 

 

Dechreuodd y cyfarfod am 3.30 y.h. a daeth i ben am 5.00 y.h.