Rhaglen a chofnodion drafft

Lleoliad: Virtual Meeting - Teams

Cyswllt: Einir Rh Davies  01286 679868

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2023/2024

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol Mr Richard Jones, Pennaeth Ysgol Chwilog yn Gadeirydd y Fforwm am 2023/2024.

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-Gadeirydd ar gyfer 2023/2024

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol Mr Dylan Minnice, Ysgol Botwnnog yn Is-Gadeirydd y Fforwm am 2023/2024.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Y Cynghorydd Beca Brown (Aelod Cabinet Addysg), Dafydd Gibbard (Prif Weithredwr), Brian Jones (Llywodraethwyr Arfon), Edward Bleddyn Jones (Llywodraethwyr, Arfon), Ms Eleri Moss, Mrs Donna Roberts (Ysgolion Arbennig), Mr Eifion Roberts (Llywodraethwyr Meirionnydd), Debbie Anne Williams Jones (Pennaeth Cynorthwyol Gwasanaethau Corfforaethol) a Menna Wynne-Pugh (Ysgol Penybryn, Tywyn)

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

5.

MATERION BRYS

I nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi.

6.

COFNODION pdf eicon PDF 385 KB

I gadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 6ed Chwefror, 2023  

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Fforwm a gynhaliwyd ar 6 Chwefror, 2023 fel rhai cywir, gan dderbyn diweddariad fel y nodir isod.

 

7.

MATERION YN CODI O’R COFNODION

I drafod unrhyw faterion sydd yn codi o’r cofnodion nad ydynt yn ymddangos ar yr Agenda

Cofnod:

Eitem 7 - Canolfannau Iaith - cadarnhawyd nad oedd diweddariad ar gael ar hyn o bryd.  Amlinellwyd y trefniant hanesyddol o dderbyn y grant a’r bwriad i ail-drafod y trefniant gyda GwE.

 

Eitem 9 - Integreiddio a Dull Dyrannu i Ysgolion - cadarnhawyd nad oedd diweddariad ar gael ar hyn o bryd.  Cadarnhawyd y byddai trefniadau yn rhy hwyr i’w gweithredu erbyn Medi 2023, felly bod angen edrych ar y tymor canlynol.  Cadarnhawyd bod y gyllideb integreiddio, a’r dull o rannu ar sail oriau plant, angen sylw pellach.

 

8.

BALANSAU YSGOLION 31 MAWRTH 2023 pdf eicon PDF 216 KB

Adroddiad gan Kathy Bell (Cyfrifydd Grŵp Ysgolion)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyfeiriodd y Cyfrifydd Grŵp Ysgolion at y papur oedd yn manylu balansau ysgolion unigol ar 31 Mawrth 2023.  Cadarnhaodd bod y sefyllfa yn debycach i’r arfer erbyn hyn, gyda lleihad o £4.8 miliwn.  Nodwyd bod tair Ysgol mewn diffyg a bod y gwaith o adolygu y balansau yn cymryd lle nawr, er bod disgwyl lleihad pellach erbyn diwedd y flwyddyn. 

 

Codwyd y pryder ynglŷn â sefyllfa y grantiau hwyr, gan gadarnhau bod pum grant hwyr wedi ei derbyn gan ysgolion oedd gyfystyr a £96,000, ac nad oedd yn sefyllfa i’w chroesawu.  Cyfeiriwyd at  sefyllfaoedd o gario drosodd mwy na £700,000, ond bod rhaid cynllunio gyda ffigwr o £230,000 o dan ystyriaeth.  Cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid bod balansau mawr yn mynd drosodd.

 

Cwestiynwyd faint o ysgolion sydd yn debyg o fod mewn twll cyllidol ar ddiwedd 2024 a chadarnhawyd bod llawer o ysgolion wedi penodi dros dro trwy ddefnyddio balansau eleni ac o ganlyniad bydd y lefelau wedi gostwng yn sylweddol erbyn mis Medi.

 

Nodwyd y pryder, gyda y swyddi dros dro yn dod i ben, bod y plant yn parhau i fod angen cefnogaeth a’i bod yn anodd iawn ei cefnogi.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

9.

GRANTIAU YSGOLION 2023/2024

Adroddiad gan Kathy Bell (Cyfrifydd Grŵp Ysgolion) – Papur i’w gyflwyno yn y cyfarfod

Cofnod:

Cadarnhawyd y bydd papur yn cael ei gyflwyno yn y cyfarfod nesaf gan y bydd modd cadarnhau bryd hynny y grantiau cyflymu dysgu, datblygu disgyblion (PDG) a datblygu plant.  Cadarnhawyd y bydd Bwrdd GwE yn cyfarfod i ystyried y Grant Consortia maes o law, ac y bydd cadarnhad yn cael ei rannu ar ddiwedd y tymor.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chael diweddariad yn y cyfarfod nesaf.

 

10.

TAL ATHRAWON 2022/2023 A 2023/2024 pdf eicon PDF 414 KB

Adroddiad gan Kathy Bell, (Cyfrifydd Grŵp Ysgolion),  Hywyn Lewis Jones (Cyfrifydd Grŵp Addysg, Economi a Chymuned) a Ffion Madog Evans (Pennaeth Cyllid Cynorthwyol, Cyfrifeg a Phensiynau – Adroddiad i ddilyn

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ymddiheurwyd gan y Cyfrifydd Grŵp Ysgolion bod y papur yn hwyr yn cael ei ddosbarthu, ond gobeithiwyd bod y neges, ar fater cymhleth iawn, wedi cael ei roi drosodd mewn modd syml.  Tywyswyd Aelodau y Fforwm drwy y papur, oedd wedi ei gynhyrchu mewn ymateb i gais o’r Grŵp Uwchradd, yn gofyn am eglurhad ar sut mae arian yn cyrraedd y Cyngor ac yn cael ei rannu. 

 

Amlinellwyd y cefndir a arweiniodd at y sefyllfa, gan nodi y bu i Lywodraeth Cymru ddatgan codiad o 5%.  Diwedd Mawrth cynigwyd 3% gan Lywodraeth Cymru, gyda chodiad pellach o 1.5% a 1.5% heb ei gyfuno fel cynnig cyflogau athrawon.

 

O ran Cyngor Gwynedd, cadarnhawyd bod 3% wedi ei glustnodi yn y gyllideb wreiddiol ar gyfer codiadau athrawon, ond gan mai 5% oedd y codiad, bod bwlch amlwg.  Mewn ymateb, bu i Gyngor Gwynedd ryddhau 1%, ac yn dilyn trafodaethau gyda CLlLC, bu i Cyngor Gwynedd ymdrin â’r 1% arall.

 

O ran y 3%, bu i Lywodraeth Cymru ddatgan y byddent yn rhoi grant – hynny yw 1.5% am saith mis a 1.5% heb ei gyfuno am flwyddyn academaidd gyfan, sef £1.1 miliwn.

 

Cadarnhawyd, er mwyn cau y cyfrifon, rhaid oedd amcangyfrif y swm, ond roedd yr ymdeimlad nad oedd wedi bod yn ddigon i lenwi y bwlch.

 

Cadarnhawyd ymhellach bod y setliad ar sail data, gyda’r arian wedi cyrraedd Cyngor Gwynedd ac yna’r Cyngor yn penderfynu ar y dyraniad i ysgolion unigol ar sail fformiwla.  Nodwyd bod bob ceiniog wedi ei thargedu ac yn cyrraedd ysgolion.  £480,000 oedd y grant, sef 1.5% parhaol a £638,000 unwaith ac am byth, oedd yn grant llawn.  Nodwyd bod elfen o grant Chweched Dosbarth hefyd.  Adroddwyd bod y gêm yn newid ar bob cam a’i bod yn gymhleth iawn.  Tynnwyd sylw at y sgil effeithiau, gan nodi er bod pawb yn derbyn bod rhaid cael ffordd i ddyrannu, bod y sefyllfa yn effeithio ar y staff sydd yn cael eu cyflogi gan Ysgolion, ac nid y staff sydd yn dysgu.

 

Cadarnhawyd bod yr Awdurdod wedi dyrannu’r grant ar sail lefel staffio ‘FTE’ sydd yn y fformiwla ond bod sefyllfaoedd lle mae gwahaniaeth rhwng y nifer o staff sydd yn y fformiwla yma a faint sydd yn cael eu cyflogi.  Ehangwyd ar hyn gan nodi bod y bwlch sylweddol oherwydd y fethodoleg.  Holiwyd ymhellach am ffigwr ar gyfer costau staff dysgu a’r hyn mae Llywodraeth Cymru wedi ei ryddhau.  Roedd Aelodau y Fforwm yn gytûn ei bod yn sefyllfa annheg iawn. 

 

Nododd y Cadeirydd nad oedd y cynnydd yng nghyflogau staff ategol wedi ei gwrdd yn 2022/23, ac nad oedd penderfyniad wedi ei wneud ar godiadau hyd yma.  Nododd y Rheolwr Cyllid bod canran uwch wedi ei glustnodi ar gyfer 2023/24, ond nid oedd unrhyw sicrwydd y byddai yn ddigonol. 

 

Codwyd y pryder bod rhai ysgolion a balansau i allu amsugno y sefyllfa, a chwestiynwyd a oes arian cyfatebol yn dod i Gymru?  Cadarnhawyd mai mater i Lywodraeth Cymru yw hyn, ond nad oes rheidrwydd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10.

11.

CYTUNDEBAU LEFEL GWASANAETH

Adroddiad gan Diane Pritchard-Jones (Pennaeth Cynorthwyol – Gwasanaethau Addysg) – Adroddiad Llafar

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan y Pennaeth Cynorthwyol Gwasanaethau Addysg.  Cadarnhawyd bod ambell Gynllun wedi ei adolygu a bod rhai Cynlluniau ble derbyniwyd sylwadau ac o ganlyniad fe’i hail hystyriwyd.  Cadarnhawyd bod y sefyllfa rhywbeth yn debyg i’r arfer, ond bod rhai ysgolion heb gysylltu i roi gwybod un ffordd neu’r llall.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

12.

UNRHYW FATER ARALL

I godi unrhyw fater perthnasol

Cofnod:

Fformat cyfarfodydd y dyfodol – ‘roedd yr opsiwn i gyfarfod yn hybrid wedi ei gynnig i Aelodau y Fforwm ar gyfer y cyfarfod hwn, ac un yn unig oedd yn yr Ystafell Gyfarfod.  Cwestiynwyd dymuniad aelodau y Fforwm ar gyfer cyfarfodydd y dyfodol.

 

Nododd y Pennaeth Gwasanaeth bod manteision ac anfanteision i’r opsiynau - weithiau mae cyfarfod yn well wyneb i wyneb, ond mae gan rai unigolion cryn waith teithio i gyrraedd cyfarfod yng Nghaernarfon. 

 

Cytunwyd i gynnig opsiwn hybrid ar gyfer cyfarfodydd y dyfodol, gan atgyfnerthu y neges bod yr opsiwn hybrid ar gael  a bod y gofod ar gael.

 

Arolwg Estyn – cadarnhawyd y bydd Adroddiad Estyn yn cael ei chyhoeddi 20 Medi 2023 a bydd yn cael sylw yn y cyfarfod nesaf, fydd yn cael ei raglennu tuag at ddiwedd y tymor.

 

Diolchwyd i bawb am eu cyfraniadau.

 

 

 

Dechreuodd y cyfarfod am 3.35 y.h. a daeth i ben am 4.30 y.h..