skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Y Ganolfan (ger yr Harbwr), Porthmadog

Cyswllt: Glynda O'Brien  (01341) 424301 E-bost: glyndaobrien@gwynedd.llyw.cymru

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbybniwyd ymddiheuriadau oddi wrth Y Cynghorwyr John Brynmor Hughes, Angela Russell, Gethin Williams,  Owain Williams (Cyngor Gwynedd), Mr Tudur Williams (Pennaeth Ysgol Ardudwy), Yr Heddwas Rob Newman (Heddlu Trafnidiaeth Prydain), Liz Saville Roberts (AS Dwyfor/Meirionnydd), David Roberts (Parc Cenedlaethol Eryri), Mr David Woodhouse (Twristiaeth Aberdyfi a Thywyn), Mr Neil Hamilton (AC Canolbarth a Gorllewin Cymru).

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

I ystyried unrhyw fater sydd yn teilyngu sylw brys ym marn y Cadeirydd.

 

Cofnod:

Nid oedd y Cadeirydd wedi derbyn unrhyw faterion brys.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 244 KB

I gadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 11 Tachwedd 2016. 

 

(Copi’n amgaeedig)

Cofnod:

Cyflwynwyd:             Cofnodion cyfarfod y gynhadledd a gynhaliwyd ar 11 Tachwedd 2016. 

 

Penderfynwyd:          Derbyn a chymeradwyo’r cofnodion.

 

5.

ADRODDIAD GAN NETWORK RAIL

I dderbyn adroddiad gan Mr Sam Hadley, Network Rail.

Cofnod:

Croesawyd Mr Sam Hadley, Rheolwr Materion Cyhoeddus Llwybrau Cymru, Ms Sally Biggs a Mr James Widdowson i'r cyfarfod.

 

(a) O ran y gwaith brys oedd i'w ymgymryd ar Draphont Abermaw, dywedodd Ms Sally Briggs y byddai'r gwaith yn dechrau ar 12fed Mehefin tan 14eg o Orffennaf a ni fyddai yn effeithio ar y trenau gan y byddai'r gwaith yn cael ei wneud rhwng 12.00 hanner nos a 5.00 o'r gloch y bore.  Wrth ymateb i ymholiad gan aelod am arwyddion ym mhob pen i lwybr y Fawddach, dywedwyd y byddai'n debygol y byddai gwylwyr ar ddyletswydd ar y safle.

 

Nodwyd ymhellach y byddai'r gwaith brys yma yn penderfynu pa waith arall oedd angen ei ymgymryd yn y tymor hirach a'r gobaith oedd y byddai swyddogion yn gallu adrodd ymhellach gyda rhagor o wybodaeth yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor hwn.   

 

Mewn ymateb, dywedodd y Cadeirydd fod cyfathrebu yn bwysig iawn i aelodau'r Pwyllgor a'r cyhoedd a gofynnodd os oedd unrhyw ddatblygiadau fod yr wybodaeth yn cael ei hanfon ymlaen i'r Swyddog Cefnogi Aelodau fel bo modd rhannu'r wybodaeth gyda'r aelodau.

 

Sicrhawyd aelod oedd yn gwasanaethu ar Fforwm Mynediad Eryri y byddai Llwybr y Fawddach oedd yn ffurfio rhan o lwybr yr arfordir yn cael ei gadw yn agored. 

 

O ran dathliadau pen-blwydd 150 oed y draphont, nodwyd y byddai cyfarfod ar wahân yn cael ei gynnal rhwng y Cynghorydd Trevor Roberts a'r swyddogion perthnasol i drafod hyn. 

 

(b) Rhoddodd Mr James Widdowson gyflwyniad byr ar ei waith gyda Network Rail a dywedodd mai ef oedd yn gyfrifol am y tîm cynnal a chadw sy'n rheoli llystyfiant ger y cledrau / gordyfiant, planhigion ymledol, ffosydd, llifogydd ac ati. 

 

(b) Llongyfarchwyd Network Rail am y gwaith a wnaed yn torri'r gordyfiant rhwng y brif ffordd a lein y rheilffordd yn ardal Aberdyfi ond mynegwyd pryder am ddiogelwch defnyddwyr y ffordd oherwydd y ffens annigonol a osodwyd rhwng Halt Gogarth ac Aberdyfi.    Hefyd, tynnwyd sylw’r swyddogion at wrthrych, oedd mae'n debyg wedi dod oddi ar lori, oedd yn gorwedd ger lein y rheilffordd ac roedd wedi bod yno dros y pythefnos diwethaf.    

 

(c) I ateb yr uchod, dywedodd Mr Widdowson mai polisi Network Rail oedd cyfnewid unrhyw ffens gyda ffens debyg ac efallai bod hyn wedi digwydd yn yr achos yma, ond byddai'n siarad gyda'r contractwr a wnaeth y gwaith.  

 

(d) Atebodd y swyddogion perthnasol gwestiynau llafar yr aelodau fel a ganlyn: 

 

·            Cytunodd Mr Widdowson i ofyn i un o'i dîm i edrych ar Faes Parcio Gorsaf Reilffordd Dyffryn Ardudwy o ran iechyd a diogelwch, ac yn ôl yr aelod roedd angen ail-wynebu'r maes parcio a'i farcio gyda mannau parcio i'r anabl.

·            Addawodd Mr Sam Hadley i fynd ar ôl yr arwyddion dwyieithog ar y lifftiau yng Ngorsaf Machynlleth.  

·            O ran problemau draenio, dywedodd Ms Sally Biggs y byddai Network Rail yn cynnal asesiad ac fe fyddai unrhyw broblemau draenio yn cael eu datrys yn dilyn hynny.   

 

Roedd cwestiynau ysgrifenedig ffurfiol wedi eu cyflwyno gan Aelodau’r Pwyllgor / Cynghorau Cymuned / ac unigolion a  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

ADRODDIAD GAN TRENAU ARRIVA CYMRU CYF.

I dderbyn adroddiad gan Mr Ben Davies, Trenau Arriva Cymru.

Cofnod:

Estynnodd y Cadeirydd groeso i Mr Ben Davies, Trenau Arriva Cymru, i gyflwyno ei adroddiad ar weithgareddau Trenau Arriva Cymru hyd yma.

 

Adroddwyd fod storm 'Doris' wedi achosi trafferthion yr wythnos ddiwethaf ac roedd Trenau Arriva Cymru yn cydweithio gyda Network Rail ar unrhyw faterion oedd heb eu datrys. 

 

Adroddwyd ymhellach y byddai Wi-Fi ar gael ar yr holl drenau cyn y Pasg.

 

Roedd cwestiynau ysgrifenedig ffurfiol wedi eu cyflwyno gan Aelodau’r Pwyllgor / Cynghorau Cymuned / ac unigolion a atebwyd fel a ganlyn:

 

(i) Darpariaeth cysgodfan yng Nghyffordd Dyfi - Dywedodd Mr Ben Davies fod arian ar gael i ddarparu cysgodfan arall a bod trefniadau yn eu lle i fwrw ymlaen gyda hyn.

 

(ii) Pam nad oes tocyn teithio am ddim ar gyfer yr henoed drwy'r flwyddyn yn hytrach nag yn ystod y gaeaf yn unig?  -  Dywedodd Mr Ben Davies, Trenau Arriva Cymru, na fyddai capasiti eistedd digonol i fedru cynnig y consesiwn yma yn ystod misoedd yr haf.   Er hynny, roedd y mater wedi ei drafod gyda Gweinidog Llywodraeth Cymru, yn enwedig o ran cael nifer ddigonol o gerbydau fel rhan o'r fasnachfraint newydd.

 

(iii) Y Gymraeg, cyhoeddiadau dwyieithog ar y trefnau, ynganu enwau Cymraeg yn well mewn cyhoeddiadau yn y gorsafoedd -  Tra'n cytuno fod y Gymraeg yn bwysig iawn, dywedodd Mr Davies mai'r broblem oedd y diffyg arian ac nad oeddent yn gwybod beth oedd yn digwydd i'r trenau o ran y fasnachfraint newydd.  Er hynny, cyhoeddodd yn y Pwyllgor iddo gael ei benodi i wasanaethu ar Grŵp Arriva yn Llundain oedd yn gyfrifol am y cais masnachfraint.   Sicrhaodd yr aelodau y byddai yn lleisio pryderon pobl gogledd Cymru am y Gymraeg, amserlenni ac ati gan sicrhau fod y polisi iaith yn cael ei ddatrys. 

 

Wrth ymateb i'r uchod, llongyfarchodd yr aelodau Mr Ben Davies ar ei benodiad gan gefnogi'r angen i fynd i'r afael gyda'r polisi iaith.   Sicrhaodd y Cyng Trevor Roberts y Pwyllgor fod y pedwar ymgeisydd wedi cael gwybod am yr angen am wybodaeth ddwyieithog ar reilffyrdd a gorsafoedd Cymru.  

Yn ystod y drafodaeth ddilynol gwnaeth yr aelodau’r sylwadau a ganlyn:

 

·          Bod y Gymraeg yn bwysig iawn ac y dylai'r cyhoeddiadau yn y lifft newydd ym Machynlleth fod yn ddwyieithog.

·          O ran ynganu, dywedwyd ei bod yn llawer haws i berson oedd yn siarad Cymraeg i ynganu enwau gorsafoedd yn Lloegr nag ydoedd i berson oedd yn siarad Saesneg i ynganu enwau gorsafoedd yng Nghymru.

 

Wrth ymateb i'r pwyntiau uchod, dywedodd Mr Ben Davies fod y cyhoeddiadau yn cael eu gwneud drwy system tecst i siarad ac nid oedd bob amser yn cael ei ddweud gan berson.    Er hynny, dywedwyd ymhellach fod staff oedd ddim yn siarad Cymraeg yn cael cyfle i ddysgu'r iaith ac yn cael eu hannog i siarad Cymraeg.  

 

Manteisiodd aelod ar y cyfle i dalu teyrnged ac i ddiolch i'r pedwar aelod oedd wedi gweithio'n ddiflino yn ystod cyfnod ymgynghori Gwasanaeth Rheilffordd Cymru a'r Gororau:

 

Y Cynghorydd Trevor Roberts

Y Cynghorydd J. Michael Williams 

Mr Rhydian Mason  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

ADRODDIAD SWYDDOG PARTNERIAETH RHEILFFYRDD Y CAMBRIAN pdf eicon PDF 784 KB

I dderbyn adroddiad gan Mr Rhydian Mason, Swyddog Parneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian.

 

(Copi’n amgaeedig)

Cofnod:

Cyflwynwyd   - Adroddiad ysgrifenedig gan Mr Rhydian Mason, Swyddog Rheilffyrdd Partneriaeth y Cambrian oedd yn amlinellu'r gweithgareddau wnaed ers y cyfarfod blaenorol oedd yn cynnwys;

 

(a)          Datblygiadau gyda hyrwyddo Cynllun y Waled Oren yn genedlaethol

 

Roedd Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol yr Adran Drafnidiaeth wedi rhoi ei gefnogaeth i hyrwyddo Cynllun y Waled Oren yn genedlaethol ac mewn ymgynghoriad gyda Trenau Arriva Cymru a Grŵp DU Arriva, a byddai hyn yn mynd rhagddo.

 

(b)          Masnachfraint Rheilffyrdd a chefnogaeth Llywodraeth Cymru

 

Roedd wedi mynychu amryw o gyfarfodydd am y fasnachfraint reilffordd ynghyd â chydweithwyr o'r bedair Bartneriaeth Rheilffyrdd Cymunedol arall yng Nghymru a'r Gororau.

 

(c)          Cyhoeddiadau

 

Cyfeiriwyd at lyfryn newydd o deithiau cerdded byr yn ardaloedd Rheilffyrdd y Cambrian oedd i'w gyhoeddi fyddai yn lle taflenni Llwybrau'r Cambrian.  Roedd cerdded yn boblogaidd iawn a'r gobaith oedd y byddai'r Canolfannau Croeso ym Mhorthmadog ac Abermaw yn ail-agor er mwyn hyrwyddo digwyddiadau.

 

(d)          Arolygon

 

Roedd Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian yn comisiynu arolygon i'w cynnal yng ngwanwyn 2017, fel rhan o'r grant gan Lywodraeth Cymru.   Roedd yr arolygon yn dilyn llwyddiant arolygon 2013 a 2015 a olygodd well gwasanaethau ar Leiniau'r Cambrian. 

 

(e)          Ymgyrch Hyrwyddo 2017

 

O ran gwaith hyrwyddo, roedd y cyfnod yma wedi bod yn bwysig iawn ac roedd arian ychwanegol wedi ei sicrhau i baratoi gwefan newydd sbon sy'n canolbwyntio ar ymwelwyr gyda mwy o ffilmiau byr.

 

(f)           Storïau a Llyfrau ar y Cambrian

 

Disgwylid am gadarnhad o fanylion a'r arian oedd ar gael ar gyfer peilota prosiect o gysylltu storiau a llyfrau gyda Leiniau'r Cambrian a fyddai yn hyrwyddo teithiau i blant ysgol ar y trenau.

 

 

(g)          Cynllun Busnes 2017-2018

 

Roedd y cynllun busnes yn y broses o gael ei baratoi a byddai'n cael ei gyflwyno i'r Bartneriaeth yn y cyfarfod nesaf.  Byddai copi ar gael i Aelodau'r Pwyllgor hwn drwy'r Swyddog Cefnogi Aelodau.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod am amserlen Arfordir y Cambrian ar ffurf cerdyn bach oedd yn boblogaidd iawn gyda phobl leol ac ymwelwyr, dywedodd Mr Mason eu bod yn dal i gael eu cynhyrchu ond roedd hi yn anodd eu dosbarthu i'r canolfannau croeso ac ati.   Roedd y dosbarthu wedi canolbwyntio ar Orsafoedd Rheilffordd ond os oedd Canolfan Groeso Aberdyfi angen cyflenwad pellach dylent gysylltu â Swyddog Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian.  

 

Tynnwyd sylw’r Pwyllgor at gyhoeddiad 'Trên Mawr yn cwrdd â'r Trên Bach' ac roedd Rheolwr Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri, fel Cadeirydd Twristiaeth Gogledd Cymru, yn fwy na bodlon dosbarthu unrhyw gyhoeddiadau ymhellach. 

 

Wrth gloi, dywedodd Mr Mason y byddai yn ymddiswyddo o'i swydd yn ystod y dyddiau nesaf ac roedd wedi sicrhau swydd newydd gyda Network Rail, fel Rheolwr Croesfannau Rheilffordd yn gyfrifol am yr ardal o Abermaw i Bwllheli.  Diolchodd i'r aelodau am eu cydweithrediad a'u cefnogaeth yn ei swydd bresennol.   Deallodd y byddai'r Bartneriaeth yn llenwi'r swydd ac roedd yn hyderus y byddai olynydd yn cael ei benodi/ei phenodi yn y dyfodol agos.

 

Ar ran y Pwyllgor, llongyfarchodd y Cadeirydd Mr Mason ar ei benodiad diweddar a diolchwyd iddo am ei waith caled  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

ADRODDIAD GAN HEDDLU TRAFNIDIAETH PRYDEINIG

I dderbyn adroddiad gan Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig. 

Cofnod:

 Roedd yr Heddwas Rob Newman, Heddlu Trafnidiaeth Prydain, wedi anfon ymddiheuriad gan nad oedd yn gallu dod i'r cyfarfod ond nid oedd ganddo ddim i'w adrodd oedd yn berthnasol i reilffordd y Cambrian gan iddi fod yn gyfnod tawel iawn ers y cyfarfod diwethaf ym mis Tachwedd.  

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi'r uchod. 

 

9.

CWESTIYNAU FFURFIOL pdf eicon PDF 278 KB

I dderbyn ymateb i’r cwestiynau amgaeedig a dderbyniwyd ers y cyfarfod diwethaf.

 

 

(a)  Atodiad 1         Cwestiwn gan y Cadeirydd

(b)  Atodiad 2         Cwestiwn gan Grwp Mynediad Meirionnydd

(c)  Atodiad 3         Cwestiwn gan Gyngor Cymuned Llanystumdwy

(d)  Atodiad 4         Cwestiwn gan Gyngor Tref Penrhyndeudraeth

(e)  Atodiad 5         Cwestiwn gan Gyngor Tref Pwllheli

(f)   Atodiad 6         Cwestiwn gan Gyngor Tref Cricieth

(g)  Atodiad 7 (i)    Cwestiwn gan Gyngor Cymuned Llangelynnin

(h)  Atodiad 7 (ii)    Cwestiwn gan Gyngor Cymuned Llangelynnin

(i)    Atodiad 8 (i)     Cwestiwn gan Gyngor Tref Porthmadog

(j)    Atodiad 8 (ii)    Gohebiaeth gan Mr Hunt, Porthmadog

 

 

(Copiau’n amgaeedig)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Roedd y cwestiynau ffurfiol ysgrifenedig wedi eu trafod fel rhan o adroddiadau'r swyddogion ac wedi eu nodi yn rhifau 5 a 6 uchod.  

 

Penderfynwyd:          Diolch am y cwestiynau ac am yr atebion ffafriol a gafwyd gan y swyddogion.

 

10.

NODYN I'R DYDDIADUR

Fe fydd Trafnidiaeth Cymru yn lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar Wasanaeth Trên Cymru â’r Gororau cyn hir. Fel rhan o’r broses ymgynghori, fe fyddent yn cynnal nifer o weithdai hanner-dydd, bore i hêl eich barn ar y Wasanaeth newydd. Mae’r dyddiadau isod, i chi nodi yn eich dyddiadur. Bydd mwy o wybodaeth a manylion ar sut i gofrestru yn dilyn unwaith mae’r ymgynghoriad wedi’i lansio.

 

Dyddiadau a lleoliadau

 

20 Mawrth                             Canolfan Gateway Centre,  Amwythig  

21 Mawrth                            Venue Cymru, Llandudno

28 Mawrth                            Coleg y Cymoedd, Nantgarw

29 Mawrth                            Gwesty’r Ivy Bush Hotel, Caerfyrddin / Carmarthen

3 Ebrill                                  Gwesty’r Marine Hotel, Aberystwyth

 

 

Cofnod:

Byddai Trafnidiaeth Cymru yn cyflwyno ymgynghoriad cyhoeddus ar Wasanaeth Rheilffordd Cymru a'r Gororau yn cynnwys Metro De Cymru a byddid yn cynnal hanner diwrnod, gweithdai boreol i gasglu barn ar y gwasanaethau newydd ar y dyddiadau a ganlyn ac yn y lleoliadau a nodwyd:

 

20 Mawrth Canolfan Gateway, Amwythig

21 Mawrth Venue Cymru, Llandudno

28 Mawrth Coleg y Cymoedd, Nantgarw

29 Mawrth Gwesty’r Ivy Bush, Caerfyrddin

3 Ebrill Gwesty’r Marine, Aberyswyth

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r aelodau am eu cefnogaeth a’u cydweithrediad yn ystod y blynyddoedd diwethaf a'i gyfnod fel Cadeirydd y Pwyllgor hwn a hefyd dymunodd yn dda i'r aelodau oedd yn wynebu etholiad llywodraeth leol ar y 4 Mai 2017.