Lleoliad: Y Ganolfan (ger yr Harbwr), Porthmadog
Cyswllt: Glynda O'Brien 01341 424301
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol Cadeirydd am y flwyddyn 2015-16. Cofnod: Penderfynwyd: (a) Ail-ethol y
Cynghorydd Selwyn Griffiths yn Gadeirydd
y Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2015/16. (b) Cyfleu diolch y Pwyllgor i’r Cynghorydd Selwyn Griffiths am ei
waith caled yn ei swyddogaeth
fel Cadeirydd dros y flwyddyn diwethaf. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol Is-gadeirydd am y flwyddyn 2015/16. Cofnod: Penderfynwyd: (a) Ail-ethol y
Cynghorydd Eryl Jones-Williams yn Is-gadeirydd y Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2015/16. (b) Gofynnwyd i’r Cynghorydd Eryl Jones-Williams gadeirio’r
cyfarfod hwn oherwydd anallu’r Cynghorydd
Selwyn Griffiths i fod yn bresennol oherwydd profedigaeth teuluol. |
|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Y Cynghorwyr Selwyn Griffiths, John Brynmor
Hughes, Gethin Williams, Mrs Liz Saville
Roberts (Aelod Seneddol Dwyfor/Meirionnydd), Ms Rebecca Evans (Aelod Cynulliad
Canolbarth a Gorllewin Cymru), Mr Simon Thomas (Aelod Cynulliad Canolbarth a
Gorllewin Cymru), Mr Tudur Williams (Ysgol Ardudwy), Mr Trevor Roberts
(Pwyllgor Rheilffordd Amwythig-Aberystwyth). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad
o gysylltiad personol gan unrhyw aelod
oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS I ystyried unrhyw fater sydd yn teilyngu sylw brys ym marn y Cadeirydd. Cofnod: Ni dderbyniwyd
materion brys i’w trafod. |
|
I gadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 24 Ebrill 2015. Cofnod: Cyflwynwyd: Cofnodion cyfarfod y gynhadledd a gynhaliwyd ar 24 Ebrill 2015. Penderfynwyd: Derbyn a chymeradwyo’r cofnodion uchod.
|
|
ADRODDIAD GAN NETWORK RAIL I dderbyn adroddiad gan Mr Dylan Bowen, Network Rail. Cofnod: Ni chyflwynwyd
adroddiad ysgrifenedig gan Network Rail ond bu i Mr Dylan Bowen adrodd yn llafar ar
ddatblygiadau fel a ganlyn: (i)
Bod Network Rail wedi ysgrifennu i’r rhanddeiliad i’w cynghori y byddai oediad gyda’r gwaith
o gwblhau darpariaeth y lifft yng Ngorsaf
Machynlleth tan mis Mawrth 2016. Oherwydd rhagolygon y tywydd y penwythnos yma byddai’n amhosibl
defnyddio’r craen ac felly hyderir y byddir yn gallu cwblhau’r
gwaith erbyn mis Mawrth. (ii)
Mewn ymateb i’r uchod
datganodd Aelod siom yn hyn
o beth, ac mai dim ond un platfform y gellir ei ddefnyddio
ac yn ychwanegol at hyn bod teithwyr yn gorfod disgwyl
yng Nghyffordd Dyfi. Wedi dweud hynny,
teimlwyd y byddai’r ddarpariaeth pan yn ei le yn welliant
aruthrol. (iii)
Mewn ymateb i gwestiwn y Cynghorydd
Owain Williams ynglyn â phryder
am yr oedi yng Nghyffordd Dyfi yn benodol
i deithwyr o Fachynlleth i Bwllheli, eglurodd Mr Bowen o safbwynt uwchraddio y ffordd ar gyfer
fforddolion (road-user) byddai
Network Rail yn fwy na pharod i gydweithio
gyda thrydydd parti mewn darparu
cynllun ond y byddai’n mwy manteisiol
pe byddai cynllun o’r fath
yn cael ei
gynnwys mewn cynllun trafnidiaeth ehangach. Pwysleiswyd na fyddai Network Rail yn gyfrifol fel prif
yrrwr unrhyw gynllun o safbwynt cyllido ond sicrhawyd
y byddent yn cydweithio gydag awdurdodau a chyfeiriwyd at engreifftiau lle gweithredwyd cynlluniau o’r fath mewn
darparu meysydd parcio yn Ne Cymru. (iv)
Awgrymwyd y dylid cyfeirio eitem i drafod Cyffordd Dyfi i gyfarfod y Cyd-bwyllgor Rheilffordd Amwythig-Aberystwyth
a Phwyllgor Rheilffordd Arfordir y Cambrian sydd i’w gynnal ar
27 Tachwedd 2015 yn Y Plas, Machynlleth. (v)
O safbwynt cwestiwn y Cynghorydd Gethin Williams ynglŷn
â gweithredu moratoriwm ar daliadau Pont Abermaw yn ystod
y cyfnod cynllunio / atgyweiriadau, nododd Mr Bowen ei fod wedi
trafod y mater gyda’r Aelod yn gynharach. Nododd ymhellach bod Network Rail yn yr un sefyllfa â Chyngor Gwynedd o safbwynt gorfod chwilio am arbedion gyda tharged
i ddarganfod oddeutu 20% dros y cyfnod nesaf. Fodd bynnag, roedd trafodaethau
yn parhau gyda Chyngor Gwynedd ynglyn ag adnewyddu’r Bont gyda’r bwriad
o leihau’r costau cynnal a chadw. Ar hyn o bryd roedd yn
gynamserol i adrodd yn llawn, ond
nodwyd bod trafodaethau cychwynnol yn digwydd
rhwng Network Rail â rhanddeiliad
perthnasol gan gynnwys Cyngor Gwynedd, Parc Cenedlaethol Eryri, a CADW. (vi)
Cyfeiriodd Mr David
Roberts at bryder ynglŷn
â thir ym mherchnogaeth Network Rail a elwir
yn Bryn Llestair (Picnic
Island) ac roedd yn ymwybodol bod Fforwm Mynediad De Eryri wedi cysylltu gyda
Network Rail ynglyn â’r tir ond nad
oeddynt wedi derbyn ymateb. Defnyddir y tir gan oddeutu
1,000 o fyfyrwyr o Outward Bound Cymru. (vii) Mewn ymateb i’r uchod, nododd Mr Bowen nad oedd yn ymwybodol o’r mater ond os gall Fforwm Mynediad De Eryri gysylltu gydag ef a / neu drwy’r Swyddog Cefnogi Aelodau, fe sicrhaodd y byddai’n dilyn y mater i ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
ADRODDIAD GAN TRENAU ARRIVA CYMRU CYF. PDF 355 KB I dderbyn adroddiad gan Mr Ben Davies, Arriva Trains Wales. Cofnod: Cyfeirwyd at yr adroddiad
a gyflwynwyd ynghlwm i’r Rhaglen gan
Mr Ben Davies, ar ran Trenau
Arriva Cymru Cyf a oedd yn cyfeirio
at: ·
lwyddiannau allweddol gan
nodi bod bodlondeb cwsmeriaid ar y lefel gorau (89%) a’r perfformiad yn un o’r rhai
gorau gan drenau yn y Deyrnas
Gyfunol ·
mesuryddion perfformiad - 97.9% a 93.5% o ran dibynadwyedd
a phrydlondeb ·
buddsoddwyd £45m yn erbyn
gofyniad masnachfraint o
dim ond £400,000 ·
gwasanaethau newydd a gwell
a oedd yn cynnwys ychwanegu trenau seddi ychwanegol,
cyflwyno cynnyrch newydd a chefnogi brosiectau cymunedol ·
drosolwg o’r fasnachfraint
gan nodi: o
2,204 o weithwyr o
1,009 milltir o lwybrau teithio o
956 o wasanaethau yn cael eu gweithredu
y dydd o
27.4m o deithiau gan deithwyr
y flwyddyn o
Fflyd o 128 trên o
247 gorsaf, 55 ohonynt gyda staff Cyflwynwyd
hefyd daflen ychwanegol i’r Aelodau yn ystod y cyfarfod. Ychwanegodd Mr Ben Davies y gwelwyd cynydd o deithwyr ar y trenau yn
ystod yr haf eleni a bod hyn yn galonogol
o flwyddyn i flwyddyn gyda’r sustem ERTMS yn profi’n llwyddiant.
Gwelwyd wasanaeth newydd
o Amwythig i Aberyswyth gyda’r tren 7.00 p.m. on er nad oedd
yn stopio ymhob Gorsaf Drên, roedd
trafodaethau yn parhau ar gyfer
datrys y sefyllfa. Bu i Mr Trevor Roberts, Is-Gadeirydd
Pwyllgor Rheilffordd Amwythig ac Aberyswyth, drafod gyda swyddogion
yn Llywodraeth Cymru o safbwynt amserlen sydd yn
dderbyniol i bawb. Cydnabuwyd bod angen i roi
ystyriaeth i sefydlu mwy o gysgodfeydd a mwy o feysydd parcio
a’r bwriad fyddai cynnal trafodaethau
yn lleol. Mewn ymateb i’r
cwynion ynglyn ag arhosiadau hir am gysylltiad yng Nghyffordd Dyfi, esboniodd Swyddog Partneriaeth Rheilffyrdd y
Cambrian bod y mater yn derbyn
sylw o safbwynt adnabod pa drên sydd yn
gorfod aros yn hir er
mwyn gallu uniaethu ar gyfer
amserlen newydd ar gyfer flwyddyn
nesaf. Tynnwyd y materion canlynol
i sylw Mr Ben Davies ac fe sicrhaodd y byddai’n rhoi sylw brys
iddynt: (a)
Bod ffenestri’r trenau yn fudr (b)
Cwynion am y toiledau Penderfynwyd: Derbyn a nodi’r adroddiad a gofyn i Mr Ben Davies ymdrin a phwyntiau (a) a (b) uchod. |
|
ADRODDIAD SWYDDOG RHEILFFORDD Y CAMBRIAN PDF 265 KB I dderbyn adroddiad gan Swyddog Rheilffordd y Cambrian. Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan Swyddog Partneriaeth
Rheilffyrdd y Cambrian yn amlinellu gweithgareddau a weithredwyd ganddo megis: ·
Prosiect Ffilm – Help Llaw – ffilm ar gyfer
bobl ifanc gydag anghenion arbennig a enillodd wobr ACoRP yn
y category “Teithwyr sy’n Bwysig”. Roedd y ffilm wedi
ei chyflwyno ar gyfer Gwobr
Diwydiant Rheilffyrdd y
DG. Yn ogystal nodwyd bod trefniadau mewn llaw i’w dangos
ac annerch Aelodau San Steffan, Aelodau’r
Cynulliad, Arglwyddi ac uwch weision sifil
yn y Senedd yng Nghaerdydd a San
Steffan. ·
Gorsaf Aberystwyth – Shopmobiliy – cytundeb mewn egwyddor i gydweithio gyda CAVO ar gyfer cwrdd
a theithwyr tren sydd wedi trefnu
sgwter “shopmobility” yng ngorsaf Aberyswyth. ·
Ymgyrch Posteri Ysgolion – rhan o raglen ble
gafodd disgyblion gyfle i ddyluno poster diogelwch a dangoswyd nifer ohonynt yn
y gorsafoedd lleol i’r ysgolion. ·
Cyhoeddiadau - ymhelaethwyd ar nifer o engreifftiau i annog defnydd o’r rheilffordd. ·
Grwp Gweithredu’r Cambrian – trefnu grwpiau ffocws ac arolygon ynghyd a thrafodaethau gyda Chyngor Cymuned Caersws ar y posibilrwydd
i gael trefniant mwy addas i barcio
ceir yn yr
orsaf. ·
Rheilffyrdd Cymunedol Cymru – Cyfarfod gyda’r Gweinidog i weld sut y gall partneriaethau gael mwy o gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru ·
Gwefan – nodwyd bod nifer yr ymwelwyr yn
cynyddu. Mewn ymateb i sylw
wnaed gan Aelod ynglyn a hyrwyddo’r ffilm, nododd y Swyddog Partneriaeth Rheilffyrdd y
Cambrian y byddai Trenau
Arriva Cymru yn cynorthwyo gyda hyn. Cymerwyd y cyfle i ddiolch i Arglwydd Dafydd Elis
Thomas mewn perthynas a threfniadau i ymweld á’r Senedd ar
19 Tachwedd i gyhoeddi’r ffilm. Ychwanegwyd byddai modd dangos y ffilm
i Aelodau’r Pwyllgor hwn yn ei
gyfarfod nesaf ond yn y cyfamser
gellir anfon dolen i’r Swyddog
Cefnogi Aelod i’w anfon ymlaen
i Aelodau. Ar ran y Pwyllgor, llongyfarchwyd y Swyddog Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian am yr holl waith o hybu’r
rheilffordd. Penderfynwyd: Derbyn a nodi’r adroddiad. |
|
ADRODDIAD HEDDLU TRAFNIDIAETH BRYDEINIG PDF 100 KB I dderbyn adroddiad gan gynrychiolydd o Heddlu Trafnidiaeth Brydeinig. Cofnod: Cyflwynodd yr Heddwas Rob Newman grynodeb byr o’r
digwyddiadau diweddar gan nodi nad oedd
llawer wedi digwydd ar Reilffordd
y Cambrian. Roedd mwyafrif o’r achosion a ymdrinwyd a hwy yn droseddau traffig
ffyrdd yn bennaf problemau parhaus gyda gyrwyr
yn camddefnyddio’r croesfannau rheilfffordd. Yn lleol, nodwyd achosion
o gamddefnydd ar draws croesfan Talwrn Bach, Llanbedr. Deallir bod rhwystrau yn cael eu
gosod yn fuan ar y groesfan
dan sylw. Nodwyd bod agoriad Tafarn Wetherspoons ym Mhwllheli wedi
effeithio ar nifer teithwyr ar y gwasanaeth 20:12 o Bwllheli i Fachynlleth ar nosweithiau Gwener a Sadwrn. Derbyniwyd rhai adroddiadau gan griwiau’r trenau bod teithwyr wedi eu
drifio yn eiriol, yn enwedig
mewn perthynas a’r mynediad amser
a roddir i’r tren cyn gadael
Pwllheli. Byddir yn gweithio’n
agos gyda swyddogion Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig o Fangor a Rhyl i fonitro unrhyw broblemau pellach. Nodwyd ymhellach os oes
unrhyw broblem ar y rheilffordd / trenau, bod modd i unigolion gysylltu gyda Heddlu Trafnidiaeth
Prydeinig neu anfon neges testun
ar y rhif 61016. Mewn ymateb i adroddiad yr Heddwas, ymfalchiwyd
o glywed y bydd rhwystrau yn cael
eu rhoi ar
groesfan Llanbedr o ystyried bod oddeutu 500 o geir yn teithio
o Mochras ar un tro a’i fod
yn un o’r gwersyllfeydd mwyaf yn Ewrop. Mewn ymateb i sylw wnaed
gan Aelod ynglyn á Heddwas i fod ar ddyletswydd
tu allan i Wetherspoons, Pwllheli, esboniodd Heddwas Rob Newman mai cyfrifoldeb o dan awdurdodaeth Heddlu Gogledd Cymru fyddai hynny
ond bod Heddlu Trafnidiaeth Pwllheli yn ceisio targedu
problemau yn yr orsaf dren
ac ar y tren. Nid oedd yn bosibl
iddynt fod ym Mhwllheli pob
Nos Sadwrn ond deallir bod camera cylch cyfyng tu
allan i’r dafarn. Penderfynwyd: Derbyn, nodi a diolch i’r Heddwas Rob Newman am |
|
CWESTIYNAU FFURFIOL PDF 223 KB I dderbyn ymateb i’r cwestiynau amgaeedig dderbyniwyd ers y cyfarfod diwethaf. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: (a)
Cyflwynwyd dau gwestiwn ysgrifenedig
ffurfiol gan Aelodau o’r Gynhadledd ac fe nodwyd bod y swyddogion perthnasol wedi ymdrin ág un o’r
rhain yn ystod eu cyflwyniadau. O safbwynt cwestiwn y Cynghorydd Gethin Williams deallir
ei fod wedi
trafod y mater gyda Mr
Dylan Bowen, Network Rail. (b) Aelodaeth – Cyflwynwyd cais gan Gyngor Tref Penrhyndeudraeth ynghyd a llythyr gan Bwyllgor Meirionnydd o Un Llais Cymru i wahodd pob Cyngor Cymuned a Thref sydd a lein y rheilffordd yn rhedeg drwy eu wardiau i fod yn aelodau o Bwyllgor Rheilffordd Arfordir y Cambrian. Adroddwyd bod 16 Cyngor Cymuned
/Tref ar yr arfordir ac fe restrwyd rhain i’r Pwyllgor. Nodwyd bod
Aelodau etholedig lleol
Cyngor Gwynedd wedi eu penodi i wasanaethu ar y Pwyllgor ac yn gallu adrodd
i’r Cynghorau Cymuned / Tref a fynychir ganddynt ar weithrediadau
Cynhadledd Rheilffordd y
Cambrian. Yn dilyn trafodaeth ar y mater, awgrymwyd y gall Cynghorau Cymuned / Tref godi materion ym
Mhwyllgor Rheilffordd Arfordir y Cambrian drwy gyfeirio y materion yntau drwy yr
Aelod etholedig lleol / y ddau gynrychiolydd Un Llais Cymru a / neu drwy
drefniant gyda’r Cadeirydd gellir gwahodd cynrychiolydd i’r cyfarfod. Yn ogystal, gofynnwyd i’r Swyddog Cefnogi
Aelodau a Chraffu
i’r dyfodol i anfon rhaglen y Pwyllgor i Glercod yr 16 Cyngor Cymuned / Tref a restrwyd isod. Penderfynwyd: Gofyn i’r Swyddog
Cefnogi Aelodau: (a) ymateb
i lythyr Pwyllgor Ardal Dwyfor a Meirionnydd i gyfleu
penderfyniad y Pwyllgor fel amlinellir uchod. (b) i’r dyfodol anfon rhaglen
/ cofnodion y Pwyllgor i Glercod y Cynghorau Cymuned / Tref isod: Meirionnydd Dwyfor Aberdyfi
Porthmadog Tywyn Cricieth Llangelynnin Llanystumdwy Arthog Llannor (Abererch) Abermaw Pwllheli Dyffryn Ardudwy Llanbedr Llanfair Harlech Talsarnau Penrhyndeudraeth
|
|
I drafod cais sydd wedi dod i law y Cadeirydd ynglyn a gwahodd cynrychiolaeth o phob Cyngor Cymuned y mae'r rheilffordd yn rhedeg drwy eu wardiau i wasanaethu ar y Pwyllgor hwn. Dogfennau ychwanegol: |