skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Teams

Cyswllt: Einir Davies  01286 679 868

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-Gadeirydd 2022/2023

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol Donna Roberts, Pennaeth Ysgol Hafod Lon, yn Is-Gadeirydd y Fforwm am 2022/23.

 

2.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau ymlaen llaw gan Dafydd Gibbard (Prif Weithredwr), Richard Jones (Ysgol Garndolbenmaen), Menna Wynne-Pugh (Ysgol Penybryn, Tywyn) ac Edward Bleddyn Jones (Llywodraethwr, Arfon)

 

Derbyniwyd ymddiheuriadau hwyr gan Aled Williams (Ysgol Ardudwy) a Brian Jones (Llywodraethwr, Arfon)

3.

ENWEBIADAU NEWYDD

I gadarnhau enwebiadau newydd i’r Pwyllgor

Cofnod:

Croesawodd y Cadeirydd yr aelodau newydd i’w cyfarfod cyntaf :

Dr Diane Pritchard Jones

Joanne Thomas

Cynghorydd Gwynfor Owen

Carys Eleri Fowles

Brian Jones (yn ei absenoldeb)

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi.

 

 

6.

COFNODION pdf eicon PDF 315 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 12fed Rhagfyr 2022

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Fforwm a gynhaliwyd ar 12 Rhagfyr, 2022 fel rhai cywir, yn ddarostyngedig i’r cywiriadau canlynol :

‘Roedd Eleri Davies yn bresennol yn y cyfarfod fel Aelod ac fel Cadeirydd Ffederasiwn Penaethiaid Cynradd

Mae angen cynnwys enw yr Ysgol mae R Jones yn ei gynrychioli

7.

MATERION YN CODI O’R COFNODION

i.                Canolfannau Iaith

ii.              Cytundebau Lefel Gwasanaethau

Cofnod:

Atgoffwyd y Fforwm bod cais am ragor o wybodaeth am y Cynllun Buddsoddi i Arbed wedi ei wneud yn y cyfarfod blaenorol a chadarnhawyd bod y Cynllun yn benodol i wasanaethau mewnol y Cyngor, ond bod croeso i ysgolion wneud cais unai trwy y swyddogion addysg, neu yn uniongyrchol drwy y Pennaeth Cynorthwyol Gwasanaethau Addysg.

 

i.                Canolfannau Iaith

Atgoffodd y Pennaeth Addysg am y bwriad gwreiddiol i ofyn i ysgolion gyfrannu yn ariannol i’r cynllun trochi, er nad oedd hon y flwyddyn fwyaf delfrydol i wneud hyn.  Cadarnhawyd bod arian wedi ei ddarganfod ar gyfer y flwyddyn gyllidol 2023/24 ac na fyddai yr Adran yn mynd ar ofyn ysgolion.  Ategodd yr Aelod Cabinet Addysg ei balchder o allu rhannu y newyddion hyn.  Nododd y Cadeirydd ei fod yn newyddion da i bawb, a nododd, yn sgil yr heriau mae ysgolion yn eu hwynebu, tybed fyddai modd cael gwybod y sefyllfa am y blynyddoedd ôl-2023/2024 cyn gynted â phosib?

 

ii.              Cytundebau Lefel Gwasanaeth

Adroddwyd bod y Cytundebau Lefel Gwasanaeth yn amrywio a bod y Pennaeth Cynorthwyol Gwasanaethau Addysg yn y broses o’u craffu.  Yn arferol, cadarnhawyd y byddai y cytundebau yn cael eu mabwysiadau gan ysgolion yn Ebrill, ond er mwyn gallu gwneud y gwaith craffu arnynt fod bwriad ymestyn y cytundebau presennol ar y tro.  Nodwyd y gobaith o ddenu  mwy  o ysgolion i ymrwymo iddynt.  Nodwyd bod ambell i Gytundeb yn codi cwestiwn, mae rhai ysgolion wedi gofyn am gyflwyniad ar rai Cytundebau a rhai Cytundebau ble mae angen mwy o fanylder.  Cadarnhawyd y bydd yr Adran yn holi am y caniatâd i ymestyn cytundebau. 

 

8.

STRATEGAETH CYLLIDOL Y CYNGOR 2023/2024 pdf eicon PDF 507 KB

Adroddiad gan Dewi A Morgan, (Pennaeth Cyllid)

Cofnod:

Cafwyd cyflwyniad gan y Pennaeth Cyllid, o dan y penawdau isod :

 

Yr Amserlen o ran penderfynu ar a cheisio cael cytundeb ar y Strategaeth Gyllidol

Y Gyllideb Refeniw : Yr Hafaliad

Rhagolygon Cyffredinol Cyllideb 2023/24

Chwyddiant Cyflogau o £14.2M

Chwyddiant ar Wasanaethau a Chyflenwadau o £11.1m

 

Cyfeiriwyd at y Demograffi Gofal ac Addysg, gan nodi bod Gofal Plant yn £32k, ac Ysgolion yn £229K, hynny yw :

            Ysgolion Cynradd                   (£135k)

            Ysgolion Uwchradd                 £49

            Ysgolion Arbennig                   £315K

Yn seiliedig at leihad (cynradd) / cynnydd (uwchradd/arbennig) mewn nifer disgyblion

 

Tynnwyd sylw hefyd at y :

Setliad Grant 2023/2024, a’r Pwysau ar Wasanaethau, gan nodi - Bidiau Refeniw Parhaol £2.7m - Adran Addysg - darparu cinio ysgolion Cynradd, Dilynol ac Arbennig £285,580

 

Cyfeiriodd hefyd at benawdau :

 

Bidiau Refeniw - Addysg yn £285,580

Cynlluniau Arbedion Cynlluniedig

Rhagolygon Cyfredol Cyllideb 2023/24

Hafaliad 2023/24

 

Cyfeiriodd yn benodol at Arbedion Ysgolion, gan nodi bod  :

Trafodaethau wedi cychwyn ar 6%

            Paratoi ar gyfer 3%

            Rhai ysgolion yn wynebu gormodedd - ond nid oherwydd y toriad arfaethedig

            Hepgor Ysgolion Arbennig

Effaith y gyfundrefn warchodaeth i ysgolion bychan = pawb arall yn gorfod cyfrannu mwy

            Rhai ysgolion yn cael ei gwthio dros y 3%

            Felly cynnig cap o 3%

            Arbediad ar draws y sector felly yn 2.39%

            1.39% a 0.99% dros ddwy flynedd

 

Cynlluniau Arbed Newydd

                                                                        23/24               24/25               cyfanswm

            Ysgolion Cynradd                               541,600           386,900            928,500

            Ysgolion Uwchradd                             605,000           432,600            1,037,600

            Ysgolion Arbennig                               0                      0                      0

            Cyfanswm                                           1,146,600        819,500            1,966,100

 

 

Cynlluniau Arbed Newydd 2023/24

Arbedion Adrannau (heb gynnwys ysgolion)             £3,097,370

Arbedion Ysgolion                                                      £1,146,600

 

Cynlluniau Arbed Newydd 2023/24 Addysg Ganolog yn £835,000

 

Nododd hefyd Treth Cyngor a Rhagolygon 2024/25

 

Diolchwyd am y cyflwyniad gan y Pennaeth Cyllid.  Ymhelaethodd yr Aelod Cabinet Cyllid ar y drefn a gymerwyd i ddod i benderfyniad ar y toriadau arfaethedig, gan nodi bod y Cabinet wedi ceisio bod yn deg, ac wedi ystyried Adrannau y Cyngor i gyd, gan edrych ar gynigion arbedion dros dri dydd.  Nododd bod rhai materion positif wedi codi megis y setliad wedi bod mymryn yn well na’r disgwyl, bod swm wedi dod i law o ran ffordd y Cyngor o ymdrin â benthyciadau, ac roedd yn teimlo fod y Cabinet wedi gwneud eu gorau dros bob Adran. Nododd y Pennaeth Addysg bod sylw priodol a herio pob Pennaeth Gwasanaeth wedi digwydd, ac mae nid ar chwarae bach yr ystyriwyd toriadau i addysg.

 

Nododd y Cadeirydd nad oes neb byth yn hoff o doriadau, a chwestiynwyd beth yw effaith toriadau canolog ar ysgolion?  Cadarnhawyd bod unrhyw ardrawiad ar ysgolion wedi ei gadw i’r lleiafrif, ac y bydd  unrhyw effaith ar GwE yn cael ei drafod ar lefel Prif Weithredwyr.

 

Ar gais y Cadeirydd cadarnhawyd bod y ffigyrau yn ymdrin â 2023/2024 a 2024/2025 a bod y Cyngor yn ceisio cynllunio fesul dwy flynedd.  Nodwyd wrth gwrs nad yw yn wybodus beth fydd y ffigwr chwyddiant yn y dyfodol, ond bod yr Adran Gyllid yn gweithio ar sail y bydd y toriadau hyn yn ddigonol, ond wrth gwrs yn methu a gwarantu.  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

INTEGREIDDIO 2023/24 pdf eicon PDF 207 KB

Adroddiad gan Ffion Edwards Ellis (Pennaeth Cynorthwyol Anghenion Addysg Arbennig a Chynhwysiad)

Cofnod:

Rhoddodd y Pennaeth Cynorthwyol Anghenion Addysg Arbennig a Chynhwysiad grynodeb o’r sefyllfa bresennol, gan gadarnhau fod y dull dyrannu presennol yn gweithio.  Cadarnhaodd bod gwaith tacluso y data a’r ffordd o gofnodi ar y gweill, ond ei bod yn disgwyl PLASC ar gyfer 2023/23 ar hyn o bryd.

 

Holodd y Cadeirydd am sgil-effaith hyn a chadarnhawyd Ebrill 2023 fel dyddiad arfaethedig, ond y bydd materion yn symud yn raddol.  Cadarnhawyd os oes materion o bryder gyda’r data, yna bydd yn cael ei symud i Fedi 2023.  Cadarnhawyd bod y canllaw ar gyfer cwblhau y PLASC eisoes wedi eu rhannu, a chadarnhawyd na ddylai dosbarthu mewn ffordd wahanol gael effaith sylweddol ar ysgolion.

Rhoddodd y Pennaeth Cynorthwyol Anghenion Addysg Arbennig a Chynhwysiad grynodeb o’r sefyllfa bresennol, gan gadarnhau fod y dull dyrannu presennol yn gweithio.  Cadarnhaodd bod gwaith tacluso y data a’r ffordd o gofnodi ar y gweill, ond ei bod yn disgwyl PLASC ar gyfer 2023/23 ar hyn o bryd.

 

Holodd y Cadeirydd am sgil-effaith hyn a chadarnhawyd Ebrill 2023 fel dyddiad arfaethedig, ond y bydd materion yn symud yn raddol.  Cadarnhawyd os oes materion o bryder gyda’r data, yna bydd yn cael ei symud i Fedi 2023.  Cadarnhawyd bod y canllaw ar gyfer cwblhau y PLASC eisoes wedi eu rhannu, a chadarnhawyd na ddylai dosbarthu mewn ffordd wahanol gael effaith sylweddol ar ysgolion.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chael diweddariad yn y cyfarfod nesaf.

 

 

10.

UNRHYW FATER ARALL

Cyfle i Godi Unrhyw Fater Arall

Cofnod:

Dim yn codi.

 

11.

DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF

I’w gadarnhau

Cofnod:

Dyddiad y cyfarfod nesaf i’w gadarnhau

 

 

 

Dechreuodd y cyfarfod am 3.30 y.h. a daeth i ben am 4.25 y.h..