Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Y Ganolfan (ger yr Harbwr), Porthmadog, Gwynedd

Cyswllt: Glynda O'Brien  (01341) 424301

Nodyn: glyndaobrien@gwynedd.llyw.cymru 

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau oddi wrth Y Cynghorydd Owain Williams, Mr Tudur Williams (Pennaeth Ysgol Ardudwy), Mr Alun Wyn Evans (Cynrychiolydd Meirionnydd Unllais Cymru), Heddwas Rob Newman (Heddlu Trafnidiaeth Prydain), Y Cyng. Trevor Roberts (Pwyllgor Cyswllt Rheilffordd Amwythig-Aberystwyth), Mr Neil Hamilton (AC Canolbarth a Gorllewin Cymru),  Tracy Parkinson (Rheilffordd Talyllyn).

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

I ystyried unrhyw fater sydd yn teilyngu sylw brys ym marn y Cadeirydd.

 

Cofnod:

Nid oedd y Cadeirydd wedi derbyn unrhyw faterion brys

4.

COFNODION pdf eicon PDF 238 KB

I gadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 20 Mai 2016.

 

(Copi’n amgaeedig)

Cofnod:

Cyflwynwyd:             Cofnodion cyfarfod y gynhadledd a gynhaliwyd ar 20 Mai 2016. 

 

Penderfynwyd:          Derbyn a chymeradwyo’r cofnodion

5.

ADRODDIAD GAN NETWORK RAIL pdf eicon PDF 572 KB

I dderbyn adroddiad gan Mr Sam Hadley a Mr Mark Peters, Network Rail.

 

(Copi’n amgaeedig)

Cofnod:

Croesawyd Mr Sam Hadley, Rheolwr Materion Cyhoeddus Llwybrau Cymru a Mr Mark Peters, Peiriannydd Asedau i'r cyfarfod.

 

Roedd Mr Mark Peters wedi paratoi cyflwyniad ar Draphont Abermaw ar ffurf sleidiau ond yn anffodus nid oedd yr offer angenrheidiol ar gael ac felly addawodd y byddai'n anfon y cyflwyniad i'r Swyddog Cefnogi Aelodau iddi hithau ei anfon ymlaen i aelodau'r Pwyllgor.

 

Aeth yn ei flaen i ddatgan fod y trenau yn rhedeg ers y tân diweddar ar Draphont Abermaw a hyderai mai dim ond ychydig o waith adfer oedd ar ôl i'w orffen ac y bydd hyn yn cael ei wneud cyn gynted â phosib.  

 

Dywedodd Swyddog Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian y byddai'r draphont yn dathlu 150 mlynedd y flwyddyn nesaf ac roedd yn awyddus i wybod am raglen y gwaith datblygu ar y draphont a'r amserlen i gael gwybod am faint o amser na fyddai modd ei defnyddio.   Gofynnodd hefyd i Network Rail i fod yn ystyriol gan leihau unrhyw darfu cymaint ag oedd yn bosib yn ystod y tymor gwyliau prysur, gan fod yr ardal yn dibynnu yn llawer iawn ar dwristiaeth.  

 

Fel rhan o'r dathliadau pen-blwydd, awgrymwyd y dylid dangos ffilm enwog a chyffrous 'Ghost Train' ac awgrymodd Mr Ben Davies, Trenau Arriva Cymru, hefyd y gellid defnyddio hanner un o'r trenau fel sinema i ddangos y ffilm.  

 

I ateb yr uchod, dywedodd Mr Sam Hadley fod Siân Lewis, oedd yn bresennol yn y cyfarfod diwethaf, bellach ddim yn swyddog noddi i'r Cynllun Noddi Masnachol (Network Rail) ac y bydd yna noddwr newydd.   Ychwanegodd hefyd y bydd Network Rail eisiau cymryd rhan yn y dathliadau a bydd yn cyfrannu ato.   Addawodd Mr Hadley cyn gynted ag y byddai gwybodaeth ar gael, byddai yn rhoi gwybod i'r  Swyddog Cefnogi Aelodau fel ei bod hithau yn rhoi gwybod i aelodau'r Pwyllgor.

 

Dywedodd aelod ei fod yn ymwybodol y byddai'r dathliad 150 mlynedd yn digwydd ym mis Hydref er mwyn peidio â gwrthdaro gyda Ras y Tri Chopa a gynhelir yn flynyddol ym mis Mehefin.

 

I ateb y pryderon a godwyd, sicrhaodd Mr Hadley Aelodau'r Pwyllgor:

 

·         nad oedd gan Network Rail unrhyw fwriad i gau'r lein, er bod pobl leol yn bryderus y byddai'n cau ac roedd yn sylweddoli pa mor werthfawr ydoedd i'r gymuned

·         na fyddai dim yn tarfu ar y dathliad 150 mlynedd o ran gwaith amddiffyn rhag y môr

·         na fyddai'r gwaith ychwanegol i wyneb y graig yn Llanaber yn effeithio ar lein y rheilffordd o gwbl a chafwyd sicrwydd y byddai'r peiriannau angenrheidiol yn mynd at y man gwaith o'r traeth. 

 

I ateb cais Aelod Seneddol Dwyfor/Meirionnydd am ragor o wybodaeth am geisiadau cynllunio, dylunio ac ati ar Draphont Abermaw, dywedodd Mr Hadley nad oedd unrhyw eglurder ar y mater yma ond fe fyddai yn ysgrifennu i ddiweddaru'r AS ac aelodau'r Pwyllgor hwn cyn gynted ag y byddai wedi derbyn yr wybodaeth.  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

ADRODDIAD GAN TRENAU ARRIVA CYMRU CYF.

I dderbyn adroddiad gan Mr Ben Davies, Trenau Arriva Cymru.

 

(Copi i’w ddosbarthu yn y cyfarfod)

Cofnod:

Rhoddodd y Cadeirydd groeso i Mr Ben Davies, Trenau Arriva Cymru, i gyflwyno ei adroddiad ar weithgareddau Trenau Arriva Cymru hyd yma.

 

Roedd yr aelodau wedi derbyn newyddlen yr Hydref drwy e-bost.

 

Dywedodd Mr Davies nad oedd hi wedi bod yn haf arbennig o dda i Drenau Arriva Cymru o ran problemau gweithredu ar y lein ac roedd hyn oherwydd: 

 

·         Y tân ar draphont Abermaw

·         Diffyg gyrwyr trenau - pan roedd gyrwyr yn ymddeol yn gynnar gallai gymryd hyd at 12 mis i hyfforddi darpar yrwyr trên ac felly nid oedd ganddynt unrhyw yrwyr ychwanegol   

·         Cyflenwad annigonol o drenau ar y lein - dim ond 24 o'r fflyd o 158 oedd yn gymhathol gyda ERTMS

 

Er hynny, roedd yn obeithiol y byddai'r sefyllfa yn gwella.  

 

Llongyfarchwyd Swyddog Rheilffyrdd Partneriaeth y Cambrian a diolchwyd iddo am ei waith yn hyrwyddo'r lein.  Nodwyd ymhellach fod Ysgol Ardudwy wedi bod yn ardderchog ac wedi cydweithio gyda hwy o safbwynt y problemau a gafwyd gyda thraphont Abermaw.

 

I ateb y sylwadau wnaed gan yr aelodau, dywedodd Mr Davies yr isod:

 

·         Roedd yn derbyn fod angen cerbydau ychwanegol gan fod mwy o deithwyr yn teithio ar y trên y dyddiau hyn

·         Dyma oedd yr amser gorau i ganfasio am ragor o drenau i Gymru cyn bod y darpar gwmnïau yn cyflwyno tendrau ar gyfer y fasnachfraint nesaf yn 2018.   

·         Byddai yn bosib rhedeg trenau ychwanegol ar y lein yma ar yr amod fod yr offer angenrheidiol wedi ei osod arnynt iddynt fod yn gymhathol gyda ERTMS

·         Bydd y system cyflwyno tocynnau newydd ar y trên yn gymhathol gyda threnau tanddaearol Llundain 

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd gan Aelodau unigol:

 

 

(a)          Bod yna is-bwyllgor o bedwar aelod sef:

 

Cyng. Trevor Roberts

Cyng. J. Michael Williams

Mr Robert Robinson

Mr Rhydian Mason

 

oedd mewn cysylltiad gyda Mr Ken Skates, Ysgrifennydd Economi a Seilwaith Cabined Llywodraeth Cymru ac os oedd unrhyw faterion o bryder yna dylid dod a'r rhain i sylw'r cydgyfarfod gyda Phwyllgor Rheilffordd Amwythig-Aberystwyth a gynhelir ar 25 Tachwedd 2016.

 

(b)          O ran y broblem gyda nifer annigonol o yrwyr trên, awgrymwyd y dylid recriwtio gyrwyr rhan-amser

 

Penderfynwyd - Derbyn a nodi’r adroddiad a diolch i Mr Ben Davies amdano.

 

 

7.

ADRODDIAD SWYDDOG RHEILFFORDD PARTNERIAETH Y CAMBRIAN pdf eicon PDF 156 KB

I dderbyn adroddiad gan Swyddog Rheilffordd Partneriaeth y Cambrian.

 

(Copi’n amgaeedig)

Cofnod:

Cyflwynwyd   - Adroddiad ysgrifenedig gan Mr Rhydian Mason, Swyddog Rheilffyrdd Partneriaeth y Cambrian oedd yn amlinellu'r gweithgareddau wnaed ers y cyfarfod blaenorol oedd yn cynnwys;

 

·         Shopmobility yn Aberystwyth

·         Arddangosfa Flodau yng Ngorsaf Aberystwyth

·         Help Llaw - prosiect ffilm a gwaith dilynol

·         Menter Llyfrgell

·         Digwyddiad Cymdeithas Arriva UK plc a Chymunedau

·         Arwydd cymunedol Caersws / Canolfan Gelf y Canolbarth

·         Gwobrau ACORP

·         Ffilm 'hyrwyddo' newydd

·         Ymgyrch Croesfannau Diogel

·         Cyhoeddiadau

·         Ffair Glasfyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth

·         Rheilffyrdd Cymunedol Cymru

·         Ceisiadau Grant Cronfa Gyfalaf Rheilffyrdd Cymunedol Llywodraeth Cymru

 

Cyfeiriodd Mr Mason at farwolaeth ddiweddar y Cyng. Mansel Williams ym mis Gorffennaf ac y byddai plac coffa yn cael ei osod ar blatfform 3 yng Ngorsaf Reilffordd Amwythig er cof am y diweddar Gyng. Williams.    Roedd Mr Mason wedi trefnu i gwpled yn y Gymraeg i gael ei harysgrifio ar y plac.

 

Roedd angen canmol Pennaeth Ysgol Ardudwy a'r disgyblion am eu gwaith fel mabwysiadwyr gorsaf.  Cynhelir digwyddiad ar 16 Rhagfyr 2016 i ddathlu'r gwaith a wnaed a bydd band Ysgol Ardudwy yn chwarae.

 

Hyderir y bydd Mr Mason yn gallu gwahodd Mr Ken Skates a'r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas i ymweld â rhai o'r gweithgareddau gaiff eu cynnal.

 

O safbwynt y cardiau oren Help Llaw, hyderwyd y gellid trefnu cyfarfod arbennig gydag Aelod Seneddol Dwyfor/Meirionnydd ac Aelod Cynlluniad Dwyfor/Meirionnydd yn San Steffan cyn diwedd y flwyddyn.   Nodwyd ymhellach y gallai unrhyw unigolyn ddefnyddio'r cerdyn oren os oeddent angen cymorth ar y trên.   Mewn ymateb i wahoddiad i fynychu Grŵp Mynediad Meirionnydd i hyrwyddo'r cardiau oren, cytunodd Mr Mason i gyd-gysylltu gyda'r Cynghorydd Delwyn Evans er mwyn trefnu dyddiad addas.

 

O ran ceisiadau i Gronfa Gyfalaf Rheilffyrdd Cymunedol Llywodraeth Cymru roedd cais wedi ei gyflwyno ar gyfer llochesi yn y Trallwng, Cyffordd Dyfi a Llanaber ac fe hyderwyd y byddai un o'r ceisiadau hyn yn llwyddo.  

 

Wrth ateb yr uchod, fe wnaed y pwyntiau isod gan yr aelodau: 

 

·         Y dylid cyflwyno cais i uwchraddio'r maes parcio yn Fairbourne

·         Pe byddai cais Llanaber yn llwyddiannus dylid sicrhau nad oedd y seddau yn wynebu tua'r môr

·         Beth oedd y sefyllfa o ran cael trenau stêm ar Lein Arfordir y Cambrian?

·         A oedd modd i'r cardiau oren fod ar gael ar gyfer holl gludiant cyhoeddus h.y. bysiau, tacsi?

·         Os gellid tacluso Gorsaf Pwllheli

 

 

(a)          Atebodd Mr Sam Hadley gan ddweud ei fod wedi ysgrifennu ateb manwl i Aelod Seneddol Dwyfor/Meirionnydd o ran y trenau stêm ac fe ellid trosglwyddo'r wybodaeth yma i'r aelodau drwy'r Swyddog Cefnogi Aelodau.

(b)          Cytunodd Mr Rhydian Mason i lunio llythyr ar ran y Pwyllgor at Mr Ken Skates i holi a fedrai'r waledi oren fod yn orfodol ar bob math o gludiant cyhoeddus

 

Penderfynwyd - Derbyn a nodi’r adroddiad a diolch i Swyddog Rheilffyrdd Partneriaeth y Cambrian amdano.

 

 

8.

ADRODDIAD HEDDLU TRAFNIDIAETH BRYDEINIG pdf eicon PDF 101 KB

I dderbyn adroddiad gan Mr Rob Newman, Heddlu Trafnidiaeth Brydeinig. 

 

(Copi’n amgaeedig)

Cofnod:

Yn absenoldeb yr Heddwas Rob Newman, Heddlu Trafnidiaeth Prydain, cyflwynwyd ei adroddiad ysgrifenedig i'r Pwyllgor er gwybodaeth a gofynnwyd i'r aelodau a oedd yna unrhyw faterion oedd yn achosi pryder.  

 

(a)        Roedd y Cynghorydd Annwen Hughes yn bryderus am droseddau ar groesfan reilffordd Talwrn Bach yn Llanbedr ac oherwydd y ffaith na fyddai'r gwaith o osod y rhwystrau yn dechrau tan 2018, roedd yn poeni y gallai damwain ddigwydd yma.

 

(b)       Wrth ateb, nododd Mr Sam Hadley y sylw a wnaed a byddai'n trefnu i'w gydweithwyr i fynychu cyfarfod nesaf y Pwyllgor hwn i ddiweddaru'r aelodau am y rhaglen adnewyddu croesfannau rheilffordd yn ogystal â'r agwedd Diogelwch Cymunedol.

 

Penderfynwyd:          (i) Derbyn a nodi'r adroddiad gan Heddlu Trafnidiaeth Prydain.

 

                                    (ii) Gofyn i Mr Sam Hadley i wahodd ei gydweithwyr i gyfarfod nesaf y Pwyllgor i ddiweddaru'r aelodau fel yr amlinellwyd yn (b) uchod. 

 

9.

CWESTIYNAU FFURFIOL pdf eicon PDF 235 KB

I dderbyn ymateb I’r cwestiynau amgaeedig a dderbyniwyd ers y cyfarfod diwethaf.

 

(a)  Atodiad A – Cwestiwn gan Mr Roger Goodhew

(b)  Atodiad B – Cwestiwn gan Gyngor Tref Porthmadog

(c)  Atodiad C – Llythyr gan Gyngor Cymuned Llannor ynglyn a phryder am ysbwriel ar y lein rhwng Pwllheli  a Penychain.

 

(Copiau yn amgaeedig)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Roedd cwestiynau ysgrifenedig ffurfiol wedi eu cyflwyno gan Aelodau’r Pwyllgor a chafwyd yr atebion isod:

 

(i)            Roedd mater darpariaeth stoc cerbydau digonol i gwrdd â'r galw gan deithwyr yn ystod cyfnod y fasnachfraint newydd wedi ei drafod yn eitem 5 uchod ac ychwanegodd Mr Ben Davies y byddai'n anfon rhagor o wybodaeth i aelodau'r Pwyllgor drwy'r Swyddog Cefnogi Aelodau.  

(ii)           Yr angen am gyhoeddiadau yn y Gymraeg neu yn ddwyieithog ymhob gorsaf ar hyd lein y rheilffordd.     Atebodd Mr Ben Davies gan ddatgan ei fod yn cwrdd â swyddogion y Comisiynydd Iaith yn fuan i sicrhau fod yr holl gyhoeddiadau yn ddwyieithog drwy Gymru a byddai yn diweddaru'r aelodau ar ôl y cyfarfod hwnnw.  

Ychwanegwyd hefyd gan aelod y dylai'r cyhoeddiadau yn y lifftiau yng Ngorsaf Machynlleth hefyd fod yn ddwyieithog. 

(iii)       Pryderon aelodau o Gyngor Cymuned Llannor nad oedd yr holl sbwriel yn             deillio o Ganolfan Ailgylchu Pwllheli gan ei fod ar hyd yr holl ffordd o Bwllheli i            Benychain.   Roedd Sam Hadley wedi ateb pryderon Cyngor Cymuned    Llannor drwy ddweud ei fod wedi codi'r mater gydag aelod o dîm cynnal a             chadw Network Rail oedd yn gwybod am y broblem, ac roedd efy n credu ei         bod yn deillio o drafferthion cadw sbwriel ar safle'r awdurdod lleol ac roedd             wedi bod yn cyd-gysylltu gyda hwy i geisio datrys y mater.     Fodd bynnag,        ymddiheurodd Mr Hadley nad oedd y mater wedi ei ddatrys ac addawodd i             godi'r mater eto gyda'r tîm cynnal a chadw.   Holodd yr aelodau / mudiadau           oedd yn rhan o'r Pwyllgor os oeddent yn gwybod am unrhyw fannau gwael ar             hyd ochr y lein oedd angen eu clirio ac os oeddent dylent roi gwybod iddynt ar     unwaith drwy ffonio'r tîm cymunedau ar 03457 114141 neu ar e-bost i             crwales@networkrail.co.uk 

(iv)       Derbyniwyd gohebiaeth hwyr drwy law'r Cynghorydd Gethin Williams, a anfonwyd i Gyngor Tref Abermaw, am adeiladu ffens newydd ar hyd terfyn cledrau'r rheilffordd a therfyn prif faes parcio Cyngor Gwynedd.   Er eu bod yn gwerthfawrogi fod diogelwch o'r pwysigrwydd pennaf y farn ydoedd nad oedd maint a natur y ffens yn cyd-fynd â'r hyn oedd oddi amgylch ac roedd yn or-ddatblygiad ar gyfer ei ddiben.   Addawodd Mr Sam Hadley i ymchwilio i'r mater ymhellach ac i gysylltu â'r Cynghorydd Gethin Williams yn uniongyrchol.   Dywedodd hefyd ei fod yn ymwybodol fod un o'i gydweithwyr yn bwriadu ymweld ag Abermaw i siarad gyda Chyngor y Dref. 

 

Penderfynwyd:          Diolch am y cwestiynau ac am yr atebion ffafriol a gafwyd gan y swyddogion.

 

10.

AELODAETH

I drafod cais a dderbyniwyd gan Swyddog Rhanbarthol Trafnidiaeth Strategol sy’n cynrychioli Ceredigion, Gwynedd a Powys, i fynychu cyfarfodydd o Bwyllgor Rheilffordd Arfordir y Cambrian.  

Cofnod:

Cyflwynwyd -            Cais gan y Swyddog Rhanbarthol ar gyfer Cludiant Strategol, yn cynrychioli Cynghorau Ceredigion, Gwynedd a Phowys, i fynychu Pwyllgor Rheilffordd Arfordir y Cambrian.

 

Penderfynwyd:          Cymeradwyo'r cais.