skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Glaslyn, Y Ganolfan (ger yr Harbwr), Porthmadog

Cyswllt: Glynda O'Brien  (01341) 424301 E-bost: glyndaobrien@gwynedd.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd i’r Pwyllgor hwn am y flwyddyn  2016/17.

 

 

Cofnod:

Penderfynwyd:          Ail-ethol y Cynghorydd Selwyn Griffiths yn Gadeirydd y Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2016/17.

 

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd i’r Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2016/17.

 

 

Cofnod:

Penderfynwyd:          Ail-ethol y Cynghorydd Eryl Jones-Williams yn Is-gadeirydd y Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2016/17.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau oddi wrth Y Cynghorwyr Annwen Hughes, John Brynmor Hughes, Dewi Owen, Gethin Williams,  Arglwydd Dafydd Elis Thomas (Aelod Cynulliad Dwyfor/Meirionnydd),  Alun Wyn Evans (Cylch Meirionnydd Un Llais Cymru), Tudur Williams (Ysgol Ardudwy), Mansel Williams a Trevor Roberts (Pwyllgor Rheilffordd Amwythig-Aberystwyth),  Claire Britton (Rheilffordd Ffestiniog ac Eryri),  Rhydian Mason (Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian), Rob Newman (Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig).

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o gysylltiad personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

5.

MATERION BRYS

I ystyried unrhyw fater sydd yn teilyngu sylw brys ym marn y Cadeirydd. 

 

Cofnod:

Gosod y cyfeiriad ar gyfer ffurflen ymateb i'r ymgynghoriad Rheilffordd Cymru a'r Gororau

 

Adroddodd y Cadeirydd ei fod wedi cynnal cyfarfod brys cydrhyngddo a’r Is-gadeirydd a Chadeirydd Pwyllgor Rheilffordd Amwythig-Aberystwyth i lunio ac i anfon ymateb i’r ymgynghoriad gan Lywodraeth Cynulliad yn ddiweddar ynglyn a’r masnachfraint.  Tynnwyd sylw at rai o’r prif faterion megis:

 

  • Angen mwy o gerbydau tren
  • Trenau mwy aml ac ar amser
  • Tren ychwanegol ar ddydd Sul (ac yn arbennig yn ystod gwyliau)
  • Llawer o deithwyr yn teithio ar benwythnosau
  • Tren uniongyrchol o Bwllheli I Gaerdydd
  • Mwy o fannau parcio o gwmpas rhai gorsafoedd
  • Adnoddau yn y gorsafoedd i brynu tocynnau ymlaen llaw
  • Gwella gorsafoedd ar hyd y lein

 

Penderfynwyd:          Gofyn i’r Swyddog Cefnogi Aelodau anfon copi o’r ymateb i Aelodau’r Pwyllgor Rheilffordd y Cambrian, er gwybodaeth.  

 

 

6.

COFNODION pdf eicon PDF 272 KB

I gadarnhau cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 13 Tachwedd 2015. 

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd:             Cofnodion cyfarfod y gynhadledd a gynhaliwyd ar 13 Tachwedd 2015 yn ddarostyngedig i’r cywiriad isod:

 

Eitem 6 (iv) – Bryn Llestair (Picnic Island) – cywirio’r ffigwr i 12,000 o fyfyrwyr .... yn hytrach na 1,000.     

           

Penderfynwyd:          Derbyn a chymeradwyo’r cofnodion uchod. 

 

5.1       Materion yn Codi o’r Cofnodion:

 

Bryn Llestair (Picnic Island)

 

Cymerwyd y cyfle gan Mr David Roberts i gyfleu ei ddiolch i Network Rail yn deillio o adborth bositif mewn cyfarfod gyda Rebecca Collins ynglyn a’r tir ym mherchnogaeth Network Rail.  

 

 

7.

ADRODDIAD GAN NETWORK RAIL

I dderbyn adroddiad gan Mr Dylan Bowen, Network Rail.

Cofnod:

Croesawyd Sam Hadley, Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus,  a Sian Lewis, Noddwr Cynlluniau Masnachol (Network Rail), i’r cyfarfod.

 

(A)         Eglurodd Sam Hadley mai ef fydd yn mynychu cyfarfodydd y pwyllgor hwn i’r dyfodol  ac fe anogwyd yr Aelodau i gysylltu ag ef yn uniongyrchol gydag unrhyw faterion o bryder iddynt.  Ymatebodd i’r cwestiynau ffurfiol a gyflwynwyd gan nodi fel a ganlyn:

 

(a)           Croesfan Talwrn Bach, Llanbedr – beth yw’r diweddaraf ynglyn a gosod bariau ar y groesfan o ystyried bod trafnidiaeth yn cynyddu dros y groesfan hon yn ddyddiol a gyda’r Neuadd bentref yn cael ei ail-leoli (dros dro) i safle’r maes awyr, bydd mwy o drafnidiaeth eto.

 

Cefnogodd sawl aelod yr un pryderon a’r Cynghorydd Annwen Hughes, aelod lleol dros Llanbedr, a’i fod yn fater sydd wedi ei godi yn y pwyllgor hwn ers blynyddoedd lawer a bod gwir angen datrys y mater unwaith ac am byth.   

 

 

Mewn ymateb, eglurwyd y bydd ymchwiliad o’r safle yn digwydd diwedd y flwyddyn ac fe addawyd y byddir yn hysbysu’r Swyddog Cefnogi Aelodau gan gyflwyno adroddiad cynhwysfawr ynghyd ag amserlen o’r datblygiad.   

 

 

(b)          Ysbwriel ar y rheilffordd yn ardal Cricieth yn benodol ochr ddwyreiniol y dref o’r Graig Ddu at Morannedd.

(c)          Nifer o goed a llwyni wedi gor-dyfu ar hyd y rheilddord – beth yw cynlluniau Network Rail i dorri/rheoli’r tyfiant ac i gael gwared o llysiau dial.

 

Mewn ymateb, esboniwyd bod Network Rail yn cael gwared o ysbwriel ond bod yn rhaid blaenoriaethu e.e. bod prosiect enfawr yn Sir Fflint i glirio ar hyn o bryd yn wyneb y ffaith bod yr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yno gyda’r awdurdod lleol wedi darparu sgip a staff i gynorthwyo. 

 

O safbwynt rhaglen llystyfiant, cadarnhawyd os oes unrhyw dyfiant yn broblemus fe fyddir yn blaenoriaethu.  O safbwynt llysiau dial bod gan Network Rail gyfrifoldeb cyfreithiol i’w waredu os yn lledaenu ar dir trydydd parti. Gofynnwyd i’r aelod lleol am gyfeiriadau penodol lle mae llysiau’r dial yn broblemus ac fe fyddir yn dilyn hyn i fyny yn ddi-oed.

 

(ch)      Ysbwriel rhwng Penychain a Phwllheli.

 

Eto, cadarnhaodd y swyddog y byddir yn ymdrin a’r uchod a bod Network Rail llawer iawn mwy ymatebol yng Ngogledd Cymru ac fe groesawir unrhyw gydweithrediad gyda Chynghorau lleol.

 

Penderfynwyd:          (a)        Diolch i’r swyddog am yr ymateb a gofyn iddo ddilyn hwy i fyny yn ddi-oed.

 

                                    (b)       Bod y Cynghorydd Eirwyn Williams yn rhoi cyfeiriadau penodol lle mae’r llysiau dial yn lledaenu ar dir trydydd partion fel bo modd i’r Cydlynydd Cynnal a Chadw Gweithredol fedru mynd i’r afael a’r broblem. 

 

 

(B)         Derbyniwyd cyflwyniad ar ffurf sleidiau gan Sian Lewis, Noddwr Cynlluniau Masnachol  Network Rail, ar gefndir Traphont Abermaw, y gwaith hyd yma, sgop y rhaglen waith ynghyd a’r risgiau a’r sialensau ynghlwm a’r gwaith atgyweirio i draphont eiconig sydd yn rhestredig (Gradd II).  

 

Amlinellwyd y gwaith a gyflawnwyd hyd yma sef:

 

  • Ymweliadau safle dros haf 2015 er mwyn darganfod cyflwr presennol y draphont
  • Cynhyrchu adroddiad o ddewisiadau lefel uchel ar gyfer strwythurau metalig a phren
  • Cyfarfod gyda rhanddeiliaid megis Grwp Mynediad  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

ADRODDIAD GAN TRENAU ARRIVA CYMRU CYF.

I dderbyn adroddiad gan Mr Ben Davies, Trenau Arriva Cymru.

Cofnod:

Derbyniwyd adroddiad llafar gan Mr Ben Davies, Trenau Arriva Cymru, gan nodi

 

·         bod cynnydd yn nifer o deithwyr sy’n defnyddio’r trenau a’r broblem ydoedd nad oedd ganddynt ddiogon o drenau

·         y bydd darpariaeth Wi-fi yn cael ei roi ar drenau’r 150, 158 a’r 175 y Cambrian o fis Medi ymlaen gan dynnu sylw y bydd rhai mannau nas gellir cael mynediad ond sicrhawyd y byddai modd cael cysylltiad yn y Gorsafoedd

·         bod y Gwyl Gomedi a gynhaliwyd ym Machynlleth dros Wyl Banc Calan Mai wedi bod yn llwyddiant i’r gwasanaeth ac i’r gymuned

·         y byddir yn parhau gyda’r gwaith caled o hyrwyddo a datblygu’r gwasanaeth am y ddwy flynedd nesaf hyd nes y daw’r fasnachfraint i ben

·         bod y Cynllun Waled Oren ar gyfer anghenion pobl gyda anawsterau dysgu yn llwyddiannus dros ben a’i bod yn cael eu hyrwyddo ar ffurf ffilm o gwmpas y wlad erbyn hyn

·         o safbwynt cyhoeddiadau drwy gyfrwng y Gymraeg ar rheilffordd y Cambrian, sicrhawyd bod yr iaith Gymraeg yn bwysig i Drenau Arriva Cymru ac fe fyddir yn trefnu gwasanaeth dwyieithog ar gyfer pob un o’r Gorsafoedd yng Nghymru.  Nodwyd ymhellach nad oedd problem yn y Gorsafoedd ond profir problemau ar y trenau oherwydd y pellter rhwng gorsafoedd.  Mewn ymateb i ymholiad gan y Cadeirydd o amserlen i dderbyn darpariaeth dwyieithog ar reilffordd y Cambrian, esboniodd Mr Ben Davies nad oedd modd rhoi dyddiad penodol ond y byddai yn dilyn y mater i fyny gan sicrhau bod darpariaeth yr iaith yn cael ei gynnwys yn y masnachfraint newydd.  Nodwyd ymhellach bod pob un o docynnwyr Trenau Arriva Cymru yn siarad yr iaith

·         y bydd y lifft wedi eu gwblhau yng Ngorsaf Machynlleth erbyn 18 Mehefin 2016

·         o safbwynt y tren 8.00 y.h. o Fachynlleth i Pwllheli ddim yn stopio ymhob Gorsaf ar y lein,  eglurwyd mai’r brif broblem ydoedd bod cyfyngiad ar yr amser i’r gyrrwyr y trenau fedru gyrru heb doriad (4 awr) ac os bydd yn rhaid stopio yn y gwahanol orsafoedd byddent yn mynd dros yr amser caniatiedig i yrru.   Awgrymwyd mai’r ffordd orau ymlaen ydoedd trafod ymhellach gyda Mr Ken Skates, Aelod Cynulliad, ac apeliwyd ar i Aelod Seneddol Dwyfor/Meirionnydd, Aelod Cynulliad Dwyfor/Meirionnydd ddilyn y mater i fyny hefyd.

·         Bod trafodaethau yn parhau gyda Chyngor Gwynedd ynglyn a’r Ganolfan Dwristiaeth yn Abermaw, oherwydd bod y Cyngor yn awyddus i’w gau ac ar hyn o bryd yn gwerthu tocynnau i Trenau Arriva Cymru ar gyfer rheilffordd y Cambrian. 

·         Bod “app.trainline” newydd ar gael ar gyfer archebu tocynnau i ffonau symudol priodol “Arriva Train Tickets”

·         O safbwynt platfform isel, bod Trenau Arriva Cymru wedi ymgymryd a gwaith i adnewyddu 27 ohonynt a bod mwy i’w wneud

 

 

Penderfynwyd:        Derbyn a nodi’r adroddiad.

 

                                  (b)  Anfon llythyr o longyfarch i Ken Skates, Aelod Cynulliad – Ysgrifennydd Economi ac Isadeiledd Cabinet Llywodraeth Cymru (Cabinet Secretary for Economy and Infrastructure)  ac i’w wahodd i fynychu cyfarfod o’r Pwyllgor hwn i’r dyfodol.

 

 

9.

ADRODDIAD SWYDDOG RHEILFFORDD Y CAMBRIAN pdf eicon PDF 212 KB

I dderbyn adroddiad gan Swyddog Rheilffordd Partneriaeth y Cambrian. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Yn absenoldeb y  Swyddog Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian  cyflwynwyd ei adroddiad i’r Pwyllgor, er gwybodaeth, a oedd yn amlinellu  gweithgareddau / cyhoeddiadau a  weithredwyd ganddo ers y cyfarfod diwethaf.

 

Nododdd y Cadeirydd y bydd y Rheilffordd yn dathlu 150 o flynyddoedd yn 2017 a hyderir y bydd digwyddiadau yn cael eu trefnu ar gyfer y dathliad.

 

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r adroddiad.

                

 

10.

ADRODDIAD HEDDLU TRAFNIDIAETH BRYDEINIG pdf eicon PDF 102 KB

I dderbyn adroddiad gan Mr Rob Newman, Heddlu Trafnidiaeth Brydeinig. 

 

Cofnod:

Yn absenoldeb yr Heddwas Rob Newman cyflwynwyd ei adroddiad I’r Pwyllgor, er gwybodaeth, a oedd yn nodi gostyngiad ym mwyafrif o droseddau ar lein Arfordir y Cambrian.   

 

 

Penderfynwyd:          Derbyn, nodi a diolch i’r Heddwas Rob Newman am yr adroddiad.  

 

11.

CWESTIYNAU FFURFIOL pdf eicon PDF 136 KB

I dderbyn ymateb i’r cwestiynau amgaeedig a dderbyniwyd ers y cyfarfod diwethaf.

 

   

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd pedwar gwestiwn ysgrifenedig ffurfiol gan Aelodau o’r Gynhadledd a Chyngor Cymuned ac fe nodwyd bod y swyddogion perthnasol wedi ymdrin a rhain yn ystod eu cyflwyniadau. 

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.

 

12.

GOHEBIAETH

Cyfleu datganiad gan Gyngor Cymuned Dyffryn Ardudwy a Thalybont nad ydynt yn cefnogi ail agor y  rheilffordd o Afonwen i Bangor oherwydd amcan o’r gost o gwmpas £50 miliwn a fyddai yn gallu cael ei wario yn well ar wella’r ffyrdd yn ardal Meirionnydd.

 

 

 

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd ddatganiad gan Gyngor Cymuned Dyffryn Ardudwy a Thalybont nad ydynt yn cefnogi ail-agor y rheilffordd o Afonwen i Bangor oherwydd amcan o’r gost o gympas £50 miliwm a fyddai yn gallu cael ei wario’n well ar wella’r ffyrdd yn ardal Meirionnydd.