skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679 878

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2022/23

Penderfyniad:

Cofnod:

PENDERFYNWYD ETHOL Y CYNGHORYDD ERYL JONES-WILLIAMS YN GADEIRYDD AR GYFER 2022/23

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2022/23

Penderfyniad:

To Ethol Cynghorydd Dewi Owen yn Is-gadeirydd y Pwyllgor hwn am 2022/23

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD ETHOL Y CYNGHORYDD DEWI OWEN YN IS-GADEIRYDD AR GYFER 2022/23

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Cyng. Louise Hughes (Cyngor Gwynedd), Cyng. Elin Hywel (Cyngor Gwynedd), Cyng. Dafydd Meurig (Aelod Cabinet Amgylchedd - Cyngor Gwynedd), Liz Saville Roberts (AS Dwyfor Meirionnydd), Mabon ap Gwynfor (AS Dwyfor Meirionnydd), Claire Williams (Swyddog Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian), Stuart Williams (Rheilffordd Tal-y-llyn), Chris Wilson (Cyngor Sir Ceredigion) a David Thorp (Ysgol Uwchradd Tywyn)

 

Amlygodd y Cadeirydd bod y Cynghorodd Louise Hughes wedi derbyn triniaeth yn ddiweddar a dymunwyd gwellhad buan iddi.

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

5.

MATERION BRYS

Cofnod:

Dim i’w nodi

6.

COFNODION pdf eicon PDF 301 KB

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

7.

DERBYN DIWEDDARIAD GAN Y GWASANAETHAU

·         Network Rail

·         Trafnidiaeth Cymru

·         Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig

 

Cofnod:

NETWORK RAIL

 

Croesawyd Richard Griffiths (Pennaeth Cyfathrebu Network Rail ar gyfer Cymru a'r Gorllewin) a Sara Crombie (Rheolwr Cyfathrebu Network Rail) i’r cyfarfod

 

Diweddariad ar uwchraddio traphont Abermaw

 

Cyflwynwyd lluniau a ffeithiau allweddol ar waith a gwblhawyd ar y draphont hyd yma. Nodwyd bod y gwaith wedi bod yn heriol ac yn ffisegol anodd i’r gweithwyr oherwydd amodau gwaith yn ymwneud a’r tywydd a bod y bont hefyd mewn cyflwr llawer gwaeth nag a ystyriwyd ar y dechrau. Adroddwyd mai’r bwriad gwreiddiol oedd cau'r draphont am un cyfnod rhwng Medi a Rhagfyr 2022, ond i leihau'r effaith ar wasanaethau rheilffyrdd, y gymuned a'r economi leol penderfynwyd cau’r lein am ddau gyfnod byrrach fel bod modd ailagor y rheilffordd ar gyfer hanner tymor yr ysgol a chyfnod y Nadolig.

 

Caewyd y rheilffordd rhwng Machynlleth a Pwllheli am bum wythnos o nos Sul, 11 Medi tan ddydd Sadwrn, 15 Hydref gan ailagor am bedair wythnos i  gynnwys hanner tymor. Yr ail gyfnod cau oedd o nos Sul, 13 Tachwedd gyda bwriad o ailagor dydd Sadwrn, 10 Rhagfyr ar gyfer cyfnod y Nadolig. Ategwyd nad oedd dyddiau gweithio ar y draphont yn ystod 2023 wedi eu cadarnhau.

 

Diweddariad ar draphont Aberdyfi, Y Bwthyn a Leri

 

Yn ogystal â'r gwaith yn Abermaw, adroddwyd bod gwaith atgyweirio hefyd yn cael ei wneud i Draphontydd Dyfi, Leri a’r Bwthyn. Adroddwyd bod cyflwr gwael i draphont Aberdyfi – angen adnewyddu’r strwythur yn llawn. Cyflwynwyd lluniau i arddangos cyflwr y pren a’r gwaith dur.

 

Ategwyd bod gwaith adnewyddu trac yn cael ei gwblhau yn Nhywyn, a bod Network Rail yn cymryd pob mantais posib o wneud gwaith cynnal a chadw tra bod y rheilffordd wedi cau. Nodwyd bod gwaith ar gyfer 2023 yn cael ei drefnu ar y cyd  gyda Trafnidiaeth Cymru a’r Gwasanaeth Cludo Nwyddau.

 

Diolchwyd am y diweddariad. Nododd y Cadeirydd bod y Pwyllgor yn gwerthfawrogi’r buddsoddiad.

 

Sylwadau a materion eraill a godwyd yn ystod y drafodaeth:

·         Bod y gwaith adnewyddu traciau yn Nhywyn yn dod yn ei flaen yn dda

·         Bod problemau gyda thrafnidiaeth i’r ysgolion yn ystod y cyfnod cau wedi ei datrys

·         Diolch i gydweithio da rhwng asiantaethau ar gael gosod pont newydd dros y rheilffordd yn Aberdyfi

·         Da gweld arian yn cael ei fuddsoddi a gwaith yn cael ei gwblhau ar hyd y rheilffordd.

·         Diolch i’r swyddogion lleol am eu gwaith o godi ymwybyddiaeth at ddiogelwch y rheilffordd

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chroesfan rheilffordd Harlech ac a fu unrhyw ostyngiad mewn tresmasu ers yr ymgyrch a gynhaliwyd yn gynharach yn y flwyddyn, nodwyd nad oedd asesiadau risg wedi ei wneud ar groesfannau penodol ond bod ymgyrch codi ymwybyddiaeth wedi ei wneud gyda’r cyhoedd ac mewn ysgolion. Nodwyd y byddai modd cyfeirio gwybodaeth am ddiogelwch Croesfan Harlech yn uniongyrchol at y Cynghorydd Owen.

                                                           

TRAFNIDIAETH CYMRU

 

Croesawyd Gail Jones, Trafnidiaeth Cymru i’r cyfarfod i gyflwyno diweddariad ar weithgareddau Trafnidiaeth Cymru.

 

Amlygwyd bod y gwaith o osod diffibrilwyr achub bywyd yng ngorsafoedd rheilffordd Trafnidiaeth Cymru wedi ei gwblhau a bod rhaglen  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

DYFODOL PWYLLGOR ARFORDIR Y CAMBRIAN pdf eicon PDF 227 KB

Trafod cynnig gan Bwyllgor Cyswllt Rheilffordd yr Amwythig ac Aberystwyth (SARLC) i gyfuno Pwyllgorau SARLC a Chynhadledd yr Arfordir

 

Cofnod:

Derbyniwyd cynnig gan Pwyllgor Cyswllt Rheilffyrdd Amwythig Aberystwyth (SARLC) yn argymell trefniant bod Pwyllgor Rheilffordd Arfordir y Cambrian yn ymuno gyda SARLC a sefydlu un grŵp o dan ymbarél Cymdeithas Cynghorau Lleol Gogledd a Chanolbarth Cymru. Yng nghofnodion y Pwyllgor SARLC a gynhaliwyd 04/11/22, nodwyd bod y mater wedi ei drafod mewn manylder gydag adroddiad yn cynnwys y rhesymeg a’r argymhelliad yn llawn - cynigwyd yr argymhelliad gan Cyng Trevor Roberts ac eiliwyd gan Angus Eikhoff - roedd y bleidlais yn unfrydol o blaid y cynnig.
 

Sylwadau a materion eraill a godwyd yn ystod y drafodaeth:

·         Gweld pwrpas dros ymuno fel modd o osgoi colli allan ar drafodaethau

·         Derbyn parhau ar wahân ond pryder ynglŷn a galw swyddogion i ddau gyfarfod

·         Bod Pwyllgor y Cambrian yn trafod materion lleol – buasai hyn yn cael ei golli mewn fforwm fwy

·         Pwyllgor y Cambrian yn gweithio yn dda - yn cyfarfod dwywaith y flwyddyn gyda Swyddogion Network Rail a Thrafnidiaeth Cymru yn mynychu bob tro

·         Cynrychiolaeth o’r Cambrian mewn cyfarfodydd SARLC – derbyn gwybodaeth briodol

·         Nad oedd Trafnidiaeth Cymru wedi datgan cefnogaeth i uno’r ddau bwyllgor

 

Cynigiwyd ac eiliwyd cadw at y trefniadau presennol gan sicrhau cyswllt agos gyda SARLC

 

9.

CWESTIYNAU FFURFIOL pdf eicon PDF 99 KB

I dderbyn ymateb i gwestiynau ffurfiol a dderbyniwyd

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyngor Tref Abermaw

 

Cwestiwn:

“Bydd y trenau newydd yn lleihau capasiti a nifer y toiledau. Dywedodd Trafnidiaeth Cymru wrthym i ddechrau y byddem yn cael trenau 3 cherbyd a fyddai’n cynyddu capasiti. Ymddengys erbyn hyn mai dim ond 2 gerbyd fydd ar y trenau newydd gyda chapasiti llai ar lein sydd eisoes yn brysur iawn ac yn orlawn yn y prif dymor. A all Trafnidiaeth Cymru gadarnhau mai 3 cherbyd fydd ar y trenau newydd?”

 

Ateb:

Bydd Trafnidiaeth Cymru yn defnyddio 3 cherbyd yn ôl yr angen. Nododd GJ nad oedd wedi cael gwybod am unrhyw beth gwahanol, ond wedi anfon e-bost i wirio hyn.

 

Cwestiwn:

Nid yw'r drysau mynediad o'r swyddfa docynnau a'r lle aros i'r platfform yn agor yn awtomatig mwyach. Adroddwyd am hyn 3 blynedd yn ôl a sawl gwaith ers hynny ac nid oes dim wedi'i wneud i'w drwsio. Mae hyn yn gwneud mynediad i'r platfform yn anodd oherwydd yn y gaeaf nid yw'n bosibl gadael y drysau ar agor. Mae'n gwneud i aros yn yr ardal dan do yn amhosibl - gwell gan lawer o ddefnyddwyr hŷn y rheilffordd eistedd dan do wrth aros i'r trên gyrraedd. Os yw'r drysau ar agor yn barhaol mae'r man aros a'r swyddfa docynnau yn mynd yn oer iawn, ac ar ddiwrnodau gwyntog mae'r holl wybodaeth yn chwythu o gwmpas Allwch chi roi gwybod i ni pryd fydd y drysau'n cael eu trwsio?

 

Ateb:

Cais wedi ei wneud am archwiliad cynnal a chadw i atgyweirio’r drws ond os na ellid ei drwsio bydd rhaid cael drws newydd.

 

A fydd biniau newydd ar y platfform (tua'r Gogledd) yn cael eu newid? Mae'r biniau ar y platfform tua'r De yn fach ac mae'r un ger y brif fynedfa wedi'i symud. Oes modd edrych ar fwy o finiau?

 

Sylw wedi ei dderbyn

 

Cyngor Cymuned Llanbedr

 

Cwestiwn:

Deallwn bydd Gorsaf Talwrn Bach yn cael ei uwchraddio yn y gwanwyn, be yn union fydd y gwelliannau yma.?

 

Cais am fanylion / syniadau o’r hyn sydd ei angen mewn perthynas ag uwchraddio'r orsaf

 

Cwestiwn

Pryd fydd y trenau newydd ar waith?

 

Ateb

Bydd y trenau newydd ar waith yn 2023

 

Cwestiwn

A oes yna unrhyw adborth am waith y gwirfoddolwyr sydd wedi mabwysiadu'r orsaf yma yn Llanbedr? Mae sawl archwiliad wedi ei gynnal hyd yma.

 

Ateb:

Derbyniwyd diweddariad gan Rheilffyrdd Cymunedol

 

Bod mabwysiadwyr yr orsaf yn ymwybodol bod cyllid ar gael i osod cyfarwyddiadau o waith celf  yn yr orsaf. Ar hyn o bryd mae cyllideb i argraffu unrhyw ddyluniad ac os gellid darparu'r gwaith celf ynghyd â manylion y cyflenwr, gall yr anfoneb gael ei thalu. Ategwyd bod rheolwr yr orsaf wedi cytuno i adfywio’r lloches bresennol gyda chefnogaeth ei dîm yn y gwanwyn.

 

Bydd cynhadledd gwirfoddolwyr y Cambrian yn cael ei gynnal ym mis Chwefror 2023 (dyddiad a lleoliad i’w cadarnhau).

 

Cyswllt: Sian.jones@tfw.rail ar gael i gynorthwyo gydag unrhyw ymholiadau ynghylch mabwysiadu gorsaf.

 

 

Cynghorydd (Tref) Trevor Roberts

 

Cwestiwn:

Pam na chafodd amserlenni gwasanaeth y rheilffordd eu  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.